Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
TEMPERANCE TIALL, ABERDARE. Under the distinguished patronage of the Marquis of Bute, Bight Hon. Lord Aberdarc, C. R. M. Talbot, Esq., M.P. H. H. Vivian, Esq., ML P. H. Richards, Esq., M.P. R. Fothergill, Esq., M.P. ;:n. Davis, Esq., J.P. James Lewis, Esq., J. P. Rev. J. W. Wynne Jones, Vicar, &c. THREE GRAND PERFORMANCES Of Mendelssohn's Oratorio, T T A Pf "ELIJAH," Will be given at the above Hall, On Christmas Day and following day, Dec. 26th, 1877. Artistes-SOPRANO: Miss MARY DAVIES, R A.M., Gold Medalist. CONTRALTO Miss ANNIE WILLIAMS, U.C.W. TENORE Mr. DANIEL EVANS, Aberdare. BASSO: Mr. T. BRANDON, of the London & Provincial Oratorio Concerts. CHORUS: ABERDARE CHORAL UNION. INSTRUMENTALISTS Orchestra—GLOUCESTER STRING BAND. LEADER: Mr. WOODWARD, Gloucester. ACCOMPANISTS Messrs. D. BOWEN & J. PERKINS. CONDUCTOR: Mr. REES EVANS. At 8 p.m. Christmas Day, a Grand MISCELLANEOUS CONCERT Will be given, when the above artistes will take part. The Oratorio Concerts will commence Christ- mas Day at 3 p.m., Wednesday at 2 p.m. and 7 p.m. Admission to Morning Concert-Front Seats, 33. Second do., 2s. Third do., Is. Evening Con cert—Front Seats, 2s. 6d. Second do., Is. 6d. Third do., Is. Reserved Seats for Wednesday Morning Concert may be secured of Mr Fr-)st, Stationer, Canon- street, where a plan of the Hall may be seen. E. B. WILLIAMS, Hon. Sec. Seymour street, Aberdare.
RWRDD Y GOLYGYDD.
RWRDD Y GOLYGYDD. Y mac sypyn mawr o ysgrifau, &c., yn aros eu tro yn y swyddfa nis gallwn and dymuno ar em gohebioyr ffyddlon a charedig i fad yn amyneddgar hyd nes cawn le iddynt yn ein colofnau. Bydd i ni dalu y sylw manylaf iddynt oll. Derbyniwyd-Eryr y Foel, Llythyr Llundain, Index, Adsain (John Jones), Triwr, Eleve, Parvo. Crwydryn (diolch), Bwrdd Ysgol Llan- <>iwc Hen Lowr, P. Jones, Samuel Rees, Ap Calvin, Cadfan, Byrysgrifwr. Un oedd yno (Llanedi), Gwyliedydd, Beirniadaeth Rhedynog, W. S. M., Glan Rhondda, Gohebiaeth o Ystal- yfera (heb enw priodol na chyfeiriad). *Y TYLWYTH TEG. "-Y mae adolygiad arber- fformiad y gantawd uchod. gan Gymdeithas Gorawl Abertawe, wedi ei gysodi, ac ymddengys yn ein nesaf.
Y PAB DYFODOL.
Y PAB DYFODOL. Y MAE yn amI wg fod Pitrs IX ar fin terfyn ei einioes y mae wedi cyrhaedd yr oedran mawr o 86, ac y mae yn awr yn nyfnderoedd iselaf cystudd. Pan fyddo Pab — unrhyw Bab—yn tynu at y diwedd, y mae y cwestiwn Pwy fydd ei olynydd?" yn gwestiwn pwysig, nid i Eglwys Ehufain ei hun yn unig. ond i'r byd gwladyddol yn gyffredinol, gan fod y fath gysylltiadau politicaidd yn perthyn i'r Babaeth, a chan ei bod hi a'i bys du, hyd y meiddio, yn achosion pob llys a phob teyrnas. Ond y mae y ewestiwn hwn ar yr adeg bresenol yn meddu ar bwysigrwydd mwy nag arferol. Fe fydd y PAB dyfodol, pwy bynag a fydel, yn dyfod i swydd o. dan amgylchiadau gwahanol i eiddo yr holl Babau er yr 8fed canrif-hyny yw, fe fydd yn dyfod i'w swydd heb feddianu llywodraeth wladol. Fe fydd yn Bab heb fod yn dywysog. Fe fyerd yn ben ar yr Eglwys heb fod yn ben coronedig nac addafedig ar unrhyw wladwriaeth. Pa le y ceir dyn a all gyfaddasu ei hun at y sefyllfa newydd yn y Vatican ? Dyn a foddlona i edrych ar y deyrnwialen yn ymadael, ac i fyw mewn heddwch a chydfod a Llywodraeth gyfiawn VICTOR EMMANUEL? Gormod, braidd, ydoedd dysgwyl i Pius IX ymgyfaddasu at y drefn newydd—yr oedd y cyfnewidiad yn rhy fawr i ddyn mor ystyfnig ac mor oedranus ag efe. Fe ddechreuodd ei Bablywiad, mae yn wir, fel Rhyddfrydwr, ac edrychai Rhydd- frydwyrltaliac Ewrop i fyny ato gyda gobaith ond siomwyd y gobaith yn dra buan. Byddai Pab gwir Ryddfrydig ar orsedd ddaearol yn ddrychiolaeth gwerth myned ar draed bob cam i Bufain i'w weled! Trodd i'r eithaf-bwynt arall; aeth yn Dori o'r mwyaf Toriaidcl; ac nid yw wedi gwneyd dim er's cryn dro bellach ond esgymuno dynion da fel VICTOR EMMANUEL, a bendihio a chefnogi y fath fechgyn braf a Louis NAPOLEON, DON CARLOS, a MACMAHON. Nis gellid dysgwyl, fel y crybwyllwyd, i PIO NONO gysanu y wialen, ac ymfodd- loni ar frenin arall yn Rhufain. Ond y mae efe ar ymadael. A geir un yn ei le a wnalyncu y geninen yn dawel, a dechreu cwrs newydd yn y Vatican ? Yr ydym yn ofni y ceir. Fe fuasai yn well i ryddid, yn well i wareiddiad, ac yn well i Brotestaniaeth, mewn rhyw ystyr, pe buasai y Babaeth heb golli y tipyn teyrnas "o'r byd hwn" oedd ganddi; oblegyd fe all perygl newydd godi allan o hyn-fe all y Pab dyfodol wel'd a deall fod digon o gryfder i'w achos yn ei benaduriaeth ysbrydol ef, heb ofidio dim am ei benarglwyddiaeth ddaearol. Ofn- wn fod hyn yn wir, ond yr ydym hefyd yn ofni i'r Vatican ei weled, a'i gredu, a'i gario allan. Pa bwys sydd gan gorff Pabyddion y wlad hon pa un a oes llywodraeth ddaearol gan y Pab ai nid oes ? Pa un ai efe, ai rhywun arall, sy'n teyrnasau yn Rhufain ? Nemawr ddim. Nid fel pen gwladwriaeth y maent hwy yn ei barchu, ond fel pen yr eglwys. Pe deuai y Pab i fyw i Lan- wonno fe g'ai yr un faint o barch, ufydd- dod, a Peter's pence ag y mae'n gael yn bresenol.
TRUGAREDD RHY DDIWEDDAR.
TRUGAREDD RHY DDI- WEDDAR. Y MAE y GRAND VIZIER, yn enw y SULTAN, ac wrth ei awdurdodiad, wedi anfon cyhoeddiad tadol a thyner-galon i'r Bul- gariaid. Yn mysg pethau ereill cynwysa y sylwadau amserol a ganlyn :—"Am ganrifoedd yr ydych wedi'byw dan ofal tadol y Llywodraeth Ottomanaidd." Dechreu da:— Tadol ?" Yr ydych wedi byw gyda'ch cyd-ddeiliaid Moslem- aidd fel brodyr, ac wedi fforddio siampl ddedwydd." Brodyr o stamp CAIN Yr ydych wedi gwneyd cynydd mawr mewn addysg, amaethyddiaeth, a'r celfyddydau, diolch i gynorthwy caredig y Llywodr- aeth." Diolch! Wel, dyma ddiolchgar- wch 11 for small mercies! Cystal a dweyd—" Yr ydych wedi cynyddu mewn addysg dan nawdd Llywodraeth sy'n ffieiddio addysg; wedi cynyddu mewn amaethyddiaeth drwy help Llywodraeth sydd wedi gadael i filoedcl o erwi o dir brasa'r byd i fyned yn anialwch gwyllt; wedi cynyddu mewn celfyddydau drwy drugaredd Llywodraeth nas gwyr am un gelfyddyd yn y byd ond y gelfyddyd o ladd dynion; ie, mewn gair, yr ydych wedi ymberffeithio mewn gwareiddiad drwy nawdd a help barbareidd-dra." Eto :—"Yr ydwyf, yn enw y SULTAN, yn eich gwahodd chwi sy'n ffoaduriaid i ddychwelyd i'ch cartrefi. Fe ofala y Oyfansoddiad am eich diogelwch presenol a dyfodol." Y fath gabledd ar y gair Cyfansoddiad! Y mae y Proclamation truenus hwn yn bradychu gwendid ac ynfydrwydd y Porte, yn enwedig pan ystyriom ei fod yn dyfod allan ddwy flynedd yn rhy ddiwedar, a bod Bulgaria yn meddiant y Iluoedd Rwsiaidd.
ORIEL Y BEIRDD.
ORIEL Y BEIRDD. DARLUN RHIF XI. Un o daldra canolog, a'i ymddangosiad yn wylaidd a diymhongar. Y mae tua deuddeg ar ugain oed, ond gall y dyeithr ei osod i lawr fel llefnyn ieuanc newydd gyrhaedd oedran gwr. Ac mewn gwirionedd nid yw wedi myn'd yn henach wedi hyny, a barnu oddi- wrth ei olwg allanol. Ei wallt sydd o liw gwineu. Mae ei wyneb mor noethlwm ag eiddo geneth, gydag eithrio yr ychydig flew- ach sydd wedi beiddio gwneyd eu hymddan- gosiad ar ben ei en. Pe bae pawb fel efe byddai yn amser tlawd ar yr eillwyr. Ei wyneb sydd hir a theneu, a'i dalcen yn uchel, gyda dwy seren fechan danbaid yn pefrio o dan ei amrantau. Cerdda braidd yn araf, aq fel pe byddai yn mesur pob cam, ac yn gofalu pa le y bydd yn gosod ei droed ac nid ymddengys ei fod erioed wedi bod yn gwisgo straight jacket, ac felly nid yn ami y gwelir ef yn gwisgo stick up collar. Mae y bardd hwn yn un o'r cyfeillion mwyaf difyr a serchog. Mae yn llawn o'r elfen ddigrifol, ac nid oes perygl i un math o bruddglwyf osod ei big mewn un gymdeithas tra y byddo ef yn bresenol. Ei ymddyddan- ion sydd bob amser yn darawiadol a chwareus; ac mae rhyw gellwair diniwed yn blasu pob- peth a ddaw dros ei enau ac ambell sylw doniol yn taflu bywyd trwy y cyfan. Fel bardd, y mae De a Gogledd yn gyfar- wydd a'i enw. Yn eisteddfodau y Deheudir nid oes nemawr neb wedi bod mor llwydd- ianus ag ef, ac mae wedi gwneyd i rai o brif wyliau y Gogledd deimlo ei fodolaeth. Pan dorcha ef i gystadleuaeth, y mae yn ofynol i'n cewri barddol golli chwys cyn yr aent a'r maen i'r wal o'i flaen. Nid oes neb yn Nghymru yn debyg iddo fel cyfansoddwr. Gwna. ddefnydd o'r peth mwyaf distadl weithiau i weithio allan ddrychfeddwl hardd a mawreddog a chydia mewn rhywbeth ar ei bwys i ollwng ergyd pell. Y pethau a fyddent yn gwrth-ddweyd eu gilydd dan gyfarwyddiad ambell un, a esyd ef i gyd- gordio yn y modd mwyaf perffaith. Y milgi olaf sydd yn dal yr ysgyfarnog yn wastad ganddo—sefyll yn ol, er mwyn bod ar y blaen a bod yn isel, er mwyn bod yn uchel. Dyna ei ergydion. "Ergydion llawchwith y geilw ei gydfeirdd hwynt, ac efe a gyfrifir yn arwr am wneyd defnydd pwrpasol ohon- ynt. Mae y carwr yn dymuno am oleu lleuad pan yn myned i weled ei anwylyd. Ond dymunai awen y bardd hwn am dywyll- wch nos iddo gael goleuni i fyn'd i garu A welsoch chwi chwareu pel do ? Cadw y bel o un to i'r Hall. Cyn gynted ag y daw i lawr oddiar un, ei tharaw i'r to arall. Dyna fel y gwna y bardd hwn yn ami; gwna cldau ddefnydd o'r un drychfeddwl, fel peirianydd yn gyru ei beiriant yn ol ac yn y blaen. Pan yn darlunio brwydr, pwy fydd wedi cwympo gyntaf ganddo ? Y milwr cyffredin. Nage. Un o'r swyddogion. Nage. Pwy I ynte ? Heddwch Cana y bardd hwn ar bob math o destyn yn ddiwahaniaeth. Medr ei awen rychwantu y gagendor rhwng yr Euroclydon a'r awel falmaidd, rhwng y cefn- for garw a'r gwlithyn tyner, rhwng y ddaear- gryn a thawelwch dwfn unigedd, rhwng boreu y briodas a nos glyn cysgod angeu, a rhwng gwlad y cystudd mawr a gwlad yr angel. Cana yn llithrig yn hualau Dafydd ab Edmwnt, er nad ydyw wedi gwneyd llawer a'r awdlau hyd yn hyn. Mae yn englynwr cywrain a gafaelgar, a gofala bob amser am osod colyn yn y gynffon. Fel pruddestwr y mae wedi enwogi ei hun fwyaf, ond gellir dysgwyl y bydd yn ymwneyd a rhai o'n hawdlau cadeiriol ar fyr, gan ei fod yn feistr ar y gyoghanedd. Yr unig faen tramgwydd a ddeuir o hyd iddo yn ei gyfansoddiadau ydyw anystwyth- der! Y mae wedi bod yn ddiarebol am y tramgwydd hwn, ond y mae wedi gwella llawer yn hyn yn y blynyddau diweddaf. Wedi y cwbl, gellir maddeu iddo am hyn. Tebyg mai gwneyd chwareuteg a'r drych- feddwl yr oedd yii ami wrth aberthu y corfan. Mae "corfan cloff" yn fil well na drych- feddwl wedi ei dorfynglu. Mae gweithiau y bardd hwn yn adnabyddus iawn yn Nghymru. Cyhoeddodd gyfrol o'i ganiadau flynyddau yn ol; ac erbyn hyn mae gogleddwr anturiaethus wedi prynu y copy- right, a dwyn allan ail argraffiad ohoni. Yn hon ceir danteithion i bob math o chwaeth. Cyhoeddwyd llawer o'i farwnadau buddugol hefyd o dro i dro, ond ni welsom ddwy ohonynt yr un fath fel y gwelsom cyn hyn gan feirdd o fri. Am hyn, y mae ei gymer- iad barddol yn wyn iawn a'i gydmaru a llawer y dydd heddyw. Fel beirniad, hefyd, y mae yn sefyll yn uchel yn marn ei gydfeirdd. Er nad yw wedi bod yn ami ar y sedd feirniadol, eto gellir yn ddibetrus ei nodi yn mhlith ein beirniaid goreu yn y gangen farddonol. Medda farn glir, ac amynedd a phwyll i weinyddu ei ddyledswydd; ac uwchlaw pobpeth medda gydwybod nad oes ynddi ddim yn debyg i elastic; ac ni ddangosa ffafr i gyfaill, na rhag- farn at elyn pe Itai gelyn. ganddo. Mae hyn yn gymhwysderau na cheir mewn pob un yn y ganrif hon. Huw MORIS.
YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. Pwnc sydd wedi bod yn mwydo ymenydd- iau llawer yn Lloegr ac America y blynyddau diweddaf hyn yw YSBRYDEG, ac yr ydym yn dygwydd gwybod am rai heb fod gan' milltir o Aberdar ydynt yn credu yn y fath ffiloreg. Yn y Diwygiwr am y mis hwn (Rhagfyr), ymddangasodd erthygl dra dydd- orol gan ein cyfaill, Ossian Dyfed, yn gwynt- yllu y gredo wirionffo1 ac anysgrythyrol i'r cymylau. Crybwylla luaws o engreifftiau am ryfeddodau a gyflawnir gan swynwyr .Y 11 India, y rhai a daflant i'r cysgod bob peth a welir neu a wneir gan yr ysbrydegwyr yn eu eisteddiadau, a dengys hefyd fod Maskelyne a Cook yn euro o ddigon mewn arddangosion a hynodion. Y mae Ossian yn hynod law- drwm arnynt, a phrofa i foddlonrwydd pob dyn rliesymol anysgrythyroldeb y fath wag- gyfundraeth. Dywed ei bod yn dra hynod fod Shakespeare a Milton yn waelach esbon- wyr pan wedi bod gynifer o flynyddau yn myd yr ysbrydoedd na phan oeddynt yma ar y ddaear, a rhydd ergydion gwawdlym a miniog i'r dybiaeth fod ysbrydoedd perffeith- iedig yn cael caniatad i grwydro yn awyr- gylch y ddaear i draethu ffwlbri wrth haid o anfoesolion. Cofus genym glywed am Artemus Ward, yr awdwr digrif ac enwog o'r America, iddo un tro fyned i seance yn ngwlad y Gorllewin, a gofynodd y medium iddo pa berson y carai glywed oddiwrtho o'r byd ysbrydol. Dywedodd yntai y carai glywed oddiwrth Bil Tomkins, ac yn union- gyrchol dyma ergyd uchel ar y bwrdd. Ceisiodd Artemus gan y medium i ofyn i Bil Toaikins am y 13s. 6c. a roddasai fenthyg iddo pan ar y ddaear, a dyma ddywed Artemus He then at once disappeared with a loud rap." Y mae eisieu rhagor o'r Artemus Wardiaid ac Ossianiaid i ddynoethi y twyll paganaidd hwn. Y mae sefyllfa pethau yn FFRAINC yn dra chynhyrfus o hyd. Ymddengys fod .Y yr Arlywydd Gwyddelig, MacMahon, am ddilyn ol traed y ddau Napoleon trwy geisio cael ei ffordd ei hun ar draws crimogau gwir- ionedd a chyfiawnder, ac yn groes i farn a theimlad corff mawr deugain miliwn trigol- ion Ffrainc. Thai hi ddim, ac y mae y gwalch yn sicr o ddarganfod hyny yn gynt neu hwyrach er ei ofid, ac, fe ddichon, er perygl ei fywyd. Dynion cynhyrfus gwyllt- dymher yw Ffrancod, fel y prawf y gwrth- ryfeliadau a gymerasant le yno o bryd i bryd; ac y mae yn ddigon posibl 'y dangosant y drws i MacMahon os na ddaw i'w synwyrau ar fyrder. Nid oes hanes ar ddalenau hanes- yddiaeth am genedl wedi ymuniawnu mor fuan a'r Ffrancod, a hyny wedi bod mor isel dan garnau y gorchfygwr. Dim ond saith mlynedd sydd wedi pasio er pan y gorweddai yn ei gwaed, a dyma hi yn awr wedi dringo i fyny gyda hydwythedd rhyfeddol; ac nid yr un yw nerth ei byddin yn awr a phan y bu yn ymgodymu a Germani saith mlynedd yn I ol. Rhaid i Bismark ofalu pa fodd yr ym- ddyga bellach tuag at Ffrainc. Y mae Ffrainc, er hyny, wedi colli un o'i chyfeillion goreu yn mherson y diweddar wladweinydd enwog, M. Thiers. Y mae y newyddion a geir mewn colofn arall am ERCHYLLDRA Y RHYFEL yn profi fod y pleidiau yn penderfynu ym- ladd hyd nes y gorpheno adnoddau un ochr neu'r llall. Y mae y Tyrciaid yn ymladd gyda ftyrnigrwydd dihafal, ac er fod rhai o'r papyrau yn darogan fod rhyw argoelion am heddwch, nid ydym yn gallu gweled y gobaith lleiaf ar hyn o bryd. Rhaid i Twrci golli mwy o frwydrau eto, a dod lawer yn wanach, cyn y bydd mewn ysbryd i siarad am delerau heddwch a'r Arth fawr o'r Gogledd. Y mae nifer aruthrol o fywydau wedi eu colli, a gwerth miliynau ar filiynau wedi myned yn aberth ar allor duw Mars. Pa bryd y daw y dydd pan ellir dweyd Heddwch, Wi! heddwch-ha, ha, ek'n ol I Ion fyd swynol y nef adseinia. Buan wawried, meddem ni, er mwyn an- rhydedd dynoliaeth a ffyniant y gwledydd.
Y RIIYFEL.
Y RIIYFEL. GWARCHAE PLEVNA. 0 Pera daeth pellebryn dydd Mercher yn hysbysu fod y Tyrciaid yn honi iddynt enill brwydr fawr yn Plevna, ac wedi cymeryd tri o gadarnleoedd y gelyn, heblaw amryw ynan, offer rhyfel, ac ymborth. Hysbysir yn hyderus fod gan Osman Pasha ddigon o ym- borth, ac na fydd ei adgyfnerthion wedi eu .Y hysbyddu am gryn amser. Adroddir hefyd am lwyddianau ereill yn yr un gymydogaeth. Mewn newyddiadur o Paris ceir pellebryn o Gaercystenyn, dyddiedig Tachwedd 27ain, yn mynegu fod bryslythyrau wedi eu derbyn oddiwrth golomenod oddiwrth Osman Pasha, yn Sofia. Mae ganddo 9,000 o glwyfedigion, ac y mae ei-wyr galluog yn rhifo tua 50,000. Y mae ganddo ddigon o ymborth, ond y mae yn brin o ddillad gauaf. Y mae yn gofyn i Mehemet Ali i gael trosglwyddiadau yn barod os llwydda i dori trwy rengau y Rwsiaid. 0 Bucharest ceir y newydd fod cytijndeb wedi ei wneyd y bydd i'r Roumaniaid gael cymeryd y chweched ran o'r ysbail a'r caicbarorion. Y mae y Tywysog Charles wedi eirchi am 6,000 o sachau o biscuits i gael eu danfon i Plevna, mewn dysgwyliad y bydd i'r gwarchodlu roddi fyny. Y mae y Balkans wedi eu gorchuddio ag eira can belled a Bagot. Nid oes un hysbysiaeth sicr gyda golwg ar pa un a fydd Plevna yn rhoddi i fyny ai peidio. Y mae y tywydd yn erwin iawn yn Bulgaria, gwynt, gwlaw, ac eira yn z, debygol o ddisgyn. PLEVNA.—ANRHEG I OSMAN PASHA. Yn ei lythyr dyddorol o Dolny Dubnik, pencadlys Cadfridog Gourko, dywed goheb- ydd y Daily News mai ychydig o weithgarweh a amlygir gan y Rwsiaid na'r Tyrciaid o am- gylch Plevna. Skobeloff, meddai, yw yr unig un sydd yn creu tipyn o gyffro, ac yn amlygu ychydig o fywyd anturiaethus yno. Gydag ef y mae bob amser yn fywiog, a rhuad y cyflegrau yn fynych yn tori ar ddys- tawrwydd y nos, tra y mae y lleiil yn happy- go-lucky, yn esmwyth, ac yn ymfoddloni ar y sefyllfaoedd sydd yn eu meddiant, heb wneyd dim yn ychwaneg i frysio cwymp Osman Pasha, rhagor na'i gadw i mewn nes newynu. Dywed fod digon o gigfwyd yn ngwersyll y Rwsiaid, ond fod y bara yn brin, a hyny oherwydd diffyg moddion i'w drosglwyddo. "Dygwch i mi geffylau," meddai Bulgariad wrtho, a dygaf yma ddigon o tlawd i wneyd bara." Y mae y fyddin, meddai, yn cael symiau mawrion i ddiwallu eu hangenrheid- iau o'r hen wlad, ond y mae y brodorion Bulgaraidd yn byw ar wynwyn a grawn Indiaidd wedi ei rostio. Yn Vraca, lie y cymerodd y Rwsiaid ystor o gyflenwadau, cawsant hefyd rai teuluoedd o Bashi-Bazouks, ac oddeutu triugain o frodorion Tyrcaidd, y rhai a ddanfonwyd yn anrheg i Osman Pasha i Plevna. Yr oeddynt tua dwsin o wragedd, ac oddeutu y nifer hyny ddwywaith o blant, oil wedi eu gosod mewn dwy fen ychain, y rhai a dywysid yn mlaen gan osgordd o lancers, a'r gwyr, twr o'r bodau truenusaf yr olwg arnynt, yn cerdded o'u blaen. Yr oedd yn wyntog ac yn oer iawn ar y pryd, ac fel y gwasgai y plant bychain at eu gilydd i geisio cadw eu hunain yn wresog. 't 11 y fen olaf, yr oedd teulu o gipsies Tyrcaidd y fam mor goch ag Indiad, ac yn haner noeth, a'r ferch heb ddim am dani ond cerpyn o lodreu Tartar, a darn rhwygedig o lien got milwr Tyrcaidd ar ei hysgwyddau. Wylai yn dost gan yr oerfel, ac ymdrechai guddio ei thraed mewn ychydig wair oedd yn y fen. Yr oedd yn un o'r rhai harddaf a ganfyddodd y gohebydd erioed o'r type gipsiaidd, oddeutu pedair-ar-ddeg oed- un feindlos, lygad-ddu, a chydyn o wallt du yn cwympo dros ei thalcen. Yr oedd yno, hefyd, ddau neu dri o blant bychain yn hollol noethion. Pryd y safocld yr osgordd ar y ffordd, rhoddwyd bara i'r gwragedd a'r plant newynog, y rhai a'u rhanasant yn ewyllysgar a'r gwyr. Gafaelai y dwylaw esgyrnog yn awyddus yn y torthau, a darnient hwynt gydag edrychiad gwancus am ychwaneg ac am y tro cyntaf er's dyddiau, bwytasant. Arweiniodd y swyddogion y plant a'r ferch i un o'r tai, a rhoddasant de iddynt, ac arian i brynu ymborth; ac yr oedd yno ddigon o dywallt dagrau o lawenydd a diolchgarwch. Pentyrai y milwyr ranau o'u dognau i'r trueiniaid angenus. Tra yn gwledda felly, eisteddai un wraig ar wahan a'r lleill, yn mhlith y milwyr a'r seffylau, a syrthiai ar ei gwyneb ar y llawr, a gruddfanai bob tro y byddai y lleill yn bwyta. Hon a gymerodd revolver, ac a saethodd is-swyddog Rwsiaidd yn farw ar heol Vraca wedi i'r dref gael ei chymeryd, a heddwch ei sefydlu. Yr oedd y gwragedd ereill yn pwyntio eu bysedd ati, a'i galw yn llofrudd. Modd bynag, ni ddygwydd- odd dim niwed iddi wedi cyflawni eu hanfad- waith. Cyd-dystiolaethai un o'r gwragedd, gyda theimlad dwys, ;Vr hyn a ddywedai yr osgordd—sef, fod v fenyw yn wallgof. Rhoddai cymdeithion y swyddog trancedig ymborth iddi, a gofalent am dani gyda thiriondeb annghredadvvy braidd. Wedi ymddwyn felly yn g.-iredig tuag atynt, dan- fonwyd hwy oil drwy'r dyifryn lawr i Plevna. Sicr yw na fydd Osman yn hidio am dderbyn ychwaneg o gyffelyb adgyfnerthion.— Sylwed- ydd.
Damwain ofnadwy ger Ynyscedwyn.
Damwain ofnadwy ger Ynyscedwyn. Nos Sadvvrn divveddaf cymerodd damwain echrydus le ger gorsaf Ynyscedwyn, a'r gledr- ffordd Castellnedd ac Abevhonddu. Boreu dydd Sul cafwyd Heddgeidwad Thomas, Creunanr, yn gorwcdd mewn dideimladrwydd yn ymyl y ffordd haiarn, a'i fraich ddeheu wedi ei thori ymaith, a'i goes ddeheu, arhan- au o'i gorff wedi eu harciiolli yn enbyd. Oddiwrth yr hyn hysbysodd y dyoddefydd, ymddengys iddo fethu cilia o ffordd tren 16 mewn pryd, ac iddo gael ei daro i'r llawr. Yr oedd yn ddyn sobr a pharchus. Y mae mewn sefyllfa beryglus.
Lladrad Mawr yp. ifgliaerdydd.
Lladrad Mawr yp. ifgliaerdydd. DYDD Sadwrn diweddaf tatiwyd gweitlnvyr Mri. Cory a n Brodyr, Pentre I strad, i'r cyffro a'r annghylleusdra mwyaf trwy iddynt fethu cael y gyfran o'r gyfiog dyledus idd Liz, mewn canlyniad i glere y cwinai, o'r enw Christopher Kidler, i'r hwn yr ymddiriedwyd arian eu tal- edigaeth, ddianc ymaith a'r holl ysbail gvdag ef, set' y swm o 1,3t5u. Pellebrwyd i lawr Tswyddfa y cwmni, a ciiatwyd atebiaa oddiyno fod yr arian wedi eu clanfun; oud er dysgwyl yn bry- derus, ni ddaeth IIidler, a drwgdybiwyd yn fuan ddarfod iddo ymneillduo a'r god gyùag ef. Cafodd y cheque gan y cwmni, ac aeth i'r Nation- al & Provincial Bank ar y Dock, a chododd 1,300p. mewn aur, a 60p. yn arian. llhoddwyd y peliebr ar waith, a gwnaed ymchwiliadau am dano, a ohafwyd iddo gychwyn yn nghyfeiriad Casnewydd mewn cab. Gufynocld y pris, a dywedwyd wrtho mai 12s. oedd y fare. Arch- odd i'r gyrwr yru mor gyilym ag oedd modd, gan ei fod am gyfarfod a boneddwr yn Nghas. newydd am 1 o'r glocii. Yr oedd tyrfa o'r gweithwyr, eu plant, a'u gwragedd yn dysgwyl am eu cyfran, ac yr oedd pryder neillduol yn weledig ar eu gwynebau, gan eu bod yn dysgwyl moddion cynaiiaeth dros y Sul a'r wytlmos ddyfodol, ond er hir ddysgwyl, ddaeth ddim dydd Sadwrn. Ymddengys fod Ridler wedi bod yn ngwasan- aeth y cw:nni am tua phedair blynedd, ac iddo ef er's tro yr ymddiriedid cario arian y gweith- wyr i fyny i'r Pentre. Cariai weithiau gymaint a 2000p. yn wythnosol, ac yr oedd bob amser yn brydlawn a gofalus, a byth yn colli un tren, ac yn talu sylw neillduol i w ddyledswyddau. Pan yn myned i'r w.sg, nid oes un hanes eto ei fod wedi ei ddal, GL.:1 diau y deuir o hyd iddo yn fuan, gan fod po. tron wedi eu gyru i holl brif borthladdoedd y deyrnas, yn eviiwys des- grifiad o'i berson. i iadawodd y bag a 700p. mewn aur, a 6.3p. mewn arian yn y Railway Hotel yn Nghasrloew. Dysgwyiir na fydd y gwalch yn hir cyn dyfod i'r udalia.
H. Richard, Ysw., A.S., a'i…
H. Richard, Ysw., A.S., a'i Etholwyr. Nos Fa wrth diweddaf cyfarfu Mr. Richard a'i ethoiwyr yn y Neuadd Ddirwestol, Mer- ii 18, thyr. Cyiuerwyd y gadaif gan Mr. D. Davis, Maesyffynon. Yr oedd oddeutu 1.500 o wrandawyr yn bresenol. TaHudd Mr. Richard ei olwg dros weitlirediadau y senedd-dymor divveddaf, gan adolygu, gyda fedr arferol, y gwahanol fesurau a basiwyd. Cynygiwyd pleidlais o ymddiriedaeth yn Mr. Richard gan y Parch. T. Rees, ac eiliwyd gan Mr. John Evans. Cariwyd yn unfrvdol. Bydd Mr. Richard yn anerch cyfarfod yn y Neuadd Ddirwestol, Aberdar, nos yfory (nos Iau), am haner awr wedi saith.
[No title]
Dydd Iau am ddau o'r gioca, darfu i ddynes yn Pontypool o'r enw bamh Jennings syrthio i lawr yn farw, pan yn golchi dillad. Yroedd yn 48 mlwydd oed. Deallwn fod skating rink newydd gael ei hagor yn Aberystwyth. ° Yn Nhrefynwy cynaliwyd trengholiad ar gorff Richard Bellingham, yr hwn a syrth- iodd yn farw dydd Lluu wythnos i'r di- weddaf. Garddwr oedd y trengedig, ac yn 56 mlwydd oed. Dychwelwyd y rheithfarn iddo farw o glefyd y galon. Cafwyd corff hen Ayr o'r enw Edward Rumsey, 79 mlwydd oedd, yn farw yn ei dy yr wythnos ddiweddaf yn Nghrughywel. Rheithfarn Angeu o achosion naturiol." Y mae Mr. Lewis Davis, Blaenllechau, wedi ei ddewis yn gadeirydd Bwrdd Iechyd Ystradyfodwg, etholiad yr hwn gymerodd le dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf. Yr oedd Mr. Davis yn uawfed ar y rhestr; cafodd 1,079 o bleidleisiau, sef 717 yn llai na Mr. Evans, Cardiff Arms, Treorci, yr hwn oedd ar ben y rhestr.
Family Notices
PRIODAS. Tachwedd 2Sain, yn nghapel y Bedyddwyr, Blaenllechau, gan y Parch. J. Jones, gweinidog y lie, Mr. Charles Webb, a Miss Esther Powell, .y ddau o'r lie uchod. Dydd Sadwrn, Tachwedd lOfed, yn svvyddfa'r cofrestrydd, Abertawe, Mr. Benjamin Thomas, Gendros, Abertawe, a Miss Rachel Harries'* Raven Hill, gynt o Benyfodau. 11fAR WOLAETH. Rhagfyr 2ail, yn 51 mlwydd oed, ar ol cystudd byr, ond caled iawn, Mr. John Evans, masnach- ydd, Clive Shop, Trecynon, Aberdar. Cleddir ef dydd Iau nesaf, yn mynwent Eglwys St. lagans, yr angladd i gychwyn o'r ty oddeutu tri o'r gloch. Gwnawn sylwadau pellach ar yr ymadawedig yr wythnos nesaf.—Ciudydd.