Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
RHYMNI.—Bu y Parch. J. 0. Davies, Llanelli, yn traddodi darlith ar y Bwystfil Rhufeinig" yn Penuel, nos Fercher, Tach. 28ain, i gynulleidfa luosog. Ymddengys mai hon oedd y gyntaf o gyfres fwriedir eu cynal yn ystod y gauaf hwn o dan nawdd y Temlwyr Da. Rhwydd hynt iddynt medd- JL L.
Beth ddaw o'r Gweithwyr?I
Beth ddaw o'r Gweithwyr? I Tra yn cymeryd "chwiff" boreu heddyw ger y "twll cloi," un o'r pethau cyntaf a I ddaeth i fy nghlust o enau un o'm cydweith-! wyr ydoedd-" Pwy yw yr Hen Lowr yna I sydd yn ysgrifenu bob wythnos i'r GWLAD- garwr V Wn i ddim," meddai'r llall, pwy all e' fod ond yr wyf yn credu ei fod yn ysgrifenu calon y gwir." Yr wyf yn gymhwys yr un farn ag ef yn nghylch ymfudo i amaethu." Rhy lawn o weithwyr ydym ni o lawer yn Nghymru, ac nid rhyw lawer o lewyrch ddaw arnom, gewch chi wel'd, nes y bydd canoedd ohonom yn ymadael o ardal- oedd y gweithfeydd yma i ryw le arall." Yr oeddem oil yn cydweled yn y peth hwn yn bur dda, a thrafodwyd ef yn dda iawn dros dipyn; yr oeddwn yn teimlo fy hun yn llawenhau i feddwl fod rhywun yn darllen fy llythyrau heblaw mi fy hun, ac yn neillduol felly pan ddeallais eu bod o'r un barn a mi am ein sefyllfa bresenol. Y peth sydd angenrheidiol i ni drafod pan yn nghymdeithas ein gilydd yw-" Ein sefyllfa fel gweithwyr, a pha fodd y mae i ni wella ein hamgylch- iadau. Y mae genym yn bresenol ddigon o amser i ddarllen a chwilio i fewn i sefyllfa y gweithfeydd yn mhob ardal-y mae genym ar gyfartaledd ddau neu dri diwrnod o bob wythnos cyferfydd twr ohonom fan yma, a thwr fan draw, i siarad a'n gilydd am ryw bethau a fydd wedi dygwydd yn rhywle," neu ynte am y rhyfel; ac wrth ymadael odid fawr nad y gan fydd, A oes gwaith yfory 1" Ydi nhw yn gweithio yn y lie hyn a'r lie," a dyna'r cwbl. Gydweithwyr anwyl, beth pe cymerem dan sylw ein sefyllfa ddifrifol yn y cyfarfodydd bychain yma ar gongl yr heolydd, yn lie yr holl siarad di- ffrwyth a dienill sydd genym bob amser oni allai fod yn fwy o fendith i ni yn y dyfodol ? Dichon y gallem wrth ddechreu siarad yn y modd yma gael rhyw oleuni newydd i'n tywys a'n cyfarwyddo i afael rhywbeth sydd yn well. Gwnawn ein goreu, ynte, efo'n gilydd yn mhob cyfleusdra a gaffom, ac o hyny y daw i ni ddaioni. Fel y lleill o'i eiddo, erthygl ragorol oedd gan eich gohebydd talentog o L'erpwl, yr wythnos o'r blaen, ar ein sefyllfa yn y wlad hon. Y mae ef yn deall arwyddion masnach yn hynod o dda. Y mae yn amlwg, wrth ddarllen ei epistol cynwysfawr, mai canfod gormod o'r nwydd yn y farchnad y mae yntau. Ie, gydweithw,yr, dyna yw yr achos o'r holl dlodi presenol. Gormod o weithwyr i gyfateb y galwad am y glo a'r haiarn a chyhyd ag y bydd y farchnad yn cael ei chadw a llawer ychwaneg o nwydd nag sydd o alwad am dano, bydd yn rhaid, gan na pha mor dda fyddo, na pheth fyddo ein hangen fel gweithwyr, i gymeryd yr hyn a gynygir i ni gan ein meistri. Ar un ystyr, nid yw o fawr pwys i weithwyr Cymru beth yw pris yr haiarn na'r glo yn y farchnad y dyddiau hyn, na pha beth a gaiff y perchenog am dunell o'r naill na'r Hall pan ddelo i'r farchnad. Y mae gormod ohonom o lawer yn gyru ar gefnau ein gilydd i gydio mewn unrhyw beth a gynygir o'n blaen gan ein meistri, a hyny am yr hyn a welo ef yn dda, oblegyd os na wnaf fi ef, y mae arall a'i gwna yn barod wrth law. Nis medrwyf roddi gwell desgrifiad o'n sefyllfa bresenol na choffa am y dyn hwnw a gymerodd ei fochyn i'r farchnad i'w werthu. Yr oedd yn fochyn rhagorol yn mhob ystyr, ac yr oedd ar ei berchenog eisieu swm benod- 01 o arian am dano. Erbyn myned i'r farch- nad, yr oedd yno amryw ereill o'r cy my dog- ion a'u moch er eu gwerthu llawer mwy o foch nag o brynwyr. Yn ngwyneb hyn, beth oedd gan berchenog y mochyn i'w wneyd ? Dim ond ei werthu am yr hyn gawsai gynyg am dano, neu ynte dychwelyd ag ef adref. Yr oedd gan y prynwyr ddigon 0 le i ddewis, a'u geiriau wrth y gwerthwyr oeddynt Os nad ydych yn dewis gwerthu am hynyna, mae digon ereill i'w cael," a ffwrdd a'r prynwyr gan adael y gwerthwr ar hynyna. Yr oedd ganddo ddigon o ddewis. Ond o'r ochr arall eto, gwelsom cyn yma lawer mwy o nifer o brynwyr nag o werth- wyr yn yr un farchnad yr. oedd y moch, y tro hwn, yn llawer uwch eu pris nag arferol. Ac ofer fuasai i neb fyned at berchen rhyw fochyn a dweyd, Yr wyf yn ddyn tlawd, ac eisieu arnaf brynu mochyn y mae genyf hyn a hyn o arian, a werthwch chwi y mochyn hyna i mi am danynt 1" Yr ateb gawsai fyddai Pris fy mochyn yw hvn a hyn, ac y mae digon yma yn barod i roddi hyny i mi am dano os dewiswch roddi y pris, dyma y mochyn i chwi, ond nid heb hyny." Onid dyna reol masnach ? ac onid ydyw yn ddar- luniad o'n sefyllfa ni yn bresenol? Y mae yn sicr o fod ac ni wiw i neb geisio troi rheol masnach yn ddim amgen.-Hen Lowr.
Damwain Frawychus mewn Glofa.
Damwain Frawychus mewn Glofa. Darfu i allan-ruthriad nwy brawychus gymeryd lie dydd Gwener, yn nglofa yr Old Oaks, Barnsley, lie y collodd 360 eu bywydau ar y 12fed o Rhagfyr, 1866. Yn union wedi i hyn gymeryd lie, rhuthrodd amryw i waelod y pwll. Yr oedd un dyn o'r enw Smith, yn gweithio tuhwnt i'r fan lie y daeth y nwy allan, ac aeth dyn o'r enw Briggs, trwy y nwy er peryglu ei fywyd, gan ddiffodd ei lamp a llwyddodd i'w achub. Yr oedd yno rhwng 200 a 300 yn gweithio ar y pryd.
Palasdy Mount Stuart wedi…
Palasdy Mount Stuart wedi llosgi. Dydd Llun diweddaf cymerodd Palasdy Mount Stuart, eiddo y Marquis of Bute, dan, a bu yn llosgi drwy y dydd. Mae Iluaws o ddarluniau, &c., wedi eu hachub; ond y mae y rhan fwyaf o'r dodrefn a'r adeilad yn garn- edd. Credir i'r tan ddechreu yn rhai o'r uwchystafelloedd lie y cysgai y gwasanaeth- ddynion. Cyfrifir y golleduwchlaw deugain mil o bunau. Yr oedd y Marquis a'i briod yn Llundain ar y pryd.
Gair o L'erpwl. i
Gair o L'erpwl. i Pan byddaf yn mynych ddarllen cwynion y 1 Gol. -fod y bwrdd yn llawn, a llawer o ysgrifau da a gwerthfawr yn cacl eu gadael allan,-o dan y teimlad teimlwyf awydd i ymatal am byth- efnos, er mwyn rhoddi cyfleusdra i arall sydd yn awyddus am gael ymddangos yn y nesaf, fel y dywedant. Fy rheswm dros ddal ati yn wythnosol ydyw nad wyf am i genfigen gael cyfle i ddweyd fy mod wedi troi fy nghefn ar y GWLADGARWR. bach. Mae yr elynes yn ddigon parod i frathu heb adael iddi gael y cyfleusdra i wneyd, a hyny yn wirfoddol, trwy esgeulusdod personol. Pell wyf o gredu fod un daioni byth i ddeillio trwy anwesu cenfigen, am fod ei natur yn gwirfoddol ladd ei pherchenog, ac yn difa pobpeth a fyddo yn rhinweddol a daionus. Mae rhanau mewnol y dyn a fynweso genfigen fel geudy marwol-yn llawn o bobpeth nad yw yn ddymunol. Wedi cymaint a hyna o ragymad- rodd, hwyrach md-i gwell i mi ddweyd yr achos o'r sylw oedd darllen erthygl fechan mewn erthylyn o newyddiadur nad yw yn dda i ddim ond ei fwrw i'r tân, a'i ddifodi allan o fodolaeth, o ran dim un math o ddaioni sydd yn deillio ¡ trwyddo. Mae wythnosolyn Saesonaeg, o'r enw Argus, yn dyfod allan yn y dref hon, a bydd ynddo gyfeiriadau llymion yn ami ar wahanol bynciau. Yr wythnos ddiweddaf, cymerodd yr amgylch- iad anffodus yn Nolgellau fel cyfle i roddi ergyd ysgytiog i'r Cymry fel cenedl. Awgryma frawddegau caledion am genedl gyfan, oblegyd ymddygiadau rhyw nifer o hurtiaid oedd wedi meddwl am aflonyddu ar heddwch Marwood (y crogwr) yn ei ymweliad a'r dref fel gweinidog y gyfraith. Nid oes dim i'w ddweyd yn erbyn yr Argus am fflangellu y pengryniad oedd am warthruddo ein gwlad o dan ddylanwad mym- pwy ond y mae awdwr y nodiadau i'w feio yn benaf am gernodio cenedl gyfan. Nid oes a fynwyf dadleu y pwnc o deilyngdod nac an- nheilyngdod y crogi yn mhellach na dweyd fod yn gyfiawn i'r gyfraith gael ei chario allan, a'i gweinyddwyr i fyned heibio heb gael eu haf- lonyddu. Yr oedd y weithred, ynddi ei hunan, yn ddigon du, gwaradwyddus, a gwaedlyd, heb ychwanegu ati, mewn un mesur, trwy godi cynhwrf, a thori y gyfraith. Mae y Saeson yn rhy barod i ddyrnu arnom heb adael iddynt gael y iota leiaf o le i wneyd. Mae hyn i'w ddweyd am dano yn mhellach—nad yw yn annghofio y Saeson pan gaffo y cyfle i feirniadu, oblegyd gwna hyny yn ysgythrog a diarbed. Myn fod yn orthodox ar wahanol bynciau, gan fyned yn eithafol dros ei blaid, heb oddef i arall y rhagor- fraint o ryddid barn. Y mae yn debyg i'r hen ddyn hwuw, gynt, a fynai daeru na ddaeth dim daioni erioed o Llandudoch. Gwahanol bleidiau sydd yn enyn bywyd yn y byd cymdeithasol, yr un fath ag yn y byd newyddiadurol, lie y ceir pob un yn amddiffyn ei gredo. Mewn atebiad i'r ymholydd, A Briton," dymunwyf ei hysbysu mai cyfaill o Gymro, genedigol o Ferthyr Tydfil, addawodd ysgrifenu yr erthyglau, a'i fod am wneyd yn un o bapyrau ei dref enedigol. Mae efe yn swyddog, ac wedi cyrhaedd lie uchel yn y Gyllidfa. Pan welaf y brawd, bydd i mi goffa. yr addewid wrtho.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
SEFYLLFA Y GWEITHFEYDD.
SEFYLLFA Y GWEITHFEYDD. Er cynddrwg ydyw masnach yn Aberdar a Merthyr y mae lie i ofni nad yw eto wedi cyrhaedd ei phwynt iselaf; oherwydd dydd Sadwrn diweddaf gosodwyd rhybuddion i fyny yn y swyddfeydd ac ar ben pyllau Cwmni Abernant a'r Plymouth yn rhybuddio y bydd cytundebau ar ben yn mhen mis, sef ar y 31ain o Ragfyr. Nid oes sicrwydd eto pa beth yw amcan y rhybuddion hyn. Dywed rhai mai gostyngiad arall sydd mewn golwg, tra y ceir ereill yn darogan llwyr ataliad yr holl lofeydd. Hyderwn y try yr olwyn o hyn i ddiwedd y flwyddyn fel y gallo y glowr barhau i dderbyn yr ychydig y mae yn allu ei enill onide bydd eisieu bwyd yn gwynebu Uuaws tua dechreu y flwyddyn newydd. Yr wythnos ddiweddaf tynwyd allan yn agos i bedwar cant o weithwyr o byllau y Powell Dyffryn yn Nghwm Aberdar. Credir y bydd i ryw nifer ohonynt gael eu cymeryd yn ol. Dau a thri diwrnod o waith gafwyd ar gyfar- taledd yn Nglofeydd Cwm Aberdar yr wyth- nos ddiweddaf; a bu rhai ohonynt yn gweithio un dydd yn unig.
GLOWYR CYMREIG YN LLOEGR.
GLOWYR CYMREIG YN LLOEGR. Nos Fawrth wythnos i'r ddiweddaf cyr- haeddodd 35 o lowyr Cymreig-lluaws ohon- ynt o'r Deheudir-i Barnsley, Deheubarth Swydd Gaerefrog, i gymeryd lie y glowyr sydd allan yn Dodworth, ger Barnsley Ond dranoeth dychwelasant o'r glofeydd, ac arweiniwyd hwynt i ystafell cyfrinfa y glowyr, yn cael eu blaenori gan seindorf, ac yn cael eu dilyn gan dyrfa o fenywod a phlant. Yn fuan wedi hyn anerchodd y Cymry gyfarfod mawr o'r glowyr,- gan roddi hanes eu hym- weliad a'r pyllau eu bod wedi eu camarwain, ac nad oeddynt yn bwriadu gweithio. Gwnaed casgliad yn y fan, yn mhlith y gynulleidfa, i gynorthwyo y Cymry i fyned adref ac yr ydym yn deall fod y rhan fwyaf wedi dych- welyd i Gymru.
GWEITHIAU BRITON FERRY.
GWEITHIAU BRITON FERRY. Cychwynwyd Gweithiau Haiarn Briton Ferry boreu dydd Llun diweddaf.
GWEITHIAU ALCAN ABERAFON.
GWEITHIAU ALCAN ABERAFON. | Hysbyswyd ni fod y pedwar gwaith alcan mewn llawn waith ar hyn o bryd ac fod rhai ohonynt yn cychwyn gweithio am ddeuddeg nos Sul. Hyderwn y gwelir ych- waneg yr un fath yn fuan.
ARWERTHIANT HAIARNWEITHIAU.
ARWERTHIANT HAIARNWEITHIAU. Dydd Mercher, Tachwedd 28ain, gosodwyd rhan o weithfeydd haiarn ac ystad Vaughan a'i Gyf., Middlesborough, o dan forthwyl yr arwerthydd. Dechreuwyd drwy gynyg y peirianwaith, haiarn, offer, &c., perthynol i'r Whesso Works. Cafwyd prisoedd pur dda am yr hyn werthwyd, ac ystyried arafwch masnach. Yr oedd dyledion Vaughan a'i Gyf. I uwchlaw l,500,000p.
STRIKE Y SEIRI MEINI.
STRIKE Y SEIRI MEINI. Mae seiri meini o wledydd tramor yn par- hau i ddylifo i Lundain. Mae lluaws o'r rhai oeddynt ar y strike, gwyr priod yn benaf, wedi ymaflyd yn eu gwaith am 9c. yr awr.
UNDEB GLOWYR LEICESTER.
UNDEB GLOWYR LEICESTER. Mae trysorfa Undeb glowyr Leicester wedi ei ranu yn mhlith yr ychydig aelodau oeddynt wedi glynu gyda'r gymdeithas hyd y diwedd. Bwriedir cychwyn Undeb newydd ar gynllun newydd.
PENRHIWFER.
PENRHIWFER. Mae mis o rybudd i derfynu contracts wedi ei osod ar ben pwll Penrhiwfer.
Advertising
Ail Eisteddfod Flynyddol Salem, Llanilltyd Fardref. CYNELIR yr Eisteddfod uchod DYDD GWENER Y GROGLITH, 1878, ipryd y gwobrwyir yr ym- geiswyr llwyddianus mewn Rhyddiaeth, Barddon- iaeth, Areithyddiaeth, a Chaniadaeth. PRIF DDARNAU CORAWL 1. I'r c6r, o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 o rif, a gano yn oreu, Molwch yr Arglwydd," gan D. Jenkins. Trecastell; gwobr, 7p. 2. I'r côr, heb fod dan 30 o rif, a gano yn oreu. "Molwch yr Arglwyd," gan Joseph Parry; gwobr, 2p. 3. I'r cbr o blant,, heb fod dan 30 o rif, na thros 15 oed, a gano yn oreu, Teilwng yw yr Oen," o'r lJIIAsiah i Blant; gwobr, lp. PRIF DESTYN TRAETHAWD 1. lb Diogi a'i ganlyniadau gwobr, 10s. BARDDONIAETH 1. Marwnad oreu i'r diweddar Mrs. Mary Jones, Llest Farm, Llanilltyd Fardref; gwobr, lp. Is. 2. Wyth penill goreu, heb fod dan wyth llinell yr un, darluniadol o deimlad y pump glowr yn Nglofa Tynewydd cyn eu rhyddhad; gwobr. lp. BEIRNIAID Fraethodau a'r Farddoniaeth: y PARCH. H. WILLIAMS, Llaniiltyd Fardref. Adroddiadau, Areithio, a Darllen: y PARCH. T. GRIFFITHS a MR. JOHN REES. Y Ganiadaeth: GWILUI CYNON, Aberdar. Am fanylion y Farwnad ymofyner a MR. E. H. EVANS, Llest Farm, Llantwit Fardre, Pont- I ypridd. Pob manylion, yn nghyd a'r gweddill o'r testyn- au, i'w cael ar y programme am y pris arferol gan yr ysgrifenydd. THOMAS WILLIAMS, Holly Bush, 1792 Llantwit Fardre, Pontypridd- ? Goreu arf, arf dysg." Siloam, Gyfeillon. BYDDED hysbys y cynelir yr WYTHFED GYLCH- WYL LENYDDOL yn y lie uchod dydd GWENER Y GROGLITH, 1878, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn Rhyddiaeth, Barddoniaeth, Can- iadaeth, Areithio, Adrodd, &c. Prif Destynau Traethawd-" Gwyrthiau Crist, a'u nodwedd- ion gwobr, gini. Pryddest—" Gwahaniad yr Iorddonen gwobr, gini. Caniadaeth—I'r C6r, heb fod dan 30 mewn nifer a gano yn oreu y Requiem ar ol y diweddar Ieuan Gwyllt, gan Proff. Parry, U.C.W. gwobr, 7p., a metronome i'r Arweinydd, gwerth lp. 10s. Pob manylion pellach, yn nghyda'r gweddill o'r testynau i'w cael ar y progragnine (yn barod dde- chreu Ionawr), am y pris arferol, gan M. MORGAN, YElg., 1793 Trehafod, Pontypridd. Mor o gan yw Cymru gyd." MUSIC HALL, CAERDYDD. BYDDED hysbys y cynelir Eisteddfod Gerdd- orol Fawreddog yn y lie uchod, DYDD GWENER Y GROGLITH nesaf. BEIRNIAD J. H. ROBERTS, Ysw., A.R.A., Caernarfon. PRIF DDARNAU: 1. I'r c6r heb fod dan 100 o nifer, a gano yn oreu, Then shall your light" (Elijah); gwobr, 30p. 2. I'r c6r heb fod dan 60 o nifer, nad enillodd dros 15p. yn flaenorol, a gano yn oreu, Datod mae rhwymau caethiwed (J. Thomas); gwobr, 15p. 3. I'r c6r, o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 o nifer, a gano yn oreu, "Molwch yr Arglwydd" (Parry) gwobr, lOp. Caniateir i bob cor ddewis ei arweinydd. Am bob manylion pellach, yn nghyd a gweddill y testynau, gwel y programme, i'w gael gan yr ysgrifenydd—pris ceiniog, trwy y post 2c. JAMES REES, Ysg., 37, Gough-street, 1786 Temperance Town, Caerdydd. Gwell dysg na golud." Trydefld Eisteddfod Flynyddol y Sciwen. BYDDED hysbys y cynelir yr Eisteddfod hon yn y DRILL HALL, yn y lie uchod, Dydd NADOLIG, 1877, pryd y gwobrwyir yr ymgeis- wyr llwyddianus mewn adroddiaeth, areithydd- iaeth, barddoniaeth, a chaniadaeth. PrifDdarnau Côrawl. 1 I'r cor, heb fod dan 60 o rif, a gano yn oreu, "GwaliaWen" gwobr lOp. 2 I'r cor, heb fod dan 40 o rif, a gano yn oreu "Llangristiolus," o Ychwanegiad Ieuan Gwyllt, gwobr 2p. BEIRNIAID Y Farddoniaeth: CRYMLUN, LIansamlet. Y Ganiadaeth: ME. H. MILLS (Tafonwy), Pontypridd. Cynelir Cyngherdd mawreddog yn yr hwyr, pryd y gwasaDaethir gan y côr buddugol, a phrif gerddorion yr ardal. Mae y Programme yn barod, yn cynwys yr holl fanylion, i'w gael gan yr Y sgrifenydd, am y pris arferol. 1718 LEWIS JONES, Francis St. Allan o'r Wasg, pris 6c., CAN (SONG), YN Y DDAU NODIANT, "Charlie Bach ar Fedd ei Dad." I'w chael gan yr awdwr-Eos HAFOD, Ystrad, Rhondda, Pontypridd. Dywed Alaw Ddu am dani fel y canlyn :— Yr wyf yn meddwl mai dyma y peth goreu, mwyaf awdurol a nodweddiadol a welais yn dyfod o dan eich dwylaw eto. Yn wir, mae yr Alaw yn orlawn o'r dwys, y tyner, a'r naturiol. Mae y piano parts hefyd yn profi cryn dipyn o gynydd gyda'r cyfeillio ond buasai yn well a mwy cywir pe buasai y symphony yn bedwar un wyth ban yn lie tri, neu fel y rhenwch y gan yn chwech mesur. Y mae tri bar rhythm yn ddrwg yn ngolwg ysgol- heigion cerddorol." 1745
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch…
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch yr hyn sydd Wir. GWILYM EVANS QUININE BITTERS, NEU VEGETABLE TONIC. Y Feddyginiaeth oreu a ddychymygtoyd ac 6 ddyfeisiwyd er cryfhau y cyfansoddiae a phuro y gwaed. Y MAE y Bitters hyn yn hollol lysieuol — ac yn cynwys chwerw-lysiau a melJl' lysiau wedi eu haddas gymysgu, sef Quinine Sarsaparilla, Saffron, Lavender, Burdock, LiVerj wort, Gentian Root, &e. Mewn gair, y mae brblj bob llysieuyn a gwreiddyn gwerthfawr yn }| feddyginiaeth ryfeddol hon, ac y maent wed' cael eu parotoi ar ol llawer o fyfyriaeth yn modd goreu er eu perffeithio i fod yn wellh^q difethiant at y doluriau canlynol:— (1). Gwendidau o bob math yn ymddangos ftli un neu r agor o'r anhwylderau canlynol-iseldd ysbryd, nervousness, curiad y galon, chwysfc teimlad blinedig a chysglyd, y gwaed yn rhuto yn ddisymwth i'r gwyneb, llewygon, teimlact". j bwysau ar y chest, poen ar y chest, poen rhwpj yrysgwyddau, diffyg anadl, phlegrn, y gwaed" p' tori, peswch, a thueddiad at y darfodedigaetl ( decline). (2). Diffyg treuliad a'i ganlyniadau, sef gwa§l der cyn bwyd, trymder anarferol ar ol bwyd diffyg archwaeth at fwyd, yr ystumog yi chwyddo trwy wynt, yr anadl yn drwm, genau yn sych ac yn boeth, brathiadau disync wth yn yr ochr, y pleurisy, yr afu yn afiach, thrwy hyny yn achosi y clefyd melyn, poen groes i'r llygaid, ac ysgafnder yn y pen. (3). Trwy effaith y Sarsaparilla a'r BurdttC ar gylchrediad y gwaed, y maent yn hynod I effeithiol at y blast neu'r awelon, gwynegoe; ystyffdra y cymalau, y croen yn bigog ac aneS' mwyth, a phob math o ddistemper yn y gwae( £ Y mae tystiolaethuu pwysig yn cael eu derby" yn barliaus. Cyhoeddir pump yn unig of lluaws. Gellir cael pob hysbysrwydd trwy ysgrifenu at y perchenog. Os bydd rhywun yn amheu gwirionedd y cair ynol, dymunir arno ysgrifenu at yr enwau # roddir yma. December 14th, 1870. DEAR SIR,-I have been suffering severely för:.J long time with indigestion and nervous debiliff and their attendant inconveniences. After tryiri?| numerous remedies, (to no purpose) I tried your Quinine Bitters, and the result is I am now »• healthy man. Had I tried it sooner. I believe I should have escaped many restless tights and" many pounds in money. Publish this for tM benefit of others.—Address—THOMAS REES, De'' corator and Valuer, Forester's Aims Hotel, Llan', elly, late of Fishguard. Old Globe, New Dock, Llamlly, May 24th, 1876. ANWYL SYR,—Dymunaf hysbysu i chwi fy moi wedi cael fy llwyr iachau trwy gymeryd eicf Quinine Bitters. Yr oeddwn wedi myned bronyf rhy wan i gerdded, ac yr oedd y clwyf ar fy mraiCII yn myned yn waeth bob dydd. Yr oedd meddyg' on Llanelli a r ardaloedd am dori fy mraich ymajw1 er achub fy mywyd; ond'trwy gymeryd y Quinirf Bitters, yr ydwyf yn awr wedi gwella, ac yH gweithio bob dydd. Rhoddaf fy enw vn llawBi fel y gallo ereill gael manylion pellach oddiwrthy « os mynant.—Yr eiddoch, yn barchus, GRIFFITH WILLIAMS. Dylaswn ddweyd fy mod wedi bod dair blynedd] heb weithio ond ychydig. 7, Cambrian-street, Llanelli. SYR,—Mewn geiriau byr, dymunaf ddweyd if mod wedi cael lleoad PARHAm- trwy gymeryd eicbi Quinine Bitters." Rhyfedd yw eu heffaitb, Blinwyd fi beunydd gan boen anferthol yn H mhen, weithiau uwchben y llygaid,- w ithiau yn yr ochrau, a phryd arall yn curo fel morthwyl, fel oi yr oedd ofn arnaf ddilyn fy ngalwedigaeth ar beO y tJ. Poen yn fy hips a rhwng fy ysgwyddau, 9 gwendid mawr. Dim awydd na bias at fwyd, on4 ar brydiau anamserol. O'r diwedd cymerais eich! Quinine Bitters," ac yr ydwyf wedi fy 11 wy* wellau. Cyfrifir eich Bitters yn ddrud, ond, gallaf yn awr ddweyd yn ddiofn mai dyna 7 moddion rhataf a'r goreu a gefais erioed. Ga& neb yn gydwybodol ddyoddef poen heb dreio hwo- —ROBERT GUY, Builder. The Grand Hotel, Brighton, July 28th, 1876. DEAR SIR,-I feel it is my duty to the public and yourself to inform you that I have derivei immense benefit from your Quinine Bitters Vegetable Tonic. I have been for some months victim to headaches, pain in the back, and I belief I a general derangement of the liver. I am happf to say I now feel well, but take a dose of yout "Bitters" occasionally when my appetite fails.- Yours faithfully, ROBERT FOSTER. Ruthin, Awst 15fed, 1876. SYR,—Yr wyf wedi derbyn lies mawr oddiwrtb eich Quinine Bitters. Bu'm yn cael poenau an* nesgrifiadwy yn fy mhen a'm danedd, yn cael ej achosi (meddai'r Doctor) gan fy ystumog. Yr oedd. y bwyd yn gwasgu cymaint fel yr oedd arnaf pfcV bwyta dim. Yr oedd y gwynt yn fy ngofiaiM bias cas yn fy ngenau, yn enwedig yn y bcJreW fel bwystl. Yr oeddwn yn hala haner fy amser yOj y gwely trwy wendid, ac feallai ychydig iselde*! ysbryd. Cymerais ddwy botelaid o'ch moddiofl/ ac yr ydwyf yn awr yn teimlo yn gryf a diboen. Yr eiddoch. • Mr. Gwilym Evans. JANE S. THOMAS. BYDDED HYSBYS I BAWB. (A.) Nid ydyw yn bosibl dodi'r holl gyffeiriaH' sydd yn y feddyginiaeth hyn mewn PILLS. (B.) Y mae y pris mor isel ag y gall fod, oi, cymerir i ystyriaeth brinder y Quinine a'r Sar saparilla. 1 (C.) Gellir gweithio beunydd fel arfer heb ut annghyfleusdra, ac nid oes perygi anwyd, ond PI hytrach y mae yn atal anwyd. ■ (D.) Y mae y Bitters yn cryfhau y rhan neult. aelod o'r corff sydd yn wanach, ac felly yn fwi agored i heintiau ac afiechyd nac arferol, a dylid cofio fod bron bob math o BILLS yn gwanhau f cyfansoddiad ac yn aflonyddu y cylla. (E.) Nid Quinine Wine, na Tincture of Quinine, j nac unrhyw gymysgedd arall o eiddo y Druggist ei hun, ond "Evana' Quinine Bitters" mewn potelau 2s. 9c. a 4s. 6c., a'r enw "Gwilym J Evans, Ph.C., M.R.P.S., wedi ei ysgrifenu a Stamp y Llywodraeth heb hyn, twyll a ffug-^ iad ydynt. ■ Ar werth yn mhob tref, neu yn direct i bobl man o'r wlad oddiwrth y perchenog— MR. GWILYM EVANS, I Pharmaceutist, Llanelly. I D.S.—Os na ellir cael y "Bitters" heb d~ H fferth, ysgrifener at y Perchenog, 1721 j !i
DATGANIAD " Y MESSIAH" YN…
arddull mwyaf syml a phrydferth. Yr oedd ei nodau J j) berffaith mewn gwirionedd, rhwng ei chanu swynol hi a chwareuad tyner y sein- dorf ni fuaswn yn blino aros drwy'r nos. "Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn pregethu -tacgiialedi" Ni chafodd eithaf chwareu teg •wrtii ganu yr alaw doddedig hon. Heblaw nad oedd y flute yn chwareu yn ddigon tyner i'm boddio. yr oedd un offeryn yn eisieu, sef y bassoon. Yr ydym yn wastad yn taer erfyn am yr oflervn yma yn yr alaw hon. A phan bydd hautboy, nid Ilitte, a bassoon yn chwareu'r alaw hon oyda'r llais, bydd gwir effaith yn sicr, yn wastad, o gael ei gynyrchu. Canodd Miss Williams, serch hyny, yn draeffeithiol. "Myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear," Job xix, 25. Buasai yn dda genyf pe buasai gofod yn caniatau ysgrifenu erthygl eang ar yr ymroddiad hwn, oblegyd dyma oedd campwaith y gynherdd. Dechreu- odd gyda'r tynerwch mwyaf, ac yr oedd ei darlleniad yn anarferol o gywir. Yr oedd yn gwella mown expression bob ban fel yr oedd yn teithio yn v blaen hyd ddiwedd yr alaw anfarw- ol hon. Blinai y clarinet fy nglust weithiau am mad oedd yn ddigon tyner. Rhyfedd mor effeithiol oedd y ddiweddeb yna i A, Shall I see God." Yr oedd y terfyniad ar y geiriau Yn flaenffrwyth y rhai a hunasant" mor nefolaidd a gorphenedig, fel nad oes genyf frawddeg ddigon cymwys i ddesgrifio y dylanwad a gafodd ar y teimladau. Y mae fy sylwadau wedi myned yn faith, ond terfynaf ar y datganau mor gynwysfawr a byr ag sydd yn bosibl. Dechreuwyd y cydgan, A gogoniant yr Arglwydd," yn wael ac yn ansefydlog. Ni chlywais, gan yr altos, y C na'r A yn y cychwyn- iad; clywais yn eglur y gair "glory' fel brawddeg wedi ei thori yn ei haner. Dibwrpas iawn oedd y tarawiad hyna gan y cydgan llawn ban 14. Y prif fai yn y eydgan hwn oedd an- aefydlogrwydd y lleisiau yn cymeryd i fyny y gwahanol efelychiadau a'r pwyntiau gydag un gradd o sicrwydd. Drwg ac anmherffaith iawn oedd y sopranos yn eu hymroddiad o'r A i fyny ar Glory of the Lord." Gwael iawn oedd cychwyniad y cydgan, And lie shall purify," gan y sopranos dim cysondeb mewn amser. Tarawodd y bass i fewn yn effeithiol; gwael iawn oedd cychwyniadau yr -altos a'r tenors. Hynod mor ansicr oedd y dechreuad yn man 21 Yr oedd y sopranos yn neillduol felly o wael yn y ban olaf ond pump- -yr k's yn lleddf, a'r F yn naturiol, yn lIe lion. Terfynwyd y tri ban diweddaf o'r cydgan yn wir effeithiol. 1 i Cloeyrnaidd iawn oedd dechreuad y cydgan, 0 thou that tellest." Dylid cychwyn yma o fan olaf y solo heb yr un saib, attacca sulito, fel pe na fyddai yr un dwbl o gwbl. Y cantoyn wael iawn yn y pwyntiau, a r nodau uchel allan ° For unto us." Cychwyniadau y gwahanol frawddegau yn wan ac ansicr. Yr adroddiad hyna o'r testyn dechreuol yn aneglur a dinerth gan y canto, ban diweddaf ondun gwel y score, ifid'oedd digon o ddealltwriaeth yn bodoli o ran amser rhwng y cOr, y seindorf, a'r arwein- ydDatganwyd "Glory to God" yn dda, a chyda bywiogrwydd, oddieithr y ban agoriadol, yr hwn oedd yn ansicr. His yoke is easy yn lied dda, ond iocl eto ansicrwydd mawr i'w deimlo yn y gwahanol leisiau wrth gychwyn yr amryw efelychiadau ond terfynwyd y cydgan mewn hwyl a chyda Cafwyd datganiad pur effeithiol, gyda amser tra sier, a chyda thynerwch, o'r cydgan, "Be- hold the Lamb of God." And with his stripes" yn rhy gyflym, yn ol fy chwaeth i. Gwael iawn a dibwynt oeddym yn cael y testyn a'r gwrthdestyn. Y mae y cvdgan hwn yn un o'r rhai mwyaf anwyl sydd genyf am dano. Nid oedd y darlleniad hwn, ychwaith, yn gywir. • "All we like sheep gyda hwyl, a r terfyniad vn nerthol ac effeithiol. Ar yr un pryd, teimlem fod yr allegro moderato ychydig o raddau yn rhy frysiog. "He trusted in God." Ar y cyfan, aeth y symudiad hwn yn ganmoladwy. Wrth gwrs, air ryw o nodau yn annghywir—megys E leddf Z L Ion, D Ion yn lie D leddf B leddf ,n Ue Ion &c Prif golled y datganiad oedd nad oedd vsbrvd'a tbeimladau y dyhirod drwg a dichell- ear hyny oedd yn gwawdio ac yn dirmygu y Gwaredwr diniwed ddim i'w deimlo yn yr ym- roddiad, oblegyd dyma eiriau yr adroddgan a xagflaena y cydgan gwawdus hwn Pawb a'r a'm gwelant. a'm gwatwarant llacsant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd, Ymddiriedodd yn yr Arglwydd," &c. Y datganiad gwaelaf a wnaeth y cor oedd "Let all the angels." Yn sicr i chwi, yr oedd hwn yn wael a diafael. Credwyf, yn benaf, mai y rheswm oedd yr amser yn rhy gyflym, a thor- aeth o ddifaterwcli- Rhag fod yr ysgrif yn myned yn rhy faith, ac, efallai, yn flinedig i'n darl enwyr terfynaf gyda dweyd i'r cydganau ereill fyned yn bur dda Y beiau sydd wedi eu crybwyll genyf yn barod yn y cydganau dechreuol yw y rhai sydd yn arnlwg i'w canfod drwy'r canu corawl o ddechreu hyd ddiwedd y dreithgan. Yn awr, yr wyf gyda'r dymuniadau goreu yn anog ym- roddiad cyflawn o'r dreithgan hon eto yr un c6r, arweinydd, prif gantorion, gyda r seindorf wedi ei chynyddu mewn rhif, ac i fod yn gyn- wysedig o'r offerynau priodol sydd yn angen- rheidiol i wneyd cyfiawnder a'r gerddoriaeth wrth gynorthwyo y gwahanol symudiadau. Dim 6nd i chwi wneyd rhestr o'r diffygion yr wyf wedi eu henwi, a gwneyd eich goreu idd eu harbed, yr wyf yn dra sicr y bydd y datganiad nesaf yn llawer iawn gwell na'r un diweddaf. Teimlaf hefyd yn dra sicr y cewch eithaf cefnog- aeth gan bobl dda ad haelionus Treherbert, a Chwm y Rhondda o'i draed i'w goryn. Ym. gymerwch a thri mis eto i'w darparu, ac yna yr wyf yn sier y bydd y dreithgan yn wir werth. i bawb ei chlywed.—Yr eiddoch yn ffyddlawn, Groeswen. Eos RHONDDA.