Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

ORIEL Y BEIRDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ORIEL Y BEIRDD. DAELUX RaIF XII. DYN hir, cul, a chyhyrog; igam ogam ac afrosgo ei symudiadau; a'i yinddang- osiad yn rhyfeddach na phawb. Ei wallt sydd fel eiddo .weep, ac yn hongian yn gudynau dros ei ysgwyddau; a'i fwng fel eiddo Nebuchodonozor pan oedd yn port glaswellt. Medda dalcen slip, a dau lygad mawr a dreiddiant trwy astell l&odfedd o drwch. Ei wyneb sydd Mr a phantiog, a'i drwyn yn dwyn -perthynas agos ag eiddo arwr Waterloo. Ymddengys bob dydd yn ei wisg oreu— cot hir o frethyn du, allodrau a gwasgod o frethyn plod; ac ar ei ben gwelir mam holl hetiau y deyrnas. Nid oes un dyn yn Neheudir Oymru sydd mor adnabydd- us ag ef. Un gipdrem arno sydd ddigon i'w adnabod, ac i'w argraffu ar y cof am .oesgyfan. Mae yn eithriad yn mhlith y llwyth barddol. Efe yw yr unig un sydd yn gallu byw ar lenyddiaeth. Ni fwriad- odd Rhagluniaeth iddo enill ei fywiol- iaeth trwy chwys ei wyneb, eithr trwy ei dalent! Bu ychydig o'i oes yn dysgu y do ieuanc, ond trodd ffrwd ei athrylith i oleuo a phuro rhai addfetach mewn profiad a barn. Pan ar ei bererindodau gwelir ef, fel yr hen Iolo Morganwg, a'i bastwn hir yn ei law yn brasgamu dros fynyddoedd a chreigiau, ac yn llawn aidclgarweh a sel am gydnabyddiaeth i'w athrylith. Prif lythyren ei fywyd ydyw V. a hono yn y maint mwyaf a welwyd erioed. Mewn cymdeithas, mae yn siglo yr aelod bychan yn ddidor ddiderfyn, pa un a fydd yr hyn a gynyrcha yn dder- fcyniol gan y gwmniaeth neu beidio. Ceir ganddo lawer ergyd doniol, ond daw y V i'r golwg braidd rhwng pob brawdd- eg, yr hyn a wna yr hyn a ddywed yn xhywbeth. gwell bod hebddo. Dug i'r ymddyddan eiriau Seisnig yn blith- draphlith i ddangos ei ysgolheigdod. Pan yn traethu ar ei bwnc, ceir ei weled yn tynu ei fysedd miniog hirion trwy ei fwng, a phob ysgogiad o eiddo ei fys bach fel yn dweyd "I am Sir Oracle, and when I open my mouth, let no dog bark." Mae yn ysgolhaig gwych, ac zn t, yn well athronydd na neb o'i gydfeirdd, yn ol ei dystiolaeth ei hun. Mae yn draethodwr da, ac yn areithiwr cwm- pasog ac hyawdl. Fel eisteddfodwr nid oes neb wedi cys- tadlu cymaint ag ef; ac yn y blynyddau a aethant heibio byddai yn llwyddo yn lied ami i gipio y gwobrwyon. Enillodd lawer obres am farwnaclau a chaneuon clod ond rhywsut y mae duwies ffawd wedi gwgu arno yn ddiweddar. Ybeirn- iaid yn anwybodus, ac yn methu gweled gwerth cynyrch ei awen doreithiog Nid oes un dyn byw wedi cael cymaint o gam ag ef gan ei feirniaid. Bydd yn cael cam bob tro y bydd yn aflwyddianus, a gwae i'r neb a ddywedo yn amgen. Nid yw erioed wedi bod yn feirniad o fri, ac ni ddaw byth. a hyny am lawer o resym- au na raid eu nodi. Efe yw yr unig clerfardd sydd yn fyw yn bresenol. A phan fydd ar rywun eisieu c ai o glod, ni raid iddo ond anfon at y bardd hwn, a cha hi ar unwaith, a hyny o law yr .awdwr. Mae y bardd hwn yn bygwth gadael Cymru yn ami, a myned at ei gefndryd y tudraw i'r Werydd, a buasai wedi niyned dro yn ol oni buasai i'w gydwladwyr gynal cyfarfod i ddeisyf arno newid ei fwriad Sonia am ddwyn allan .gysawd o'i feddyIddrychau, a diau y bydd gwawr y milflwyddiant yn clechreu tori pan y gwna y cysawd gogoneddus ei ymddangosiad. Gyda dymuno llwydd i'r brawd ysponc- iawg, sychir y brws y waith hon. Huw Moms,

[No title]

Ymweliad Blynyddol Mr. Henry…

BARDDONIAETH A BEIRDD.

TON YP ANDY A GHERD DO RIAETH.

OGOF ORLANDO.

MASNACKWYR GILFACIT GOGH A…

BLAENAFON.

PA FODD I WRANDO YR ELIJAH?