Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. Y mete sypyn mawr o ysgrlfau, d-c., yn aros eu tro yn y tswyddfa nut gallium ond dymuno ar ein gohebwyr ffyddion a chciredig i fod yn amyneddgar hyd it-es cCtwn le kldynt yn ein colofnau. Bydd i ni dalti y sylw manylaf iddynt oil. HEN LowR Cfreorci).-Nis gallwn gydweled a chwi yn nghylch yr Undeb. Credwn nad teg beio yr Undeb am sefyllfa isel masnach y glo mae yr achosion i'w cael mewn cyfeiriadau gwahanol. EOS TO'IT MEUSYDIJ.-—Cyfeiriwch eich cais at Mr. Edwards, yn gyfrinachol. HENRY JONES.-Annghofiasoch ddanfon eich cyf- eiriad. GWYLIEDYDD (Llanilltyd Fardref). —Gwell genyin beidio gwneyd y GWLABGARWK yn gyfrwng. i gyhoeddi llythyrau camnoladwy i ni ein hunain. P. J ONES ac Ap CALVIN. —Methasom gael lie i'cll gohebiaetliau yn brydlon; y maent erbyn hyn yn rhy hen. Derbyniyryd-IIanesydd, Junius, Sparrow, Teith- iwr, Taliesyn, (i wily in Tudno, Gwyliedydd, Crotyn Crito, Cyfaill, Aderyn hynod, Robyn Bach, Carmi, Osman Pasha, Cynffigwyson, Gutyn Ddu, M. Morlais, Brithyll Ogwy, Eill- iwr, Hen Wraig o'r Llan.
BETH DDA-W 0 GAERCYSTENYN…
BETH DDA-W 0 GAER- CYSTENYN ? LLAWER o gylymau dyrys sydd yn perthyn i'r Owestiwn Dwyreiniol, ond y mwyaf dyrys o'r cwbl yw dyfodol Caer- cystenyn. Y mae yn amlwg fod diflan- iad y gallu Tyrcuidd yii Ewrop yn beth sydd yn rhwym o ddod i ben y mae yn marw ar ei draed. AnmhosibJ ydyw i Rwsia derfynu y rhyfel presenol hob gael rliywbeth i'w ddangos am ei thra- fferth. Afresymol yw meddwl y gall Lloegr neidio i'r adwy yn y diwedd oil, a gorchymyn i'r byddinoedd Rwsiaidd groesi y Danube heb ddim ganddynt yn dal am eu haberthau anferthol ond rhyw gymaint o ogoniant milwrol. Na, y mae rhyfel ar raddfa mor ofnadwy fawr yn ormod i fyned iddo, a'i enill, am ddim ond tipyn o glod. Fe all ambell i ddyn ffol fyned i gost o yeliydig sylltau er mwyn cael teitl o Grermani neu America; ond 'does un genedl yn suddo ei hun i ddyled am haner canrif neu,fwy am glod —am un ddalen yn llyfr hanesiaeth y byd. Rhaid i Rwsia gael Koumania hollol annibynol, Servia hollol annibyn- ol, a Bulgaria rinweddol annibynol, i'w dangos i'w phobl fel tfrwythall sylwedd- ol ei hymdrech annghydmarol. Ystyr- iwn ef yn beth perffaith deg iddi gael rhywbeth iddi ei hunan hefyd, ac y mae yn lied sicr y bydd iddi gadw meddiant o ivars yn ngyda darn lielaeth o Ar- menia. Ond fe wna y cyfnewidiadau hyn ryw wahaniaeth rhyfeddol ar map yr Ymerodraeth Dyrcaidd. Roumania wedi myn'd, Servia wedi myn'd, Bul- garia wedi dilyn—a rhagor efallai—ni fydd ond llain bychain cydmarol o dir- iogaeth gau y SULTAN yu Ewrop. Bydd cadw y llain bychan hwn yn ngwyneb gwrthwynebiad y bobloedd ieuainc budd- ugoliaethus hyn yn both anmhosibl. Bydd cnul Caercystenyn wedi ei seinio ond pwy gaifi yr hen ddina-s enwog a b zn gorbwysig ? Rhaid i'r Twrc fyned. ond pwy ddaw i'w le? Ni wna Lloegr oddef i Rwsia ei chael, ac feallai nad oes un Gallu arall yn Ewrop a wnai oddef hyny. Byddai hyny yn drychineb i fasnach y gwledydd, ac yn arbeuig i eiddo ein gwlad ni ein hunain. Pe ceisiai Rwsia wneyd y fath beth, fe wnai llynges Prydain Fawr bentwr o ludw o Gaer- cystenyn mewn. pedair awr ar ugain, ac nid hawdd fyddai ei hailadeiladu. Pwy, gan hyny, gaiff y ddmas ? Y farn fwyaf gymedrol a rhesymol yn bresenol yw mai y Grroegiaid ddylai ei chael. Y mae llawer i'w ddywedyd o blaid hyn. Yn un peth, y mae y Groegiaid yn mhell o fiaen holl bobloedd y Dwyrain mewn gwybodaeth, rhyddid, a thrafnidaeth Pobl fasnachol a chynyddol ydynt, a phobl ag sydd yn nodedig am gadw yr hyn sydd ganddynt. Heblaw hyn, nid ydynt yn bobl ryfelgar ond yn y ffbrdd o hunan-amddiffyniad ni fyddai achos i Ewrop ofni en huchelgais hwy, gan mai uchelgais iachus ydyw, sef uchelgais masnachol. Yn mhellach, y mae gan y Groegiaid hawliau etifeddol ar Gaercys- tenyn, ac y mae eu llygaid arni yn barhaus. JByddai Caercystenyn yn sier o flodeuo dan eu baner, a byddai croesaw i longau y byd i rydd fasnachu. Ond, mwy 11 a'r cwbl, fe wnai y Groegiaid, un- waith yn Nghaercystenyn, ffurlio gwrth- fur diogel yn erbyn uchelgais y bobloedd Sclavonaidd, gyda Rwsia yn eu blaenori. Fe fydd y gyfundrefn Sclavonaidd yn fwy nerthol nag erioed ar ol i Bulgaria a'r taleithiau ereill enill eu rhyddid, a byddai eisieu atalfa gref ar ffordd ei hymledaeniad. Gellir ymddiriecl i'r Groegiaid am ffurfio y cyfry\v atalfa, oblegyd y maent yn cashau Rwsia ac yn t,Y caru Lloegr.
YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. Nis gallwn/wneyd yn well na sylwi yr wyth- nos hon ar LYTYHYR AUGLWYDD ABERDAR yn y South Wales Daily News, am y 4ydd cyfisol, yr hwn a ysgrifenodd ei arglwydd- iaeth mewn canlyniad i erthygl arweiniol a ymddangosodd yn y papyr hwnw, yn cynwys y frawddeg ganlynol Beirniadwyd Ar- glwydd Aberdar yn llym un tro, am y tybid iddo gael y byrbwylldra i haeru fel ei opiniwn nad oedd Cymru erioed wedi cynyrehu un dyn mawr." Ysgrifena ei arglwyddiaeth, mewn ateb i'r uchod, fod yn dda ganddo gael cyfleu i gywiro y fath argraff gyfeiliornus. Yna ychwanega yr hyn mewn gwirionedd, a ddywedodd, sef Tra na fyddai un German neu Ffrancwr gwrteifchiedig yn petruso enwi dwsin o Saeson, Ysgotiaid, neu Wyddelod, y rhai, yn ystod y ganrif ddkveddaf, a gyrhaedd- asant enwogrwydd mewn gwyddoniaeth, 11en- yddiaeth, neu wleidyddiaeth, cawsai aniiawa- der mawr i enwi un Cymro wedi ymenwogi felly ofewn yr un cyfnod." Sylwai ei arglwyddiaeth, iddo, nid yn unig gyfyng" ei sylwadau i un ganrif, ond na ddarfu iddo hyd yn nod haeru na chynyrch- oedd Cymru un dyn eiwog o fewn yr amser hwnw, ond dim un o enwogrwydd Ewrop- aidd. Dywed iddo wneyd y mynegiad yna pan yn gadeirydd mewn eisteddfod yn Merthyr 20 mlynedd yn ol, fel cerydd ar yr hunanchwyddol foliant oedd yn gyffredin yn y cyfarfodydd hyny, a'r hyn a dueddai i'w dwyn i warth, nes bron gyfiawnhau y gwawd- grybwyllion a hyrddid at aefydliad hynafol, yn yr hwn y gallai Cymru, ar lawer ystyr, ymfalchio. Clywodd areithwyr tanllyd Cym- reig yn dyrchafu eu cenedl, yn feddyliol, uwchlaw pawb ereill, ac, olrheinient fawredd pob Sais enwog braidd—Shakespeare, Milton, Cromwell, Wellington, &c.—i'r gwaed Cym- reig, yr hwn, gyda mwy neu lai o wir, a gylehredai trwy eu gwythienau. Clywsai y diweddar Dr. James, Panteg, yn gosod Caradog (nid y presenol) uwchlaw yr holl arwyr—hen a diweddar. Clywaai feirniaid eerrld Gymreig ar yr arwr hwnw, i ba gerdd y aytarnwyd. y wobr, yn haern ei bod yn gyfochrog, os nad yn uwchroddol, i unrhyw arwrgerdd arall, heb eithrio yr Iliad neu Goll Gwynfa. Ystyriai y fath ddywediadau, nid yn unig yn wrthun, ond yn niweidiol. Cynygwyd gwobrau am gyfansoddiadau i wrthdroi ei osodiad, a chafodd gyfle trwy garedigrwydd yr awduron i ddarllen amryw o honynt ond yr oeddynt oil mewn cyfeiriad cyfeiliornus. Llafurient oil i brofi fod Cymru yn ystod y ganrif ddiweddaf wedi cynyrchu llawer o wyr enwog yn meddu talent a dysg, ond yr oeddynt oil, heb un eithriad, yn eisieu yn y briodoledd hanfodol hono o enwogrwydd yr hyn oedd y mater dan sylw. Ei ddadl ef ydoedd :—" Byddwch wylaidd, canys ni wna Ewrop ddysgedig gydnabod eich hawliau i uwchafiaeth meddyliol. Ni wyr ddim am eich dynion mawr." Yn dra hynod, meddai ef, darfu iddo basio yn ddisylw i Gymro oedd yn fyw ar y pryd, sef Syr George Cornewall Lewis, yr hwn oedd yn dod i fyny a'r safon osodai ef i lawr, a'r hwn oedd yn Gymro trwy haniad, teulu, a thrigfan. Wedi darllen llythyr ei arglwydd- iaeth, troisom yn union i'n geiriadur byw- graffyddol i chwilio am hanes Syr William Jones, Cymro pur o waed Cymreig, ond cawsom iddo ef fyw a marw yn y ddeunawfed ganrif, er hyny, deuai i fewn yn gyfiawn o fewn last century ei arglwyddiaeth. Dywed y llyfr sydd yn ein meddiant, a hwnw wedi ei gyhoeddi gan Cassell, ei fod yr ieithydd blaenaf yn ei oes nid yn un o'r blaenaf, ond y blaenaf. Dyna y diweddar Archddiacon Williams, o Lanymddyfri flynyddau yn ol, yr hwn yn gyfiawn a ystyrid yn "Greek Scholar of European fame." Dyna y diwedd- ar Rowland Williams, D.D., Llanbedr, awdwr un o erthyglau yr "Essays and Re- views," ac un o ysgollieigion penaf Ewrop. Nid oedd enw Cymreig ar y diweddar Esgob Tyddewi, ond treuliodd flynyddau lawer yn Nghymru, ac yma cyfansoddodd rai o'i brif weithiau. Yr oedd efe yn awdurdod nid yn unig yn Mhrydain, ond ar y cyfandir mewn duwinyddiaeth, Groeg, a Hebraeg. Efallai y gallem nodi ychwaneg, ond gwasanaethed hynyna yn awr. Dichon y deuwn ar draws rhagor yn un o'n rhifynau dyfodol.
Y RHYFEL.
Y RHYFEL. CYMERIAD ELENA. Dyma frwydr go bwysig eto wedi ei henill gan y Tyrciaid drwy gymeryd y lie uchod; er mai oddiwrth y Tyrciaid yn unig y daeth yr hanesion i law, eto nid oes sail i dybied nad ydynt, ar y cyfan, yn gywir, a bod y Rwsiaid wedi eu maeddu yn y cyfeiriad hwnw. Yr oedd nifer y gynau a gymerwyd yn y pellebryn cyntaf yn chwech yn yr ail, un-ar-ddeg ond ar y llaw arall, daeth y 5,000 carcharorion i lawr i 300, a nifer y lladdedigion a'r clwyfedigion yn 3,000. Eto, mae fod y lie wedi ei gyineryd yn golygu i'r Rwsiaid golliad Passes Elena a Honkoi; ac os dilynir yn mlaen yn fywiog trwy weithred- iadau ar y Lom, gall beryglu cyfryngau tros- glwyddiad rhwjig byddin y Cesarewith a'r milwyr Rwsiaidcl yn Tirnova. Mor belled ag y gellir casglu, yr oedd gan lleg corfflu y gorchwyl o gadw cydgysylltiad rhwng y ddau, a chyda hyn mewn golwg, yr oedd wedi cymeryd i fyny safle ar hyd y ffordd o Osman Bazar i Tirnova. Nid aeth Suleiman, fodd bynag, yn mlaen ar y ffordd hono, ond yn mhellach i'r de o Ahmedli ar Mariani, ac oddiyno i Elena, o ba bwynt byddai yn agos- ach i Tirnova na'r lleg corfflu. Yn Djutin, ac yn ol y pellebron, yr oedd ei flaen-tilwyr o fewn deng milldir i'r lie cyntaf. Y cwestiwn yw pa nifer o fil wyr sydd gan Suleiman i ddilyn i fyny y llwyddiant hwn. Wrth gymeryd Elena, ni sonir fod gan Fuad Pasha ond 18 corfflu ond braidd y gellir tybied fod y cadlywydd Ottomanaidd yn meddwl gwneyd ymosodiad pwysig ar Tir- nova gyda'r fath allu pan y geill, yn mhen dau neu dri diwrnod, ddwyn i fyny dair gwaith y nifer hwnw heb wanhau yn ormodol eu safleoedd ar y Lom. Yn ol y newyddion, yn wir, o Gaercystenyn, cawn fod y Tyrciaid wedi ymgymeryd a'r ymosodol mewn manau .Y ereill, ond gwyr y Rwsiaid yn ddigon da nas gallant fod yn gryf yn mhobman ac hyd yn nod pe byddent, y mae y safleoedd ar ffordd Biela a Rustchuk mor gedyrn fel y gellir eu dal yn ddiogel yn ngwyneb byddinoedd mwy iiuosog, rel y gellir anion nifer o adranau i lawr i gyfeiriad Tirnova i orchfygu Suleiman. Heblaw corfflu yr lleg, yr oedd adran y 24ain yn Ciarkoi. Felly, gyda'r tair adran yma, a'r galluoedd yn barod yn ac o amgylch Tir- nova, rhaid i Suleiman ddarparu i brofi nerth ei arfau a 40,000 o wyr, os nad ychwaneg. Ymddengys fod y symudiad a ymgymerodd yn un beiddgar, oddigerth yn wir ei fod yn golygu ymfoddloni ar y fuddugoliaeth a enill- odd yn Elena, neu ynte fod ganddo ddigon o wyr i ymladd a'r gallu ddaw yn fuan yn ei erbyn. Yn Paris, Rhagfyr y Ged, cafwyd pellebryn oddiwrth yr awdurdodau Rwsiaidd yn gwadu adroddiad Suleiman Pasha ei fod wedi cymer- yd y safleoedd o gylch Elena, ac yn haeru nad oedd yn ddim ond encil ad rhanol y Rwsiaid o'u blaen-safleoedd. Noda, hefyd, fel yn annghywir, nifer y colledionRwsiaidd yn ogystal a'r mynegiad am nifer y byddin- oedd o'r ddwy ochr. Y TYRCIMD WEDI EU CURO YN OL YN SLATARITZA. 0 Bogot, dydd Gwener, ceir yr hanes fod brwydr wedi ei hymladd, ar y 4ydd cytisol, yn Mariani ac Elena, yr hon oedd gryn lawer yn fwy anffafriol i'r Rwsiaid nag fel yr ymddangosai oddiwrth yr hanesion cyntaf. Caed allan, erbyn hyn, fod colled y Rwsiaid yn 50 o swydnogion, a 1,800 wedi eu Hadd a'u clwyfo. Collwyd un-ar-ddeg o fagnelau. Yr oedd gweithrediadau y dydd blaenorol yn Slataritza yn gyfyngedig i yru y golofn Dyrc- aidd o'r lie hwnw, gan ei gorfodi i gilio yn ol tua Belrova. Gwnaeth y golofn Dyrcaidd aswy arddaugosiad o ymosod ar y Rwsiaid, ond peidiasant danio tua thri o'r gloch y prydnawn. Cyfrifir fod y byddinoedd Tyre- aidd, gyferbyn a Slataritza, yn 10,000 o wyr cryfion. Credir fod y rhai sydd gyferbyn a Jakowitza yn rliifo tua 30,000. Tua 2 o'r gloch,y prydnawn uchod, dephreuodd brwydro yn Jakowitza, ond peidiodd tiln y magnelau tua 4 o'r gloch. CWYMP PLEVNA. OSMAN PASHA WEDI RHODDI FYNY AC WEDI EU GLWYFO. Y mae yr hyn a ddysgwyliem er's tro, mae yn debygol, wedi dyfod yn ffaith bellach-sef cwymp amddiffynfa gadarn Plevna, a chyda hyny gwyrnp y cadfridog penaf a feddai Twrci-sef Osman Pasha. Byddai yn well i ni, yma, roddi air yn ngair y pellebryn a ddaeth o Bucharest am 9.40 y prydnawn, dydd Llun diweddaf Wedi ymladdfa galed ddoe, darfu i Osman Pasha, yr hwn a glwyfwyd, roddi ei hun i fyny yn ddiamodol. Y mae y Tyrciaid yn Plevna yn marw o newyn. Y mae yma lawenydd mawr yn ffynu, ac addurnir y dref c1 banerau." Derbyniwyd y bryshysbysiad canlynol oddi- wrth ohebydd neillduol y Daily Neics :— BUCHAREST, Nos Lun, 9. LB or gloch- Y mae y Roumanul newydd dderbyn y brys- hysbysiad canlynol, dyddiedig saith o'r gloch y prydnawn hwn Mae Osman Pasha wedi rhoddi ei arfau i lawr. Mae Plevna yn awr yn nwylaw y fyddin Russo-Roumanaidd." Brysgenad o Bucharest, deuddeg o'r gloch nos Lun, a ddywed i Osman Pasha geisio tori drwy rengau y Rwsiaid yn nghyfeiriad Widdin. Yr Agence Russeaddywed :Ymosodwyd ar Osman Pasha o'r tu ol a'r tu blaen, a gorfodwyd ef i roddi ei arfau i lawr, ar ol ymdrech ddihafal. Y mae pawb, gydag un llais, yn canmol ei ddewrder." Pan ar fyned i'r wasg y cawsom y newydd pwysig uchod, ac y mae yn anmhossbl dyfalu eto pa effaith a ga hyn ar y rhyfel gwaedlyd.
GYMERYD MANTAIS ANNHEG.
GYMERYD MANTAIS ANNHEG. MR. GOL.Yehydig ddyddiau yn ol cy- merodd dygwyddiad le heb fod ddeng milldir o'ch swyddfa, sef i blentyn bychan farw yn sydyn-yr hyn gymer le yn ami mewn cyiny- dogaethau-ond oherwydd ansawdd y farwol- aeth gomeddodd y meddyg roddi certificate i'w gladdu heb i drengholiad gael ei gynal ar gorff y bychan. Dydd yr inquest yr oedd yn mhlith y rheithwyr rai nad oeddynt yn gyfeill- ion mawr i'r meddyg oedd yn rhoddi tystiol- aeth, ac o bawb pwy feddyliech oedd yn holi y meddyg—o ba glefyd bu farw y plentyn, a phaham na roisid iddo gyffeiriau i rwystro y dolur, ac yn y blaen ? Neb ond goruchwyliwr y Co-operative Stores a thafarnwr bach; a phe gosodid gwybodaeth y ddau ar y mater gyda'r gilydd, buasai rywbeth mor helaeth a gwybod- aeth daearfochyn am seryddiaeth Ond daeth y Crwner i'r maes, a chafodd y ddau ddynsawd pwysig uchod gauad eu hopran drwy i'r Crwner ddweyd wrth y manager pwysig We don't want a lecture here." Yr oedd y plentyn wedi marw o'r fits; ond a oedd y dynionach uchod yn meddwl, wrth holi y meddyg yn y dull a wnaethant, ei fod wedi caniatau iddo farw pan allasai arbed ei fywyd ? Y mae gallu y meddyg hwn uwchlaw amheuaeth a chredwyf ei fod yn rhy ddrwg fod dynion yn cymeryd mantaia ar eu sefyllfa fel rheithwyr i'w boeni. Beth pe bai gwýr y I si°P y gweithwyr mor gul ar ol y mamts/er, ag oedd y manager ar ol y meddyg, ai tybed na chawsant lawer brycheuyn arno ? Gofaled y ma,nager hwn am ei fusnes ei hun, ac edryched nad oes neb o'r .<hareh dders wedi I cael allan o'r shop fwy na ddylasent, ar goel. Wedi i'r manager gwblhau ei gatecism, dyma Ap Heiddyn yn dechreu ei gwestiyno; gan holi pa fit laddodd y baban, ac yn enwi rhyw ddau ddwsin o wahansl rai oedd ryw- bryd wedi cydgwrddyn nghyfansoddiad anwyl gath ei famgu A glywodd y tafarnwr bach erioed am glefyd elwir Water on the brait Ouid doethach fyddai i'r manager aros y tu ol i'w gownter, i bwyso blawd, sebon, ac yn y blaen ac i'r tafarnwr eistedd yn ei dap- room i ddifyrn y rhai ydynt yn mothu gofalu am ea heniliion ?—Yr eiddoch, OBITTBI. "n_
EISTEDDFOD SCI WEN".
EISTEDDFOD SCI WEN". Caniatewch i mi gydnabod derbyniad y ffug- enwau canlynol erbyn yr eisteddfod uchod :— Gaethglwlo Judah. — Alba Landa, a Joshuah. Gyfarfyddiad Josepfh^a'iJrodyr. —Giantaf, a Hen Jacob. I Y Ddn.—Wagner, Bertine, Julius, Un yn dechreu, Pratfc, Randal, Hamilton, Cymro, Pedalist, Cristion, Musico, Medad, Musico 2il, Gwalch, Ionawr, Eglvvysfab, Wagner 2il, Cal- cott, Sebastine, Musicns, John Goss, Ap Llwyd, Cadwaladr, Solfaisfc, Alawydd Glau Nedd' Pianist, Pererin.—LewU J one% Ysg. Pianist, Pererin.—LewU J one% Ysg.
[No title]
PHIODAS Miss CRAWSHAY.— Dydd Mercher wythnos i'r diweddaf, yn eglwys St. George, Hanover-square, Llundain, priodwyd Mr. Arthur Williams, bargyfreithiwr o'r Temple, a Miss Ruse Harriet Thompson Crawshay, merch hynaf Mr. Robert Crawshay, Casteli Cyfarthfa, Merthyr. Yr oedd y tywydd yn dra ffafriol, ac yn hir cyn dyfodiad y cwtnni priodasol yr oedd yr eglwys wedi ei llanw gan edrychwyr. Y chydig wedi 11 o'r gloch cymerodd y priodfab a'i gyfeiilion eu heistedd- leoedd o flaen yr allor, ac am haner awr wedi unarddeg yn gywir dyma y briodasferch yn d'od i mewn, yn pwyso ar fraich ei brawd, Mr. William Crawshay, yn cael ci dilyn gan y morwynion priodasol, ac fel yr oeddynt yn dynesu at y ganghell dyma yr m'yan ar- dderchog yn taro y "Bridal March," o'r Lohengrin. Gweinyddwyd y seremoni briod- asol gan y Parch. Hugh P. Haweis, St. James, Westmoreland-street, Llundain, yn cael ci gynorthwyo gan y Parch. H. Kirk- house, ficer Cyfarthfa. Rhoddwydy briodas- ferch ymaith gan ei brawd hynaf, Mr. Wm. Crawshay, yn absenoldeb ei thad yn herwydd afiechyd. Yr oedd yr anrhegion priodasol yn nifeiriol iawn, a chafwyd boreufwyd ar- dderchog a chwmni anrhydeddus. Yn y prydnawn aeth y par dedwydd tua'r Cyfandir i dreulio eu mismel. ,-I
Advertising
GweU dysg na golud. Tra mor tra Brython. Ysgoldy Cenedlaethol Cymer, Cwm Rhondda. CYKELIR Eisteddfod Fawreddog yn y lie V-/ uchod ar y 7fed o CHWEFROR, 1878, prvd y yjnoei3wyr buddugol mewn Caniad- aeth, iiarddoniaetlx, Araethyddiaeth. Adrodd- laeth, &c. PRTF DDAKNAIJ COHAWL 1. I'r cor, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano vn oreu, "Y Gwlithyn." o'r Cerddnr Cymreij-, gan Alaw Ddu gwobr, 5p. a chadair i'r arweinydd. 2. I r c6r, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu, Y ffrwd," o'r Curd dor CinnreUs, lihif 9-i- gu^obr, 2] i. 3. I r cor o bbnt: heb fod dan 30 mewn rhif na thros 15 oed, a g3,no yn oreu, 0 hasten from the busy town gwobr, lp. 4. I'r wvth gwryw a gano yn oreu, "Peace to the souls of the heroes," o'r Novella's Standard Glees; gwobr, 12s. 5. I'r Drum and Fife Band, heb fod da.n 20 mewn rhif, a clnvareuo yn oreu, Y mdaith y Mwnc gwobr, 2p. 6. I'r hwn a gano yn oreu, "Honour and Arms" (Samson) gwobr, 7s. 6c. 7. I'r ddau a gano yn oreu, "Y ddau fonvr," gan Joseph Parry gwobr, 8s. 8. I'r hwn a gano yn'foreu, "Arm. arm ye brave (Judas Macceibieus) gwobr, 5s. 9. I r hwn a gano yn oreu, "Y 83, let me like a soldier fall," gan W. Vincent Wallace; gwobr, 5s. 10. Ir hon a gano yn oreu, Dros y gareg" (Songs of Wales, Brinley Richards) gwobr, 5s. 11, I r hwn a chwareuo yn oreu ar y crwth, Merch Megan gwobr, 4s. PMF DESTYN THAETHAWD Y ffordd goreu i ddinystrio eglwys," ddim llai na 6 sheet of note paper; gwobr, 15s. PEYDDEST ^ysgvblion yn y demhestl," ddim dan 150 o im iau gwobr, Ip. Is. a chadair. BEIliXIAID Y Ganiadaeth: y PARCH. W. HOWELL (Hywel Idl- • ••:), Rector of Lower Chapel, Brecon. Ti'nethodau a'r Farddomaeth MK. EDWAED HUGHES (H. Llechryd), Cwm Board School, Ivilvey, Swansea. Araeth'id-fliaeth, Adroddlaeth, C-C. ME. T. T. DAVIES, is at. School, Cymer. Pob manylion, yn nghyd a'r gwecldill o'r testyn- au, i w cael ar ol yr 20fed o'r mis hwn (Rhagfyr) ar y programme am y pris arferol gan yr ysgrifenydd. L. G. DAVIES, National School, 1797 Cymer, Pontypt'idd. I'r Chupat yn Uniongyrchol. BWRIEDIR hwylio y Clipper Schooner, cyflym,^a chyfleus, ALICE, o GEORGE'S DGOK, Liverpool, DYDD MERCHER, REAGEYE 19eg, 1877. Am delerau cludiad. eiddo a theith- wyr, ymofyner yn gynar i1 J. K. FARGHER & CO., 17, South Castle Street, 1795 Liverpool. RHYBUDD.—Y mac Mri. Reckitt a'i Feibion wedi dewis y ffurf pedair-onglog i wneyd eu Paris Blue, a hyny oherwydd fod cymaint o liwiau glai gwael yn cael eu gwneyd yn fodiau, peleni, phow dwr; ond eto. y maent yn gorfod rhybuddio y cyhoedd yn erbyn mailiau gwael o liw glas sydd yn cael eu gwneyd o'r un ffurf, yr hwn a werthir oherwydd yr elw ychwanegol a geir trwy hyny. Gofaler, gan hyny. am gael y Paris Blue pedair- onglog, yn dwyn enwau I. RECKITT A'I FEIE ION yn nghyd a'r arwyddion masnachol. 1775. TEMPEHANCE HALL, ABEKDARE. Under the (listingpatronage of the Marquis of Bute, Riaht Hon. Lord Aberdarc, U. li M Talbot, Esq., M.P. H. Y. Vivian, V. P. I H. Richards, JiJxq., AI. P. It, JTot/uTi/i'l, Esct. I>a^rU, E«q., J.P. James Lewis, Esq' J. P. Rev. J. jF. Wyim-e, Jones, Vicar, dr. THREE nRASD PERFORMANCES Of Mendelssohn's Oratorio. "ELIJAH," Wiil be given at the above Hall, On Christmas Day and fodmcing day, Dec. 20 th, 1S77. Art,, Miss MARY DA VIES, R A.M., Gold Medalist. CONTRALTO Miss ANNIE WILLIAMS, U.C.W. TENOP.F Mr. DANIEL EVANS, Aberdare. I>as%SO Mr. T. BRANDON, of the London & Provincial Oratorio Concerts. Cironus ABERDARE CHORAL FNION. INS'['](UMEx'r.\LI:Ts Orchestra—GLOUCESTER STRING BAND. LKAi>Ei; Mr. WOODWARD, Gloucester. ACCOMPANISTS Messrs. D. BOWEN & J. PERKINS. CONDUCTOR: Mr. REES EVANS. At 8 p.m. Christmas Day, a Grand MISCELLANEOUS CONCERT Will be given, when the above artistes will take part. The Oratorio Concerts will commence Christ- mas Day at 3 p.m., Wednesday at 2 p.m. and 7 p.m. Admission to Morning Concert—Front Seats, 3s. oecond do., 2s. Third do., Is. Evening Con- cert- Frollt Seats, 2s. Gd. Second do Is. M. lliird do., Is. Reserved Seats for Wednesday Morning Concert may be secured of Mr. Fr-st, stationer, Canon- stieot, where a plan of the Hall may be seen. E. B. WILLIAMS, Hon. Sec. Seymour street, Aberdare. DALIER SYLW. Y GWAED YW BYWYD Y DYN. GJYABD DRTVG \7"W'R achos o'r rlian fwyaf o'r clefydau gw^aethaf -S- ac y mae r corff dynol yn dioddef oddiwrth- ynt. Y gwaed sydd yn derbyn y gwerrwyn, ac yn ei gario i'r gwahanol ranan o'r eorlf, nes dwyn yn yn mlaen v Liast, Scirvy, Comwydon. Penddynod, Clwyfau, Croen (iarw, Ysfa y Cnawd, &c. GWAED DIIWG Yw'r achos o'r Piles, Inflammation y Llygaid, Gwvnegon, Gout, Danodd, Spleen yn y Danedd, y Pen, &c., Stitches yn yr Ochrau, &c. GWAED DIIWG w'r achos yn anil o Giefydau'r Afn. Diffyg TrauL Jaundice neu'r Clefyd Melvn, Dwfr Poeth, Isel- der Ysbryd, &c. GWAED DIVWG w r acnos o'r Manwyrnon neu Glefyd y Brenin, Chwydd \11 v Glands, Cieiydau Benywaidd, megys i .Mitur. Heinticiu. C-owys Oer, Nerves Egwan, i yd, Gloesiadan, Darfodedigaetn, &c. ni i/' li a<3 °'r 1>W3"S mwyaf i Buro, Glanhau, a (^liryfhau y gwai-d, a thrwy hyny Dadwreiddio pob A iiechytl, trwy gymeryd y t'eddyyiniaeth faisr at y (jw&'jd, sef PAT:™ [Y T Er prawf o'r efTaith nei lduol «ydd i,iyl I t gosod- er yma rai o'r tystiolaethau sydd yn fy nieddiant v i iant STB,—Gyda diolch yr vvyf yn' eir-h hvsbvsu o'r l'es maw a wnaeth etch Pills rlirfeddol o'r. enw Hughes Patent Blood Pills," i uii Yr oeddym am ddwy flynedd mewn b'.inder mawr gan Ysfa a Phoethder y Cnawd. wedi eu liaehosi°gan Ddis- temper y gwaed, ac wedi cymeryd ond ychydi^ o'r Pills hyn, rai a (.-efais hvyr rbyddhad." ac yrwyf yn anfon hyn er budd y cyhoedd.-B. THOMAS Dolau. Idanelli. Gvxlllmd hynod o'r Distemper a'r Piles (Talf/triad) SYR.—Drwy cynjeryd eich Pills liynod at v gwaed, sef Blood Pills," cafodtl fy merch well- had neillduol oddiwrth TV.rddiant ar y Cnawd Poen yn y Pen ac yn y Cluniau, dim Archwaeth' Gwrtliwyneb v Cyila, a mawr Hinder gan Ataliad- au Natur. Hefyd, trwy ^neryd yr un Pills cefais 3wyr iaehad oddiwrth y Piles. Fe ddylai pawb wybod am danynt.— D. DAVIES, William Street, Lianellv. am GwcHlixtd oddiivrth ?/ Piles. SYR.- Y r wyf yn ei theimlo yn ddvledswydd arnaf i'ch hysbysu ly mod wedi cael budd mawr drwy gvmeryd dau flychaid o'ch Pills gwerthfawr sef "Hughes' Pai-iit Blood Pills." "Yr oeddwn yn methu cerdded cam braidd, ac yn rnethu eistedd oherwydd y Piles a plioea yn y rh'an iselaf o'r cefn y Cluniau, ar Pen, ac 3m teimlo vn bur wan Yn awr yr wyf yn hollol iach. ac yn teimlo yn bur ddi- olchgar. —MARY JAMES, Cwmbran, Awst 20 1876 Y mae'l' Pills hyn yn Patent. Cosbir pob fIuer. iad. Registered Trade Mark—"Blood Pills." ° Arwerth mewn Blychangan holl Chemists ydieyrnas amis. l'ic.. 2s. Dc., a 4s. Ue. Gyda'r post Is 2c., f2s. 11c., a 4s. 9c. oddiwrth y PatentPf- Jacob Ilughes, Apothecaries' Hcdl, Llanelly. London Agents—Barclay, Sutton, Newbury f5 anger, Hovendon. Bristol—Pearce. Warren Liverpool-Evans & Son, Raimes. Cardiff-KermW* Manchester-Mather. L435 TO JOHN & EDWARD HOBERTS, Sons of the late Griffith Roberts, of Dolhendre LXa'N.nwchXlyn, 11 l ttie Coxmt'ij of J^Leii'ioneth THE above, or their Representatives, are re- quested to communicate with the vndpiNicm ed, as a FREEHOLD ESTATE, in North WalS" belongs to the former, if living,1 and to the latter, in case of the former's decease without leaving issue. John Roberts is about 57 years of age, and is 'a, labourer, and left North Wales about 20 years a^o for Merthyr, Dowlais. o'r Cwmdare, and has not since, it is believed, been to his home in North Wales. Edward Roberts is about 53 years of acre and is also a labourer, and he also left North Wales' about 20 years ago, for South Wales. Both the above are believed to be dead. Three Guineas reward will be given by the undersigned for in- formation respecting, or Certificates of the deaths WILLIAM ELLIS, Agent 1789 Bala, North Wales