Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
ORIEL Y BEIRDD.
ORIEL Y BEIRDD. DAELUX RaIF XII. DYN hir, cul, a chyhyrog; igam ogam ac afrosgo ei symudiadau; a'i yinddang- osiad yn rhyfeddach na phawb. Ei wallt sydd fel eiddo .weep, ac yn hongian yn gudynau dros ei ysgwyddau; a'i fwng fel eiddo Nebuchodonozor pan oedd yn port glaswellt. Medda dalcen slip, a dau lygad mawr a dreiddiant trwy astell l&odfedd o drwch. Ei wyneb sydd Mr a phantiog, a'i drwyn yn dwyn -perthynas agos ag eiddo arwr Waterloo. Ymddengys bob dydd yn ei wisg oreu— cot hir o frethyn du, allodrau a gwasgod o frethyn plod; ac ar ei ben gwelir mam holl hetiau y deyrnas. Nid oes un dyn yn Neheudir Oymru sydd mor adnabydd- us ag ef. Un gipdrem arno sydd ddigon i'w adnabod, ac i'w argraffu ar y cof am .oesgyfan. Mae yn eithriad yn mhlith y llwyth barddol. Efe yw yr unig un sydd yn gallu byw ar lenyddiaeth. Ni fwriad- odd Rhagluniaeth iddo enill ei fywiol- iaeth trwy chwys ei wyneb, eithr trwy ei dalent! Bu ychydig o'i oes yn dysgu y do ieuanc, ond trodd ffrwd ei athrylith i oleuo a phuro rhai addfetach mewn profiad a barn. Pan ar ei bererindodau gwelir ef, fel yr hen Iolo Morganwg, a'i bastwn hir yn ei law yn brasgamu dros fynyddoedd a chreigiau, ac yn llawn aidclgarweh a sel am gydnabyddiaeth i'w athrylith. Prif lythyren ei fywyd ydyw V. a hono yn y maint mwyaf a welwyd erioed. Mewn cymdeithas, mae yn siglo yr aelod bychan yn ddidor ddiderfyn, pa un a fydd yr hyn a gynyrcha yn dder- fcyniol gan y gwmniaeth neu beidio. Ceir ganddo lawer ergyd doniol, ond daw y V i'r golwg braidd rhwng pob brawdd- eg, yr hyn a wna yr hyn a ddywed yn xhywbeth. gwell bod hebddo. Dug i'r ymddyddan eiriau Seisnig yn blith- draphlith i ddangos ei ysgolheigdod. Pan yn traethu ar ei bwnc, ceir ei weled yn tynu ei fysedd miniog hirion trwy ei fwng, a phob ysgogiad o eiddo ei fys bach fel yn dweyd "I am Sir Oracle, and when I open my mouth, let no dog bark." Mae yn ysgolhaig gwych, ac zn t, yn well athronydd na neb o'i gydfeirdd, yn ol ei dystiolaeth ei hun. Mae yn draethodwr da, ac yn areithiwr cwm- pasog ac hyawdl. Fel eisteddfodwr nid oes neb wedi cys- tadlu cymaint ag ef; ac yn y blynyddau a aethant heibio byddai yn llwyddo yn lied ami i gipio y gwobrwyon. Enillodd lawer obres am farwnaclau a chaneuon clod ond rhywsut y mae duwies ffawd wedi gwgu arno yn ddiweddar. Ybeirn- iaid yn anwybodus, ac yn methu gweled gwerth cynyrch ei awen doreithiog Nid oes un dyn byw wedi cael cymaint o gam ag ef gan ei feirniaid. Bydd yn cael cam bob tro y bydd yn aflwyddianus, a gwae i'r neb a ddywedo yn amgen. Nid yw erioed wedi bod yn feirniad o fri, ac ni ddaw byth. a hyny am lawer o resym- au na raid eu nodi. Efe yw yr unig clerfardd sydd yn fyw yn bresenol. A phan fydd ar rywun eisieu c ai o glod, ni raid iddo ond anfon at y bardd hwn, a cha hi ar unwaith, a hyny o law yr .awdwr. Mae y bardd hwn yn bygwth gadael Cymru yn ami, a myned at ei gefndryd y tudraw i'r Werydd, a buasai wedi niyned dro yn ol oni buasai i'w gydwladwyr gynal cyfarfod i ddeisyf arno newid ei fwriad Sonia am ddwyn allan .gysawd o'i feddyIddrychau, a diau y bydd gwawr y milflwyddiant yn clechreu tori pan y gwna y cysawd gogoneddus ei ymddangosiad. Gyda dymuno llwydd i'r brawd ysponc- iawg, sychir y brws y waith hon. Huw Moms,
[No title]
Mae pleidiau gwleidyddol Ffraine yn par- hau i annghytuno.
Ymweliad Blynyddol Mr. Henry…
Ymweliad Blynyddol Mr. Henry Richard, A.S., a'i Etholwyr. Nid ydym yn cofio, ar hyn o bryd, i Mr. Richard esgeuluso ymweled yn flynyddol a'r etholwyr a'i godasant ar fainc St. Stephen er pan y dychwelwyd ef i Dy y Cyffredin, dros fwrdeisdref Merthyr, Aberdar, a'r cylch ben- trefydd, yn 1868, gyda'r fath fwyafiif mawr. Y mae efe, bob amser, yn dderbyniol yn ein plith, a gwrandewir ei areithiau gyda dyddor- deb digymysg. Daeth atom eto y flwyddyn hon gyda'i hyawdledd arferol, a thraddododd ei araeth gyntaf yn y Neuadd Ddirwestol, Merthyr,idyaid llawn o wrandawyr. Mr. Davis, Maesyftynon, yn y gadair, yr hwn, wedi araeth bwrpasol i agor y cyfarfod, a alwodd Mr. Richard i anerch y dorf. Der- byniwyd ef gyda chymeradwyaeth wresog, yr hyn a barhaodd am gryn amser. Ar y cychwyn, amlygodd y cydymdeimlad dyfnaf a'i wrandawyr oherwydd iselder mas- nach yn yr ardal, a'r hyn yn ddiau sydd wedi achosi, ac eto yn parhau i achosi, pryder mawr a chyfyngder gerwin i lawer o bobl. Dymunai fod yn alluog i roi iddynt ryw gysur. Darfu iddo glywed newyddion go- beithiol y prydnawn hwnw-sef, yn Unol Dalaethau America—fod llywvdd v Werin- iaeth fawr wedi datgan ei hun yn ffafr Mas- nach' Rydd (uchel gymeradwyaeth). Deallir hefyd fod y mwyafrif o'i weinidogion o'r un meddwl, a'r hyn sydd efallai yn fwy pwysig, —fod mwyafrif aelodau y Gynghorfa yn ffafriol i fwy o ryddid trafnidol rhwng y wlad bono a chenedloedd ereill. Clywsai, hefyd, fod ysgrif yn debyg o gael ei dwyn i mewn i'r Gynghorfa er gosfcwng y doli-daflen bresenol 25 y cant, yr hon sydd yn cau allan gynyrch a llaw-weithiau Prydeinig o'r wlad hono. Gwyddem ollnas gallem wneuthur heb haiarn a glo ac os bydd i'r doll gael ei gostwng yn 11 b yr Unol Dalaethau, a'r rhyfel truenus hwn yn y Dvvyrain i gael ei dwyn i derfyniad, a Ffraine i ymdawelu dan lywodraeth sefydlog a heddychol, gadawer i ni obeithio y daw 11awer o effeithiau da ereill i ddilyn, ac y bydd adfywiad i lwyddiant masnach yn Merthyr. Wrth adolygu y Sesiwn Seneddol ddiwedd- af, dywedai iddi fod yn ddiffrwyth iawn, a'r un fwyaf felly o fewn i'w brofiad Seneddol ef, a chlywodd yr un peth yn cael ei ddweyd gan ddynion fuont lawer hirach nag ef yn y Ty. Ymddengys fod y Llywodraeth yn ym- gadw yn fwriadol rhag dwyn i mewn unrhyw fesur o gymeriad neu axwyddocad politicaidd, neu unrhyw fesur ellid gyfrif a gynliyrfai lawer o ddadleuaeth neu wrthwynebiad. Yn araeth y Frenines ar agoriad y Senedd, dim ond pedwar neu bump o fesurau dybid oedd yn werth sylw neillduol. Un o'r rhai hyn ydoedd Ysgrif y Carcharau, yr oil am ba un ellir ddweyd iddi gael ei dwyn yn mlaen er effeithio diwygiadau yn ngharchardai y wlad. Bwriadai Mr. Cross, yr Y sgrifenydcl Cartref- • ol, i'r mesur weinyddu i effeithiolrwydd a chynildeb. Yr oedd ef yn amheu llawer pa un a gyrhaeddid yr amcan olaf. Yr oedd efe wedi sylwi mai amcan pob cyfnewidiad o'r nauir hwn oedd rhoddi mwy o awdurdod i swyddogion y Llywodraeth i wthio eu dwylaw yn ddyfnach a dyfnach i logellau y bobl. Yn ol ei farn ef, yr oedd tuedd niweidiol yn y mesur hwn, gan ei fod yn amcanu rhoddi awdurdod helaethach yn nwylaw yr Ysgrif- enydd Cartrefol a swyddogion y Llywodraeth. Yna sylwodd yn helaeth ar ysgrif y Prifysgol- ion yr hon a fwriadai ddwyn i mewn gyfnewid- iadau yn Rhydychain a Chaergrawnt. Y prif bwynt yn mha un yr oedd ef a'r An- nghydffurfwyr yn teimlo mwyaf o ddyddor- deb oedd cyfranogaeth glerigol. Dywedai fod derbyniad Annghydffurfwyr i'r Prifysgol- ion yn un a ddilynasid gan y llwyddiant penaf. Yn Mhrifysgol Caergrawnt yr an- rhydedd uchaf ag y gall unrhyw ddyn gyr- haedd ydyw y safle o senior wrangler. Efe am y flwyddyn ydyw y mwyaf cyhoeddus, enwog, ac anrhydeddus yn y Brifysgol. Wel, oddiar pan dderbyniasid y Ymneilldu- wyr i'r Prifysgolion hyn, yn 1858, yn 1859, yn 1860, yn 1861, yn 1862, yn 1866, yn 1867, yn 1868, yn 1869, yn 1871, yn 1873, yn 1875, yn 1877 -yn yr holl flynyddau hyn yr oedd y senior wrangler ship wedi disgyn i ran Y m- neillduwyr—(uchel gymeradwyaeth)—tua 90 o Ymneillduwyr allan o 2,200 o is.raddedigion. Yn nesaf, daeth cwestiwn Deheudir Aifrica dan sylw, lie y mae amryw drefedigaethau, ac yn eu mysg Penrhyn Gobaith Da a Trans- vaal. Amcan yr ysgrif hon ydoedd galluogi y gwahanol drefedigaethau i ymffurfio yn fath o undeb fel yn Ngogledd America. Nid oedd niwed yn hyn, ond yr oedd efe yn amheus iawn pa un a weithiai trefedigaethau Deheuol Affricanaidd gj-da'u gilydd yn ffurf undeb. Dyma y prif betllau a wnaethpwyd. Yr oedd, wrth gwrs, swm anferth o siarad, ond yr oedd deddfwriaeth ymarferol yn hynocl o fychan. Sylwodd ar y ddau neu dri o'r aelodau Gwyddeiig oeddynt yn gareg rwystr yn y Tf, a dywedai iddo bioidleisio gyda hwy amryw weithiau; ond pan ym- gymerasant i rwystro yn f wriadol, a hyny er mwyn rhwystro, ymadawodd oddiwrthyut. Cwestiwn mawr y Dwyrain ddaeth yn nesaf dan sylw, a dywedai y gwyddent oil ei fod ef uwchlaw pobpeth yn ddyn fleddwch. Yr oedd efe, yn ystod y sesiwn ddiweddaf, megys rhwng dau dan, canys cafodd fod yn y Ty, fel oddiallan i'r Tf, ddwy blaid ryfelgar —un am fyned i ymiadd dros, a'r Itall yn erbyn, Tvvrci. Ylla, dyfynodd ddarn ddigrif- ddoniol o waith Washington Irving am John Bull, yr hwn oedd wedi dysgu meddwl fod ganddo hawl i roi ei fys yn mrywes pawb, yn debyg i'r pryf gopyn pan ddaw y cynhyrliad lleiaf yn agos i'w rwyd. Cyfeiriodd at y creulonderau yn Bulgaria, a'r cyflafanau ofnadwy gyflawnesid yno ond y drwg oedd fod rhai po'ol yn tybied y gallent wella y creulonderau hyny trwy gyflawni eu cyffelyb. Traethodd yn helaeth iawn ar y cwestiwn Dwyreiniol, a dywedai y byddai ef gydag unrhyw blaid fyddai yn erbyn myned i ryfel. Cynygiwyd penderfyniad gan y Parch. yz:l Thos. Rees, ac eiliwyd gan Mr. John Evans, a chariwyd yn unfrydol, yn diolch i Mr. Richard am ei araeth, ac yn datgan ymddir- iedaeth ddilaesu ynddo fel aelod dros y fwrdeisdref yn y dyfodol. Nos Fercher, yn Neuadd yr Odyddion, Dowlais, dan lywyddiaeth Mr. D. R. Lewis, anerchodd Mr. Richard dyrfa fawr, a sylw- odd ar amryw fan fesurau, y rhai nad oes genym ofod i'w crybwyll. Nos Iau, yn Aberdar, yn y Neuadd Ddir- westol, Mr. C. H. James, Merthyr, yn y gadair, traddododd Mr. James ei drydedd araeth, ac yr oedd yn nghyd dyrfa fawr. Teithiodd dros lawer o'r un tir ag yn ei ar- eithiau blaenorol, ac yn mysg pethau ereill sylwodd ar bwnc Dadgysylltiad yr Eglwys oddiwrth y Llywodraeth. Dywedai fod Mr. Gladstone yn barocl i fyned i mewn yn trafr Dadgysylltiad yn Scotland, ac felly yr oedd gwladweinwyr ereill, ac os na chymerant y pwnc i fyny ar unwaith, caent eu gyru i hyny. Yr oedd Arglwydd Derby ei hun wedi datgan ei foddlonrwydd ar ddilead y Dreth Eglwys, a dywedai ei fod yn arddangosiad o'r hyn allai yr Eglwys wneyd pan orfodid hi i syrthio ar ei hadnoddau heb gynorthwy gwladol. Fel sefydliad crefyddol, dymunai i'r Eglwys "Duw yn rhwydd;" ond fel sefydl- iad gwladwriaethol a pholiticaidd, nis gallai dim fod o fwy o les iddi na dadgysylltiad a dadwaddoliad. Cynygiwyd gan Mr. D. Davis, Maesyfiynon ac eiliwyd gan Dr. Price, bleid- lais o ymddiriedaeth yn Mr. Richard fel Aelod Seneddol. Siaradwyd hefyd gan Mri. John Williams, Trecynon; J. Johns, Aberdar; a'r Parchn. H. Davies, Cwmaman W. James, Bethania a Wm. Edwards, Heolyfelin. C.ynygiwyd diolchgarwch i'r cadeirydd gan Mr. John Jones, glowr, Cwmaman, yr hwn a wnaeth ychydig sylwadau liynod bwrpasol i'r amgylchiad a derbyniwyd ei awgrym mai Mr. Charles H: James oedd y dyn addasaf i'w cynrychioli yn y senedd (fel cyd-aelod a Mr. Richard) gyda brwdfrydedd a amlygai fod y cyfarfod yn bur unfrydol ar y pen hwnw. Yna terfynodd y cyfarfod.
BARDDONIAETH A BEIRDD.
BARDDONIAETH A BEIRDD. RnIF V. CYN ymadael a gwisgiadau barddoniaeth, carem wneyd ychydig sylwadau ar gyfansodd- iad llinellau. Fe wel y darllenydd wrth y llinellau canlynol, ar y "Gydwybod":— Ti, raglaw Duw, ar deyrnas fach y fron, Sy'n barnu'n ddifraw ar dy orsedd wen, Pan na wyr llysoedd ereill am ein drwg fod pob llinell yn cynwys rhyw nifer o gymal- au o ddwy sill yr un, y rhai a elwir yn gor- fanau." Fe welir fod pob cymal yn gyfan- soddedig o silliau diacen ac acenedig bob yn ail; ac fod y trefniad hwn yn rhoi rhyw gymaint o lithrigrwydd i'r Ilinellau- pin ddar- llenir hwynt. Yn mhlith gwahanol wisgiadau barddoniaeth, yr ydym yn tueddu i ganiatau yr angenrheidrwydd am hynyna er llifiad rhydd a dirwystr y geiriau ond yr ydym yn gwrthod fod y corfaniad yn hanfodol i fardd- oniaeth. Bu, ac y mae yn achlysur dadleuon yn mysg beirniaid, a yw mydr (fel y mae yn cynwys aceniad a chorfaniad) yn hanfodol; end y maent yn codi oddiar wahanol farnau am y peth yw barddoniaeth. Yn dra thebygol, yr oedd yr henafiaid yn dal fod mydr yn rhan bwysig yn nghyfansodd- iad llinellau barddonol, oddiar amryw phrases ddefnyddid ganddynt yn lie y oair barcld- oni;" y mae "numeris scribere," "niodis uti," "servare vices" yn addysgu hyn yn amlwg. Ond y mae honi fod y cyfryw beth an yn hanfodol i farddoniaeth yn ynfydrwydd yn neb. Dywed Aristoteles yn ei draethawd ar Farddoniaeth nad yw mydr ond yr hyn y mae y iaith yn ddefnyddio er boddhad drwy lifiad esmwyth y brawddegau. Nid yw trefniad geiriol o fewn rheolau mydrol ond yn cyfeirio at gyrhaedd llithrigrwydd yn unig tra y mae gwir farddoniaeth yn gyn- wysedig mewn meddyliau a theimladau. "The mind is poetry." Felly geill llinellau rhyddieithol gynwys mwy o farddoniaeth na phenillion rheolaidd mewn mydr, odl, a chynghanedd. Nis geill y fath bethau fynegu 11 9 meddwl na theimlad, amIwg yw hyn felly, nid ydynt ond boddhau y glust a goglais y teimlad yn unig. Dywedir i Demosthenes ddweyd fod mydr i farddoniaeth, fel y mae gwrid i'r gwyneb- pryd dynol;" geilw Horace i hyny, hefyd, yn lliwiau ar weithiau barddouol (operumque colorcs) Ond byddai yn fwy priodol pe y dywedent mai y gwynebpryd ydynt, ac mai y farddoniaeth sydd yn cynyrchu y gwricl a'r lliwiau yn gymaint ag fod dirif benillion sydd yn gywir o ran mydr yn welw inarwol o eisieu by wyd oddi mewn. Nid oes gan dreigl- iad aceniadau ddim mwy i wneyd a thros- glwyddo a mynegu meddwl nag sydd gan olyniad trefnus geiriau mewn geiriadur. Y mae y Saeson yn galw y "corfanau" ynfeet ac y mae y gair yn neillduol briodol i roi allan eu swyddogacth-y mae llinellau mewn y I ystyr yn cerdded. Gyda'r funcan iddynt symudo yn esmwyth a llithrig y trefnwyd hwynt, ond ni ddylir rhoddi cymaint o bwys ar y "cerdded" geiriol a wneir gan ein beirdd. Pe y collai y llinell ei throed mewn dygwydd- iad, na thramgwydder wrth hyny i beri an- nheilyngu yr oil. Cof genym am fardd yn boirniadu mewn eisteddfod da.eth lluaws o gyfansoddiadau i mewn, yr oedd yntau yn sylwi ar bob peth ond eu barddoniaeth Yr oedd gwall gorfanu mewn un engraifft yn ddigon amryfusedd i gondemnio y cwbl Yn ei feirniadaeth ni wnaeth gymaint a gwncyd y sylw lleiaf o feddyliciu yr ymgeiswyr Yn wir, ychydig mewn cymhariaeth sydd o sylw yn cael ei roi i feddwl cyfansoddiadau fy- nychaf, edmygir a gogoneddir pob peth ond yr hyn ddylir. Y mae annghydffurfio a rheol osodedig gan fympwy dynol yn dwyn con- demniad a dirmyg ar linellau y byddai eu meddyliau yn ddigon i lenwi degau o benill- ion swnfawr a gweigion. Dywedir i foneddiges roddi artaith meddwl i Byron wrth syllu ar ei "droedanffurfiedig." Yr oedd ei ben yn ogoniant i'w ysgwyddau, orfd yif oedd ei droed, yn ei golwg hi, yn sail pob annheilyngdod Y mae yn hawddach, ac y mae dyn yn barotach i ganfod narn bychan na theilyngdod mawr Cawn fod 3yron, yn nysgleirdeb ei ogoniant, yn awydd- us iawn i guddio ei "droed" rhag dynionach difeddwl a gvvag-graftus. Felly y mae gyda gwall gorfaniad yn mhlith ein beirdd. Nod- ant allan y cyfryw gyda deheurwydd digy- mhar ac y mae barddoni by machinery yn swynol i'w ryfeddu iddynt Near at hand From under the sheltering trees, The farmer sees His pastures, and his fields of grain, As they bend their tops To the numberless beating drops Of the incessant rain He counts it as no sin That he sees therein Only his own thrift and gain.. Pe byddai i benill fel hwna ddyfod i gystadl- euaeth eisteddfodol, caffai annghyfiawnder dygn. Gofynai y beirniad yn gyntaf "Beth am y corfanaul" ac yr ydym yn sicr y csfFai corfanwr difeddwl ei wobrwyo a'i edmygu. Ond y mae llinellau Longfellow ar y gwlaw yn hud-swynol i ni, ac wrth drosglwyddo ein hunain i ganol yr olygfa, yr ydym yn mwyn- hau y CWIDI yn dda rhyfeddol. Ond y mae yn rhaid i ni fyned o dan frigau y coed i ytnyl yr amaethwr i feddwl ei feddyliau, teimlo ei deimladau cyn y gallwn gael syniad am ogon- iant y desgrifiad. Braidd na chredwn ni fod y bardd wedi ei ysbrydoli a,'i danio gan y gawod Y mae y darlun mor fyw ac eglur fel y mae yr odl a'r corfanau mewn an- ughofrwydd llvvyr. Yr ydym yn gweled yr amaethwr o dan y coedydd, y cawodydd gras- ol yn bendithio natur, y dyferynau yn be- dyddio pob dalen a thywysen i fywyd newydd ar ol sychder yr amaethwr wedi ymgoJli)11 ei ragolygon, yn llawn boddhad fod y nefoedd yn chwareu eu ddwylaw," yn teimlo ei hun fel yn ffafredig gan y Goruchaf, yn ymgyfoeth- ogi heb berJm Dyna hi Ond beth am y corfanau ?" meddai y bardd corfanus Ond y mae y beirniad mor gyndyn dros y corfan ag yw Shylock am y "pwyscnawd." Ond beth am y corfanau Wel, y mae yn rhaid ei hysbysu mai y gawod wlaw yw y testyn ac nid y "corfanau." Y mae llawer o'n beirdd mor gyndyn yn eu beirniadaeth ag yw Rosalind yn As you like it." Oelia,-Didst thou hear thine verses? Bosalind.-O, yes, I heard them all, and more too for. some of them had more feet than the verses could bear. Celia.—That's no matter. Rosal.—Ay, but the feet were lame and could not bear themselves, &c. "Troed Byron" oedd Rosalind yn ei weled; a throed Byron y mae ein beirdd fynychaf yn sylwi arno. INDEX. O. Y. —Daeth gwall i mewn yn yr englyn yn Llith IV, yn lie bod heb fodawg dar- llener bod heb Fadawg."—I.
TON YP ANDY A GHERD DO RIAETH.
TON YP ANDY A GHERD DO RIAETH. MR. GOL.-Y mae Tonypandy wedi myned yn dra cherddorol y dyddiau diweddaf yma— canu, a dysgu canu, yw pwnc y dydd. Y mae y boneddwr bychan, du, talentog, a cherddgar sydd wedi ymsefydlu yn y lie yn ddiweddar wedi bedyddio pawb a'r ysbryd cerddorol. A diamheu genym eu bod yn hollol yr un feddwl a Shakespeare pan y dywedodd :— < Y dyn na fedd gerddoriaeth yn ei-nawd, Sydd gymhwys i bob trosedd, ysbail, trais Na rodder cred i hwnw. A mawr y twrw gedwir ganddynt, ac fe allai gwr dyeithr dybio mai cerddoriaeth sydd yn peri i'r byd Tonpandy-yddol i droi. Y mae yn ddywenydd mawr genym gael ar ddeall fod y fath lwyddiant wedi dilyn ymdrechion Buallt i sefydlu dosbarth i ddysgu y Tonic Sol-fa. Y mae, erbyn hyn, yn rhifo dri- ugain, a gobeithio y cynydda lawer eto. Y mae nifer luosog o'n dynion ieuainc yn treulio eu hamser yn ofer gyda phethau di- fudd. Y mae cerddoriaeth yn werth treulio amser i'w dysgu, ac ymddengys fod y cynllun Sol-fayddol yn un rhwydd ac hawdd iawn i ddysgu darllen cerddoriaeth. Clywsom fod pobl Tonypandy yn son rhywbeth am gael festival y Sulgwyn nesaf yn lie eisteddfod. Da iawn, yn wir. Credwn ei fod yn welliant pwysig gyferbyn a choethu chwaeth cerddor- ion at gerddoriaeth gysegredig, goeth, ac 1 'I aruchel a thybiwn fod cerddorion j-n dechreu myned yn mlaen yn yr iawn gyfeir- iad gyda golwg ar hynyma, a gobeithiwn y cawn glywed canu ar unawdau a threithganau yn Tonypandy na chlywyd eu bath er "pan gydganodd ser y boreu," &c. Ond yn anad dim, nac annghofier y canu cynulleidfaol. Y mae genym gyflawnder o donau bendig- edig, ond eu dwya i arferiacf. Y mae genym dab-nit a gallu i'w dysgu, gan hyny, ymdreeh- wn i berifeithio caniadaeth y cysegr, rhag ein cael yn euog o aberthu y cloff alr anafus i'r Arglwydd." CADFAX.
OGOF ORLANDO.
OGOF ORLANDO. MR. GOL. —Wedi misoedd o ddystawrwydd, pryder, ac cfn, yr ydym wedi dyfod i'r pen- derfyniad o ail ymaflyd yn y gorcliwyl o ys- grifenu ychydig o lithiau i'ch newyddiadur eto. Oddiar y cawsom yr ymgom diweddaf a'ch darllenwyr, yr ydym wedi gweled llawer o ofidiau a chroesion "blin ond diolch, y mae Rhagluniaeth ddoeth a thirion y nef wedi bod a'i law wrth y llyw, ac wedi hwylio ein cwch yn ddiogel hyd yn hyn, er gwaethaf pob gelyn ac yr ydym, yn nghanol y gofid- iau hyn, wedi dysgu rhai gwersi na fydd i ni eu hannghofio yr ochr hyn i borth angeu. Gwyddoch yn eithaf da, syr, fod rhai dynion fel pe byddent wedi cael eu diafoleiddio, ac nad oes dim yn eu boddhau yn well na cheisio drygu eu cymydogion a dadymchwelyd eu cysuron tymorol. 0 'r genedlaeth wiberogr annheilwng o gael eu galw yn Gymry. 0 na wawried y boreu y cawn eu gweled wedi diflanu oddiar wyneb daear anwyl, rhandir y lili," i beidio dychwelyd mwy. Wedi yr oil o'r pethau hyn, fel i goroni y cyfan, y I mae Mrs. Orlando wedi anrhegu bechgyn yr ogof yma a boneddiges ieuanc a phrydferth ac Y11 nghanol ei miwsig hi ac Arthur, yr ydym yn gobeithio bod yn alluog i osod ger eich bron gyfres o lithiau ar bwnc neillduol. Hyd hyny, byddweh wych.—Yr eiddoch, ORLANDO.
MASNACKWYR GILFACIT GOGH A…
MASNACKWYR GILFACIT GOGH A GHYFUNDREFN YR HEN GOWNT. MR. GOL.Gyda'ch caniatad y dymunaf gyfran o'ch newyddiadur i arnddiffyo y gwir- ionedd, neu yn hytrach roddi hysbvsiad gwirioneddol o'n cyfarfod fel masnachwvr. Y mae llawer yn y lie yma, fel pob iie'arall, yn gwybod pethau nad ydynt yn wvbod, ac yn eu dweyd fel pe byddent yn dweyd gwir- ionedd. Ac felly y mae yn y cysyllthtd yma, y maent yn dweyd pethau nad ydym wedi eu meddwl, ac yn ein drwgliwio yn y modd mwyaf sarhaus ag y mae yn boslbl i iaith satliredig wneyd o enau enllibwr, a hyny am ein bod yn edrych ar ol ein heiddo. Y mae yr hen gownt yn beth cyffredin yn y Gilfach Goch fel llawer cilfach arall, ae yr ydym wedi teimlo ei effaith yn gyffredinol," nes ydym o dan orfodiaeth i wneyd cyfnewidiad. Fel y gwyddoch, Mr. Gol., fod y drwg a'r da yn gymysgedig yn y byd yma, felly y mae yn ein cysylltiad ninau a'r cwm hwn y mae yma y gonest a'r ymdrechgar, ac hefyd nid ydym yn amddifad o'r dosbarth arall sydd yn y byd, y maent yn adnabod eu henwau heb i ni eu henwi. Nid pawb ag sydd yn methu talu eu ffordd ydym yn ei feddwl yw y dos- barth drwg annynol ydym yn gyfarfod na, y mae llawer o'r gonest a'r ymdrechgar yn methu y dyddiau hyn. Ond er mwyn i'r cyhoedd i gael gwybod y gwirionedd yn ei liw a'i lun priodol, heb gael ei baentio gan neb, rhoddwn ef yma, fel y gall y gonest a'r ymdrechgar farnu drosto ei hun beth ydyw y gwir amcan ohono a'r lies a fydd iddo ef yn y dyfodol. Ar y 29ain o Dachwedd, cynaliwyd y cyfar- fod yn siop Penybryn, am mai dyma y man mwyaf cyfleus. Dywedwn air yn y cysylltiad yma. Y mae yr enllibwyr yn dweyd mai D. Davies a'r ysgrifenyad a'i cychwynodd na, Mr. Gol., nid ydwyf yn meddwl fod D. Davies a minau yn fwy blaenllaw nag ereill o'n cydfasnachwyr. Y mae masnach fel pe byddai yn ein gwasgu i'r un meddwl, ac yn ein cyfarfyddiad ami a'n gilydd mewn cwm cul fel yma y daethom i'r penderfyniad o gael cyfarfod o'r natur yma. Etholwyd cadeir- ydd (sef Mr. D. Davies, er mwyn rhoddi gwybod y cyfan), ac aeth pob un dros ei stori; nid oedd llyfrau yr hen gownt yn y eyfarfod, fel mae yn cael ei siarad mae gormod o gywilydd arnom, gan mor annoeth ydym wedi bod yn rhoddi cymaint allan, i ddwyn y llyfrau at eu gilydd, ac ni fyddai yr un amcan yn cael ei enill wrth eu dwyn at eu gilydd ychwaith. Y penderfyniad cyntaf y daethom iddo oedd ein bod yn gwneyd i ffvvrdd a'r hen gownt. Yn ail, ein bod yn gwneyd hyny mewn dealltwriaeth cyffredinol, er mantais i bawb. Dywedir ein bod yn meddwl derbyn arian y rhai hyny sydd yn ein dyled, ac yna eu cadw heb ddim ymborth. Na, yr wyf yn sicr y bydd hyn yn cael ei wneyd yn y modd goreu ag y byddo bosibl i gyfarfod ag am- gylchiadau dynion. Terfynaf, gan obeithio y cymer yr ymdrechgar a'r gonest y mater i'w ystyriaeth.—Yr eiddoch, R. EVANS.
BLAENAFON.
BLAENAFON. MR. GOL, ,-Oherwydd i mi fod mor an- ffodus i ddynoethi ychydig ar anwireddau Ab Lien, yn nghyd a rhoddi ychydig wind pills i Mr. Crispin, a'r bobl wyntog yna a gyferfydd yn ei dy ef, aethant yn gynddeiriog wyllt. Fe ddarfu i'r pills wneuthm yn rhao-orol o dda ond y gwaethaf yw fod bias cas yn cyfodi i fyny i'r genau yn barhaus. Wel, y mae y bias cas sydd yn dyfod i'r gennu yn profi fod afiechyd yn is i lawr ynoch ac y mae bod bias cas yn dyfod i'r genau yn profi hefyd, fod y pills wedi dechreu ei symud: Rhaid i chwi gymeryd dose neu ddwy eto, ac yna dowch yn well. Ni fydd ond ffolineb ynoch i beidio llvncu y pills, am nad vdynt yn taro eich taste chwi. Geilwch chwi ben- derfynu fod y meddyg hwn wedi ac yn deall eich dolur i drwch blawyji. Y mae ami glaf yn gorfod teimlo a dyoddef am hir amser'yn fynych, am fod y meddyg yn methu deall ei glefyd ond nid fel hyny y mae yn bod gyda case y bobl hyn, canys astudiais Invynt vn drwyadl. Y mae ty Mr. Crispin yn 11e pur dda am glees, yr hwn dý sydd yn sefvll mewn man go fanteisiol ar ocliry brif heol. Dpna'r fan lie yr ymgyferfydd y bob! wyntog i drin t-,Yl -Y pawb a phobpeth i'r dim; ac/wrth gwrs, yma y penderfynir holl faterion vr eglwys y perthynanfc iddi. Nid oes dim g'wahaniaeth beth ddywed y gweinidog. na pheth ddywed y diaooniaid ychwaith, oblegyd y maent yn ddigon o oraclau i bwyso a mesnr pobpeth Vr dim. Y mae pobpeth a benderfyno y llys hwn i fod yn gyfraith. Os bydd eisieu newid ygwemidog neu flaenor y gdn, rhoddi bon- clust i hwn, a chernod i'r liaU cic i'r tryd- ydd, a'r cinn; i'r nesaf os byddant wedi selio y peth. fel hyny y mae yn rhaid i'r peth hwnw fod. Rhoddasant y cwd i flaen>)r y gan, poor fellow. Pwy fydd y nesaf. wys i Wet, cawn weled yn y man." Feallai mai tuag amser y,Na,dolig y byddant yu gwneyd eu cyfrifon i fyny nesaf, a dym.Vr adeg, y mae yn debyg, y bwriadaut ymdd;mgos yn eu dillad goreu. Byddweh chwi yn ffyddlawa i gymeryd y pills, boys, oherwydd y mae genyf ddigon ar ol i'ch cyual nes y byddoch.
PA FODD I WRANDO YR ELIJAH?
mwy o fantais o'r fugal counterpoint mewn ■cantatas o unrhyw i lwetension.. Oni fyddai yn relief i'r incessant din y four part vocal writing, ac yn ychwanegu y scientific variety, os caqiateir yr ymadrodd i gyfansoddiad nad all un math arall ei gyflawni. Hefyd, ai nid -dyma y ffurf uchaf yn y gelfyddyd gerddorol] Eto, onid ydyw y fugue mor weddaidd mewn -cerddoriaeth fydol ac ydyw mewn cerddor- iaeth gysegredig? Cymeryd hyn yn ganiataol, ,dylid bob amser ofalu am le i'r cyfryw mewn unrhyw waith helaeth a phwysig. Ond i ddychwelyd at y cyfansoddiad dan sylw. Mae'r awdwr yn niyned yn fynych iawn i'r mediant minor key, ac yn ein harwain ni i ddysgwyl am run o 16 neu 32 o fariau yn y "Cywair hwnw ond y mae yn uniongyrchol yn' tori ymaith ac yn dychwelyd i'w hen lwybr. Yr ydys yn gwybod mai math o lonely effect sydd yn cael ei gynyrchu gan drawsgyweiriad i'r mediant minor of a major key, ac y mae yn drawsgyweiriad sydd yn dangos naill ai .Y yn anadnabyddus, heb ei brofi, neu yn cael ei ddiystyru gan lawer. Wrth roddi heibio ein hysgrif ar y mater hwn dymunem longyfarch 11 ly yr awdwr ar ei lwyddiant, a rhwydd hynt iddo fyned rhag ei flaen. Yn yr ychydig sylwadau hyn ni ddarfu i'm wahanu y blessing oddiwrfch y cursing, na'r cursing oddiwrth y .blessinCf.. '■ v (Tit? barhau.)