Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
HARRIET LEE. ;
HARRIET LEE. 2 Can Awdwr Gomer Jones Powel," i ac "Elen Wyn." ( PENOD XXXIV. CARIAD NEWYDD HARRIET. J Aeth dyddiau heibio ar ol y geiriau rhyfedd hyn o eiddo'r gwas pewydd heb i fawr o ddim siarad i gymeryd lie rhwng Harriet ac yntau. Gwelodd fod y ferch gall wedi teimlo i'r byw wrth y fath ddar- luniad a roddodd ohono ei hun iddi, yr hyn nid cedd yn ddrwg i gyd ganddo, canys yr oedd yn profi mai hi oedd hi drwy'r cyfan. Gwyliodd gyfle ami i gael ymddyddan a hi, a chafodd hyny. "Yr ydych mor drist, Harriet, a phe byddai'r llo bach wedi myned yn'darw rhtribus mewn noswaith, n(ju'r alarch wedi yfed y llyn a llyncu'r pysgod oil Nid wyf yn ddifrifol heb achos, ac y mRP vn well bod yn ddifrifol nag yn gell- weirus." "Pvvy sydd yn cellwair, Harriet Lee? Syrthiodd eich gwedd wrth yr &teb a rodd- ais i'ch gofyniad y dydd o'r blaen, ac nid yw wedi codi byth er hyny. Cofiwch un peth, Harriet, nid cellwair yr oeddwn, ond dywedais y gwir i chwi am fy hanes i, ac awn dros y geiriau a ddywedais gan eu parso air ar ol gair, os ydych am hfny." Parao! beth wn i am eich parso chwi, ac nid wyf lawer am fyned dros eich geiriau hetyd." Rhoddaf gynyg teg i chwi yn awr, fel merch ddyeithr-ond i chwi ddweydhelynt y flwyddyn ddiweddaf y buoch byw yn yr Hen Wlad, dywedaf finau holl hanes fy mywyd i chwitbau, er y dydd y cefais fy hun ar y Cyfandir hwn." Gwridodd Harriet a mawr mor ddedwydd oedd am ei bod yn nos, fel na allai Roderick weled hyny. Aeth yn fud, a theimlai ei bod mewn trobwll chwyrnellawg ar y pryd. Credodd fod y gwas hwn wedi gweled neu glywed rhywbeth o'i hanes, a dyma hi am unwaith eto bron mewn ysbryd i chwilio am Leiandy i dreulio gweddill ei hoes ynddo o wydd dynion. 1, Teimlaf eich bod mewn pryder yn nghylch y cynyg, Harriet; ac os ydych chwi yn anfoddlon rhoddi eich hanes chwi, paham nad all fod pethau yn fy hanes inau yn llawn mor bwysig a'r eidio chwithau ? Rhoddwch ei le i reswm, ac ni bydd i chwi wgu arnaf am wneyd fel y gwnes y dydd o'r blaen. O! Harriet! both pe gwnaem gladdu'r gorphenol yn nglyn a ni'n dau, a 'stofi hanes newydd o hyn allan ?" "Beth yr ydych yn feddwl, Roderick Prosser ?" Meddwl am i ni gael dechreu caru o'r newydd, a chladdu'r oil a fu; ond o ran y gwir, a dylai hwnw gael ei le yn mhob amgylchiad, yr wyf fi. yn eich caru chwi, Harriet anwyl. Dyna gusan yn sel di- ddichell ar fy ngeiriau llwythog wrthych. Yd wyf, Harriet, yr wyf yn eich caru a'm holl galon bron er y dydd cyntaf eich gwel- ais chwi, a chredaf ein bod wedi ein har- wain ein dau yma, i fyned oddiyma yn un." Có Yr ydych yn dda ofnadwy! Synwn ni ddim nad ydych yn meddwl priodi heno!" 0! gleddyfau daufiniog o eiriau Os OPS genych galon eich hun, gochelwch glwyfo calon arall. Pe buasech yn cymer- yd cleddyf a thrywanu fy nghnawd fel y gwnaethoch a'm teimlad yn awr, cawsech eich cyhuddo o amcanu dwyn fy mywyd oddiarnat; ond y mae geiriau yn drosedd ar ddeddf uwch nag y gall cleddyf ei thros- eddu, set deddf cariad, a gochelwch ollwng gwaed cariad, Harriet, rhag troi ohono, ar ei tynud olaf, yn ddigofaint dialeddol ac angeuol, yr hyn sydd wedi bod ganoedd o -weithiau, hyd yn oed yn eio hoes ni, o fewn cylch ein gwybodaeth ni." Ymadawsant a'u gilydd y tro hwn, a Harriet yn barnu yn uwch am Roderick nag y bu hyd hyny. Cymdeithasent yn bur ami, ac yr oedd Roderick fel pe wedi penderfynu mynu Harriet Lee yn wraig iddo, a hyny cyn hir hefyd. Ymresymai y ferch lawer a hi ei hun feI hyn:- "Diau fod Roger wedi hen briodi, ac onide, buaswn wedi clywed oddiwrtho cyn hyn, canys gwyr pa le yr wyf, fel ag i anfon gair ataf, gystal ag y gwyddai gynt, pan yn anfon llythyrau ataf, pan yn byw yn yr un ty ag ef. Ond y mae dwy flynedd wedi newid llawer ar y byd, fel na wys beth a ddaeth ohono ef. Y mae'r dyn hwn mor dyner a siriol ag yr oedd ef, yn ym- ddangos yn ddyn call, o gymeriad moesol, ac hyd y gallaf farnu, yn fy ngharu hefyd. Y mae Roderick a finau yn nes i fod yn gydradd yri v byd, ac o hyny yn fwy tebyg o fyw yn ddedwydd nag y buasai Roger a finau i fyw felly. Pwy a wyr na chefais fy arwain yma gan Ragluniaeth i gyfar- fod a'r hwn wyf i fyw yn ei fynwes, a bod yn wraig iddo. Yr oedd Roger wedi tyfu yn ddyn hoew a golygus i'r pen, ond y mae Roderick mor hoenus a golygus ag yntau, ond ei fod yn llawer mwy barfog, ond gogoniant dyn yw ei farf, a'r wraig ei gwallV medd diareb. Dyma'r trydydd | synyg i fi ar briodi, ac y mae tri chynyg i Gymraes fel Cymro,' bid siwr, ac yr wyf yn cael fy ngogwyddo yn naturiol i dder- byn y cynyg hwn, canys yr wyf, bron heb yn wybod i mi fy hun, yn addfed i briodi. Gan hyny, priodaf a Roderick Prosser, os. Mae un person yn enill ar y llall yn serch Harriet Lee. Rhyfedd mor anhawdd ganddi hefyd yw datod Cwlwm cariad cywir oddiam wddf Roger, ac nid rhyfedd, canys yr oedd yn hen gwlwm tyn a sefydlog, a6 amgylcbiadau wedi bod yn tynu wrth ei gorneli crogedig, fel ag i'w wneyd yn dyn- ach nag y buasai pe cawsai ei gorneli am- ryliw a blodeuog chwifio yn rhydd yn awel- on balmaidd rhyddid cariad. Ond i'n golwg ni yn awr, y mae'r ddolen olaf ar gael— os nad wedi ei roddi-am wddf dyn nas gwyr pwy ydyw, o'r enw Roderick Prosser. ( it. (l'w barhau.) YJ
Masnach yr Haiarn a'r Glo.
Masnach yr Haiarn a'r Glo. DYMA. wythnos eto o adfyd masnachol wedi myned drosodd, a miloedd o deulu y chwys a'r gweithio yn hiraethu am gael lie i enill eu bywioliaeth. Yn ngwyneb yr adfyd presenol, mae yn rhyfedd genyf weled cynifer o bedrolfeni briwedd-dai, a'r gwirod- ydd yn arllwys eu cynwysiad dinystriol wrth ddrysau cyhoeddusdai y wlad. Nid anhebgorion cynaliaeth y corff dynol mo honynt, ond gwlybyroedd mwy cymhwys i seirff ac ysgorpionau nac i fodau dynol. Yn ol yr official returns o FFRAINC yr wyf yn gweled fod y swm o haiarn bwrw a fordroswyd yno yn y deg mis cyntaf o'r flwyddyn hon yn dyfod i fyny i'r swm o 166,000 o dunelli, gyferbyn a 149,806 yn y flwyddyn 1876. Wrth hyn yr ydym yn gweled fod haiarn feistri yn manteisio wrth gael haiarn bwrw o wledydd ereill at eu gwasanaeth er gwneyd haiarn gorphen-wneuthurol. Mae mordrosiad haiarn a phlatiau yno hefyd wedi cynyddu yn y deg mis diweddaf o 46,000 i 52,000 o dunelli. Ar y llaw arall, mae allforiad haiarn o Ffrainc wedi myned i lawr i 143,000 o dunelli yn y deg mis cyntaf o'r flwyddyn hon, pan eu cydmarer a 176,000 yn yr un cyfnod o'r flwyddyn 1876. Mae yehydig o fasnach wedi cael ei wneyd yn marchnad haiarn Paris, mae y pris yno am yr haiarn goreu yn 7p. 8s. y dunell. Mae yr hin wlybyrog a'r eyfwng gwleidiadol presenol yn Ffrainc i raddau wedi gwan- galoni y meistri glo, ac am hyny lied farw- aidd yw y fasnach hono yno yn awr. Marw- aidd yw masnach y glo a'r haiarn yn BELGIUM, ac am hyny nid oes yr un adroddiad o gysur i'w gael yn y dyddiau hyn. Mae gwell cais for warrants yn marchnad haiarn GLASGOW yr wythnos hon, drwy fod y gweithwyr yn ymollwng ychydig geiniogau yn y dunell; ond, ar y cwbl, mae y fasnach ar y cyfan yn comparatively unimportant. (Mae ych- ydig mwy o fywiogrwydd yn masnach y glo, ond bod y prisoedd yn parhau yr un. Bu dadl fawr yr wythnos ddiweddaf yn ngyfarfod Undeb Cenedlaethol y Mwn- wyr," yn MANCEINION", » ar y pwnc o'r gormodedd cynyreh yn y farchnad, a pha fodd y gallesid tynu hyny i lawr. Baraai rhai mai trawsfudiad* ereill ymfudiad, neu yntau leihad yn nghodiad glo a fuasai y moddion mwyaf effeithiol i fywhau masnach; ond ni ddaethpwyd i ben- derfyniad yn nghylch y pwnc. Wrth daflu golwg ar fasnach glo a haiarn yn LLOEGR mae masnach yr haiarn yn dawel, y stor yn cynyddu, a dywedir fod rhai yn cael codiad o swllt y dunell yn y pris. Dur yn fywiog. Masnach y glo yn farwaidd, ac yn cael cryn aflonyddwch yn herwydd y dadleuon yn nghylch cyflogau. Nid oes hyd yn hyn yr un material improvement yn un lie gwerth gwneyd cofnodiad,ohono. Am sir AMWYTHIG a Gogledd Cymru, mae y marweidd-dra cynyddol, fel y mae y flwyddyn yn tynu at ei therfyn, sydd yn masnach yr haiarn, fel y mae goreu y modd, yn methu cael eyfathrach yn masnach y glo, cyn belled ag y mae y swm a werthir yn myned. Ar y Haw arall, ychydig a wneir yn fwy o waith, ond y mae cais rhesymol am nwylo a glo at wasanaeth tai; ond gyda golwg ar y pris, mae y marweidd-dra, feallai, yn ddigyffelyb i'r modd y bu yn nghof neb ag sydd yn fyw, ac nad oes mo'i gyffelyb mewn un gangen law-weithyddol arall. Nid oes ei gyffelyb wedi bod er's mwy nac ugain mlynedd. Wedi dyfod i CASNEWYDD-AK-WYSG deallais yn fuan fod masnach yr haiarn yn parhau i ddangos diwylliant arafaidd, yr hyn sydd wedi ei nodweddoli am yr wyth- nosau diweddaraf, ac yn y rhanbarth lion y mae archebion da am reiliau ar law, i fyned i India a Brazil. Mae allforiadau i'r 11e- oedd hyn wedi cymeryd lie yr wythnos I ddiweddaf. Allforiwyd oddiyma yn ystod yr wythnos 8,285 o dunelli o lo, a 1,966 o dunelli o haiarn a dur. Nid oes, ysyw- aeth, ddim adfywiad yn y prisoedd am un math o haiarn, ac ychydig sydd yn cael ei wneyd mewn archebion ar fatiau i wledydd tramor. Y gwirionedd yw, y gall gwtieuth- urwyr y Cyfandir gystadlu yn llwydd- ianus a ni, oherwydd y pris isel y maent yn geisio, a goreu pa gyntaf, er lies y rhan- barth hon, yr adgyweirir hyn. Nid yw stoe yr haiarn bwrw mor fawr ag oedd fis yn ol. Y ffordd oreu i ddarlunio sefyilfa masnach y glo yw ei bod yn sefydlog. Mae adroddiad blynyddol Cwmni Nantyglo a'r Blaina, yr hwn sydd newydd ddyfod allan, yn dangos yn amlwg y sefyllfa farw- aidd y mae masnach ynddi. Yn ystod y flwyddyn oedd yn diweddu Awst Slain, mae y Cwmni wedi colli -15,000 o bunau. Mae rhanau helaeth o'r coal property wedi cael ei ddanosod (8ubleti, ac y mae cyd- ymddyddan ar waith i wneyd yr un modd ag ychwaneg o eiddo gloawl y Cwmni. Y mae annghydwelediad arall wedi cymeryd lle yn BRYNMAWB rhwng y gweithwyr a weithiant yn nglofa Milfran, eiddo Cwmni Gio a Raiarn Bryn- mawr. Yr wythnos ddiweddaf anfonwyd cynygiad mewn ysgrifen i'r gweithwyr gan Mr. James, y goruchwyliwr:—1. I ostwng y yardage o Is. 2o. i Is. y llath, yr hyn oedd i gael ei gadw yn safon-bris am dori 8tall roads ac i godi a gostwng gyda symud- iadau dyfodol y cyflogau. 2. Gadael yr yr enillion a phrisoedd yr yardage presenol heb eu newid, a dileu unrhyw dal am ad- newyddiadau mewn talcenu. Ac os na fuasai hyn i gael ei dderbyn y buasai y gwaith yn y lofa yn cael ei atal dydd Sadwrn. Rhoddwyd ateb gan y gweith- wyr y buasent yn derbyn y gostyngiad o bump y cant am dri mis, os buasai prisoedd ereill yn cael aros fel y maent yn bresenol. Methwyd dyfod i gydwelediad, a chynal- iodd y gweithwyr gyfarfod arall dydd Iau, a phenderfynwyd yn unfrydol i beidio derbyn y ddwy geiniog y llath o ostyngiad ar yr yardage; o ganlyniad, mae y gweith- wyr yn penderfynu sefyll allan yn awr. Rhybudd o hyny sydd wedi cael ei anfon i awdurdodau Undeb y Gweithwyr. Yn rhanbarth CAERDYDD mae y lleihad parhaus yn yr allforiadau i wledydd tramor yn destyn difrifol, a medd- ylir nad all yr un cyfnewidiad er gwell yn hyny gymeryd lie tan y rhan flaenaf o'r flwyddyn ddyfodol. Nid yw, gan hyny, yn un syndod fod ataliad rhanol neu hollol yn y glofeydd, a chanoedd yn cael eu taflu allan y waith. Mae ychydig welliant yn masnach yr haiarn, ac y mae yn bleser dweyd fod y gweithfeydd dur yn gweithio yn rhagorol. Mae ychydig mwy o fywyd yn ganfyddadwy yn y gweithfeydd alcan. Allforiwyd oddiyma yr wythnos ddiweddaf 62,742 o dunelli o lo 640 o dunelli o patent fuel; a 1,820 o dunelli o haiarn. Nid oes ond adfyd a thlodi yn ganfyddadwy drwy gymoedd y Rhondda,'Clydach, Cwm- ogwy; beth dal siarad, gwasgfa yn gan- fyddadwy drwy weithfeydd yr holl ran- barth. Yn rhanbarth ABERTAWE nid yw masnach gyffredinol y lie mewn gwaeth sefyllfa, ïe, na chynddrwg ag y mae wedi bod; mewn gwirionedd, y mae gwelliant graddol yn cymeryd lie. Mae contract neu ddau wedi eu derbyn, ond nis gellir codi y pris. Mae masnach yr alcan, yr hon sydd yn cael si dadblygu yn gyflym yn ardaloedd Castellnedd, Llanelli, a'r Tawe, yn adfywio, ac ychydig ddyddiau yn ol, y mae forge fawr newydd mewn cy- sylliiad a Bury Tinplate Works, Llanelli, wedi cael ei hagor gyda rhwysgfawredd. Mae llawer o'r prif weithfeydd wedi bod yn gweithio dwy ran o dai o'u hamser, ond mae y sibrwd yn awr y byddant yn gweith- io amser llawn ddechreu y flwyddyn. Nis gellir hyd yn hyn nodi yr un adfywiad yn y prisoedd. Mae gweithfeydd y patent fuel ychydig yn fwy bywiog mwy o alwad allforiadol. Daethum i fyny drwy Gwm- nedd, ac, er fy'm syndod, yn Hirwaun deallais nad allaswn fyned trwy'r twnel, a chymerwyd fi yn y tren trwy Aberdar tua MERTHYR TYDFIL. Cymerais seibant yn ngorsaf Mynwent y Crynwyr, ac am y tro cyntaf gwelais hen fynwent y Quakers, nid ydyw yn awr ond cae porfa a darn o hen gasting yn cynwys hen ddyddiad. Cefais allan yma fod glofeydd y glo tai yn gweithio yn lied dda, a chyda y tren nesaf cychwynais heibio Ynys Owen, glofa newydd, ond fel lleoedd ereill heb fod yn gweithio yn rheol- aidd. Wedi cyrhaedd y Tý Dirwestol, a gwneyd ymholiadau yno pa fodd yr oedd pethau yn myned yn mlaen, cefais, yn fuan, drwy i Sais ddyweyd wrthyf, The quiet- ness which has characterised the iron trade of Dowlais, which (meddai) is now the only place in work, has increased, and now not one of the mills is employed on iron rails, bars, or plates." Yr unig fusnes a wneir. yn awr yw mewn dur, ac y mae hyny yn weddol," ond, meddynt, heb yr un elw. Mae rhybuddion wedi eu rhoddi j er's mwy nag wythnos yn y Plymouth fod pob cytandebau presenol i :;derfyctu y nos cyn y Calan, ac y mae, fer y deallais, y mwyafrif o lofeydd Aberdar, o'r Bwllfa, yn Nghwmdar, i weithfeydd y P. D's., wedi cael yr un peth. Diau fod amcan at ostyngiad yn hyn, ac y mae llawer o bryder a digalondid wedi cael eu hachosi ganddo fel arwydd o auaf caled. Dim masnach haiarn, ac ychydig o lo gydd yn awr yn sicr. Mae y cais am lo yn cilio, a'r unig drosglwyddiadau o bwys a welir yn myned o'r rhanbarth hon sydd i'r Coal Exchange, • Llundain, o'r Gyfarthfa. Rhaid i mi roddi terfyn yn awr, gan obeithio y caf eich gweled tua'r gwyliau, gan hyderu fod gyda chwi yn Aberdar leoedd priodol i ddangos niwed y diodydd meddwol, yr hon fasnach, sydd yn anafu cymeriadau trigol- ion ein gwlad. Er yr holl galedi a'r adfyd masnachol, mae meddwdod yn uchel yn ein gwlad.. M A SNA CHDEITHIWR.
PA FODD I WRANDO YR ELIJAH?
PA FODD I WRANDO YR ELIJAH? Yn y chorus o'r bobl sydd yn dechreu gyda y geiriau "The fire descends from heaven"—i nodwedd bywiog pa un yr arweinir o dawelwch crefyddol Cast thy burden" gan yr adioddgan, 0 Thou, who makest thine angel spirits"— caiff y gwrandawr engraifffc o ataliad (retard- ation) er cyrhaedd climax dull mor arbenig ac effeithiol i gyrhaedd hyny ag ydyw prysuriad (acceleration). Dechreua y dorf gynhyrfus drwy waeddi yn gyflym "The fire descends from heaven the fiames consume his offering." Yn canlyn hwn ceir adran o frawddegaeth gerddorol llai datgymaledig, Before him upon your faces fall;" ac yn fuan ymleda hwn allan i passages dwys ar ddull chorale, ar y geiriau, "The Lord is God." Mae yr aria "Is not is word like a fire ?" a'r arioso, Woe unto them that forsake him," yn egluriadau, ac yn cynorthwyo y medd- wl i ymryddhau o'r sefyllfa braidd orweithiedig ydym wedi ei darlunio. Yna adymaflir yn y gweithredol-ar wahan oddiwrth yr eglurhaol- ac mewn atebiad i apel oddiwrth Obadiah y mae Elias yn anerch Duw am waredigaeth rhag y sychder. Nis gellir gor-ddweyd am geinder a chrefyddolder y darn nesaf. Hwyracti yr ad- waena Eglwyswyr un passage yma, gan ei fod wedi ei ieuo yn hapus ac effeithiol a geiriau ac mewn perthynas gwahanol i'r hyn ei gosodwyd gan Mendelssohn. Ar ol Elias adrodda y bobl y geiriau Open the hgavens, and send us relief Help, help thy servant now, 0 Lord." Mae y gerddoriaeth ar y ddwy linell ddyfynedig nid yn unig fel brawddeg o felodi, eith fel eng- raifft o gynghanedd lefarol, yn un o'r rhai godidocaf ddyfeisiwyd gan ddyn erioed. Y mae yr olygfa yn awr-ac nid oes dim nertholach a harddach yn y gangen o'r gelfyddyd gerddorol i ba un y perthyna-yn cael ei dad- blygu drwy arweiniad i mewn y llanc sydd yn cael ei ddanfon i weled a oes arwyddion gwlaw a'r hwn sydd yn dychwelyd gyda'r ateb "nad oes dim, fod y nefoedd fel pres." Y mae y Proffwyd yn ail-adrodd yr un geiriau a'r bobl yn ei eilio, ond gydag ychydig wahaniaeth yn y gynghanedd. Sylwed y gwrandawr ar y cyfeill- iant yn y fan yma, a chaiff fod y cyfansoddwr yn darlunio i'r clust y cwmwl bychan, megys cledr llaw gwr," yn cyfodi o'r mor, yr awyr- gylch yn duo, y dymhesti ffyrnig (ond croesaw- edig) yn ymgasglu, a rhuthriad y gwynt, nes o'r diwedd yr ydym braidd yn teimlo y gwlaw yn arllwys, gan mor ofnadwy o wirioneddol ydyw rhan y gerddorfa. Tawela hyn, a rhoddir dys- tawrwydd ar y banau diweddaf o recitative byr i Elias, ac yna daw y cydgan bendigedig (yr hwn sydd heb ei debyg, os nad heb ei gystal), sef Thanks be to God." Rhenir y cydgan hwn i ddau destyn, can belled ag y mae a fyno y lleis- iau—un o ddiolchgarwch, a'r llall o ddesgrifiad- aeth. I'r olaf rhydd y crythau nerth ac effeith- iolrwydd drwy ruthriad y semiquavers, y rhai a lanwant y lie megys a swn corwynt, tra y mae y lleisiau yn taranu Thanks be to God." Darlunir mewn amrywiaeth frawddegol y dyfr- oedd yn crynhoi-" the waters gather, they rush along." Yma a thraw y mae byr-seibiant i'r lleisiau, pryd y clywir rhuthriad y cyfeilliant yn ei holl nerth datguddiedig. Hynod yw nodwedd y passages eofn ar y geiriau But the Lord is above them, and Almighty," allan o'r clauses terfysglyd haner-tonol hyn, ar ol eu had- rodd deirgwaith, daw allan y testyn, Thanks be to God," ond yn fuan collir ef drachefn yn nghanol y brawddegau darluniadol dyryslyd a chynyrfus, nes yn y diwedd—wedi y dystaw- rwydd, yn ystod yr hwn y rhuthra y violins bendramwnwgl i lawr drwy ddau fan-ymuna y cOr a'r gerddorfa mewn bloedd o ddiolchgarwch, y lleisiau ar y cyntaf yn unsain, ond yn ymledu yn gynghanedd lydan o fewn saith ban i'r terfyn. Dyg y cydgan hwn ran gyntaf yr oratorio i der- fvniad. Ar ol nodi allan nodweddion ac ysbryd rhan gyntaf y dreithgan, Elijah, feallai y byddai cystal gadael, i raddau helaethach, rhwng y gwrandawr a'i adnoddau i ddeongli yr ail ran. Sylwaf, modd bynag, a rai o'r prif nodweddion. Mae Be not afraid yn engraifft ychwanegol o gydgan grefyddol ei ansawdd, a thyner-braidd yn fugeiliol-ei donyddiaeth, ac yn anadlu ys- bryd duwiolfrydig ac efengylaidd. Gellir dweyd fod Mendelssohn yn tra rhagori yn yr arddull hwn. Mae rhanau tawel y cydgan yn cael eu gosod allan, a'u cymeriad yn cael ei arddangos, drwy ddygiad i mewn y testyn, gyda bywiog- rwydd ychwanegol, ar y geiriau, Though thousands languish and fall beside thee," eto y mae y passages hyn yn rhyddion oddiwrth bob- peth a dueddai i dori ar nodwedd dawel y darn. Yn yr olygfa rhwng Ahab a Jezebel ceir dar- luniad o deimlad y werinos at y Proffwyd, ac yn raddol dadlenir yr helynt, a cheir amlygiad o ddigter y werin yn y cydgan, Woe to him." Yn canlyn ceir unawd ardderchog gan Elias, sef "I have been very jealous for the Lord," &c. Bydd y terzetto Lift thine eyes" yn sicr o gael ei werthfawrogi. Y mae y cydgan tlws, He, watching over Israel, slumbers not, nor sleeps," o'r un dosbarth a "Be not afraid "-yn bur ddigyffro, defosiynol, barddonol, ac wedi ei addurno a chyfeilliant hyfryd. Nid oes eisieu desgrifio 0 rest in the Lord -y mae yn un o berlau y gelf gysegredig yma gellir gweled effaith hapus cyfeilliant y flute, a. galla yr offeryn hwnw i gymysgu a'r llais con-- tralto. Mae y passages darluniadol yn Behold, God the Lord passed by" yn esbonio eu hunain ffurfiant un o'r adranau mwyaf gorphenedig yn y gwaith, yn lleisiol ac offerynol. Tua'r terfyn ceir dau bedrawd i leisiau unigol, sef Holy, holy," a "0 come ye that thirsteth;" a ther- fyna y gwaith gyda chydgan wedi ei gyfansoddi ar gynllun mwy fugal nag un arall yn yr ora- torio yr hyn rydd iddi ddiweddiad mawreddog a chynhyrfus. —Allan o CASSEL'S MAGAZINE, cyf- ieithiedig gan 11. Evans. "Y TYL WYTH TEG." CANTATA GAN D. EMLYN EVANS. Ychydig o sylwadau ar y cyfansoddiad, ae ar y datganiad ohoni gan y Swansea Choral Society. Rhan I. Yr ydym yn cael ein harwain i'r gantawd hon, heb nac overture na symphony, gan gydgan ysgafn, Dewch a'r delyn," yr hwn sydd deilwng o ganmoliaeth ar y cyfan ond a allasai fod yn well, debygwD, gyda ychydigyn fwy o'r development, er engraifft gwel tudalen 3, bariau 5 a 6; ouid gwah- aidd yw y features yna ? Rhif. 2. Tenorrecit., "O ddedwydd ddydd." Hapus iawn yw y theme fechan yma sydd yn dechreu gyda Mae Gwener deg yn codi." Y mae y rhan olaf o'r penill hwn yn effeithiol. dros ben, yn dechreu gyda Ond tecach a mwy tyner ma.'r accompaniment yn dda ac; yn interesting. Mae'r ail benill o hwn yn cael ei ail adrodd, yn hollol felly ar yr un gerddoriaeth. Nid oes yr un cyfnewidiad yn cael ei wneyd hyd y nod yn nghynghaneddiad yr accompaniments. Yn sicr, gallasai yr awdwr roddi ychydig yn fwy o amrywiaeth fel ag i'w wneuthur yn fwy effeithiol cyn dyfod i'r final close. Lied ddiystyr yw yr accom- paniment yn tudalen 4, ban 12. Hefyd, ai nid gwell fuasai C yn octaves yn rhan y bass yn yr accompaniment tudalen 5, ban olaf ond un. Gwelir yr un peth eto yn tudalen 7, F sharp, ac nid F naturiol, ddylasai fod yn yr accompaniment yn rhan y bass yn octaves tudalen 5, ban 13. Rhif. 3. Tebygwn y gallesid cryfhau yr agoriad hwn a'i wneuthur yn fwy admirable. Meddylddrych campus yw hwn wedi ei weithio allan mewn modd anhapus. Cydgan, Diangwn," yr hwn sydd yn dangos cryn allu yn yr awdwr mewn llawer iawn o fanau eto gwanaidd a moel, debygwn, yw yr hyn a welir yn tudalen 9, banau 4 a 5. Hefyd, beth am adferiad y dominant 7 yn banau 6 a 7 ai nid gwell fuasai G yn yr alto ? Eto, onid mwy dymunol mewn sharp passage o'r fath hyn fuasai newid y gynghanedd ar y beat cyntaf o'r ban newydd, yn lie ar yr olaf, fel y cawn ef yma dair gwaith yn olynol ? Ai ni fuasai felly yn fwy diogel ac effeithiol 1 Rhif. 4. Scherzando chorus.—Yn llawn bywyd a nerth, ac yn cael ei ganlyn gan y bass air, rhifyn 5, "Brenin y tylwyth teg. wyf fi," yr hwn sydd yn debyg o ddyfod yn favorite yn mhlith ein bassers. Yr ydym yn hollol annghymeradwyo y twaddle chromatic- movement yna yn yr accompaniment tudalen 17, ban olaf ai tebyg na allasai canwr fyned a'r tonic i'r dominant heb y weak, guidings hyn ? Rhif. 6. Tyr'd gyda ni" sydd duet rhwng y bride a'r brenin, ac yn teilyngu sylw a chanmoliaeth uchel. Ai nid gwell fuasai gosod y sharp a'r F un nodyn yn gynt yn tudalen 18, ban 10, rhan y bass yn yr accom- paniment, buasai hyny yn sicrhau y bass- voice F sharp, yn lie cymeryd y sain oddiwrth y canwr, yr hon nad yw, debygem, nac F sharp nac F naturiol. Yn canlyn, ar ol myned yn mlaen ddau tudalen, ni gawn cydgan o Fairies, yn cael ei ychwanegu a'i gynorthwyo i'r diwedd o'r rhan gyntaf o'r gwaith hwn, ac mae'r oil yn hawlio uchel gy meradwyaeth. Rhan II.—Rhif. 7. "Yn nghanol llawen- ydd sydd yn agor heb yr un symphony gan y bridegroom. Unawd bruddaidd yw hon, ",Fe. rwygwyd fy nheimlad pan gollais fy mam," yr hon sydd yn dangos fod yr awdwr yn wybyddus pa fodd i ymbriodi geiriau prudd- aidd a cherddoriaeth bruddaidd. Ai nid allasid gwella yr air trwy ei dynu yn fwy allan felly y mae'r geiriau yn eTthaf cryf, debygem, i fwy o elaboration. Dylasai y C fod yn sharp yn tudalen 24, ban 4, rhan y bass yn yr accompaniment. Rhif. 8. Cydgan, "Y nos, y nos." An- effeithiol yw yr accompaniment yn y banau cyntaf a'r ail. Rhifyn 9. Unawd a chydgan, "Dduwies wen y wawrddydd." Mae'r accompaniment yn y tri ban olaf yn tudalen 30 yn dda, a'r tri cyntaf yn y tudalen canlynol yn ardderch- og felly; nid all y darn bychan hwn lai na bod ynfcwurite yn mhlith cerddorion. Rhif. 10 ac 11. "P'le mae'r anwyl un," a "Wele oleu," er nad ydynt yn cynwys dim yn newydd nac yn sinking, eto maent yn dangos fod yr awdwr wedi bod yn gryn ofalus gyda'i ysgrif-bin. Mae ynddynt hefyd rai p■hrase* hynod o darawiadol. Rhif. 12. Recit. and chorus, u Mor hyfryd gweled Haw y wawr," ac "0 hyfryd haul." Dyma y cydgan goreu o ddigon yn yr holl waith tebyg fod yr awdwr, fel y rhan fwyaf ohonynt, wedi ymysgwyd yn drwyadl ar gyfer ny o hwn. Y mae yn dechreu yn unison, ac octaves i'r lleisiau a'r orchestra, ac yn y 6fed ban yr ydym yn cael ein harwain i ddysgwyl am y tonal fugue ond yn anflodus yr ydym yn cael ein siomi, canys y mae yn uniongyrehol yn tori ymaith oddiwrth y fugal workings. Nid cymeradwy hefyd yw y trawsgyweiriad yna yri tudalen 39, lie y mae yn myned mor gynted o E flat i F; mae yn edrych i ni yn hollol allan o Ie. A chymeryd y cydgan gyda'i gilydd, mae'r awdwr yn cynyg am ddigon o deimlad, ac wedi dyfod a ni i ddiweddeb ysblenydd. Brilliant conclusion, yw hwn i'r holl Waith. Yn awr ymadawn a'r awdwr am foment. A ydyw ddim yn ofidus na fuasid yn cymeryd