Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
TRIOEDD Y CAP COCH.
TRIOEDD Y CAP COCH. Tri pheth a gwir angen am danynt Dar- llenfa gyffredinol i'r gweithwyr, ysgoldy digon helaeth i'w plant, a goleuni nwy (gas) ar yr heolydd. Tri pheth annymunol: Dau Darian am yr un wythnos yn croes ddweyd, gweinidog yn ymryson a'i gymydogion, a lladron yn dwyn folds. Tri pheth annymunol Gweled aelodau a blaenoriaid yn y dafarn yn hwyr nos Sadwrn, pen tost foreu Sul, a'r lie yn wag yn y capel. Tri pheth chwithig Gweled blaenor yn ceisio rhedeg pan yn feddw, aelod yn lladrata wrth ffeneatr vestry, a'r eglwysi yn gorfod talu am wallau y Darian. Tri pheth dyrnunol yn y lie Cyflenwad o ddwfr yn y tai, cantorion y ddau gapel yn un a chytun yn ymbarotoi ar gyfer y Nadolig, a dosbartliwr arall yn y Cap i'r GWLADGARWR. Tri pheth dymunol Y ddwy eglwys wedi cymodi a'u gilydd, gelynion yn siglo dwylaw, a heddwch yn cymeryd lie. Tri pheth i'w ddymuno: Y blaenor i droi yn Demlwr Da, yr ysbeilydd i adael eiddo ereill yn llonydd, a'r tarianwyr i fod yn gyfrifol am eu gwallau tarianol.—Ap Triivr.
RESOLVEN.
RESOLVEN. DARLITH.—Nos Lun, Tachwedci 26am, tra- ddododd y Parch. Moses Thomas ddarlith yn ei gapel ei htm (Seion, M.C.) ar "Hynodion y Tadau." Cymerwyd y gadair am ychydig wedi saith gin y Parch. D. Thomas, gwein- idog parchus y Bedyddwyr, a llanwodd hi yn rhagorol. Er mai y tro cyntaf oedd hwn i Mr. Thorn as ymddangos yn y cymeriad o ddarlithydd, dangosodd ei fod yn feistr :<.r ei bwnc. Y tadau a gafodd ei sylw fwyaf oeddynt Wiilmms o'r Wern, Christmas Evans, a John Williams. Cafwyd cynuiliad lied dda ag ystyried amgvlchiadau presenol y lie. Yr elw yn myned i Athrofa Trefecca. Y DDARLLENFA.—Ychydig flynyddoedd yn ol dangosodd y boneddwr, Major Lee, A.S., barch mawr tuag at y lie, neu yn hytrach tuag at weithwyr y lie, trwy godi darllenfa eang iddynt yn ymyl yr Ysgoldy Genedlaeth- ol. Ffurfiwyd pwyllgor ar amser ei agoriad, a phenderfydwyd ei gario yn mlaen ar ddull y Working Men's Clubs," pa rai sydd ddigon adnabyddus yn Nghymruyn bresenol. Ni fu yn llwyddianus iawn arnynt am dymor, 9. bu yn agos a myned i'r llawr pan gefnodd yr amser dda ar y gweithwyr, pa rai oedd ac sydd yn asgwrn cefn y ddarllenfa; ond trwy ymdrech cariwyd ef yn mlaen trwy bob an- hawsder, ac fel y dengys y t-eport a gawsom gan yr ysgrifenydd gweithgar, Mr. T. W. James, yn y cyfarfod a gynaliwyd nos Sadwrn, y laf cyfisol, dan lywyddiaeth Osborne Sheppard, Ysw., ei bod yn bresenol mawn sefyllfa galonog. Yn y cyfarfod dan sylw penodwyd Mr. D. Rosser, postmaster, i fod yn drysorydd am flwyddyn ddyfodol.- Lieiv Nedd.
FFYNON TAF.
FFYNON TAF. Rhag blaen mae y byd yn myned mewn dysgeidiaeth, ac yn mlaen yr elo nes cyrhaedd y gamp yw fv nymuniad. Da genyf hysbysu fod ardal fach Ffynon.Taf yn cynyddu mewn hanesiaeth Feiblaidd a llenyddiaeth. Bob nos Fawrth, cynelir ysgol egwyddorol-yn wyr a gwragedd—yn Tabor, capel nardd y Trefnyddion Calfinaidd. Athraw y gwyr a'r bechgyn ieuaine ydyw y gwr enwog, a duwin- ydd, y Parch. J. Rees, gweinidog y lie ac athraw y gwragedd a'r merched ieuainc ydyw Mr. T. Thomas, clerk yn lofa Bryn Coch. Y mae yn glod i eglwys Tabor fod y fath ddyn- ion ganddynt a'r ddau uchod. Gwnewch yn fawr ohonynt. Nos Fercher, y mae class gan Mr. Thomas er dysgu y tonic sol-fa. Am yr awr gyntaf, y mae yn rhoddi ychydig o wersi ar v modulo,tor a'r rhan ddiweddaf at wasan- aeth y cysegr. Da genyf hysbysu fod Tabor yn uchel mewn Ilenyddiaeth. I Mr. Thomas y mae bechgyn a merched Tabor yn ddyledus am eu dysgeidiaeth. Buasai llawer un yn dra anwybodus, mewn ystyr llenyddol, oni buasai llafur egniol y cyfaill talentog gyda'r cyfryw ond erbyn heddyw, fel y mae yn byfrydwch genyf hysbysu, y maent yn medru darllen cerddoriaeth yn dda y mae hyd yn nod plant o'r 10 i'r 12 oed yn medru darllen cerddoriaeth. Rhwydd hynt i Mr. Thomas a'i ddisgyblion i fyned yn y blaen. YSGOL NOS.—Cynelir ysgol nos yn yr Ysgol Frytanaidd, gerllaw capel Tabor. Yr ysgolfeistr ydyw Mr. D. M. Davies. Y tal ydyw chwe' cheiniog yr wythnos. TONGWYNLAS.—Yn Salem, capel y Bedydd- yddwyr Saesonaeg y lle uchod, traddodwyd darlith nos Lun, y 26ain cynfisol, ar Saith mlynedd yn California." Yr oedd y ddarlith yn rhagorol, er mai yn Saesonaeg ydoedd. Yr oedd torf luosog yn bresenol. Yr elw at leihau dyled y capel.-Eleve.
ABERTAWE.
ABERTAWE. BABELL.—Dydd Sul, Tach. 25ain, cynal- iodd Ysgolion Sabothol dosbarth Abcrtawe eu cyfarfod dau-fisol yn y capel uchod, pan y cawsant eu holi gan y Parch. D. Saunders. tJafwyd anerchiad bwrpasol iawn gan Mr. Saunders i'r plant a'r bobl ieuainc. Adrodd- odd ysgolion Trinity, Cruglas, ac ysgol y lie, ran o'r nawfed benod o'r Ilyffordd< v. yn dda iawn. Adroddodd bachgen bychan, o'r capel uchod, v oydd benod o'r Ephesiaid. i ddechreu y cyfarfod, yn rhagorol, a gweddi- odd y Parch. Morris Jones, Casllwchwr. Canwyd hefyd y tonau canlynol:—" Aeron," Gethsemane," a Hosana; "Cawn fyn'd adref 'fory" a P'le bnost ti heddyw yn -Iloffa," o Swn, y Jiwbili; a Gorphwysgan, gan Alaw Ddu. Arweiniwyd y canu gan Cynon. Gellir dweyd mai da ocdd bod yno. Diweddwyd trwy weddi gan y Parch. W. Prydderch, Gopa. TAN.-Tua un o'r gloch boreu dydd Sadwrn, Rhagfyr laf, torodd tan allan mewn tafarndy o'r enw Belle Vue, Rodney-street. Yr oedd yr holl deulu wedi myned i'w gwely- au, ac o'r braidd y diangasant rhag syrthio 1:1 r_l yn ebyrth i'r elfen ddinystriol. Llosgodd yr adeilad i'r llawr. Bernir i'r tan ddechreu yn y cellar. Dydd Llun, Tach. 26ain, bu farw baban bychan Mr. Silas Evans, o'r pas, yn bump mis oedd. Y mae ei ferch hytiaf hefyd yn wael iawn yn y bronchitis. Gobeithio yr adferir hi yn fuan. — W. S. W.
MACHEN.
MACHEN. Cynaliwyd cyngherdd yn nghapel yr Anni- bynwyr y lie uchod, nos Lun, Rhagfyr 3ydd, pryd y cawsom y fraint o wrando ar luaws o ieuenctyd yr ardal yn canu yno. Cawsom y fraint hefyd o wrandaw ar Miss Lizzie Morris, Aberdar, yn canu amryw ddarnau yn dra meistrolgar. Oanwycl amryw ddarnau gan gor y capel, dan arweiniad y cerddor ieuanc, Mr. John Hill. Chwareuwyd ar yr harmonium gan Mr. G. Evans, Rhiwderyn. Canodd y cor tuhwnt i'n dysgwyliad. Y mae yr arweinydd yn deilwng o glod am ei ymdrech diflino i addysgu y cor. Byddai yn dda i'r enwadau ereill yn y lie, pe byddai iddynt gael gafael ar ei gyffelyb, yn hytrach na bod gwyr y byd yn cael y flaenoriaeth yn ngwasanaeth Ty Dduw.—Cerddor Bach
LLANEDI.
LLANEDI. CYFARFOD PRBOETHTT.—Dyddiau Sadwrn a Sul, Rhagfyr laf a'r 2il, cynaliodd eglwys Annibynol Moriah, yn y lie ucliod, ei chyfar- fod pregethu, pryd y gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. D. Llewelyn, E. Richards, Penbre; J. Thomas, Pontardulais; J. Richards, T. J. Williams. Ar y cyfan, cafwyd cyfarfodydd da iawn, ac arwyddion fod yr vsbrvd yn cael ei dywallt ar y gynull- eidfa wrth wrando ar y gweision yn traethu y gwiriopeddau. Gwnawd casgliad ar ddi wedd pob oedfa tuag at leihau y ddyled sydd ar y capel, a throdd allan yn llwyddiant. Yr ydym hefyd yn teimlo yn dra diolchgar i'r ddwy foneddiges ieuanc, S. a J. Hughes, am eu parodrwydd i roddi He i weini ar y llafar- wyr yn ystod y cyfarfodydd, ac i bawb o bob enwad am eu caredigrwydd gyda phob rhan o'r gwaith, gan ddymuno y bydd i'r cyfarfod- ydd fod o dan fendith y nefoedd, ac y bydd eu hoi i'w weled ar yr ardalwyr yn gyffredin- ol.— Un oedd yioo.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. CAPEL NEWYDD.—Y mae capel newydd wedi ei adeiladu gan y Trefnyddion Calfin- aidd yn y dref hon. Rhoddwyd y gareg sylfaen i lawr mis Mai diweddaf gan D. Davies, Ysw., A.S., Llandinam, yr hwn a gyfranodd 60p. tuag at y draul. Pregeth- wyd yn yr agoriad gan y Parchn. Principal Edwards, T. Levi, William Jones, a John Williams. Cangen o Tabernacl ydyw y capel hwn, ac y mae yn ddiddyled. CYNGHERDD.Cafwyd y pedwerydd cyng- herdd y tymor hwn, gan Proff. Parry a'i ddysgyblion, yn Concert Room y College, nos Fawrth cyn y diweddaf. Yr oedd yr oil a ganwyd wedi ei gymeryd o weithiau Handel. Cymerwyd rhan gan Misses Annie Williams, Hattie Davies, Adelaide Morgan, Gayney Griffiths, a Jennie Williams; Mri. W. M. Powell, David Parry, W. Lewis, Thomas Evans, yn nghyd a'r glee party. Nis gallwn ddweyd fod hwn wedi dyfod i fyny a'r rhai blaenorol, eto, wrth ystyried yr amser byr oedd gan y gwahanol gantorion i ymbarotoi, yr ydym yn synu iddynt ganu cystal.-Gla,n Bhondda.
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. CYFARFOD LLENYDDOL.—Nos Weber di- weddaf cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn Ysgoldy y Graig. Cymerwyd y gadair gan Mr. Jabez Evans, a chyfeilliwyd gan Mr. W. H. Mills. Gwasanaethwyd gan y boneddiges- all a'r boneddigion canlynol :—Miss S. A. Roberts, Mrs. S. Jones, Mri. Davies, Webb, Lloyd, McGregor, Gimblett, Mills (Taf- onwy), a Jones. Datganodd plant yr ysgol Some folks do," dan arweiniad Mr. J. Davies, prif athraw, yn dda iawn. Mae diolchgarwch neillduol yn ddyledus i Mr. Jabez Evans am ei haelioni yn ymgymeryd a gweled fod piano yn y cyfarfodydd hyn, y rhai gynelir bob yn ail wythnos drwy y gauaf. Bydd yr elw wna ddeilliaw oddiwrth y cyfar- fodydcl yn myned i sefydlu "School treat and prize scheme fund." Ydym gan hyny yn tra obeithio y gwna pobl y Bont roddi iddynt bob cefnogaeth a fedront, fel y gellir rhoddi i'r holl blant wledd gorphorol, ac i'r rhelyw ohonynt, yn ddiddadl, un feddyliol hefyd ar ddiwedd y tymor.—Oenin
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Yn y dref ar hyn o bryd eir yo. mlaen i ddarparu yn ehelaeth gogyfer a'r Nadolig. Hefyd, darperir llawer ar gyfer eisteddfod Meirion, yr hon gynelir dydd Ca,lan. Maeyr anthem fuddugol eisoes wedi ei chyhoeddi, ac yn cael ei dysgu gan gor yr eisteddfod.— Ooliebydd am dro.
[No title]
MR. DILLWYN, A.S., A'R PERMISSIVE BILL. -Mewn canlyniad i ymweliad diweddar Syr Wilfrid Lawson ag Abertawc, y mae trefniad- au wedi eu gwneyd i ffurfio cancrhen gynorth- wyol o'r cynghrair. Bu Dr. Schoifi.iid, o Bryste, a Mr. Coad, o Ilfracombe, ynareithio yn Ysgoldy Argyle, ac yn nghapel Sion dydd Mawrth. Cvnygiwyd diolchgarwch i'r areithwyr gan y Parch. T. B. John, York- place, yr hwn a ddywedai mai dyna ei araeth ddirwestol gyntaf, gan nad oedd ond 40 awr oed fel dirwestwr, ond gobeithiai wneyd gwaith da eto yn ei fywyd dros yr achos. Dywedodd y Parch. S. Hingman iddo ddeall oddiwrth Mr. Dillwyn, A.S., ei fod yn ddir- westwr, a'i fod yn edrych i mewn i natur y Permissive Bill.
LLUNDAIN.
LLUNDAIN. Y mae y cyfarfodydd Cymreig yn Llundain wedi dechreu o ddifrH. Bydd genym ddigon ar ein dwylaw yn awr am y tri neu'r pedwar mis nesaf. Nos Lun, Tachwedd 26ain, cyn- aliodd cyfeillion Sloane-square eu heisteddfod flynyddol yn y Vestry Hall, King's-road, tChelsea. Er fod y tywydd yn wlyb, a bod yr eisteddfod y cael ei chynal mewn ardal bell- enig o'r Brifddinas, eto daeth torf o bobl yn nghyd. Yn wir, yr oedd y neuadd yn orlawn. Llywyddwyd ar yr achlysur gan J. H. Pules- ton, Ysw., A.S. Y beirniaid oeddent y Parchedigion E. Stephen, Tanymarian; R. Williams (Hwfa Mon) T. Davies, Ph.D. R. L. Thomas R. Jones, B.A., Rotherhithe a Mr. W. Davies '(Mynorydd). Mewn ystyr eisteddfodol y mae gan Gymry Llundain un fantais neillduol-y maent wedi eu breintio a chytlawnder o foneddigion tra chymhwys i wasanaethu fel llywyddion a beirniaid yn eu cyfarfodydd cystadleuol; y mae y boneddigion hyn yn wastad wrth law, ac iawn crybwyll y byddant bob amser yn rhoddi eu gwasanaeth yn rhad, a hyny gyda'r parodrwydd mwyaf. Gyda'r cystadleuwyr y mae diffyg mawr yn bod. Pa byddai y cystadleuwyr o ran nifer a chymhwysder yn cyfateb i'n beirniaid gaUem gael eisteddfodau tra gogoneddus yn Llundain ond, ysywaeth, yn ein cyfarfodydd cystadleuol, rai prydiau, yn mae yn dygwydd fod y beirniaid yn llawn mor Iluosog a'r cystadleuwyr. iietn ydyw y rneswm am hyn ? Y mae yma ddigon o Cxyinry-Cymry gwladgarol, darllengar, a hoff o gerddoriaeth, llcnyddiaeth, a phob peth Cymreig ac hyd y gwyddom ni, nid ydynt, o ran galluoedd, yn ol i ereill o blant Adda J ones. Rhaid mai difaterwch, a diffyg ymroddiad a chydweith- rediaid Y'Y'l' achos. Y mae eisieu i ryw ysbryd meistrolgar gyfodi yn ein plith, i gynliyrfu ac i roddi bywyd ac egni yn yr esgyrn sychion. Bu y cyfarfod dan sylw yn weddol lvvyddianus. Cafwyd mwy a gwell cystadleuaeth nag a goir yn gyffredin mewn cyfarfodydd o'r fath yn Llundain. Camsyn- ied o'r mwyaf fu dewis crwt ieuanc, anfedrus, yn gyfeillydd buasai yn llawer iawn gwell fod hebddo, oblegyd anafodd y gystadleuaeth gerddorol o'r bron. Galiasai trefniadau y cyfarfod hefyd fod yn llawer iawn gwell nag oeddent ond dyna, y mae yn rhaid peidio a bod yn orfanwl; ydym yn llongyfarch y Slon Scwariaid am i'w heisteddfod droi allan cystal, a gobeithiwn y try y nesaf allan yn well eto. Yn y gystadleuaeth lenyddol, enill- wyd ar y penillion i'r "Bywyd-fad" gan Mr. Thomas Thomas, Wilton-square ar y ddau englyn ar "Esgus" gan Gwilym Pennant; ar y traethawd "Manteision anfanteision gan Mr. James Evans ar y traethawd "Y rhinweddau" gan Mr. G. Jones; ar y "Dialogue" gan Mr. Anthony ac ar y Cyfieithiadau" gan Mr. Edmund Price, Upper Holloway, a Mr. D. R. Jones, Sloane- street. Yn y gystadleuaeth gerddorol, enill- wyd ar ddatganu Tros y Gareg gan Mrs. Williams (gwraig Eos Dyffryn); ar ddatganu unrhyw unawd o waith Cymro gan Mr. Hir- wain Jones ac ar ddatganu unrhyw glee gan Mr. Evan Owen a'i barti. Prif gystadieuaeth y cyfarfod oedd Yr Haf," gan Gwilym Gwent. Daeth tri chor yn mlaen, sef cor y Borough, o dan arweiniad Eos Dyffryn cor y West End, o dan arweiniad Mr. Griffith Jones a clior y Wig, o dan arweiniad Mr. David Jones. Ni cliafwyd gwell cystadleu- aeth gorawl yn Llundain er's blynyddoedd. Datganodd y tri chor yn rhagorol o dda, yn neillduol felly cor y West End a chor y Borough, a chawsant ganmoliaeth uchel gan Tanymarian. Yr oedd cor y West End yn rhagori rhyw ychydig ar gor y Borough, a dyfarnwyd y wobr iddynt. Yr oedd cor y Borough o dan ryw gymaint o anfantais yn gymaint ag mai cor o'r un gynulleidfa ydoedd, tra yr oedd y ddau arall yn cael eu gwneyd i fyny o bigion o gorau amryw gapelydd. Dangosodd cor y Borough ol llafur mawr, ac y mae cryn lawer o ganmol- iaeth yn ddyledus i Eos Dyffryn am ei wr- teithio a'i hylForddi i'r fath raddau o ber- ffoithrwydd mown cyn lleied o amser. Rhaid i'r corau ereill edrych at eu llawryf yn yr eisteddfodau nesaf. Nos Fawrth, Tachwedd 27ain, cynaliwyd cyngherdd ardderchog yn y Myddelton Hall, Upper-street, Islington, er budd capel y Methodistiaid Calfinaidd Seisnig, Highbury. Yr artistes oeddent Madame Edith Wynne,. Madame Kate Roberts (merch y diweddar Ellis Roberts), Misses Martha, Harries, a Edith Wrenn Mri. Chaplin Henry, Francis Ralph, J. Sauvage, a J. L. Williams. Yr oedd enw Mrs. Watts Hughes ar yprogramme, ond ni wnaeth ei hyuiddangosiad. Y mae y rhan fwyaf o'r boneddigesau a'r boneddigion uchod yn adnabyddus i'r cyhoedd, felly afreidiol yw i ni ddweyd dim parth eu dat- ganiad yn rhagor nag iddynt fyned drwy eu gwaith yn rhagorol fel arfer. Ond efallai nad yw Mr. J. L. Williams yn gwbl mor adnabyddus i'r darllenydd a'r lleill, ac ar gyfrit hyny goddefir i ni wneyd sylw byr o barthed iddo. Ydym yn dra sicr na ddigia yr un o'r artides ereill wrthym am .hyny, oblegyd y maent i gyd yn hoff o'r cerddor ieuanc gobeithiol, ac yr oedd pob un ohonynt yn teimlo yn falch iddo fyned drwy ei waith mor llwyddianns yn y cyngherdd dan sylw. Datganodd "In sheltered vale" a "Rage thou angry storm yn dra effeithiol a chel- fyddvdgar, a. derbyniodd gymeradwyaeth bvddarol. Llongyfarchodd Madame Edith Wynne ef yn frwydfrydig am ei ddatganiad rhagorol. Cymro gian gloevv yw Mr. Williams, genedigol o Bontypridd, ond yn byw er's rhai blynyddoedd yn Stockton-on-Tees. Y i-pao. wedi bod er yn agos i dair blynedd yn y Royal Academy of Music, ac y mae yn dda genym ei weled yn dyfod yn mlaen mor dda. Nid yw Mr. Williams crioed, ar y wyddom ni, wedi bod yn canu yn Neheudir Cymru, ond unwaith y clywir elf yno, bydd y bobl yn debyg o fynu ei glywed yr eilwaith. Deuant i wybod am dano heb fod yn hir. Un o brif helyntion y dyfodol, o ddyddor- deb i Gymry Llundain yw perfformiad, Arch y Cyfamod, cantawd arobryn Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf Caernarfon. Yn gy- maint ag i'r beirniad, Dr. Macfarren, roddi y fath ganmoliaeth uchel i'r cyfansoddiad, y mae rhai o Gymry dylanwadol y Brifddinas wedi teimlo awydd am gael perfformiad o'r cantawd gyda cherddorfa gyflawn yn Llun- dain ac y maent wedi taer anog yr awdwr, Mr. D. Jenkins", Trecastell, i wneyd trefniadau er dwyn hyny oddiamgylch. Y mae Mr. Jenkinstwedi cydsynio â'n cais, ac i'r perwyl hyny y máe wedi prynu ysgrifhawl y cantawd oddiwrth y pwyllgor, a chyhoeddir y cyfan- soddiad yn ddioed. Y mae rhai o'r brodyr Cymreig yma wedi cymeryd y peth i fyny gyda chryn lawer o frwdfrydedd; y maent eisoes wrth y gorchwyl o ffurfio cor, a dech- reuir ar ddysgu y cyfansoddiad yn union y daw allan. Ydym yn dymuno rhwydd hynt i'r mudiad. Nos Fercher, y -5ed cyfisol, cynaliwyd cyfarfod yn y Mission Hall, White Lion-st., Islington, gyda'r dyben o drefnu mesurau er cael perfformiad yn Llundain yn ystod y gwan- wyn nesaf o A rch y Cyfamod. Daeth lluaws o bobl y nghyd, ac yr oedd y cyfarfod yn un pur representative. Cymerwyd y gadair gan Stephen Evans, Ysw. Ffurfiwyd pwyllgor cyffredinol, a phenderfynwyd ar y pethau canlynol :—Mr. Stephen Evans i fod yn gadeirydd y pwyllgor Mr. Lewis, builder, Islington, yn drysorydd Mri. E. Jenkins (Ap Ceredig), ac Owens, ysgrifenydd y "Welsh Choral Union," yn ysgrifenyddion. Fod cor o ddim llai na dau cant i gael ei ffurfio, ac i'w alw "The London Welsh Choir." Fod aelodau y cor, oherwydd eu bod mor wasgaredig, gael eu hyfforddi yn adranau. Fed adran Padaiilgton i gael ei hyfforddi gan Mr. Ajax, adran Nassau gan Mynorvdd, adran y Boro' gan Eos Dyffryn, adran Fetter Lane gan Mr. Davies, adran Wilton Square gan J. L. Williams, ac adran Jewin Cresent gan Mr. Peters. Fod y gwahanol adranau i gyfarfod yn wythnosol mewn lie canolog i gael rehearsal, o dan arweiniad Mr. D. Jenkins. Fod y rehearsal cyntaf i gymeryd lie yn Nghapel Fetter Lane, yr ail o Ionawr nesaf. Cafwyd cyfarfod pur frwdfrydig, ac y mae pob argoelion y bydd i'r mudiad droi allan yn llwyddianus. Nos Lun, y 3ydd cyfisol, cynaliwyd cyng- herdd yn Nghapel y Boro', Southwark Bridge Road. Yr elw tuag at leihau dyled y capel. Cymerwyd y gadair ar yr achlysur gan W. Rabbits, Ysw. un o'r tri Rhyddfrydwyr a fwriadant sefyll dros Southwark yn yr ethol- iad Seneddol nesaf. Yr artistes oeddent Misses Martha Harries, Matilda Roby, Lizzie Poulton, Romer, Mrs. Williams (gwraig Eos Dyffryn), Mr. J. L. Willimas, ac Eos Dyffryn. Datganwyd hefyd amryw ddarnau yn rhagorol gan gor y Boro', o dan arweiniad Eos Dyffryn. Cyfeilliwyd gan y brawd doniol, Mr. T. S. Puddicombe. Rhwng y gwahanol ddarnau cafwyd areithiau byrion ond tra doniol gan y cadeirydd, y Parchn. J. Pierce Jones, D. Williams, W. J. Evans, a H wfa Mon. Cafwyd cyngherdd pur lwydd- ianus mewn ystyr gerddorol ac arianol.
YSTALYFERA.
YSTALYFERA. CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH. J. H. JONES, WERN.—Nos Fercher, y 5ed cyfisol, cynaliwyd y cyfarfod uchod yn nghapel y Wern. Llywyddwyd y cyfarfod, yn absenol- deb T. R. White, Ysw., oherwydd afiechyd, gan ei fab, Master J. White. Canwyd am- ryw ddarnau gan gor y Wern, ac anerchwyd y cyfarfod gan y Parchedigion canlynol :— J. M. Jones, Brynaman W. T. Davies, Bethel; H. Thomas (B.), Cwmtwrch; Chas. Williams (B.), Ystalyfera; W. E. Jones, Treforis; R. T. Jones, Panteg B. Thomas, Gurnos a R. W. Roberts, Sardis Mri. Isaac Evans, T. S. Williams, J. Rees, a J. H. Rowlands. Cyflwynwyd oriawr aur yn werth 21p. i Mr. Jones, a llwyau arian ysblenydd i Mrs. Jones, gan eu cyfeillion. Mae'r anrhegion uchod yn siaracl yn uwch am danynt na dim allwn ni ysgrifenu. Da genym hysbysu fod y Parch. J. H. Jones yn ymadael o Ystalyfera am Ton, C wm Rhondda, a'i gymeriad yn wyn. Boed i fendith y Nef- oedd a'r byd i'w dilyn fel teulu o hyn i ddiwedd eu hoes. Dangosodd, yn Ystalyfera, ei fod yn bleidiwr egwyddorol i'r gwirionedd. Parhaed eto yn Nghwlll Rhondda i'sefyll yn ddisigl dros yr un egwyddorion a'r Duw a'i amddiffynodd yn ei hen faes fo'n ei amddiffyn eto yn ei faes newydd yw dymuniad—T. G. W.
[No title]
PELENI HOLLO WAY.—YR YSGYFAINT A'R CYLLA —Y mae tywydd twym a boretau a phrydnawnau oerion bob amser yu creu anhwylderau yn rhanau treuliol y eorlf, y rhai ddylai gael gofal prydlawn. Nid oes dim yn debyg i Beleni Holloway ainwella y treuliad. Maent yn cael eu cydnabod yn gar- trefol a tbramor fel y feddyginiaeth sicraf ac effeithiolaf at benau anhwylus, poen yn y cylla, diffyg treuliad, gwynt, chwyddiad, gwrthwyneb- edd, poll math o ryddni, clefyd ygwaed, sychdery croen, a bol-rwymedd. Y mae y Peleni hyn yn amddifïyn y cyfansoddiad rhag y niweidiau am- rywiol sydd yn dilyn cyfnewidiadau y tywydd, ac felly o werth mawr yu y tymor hwn o'r fiwyddyn. Nid ydynt. vn yicvraeth dim t n waith na phl^wnr ENAINT HOLLOWAY.—Y Frach Goch a'r Scar- latina.—Dyma y ddau ymosodydd peryglus sydd yn dyfod ar draws ein plant gyntaf ar ol eu geni. Mae y ddau glefyd yn heintus, ac yn g-alw am dnniaeth ddoeth. Yn yr anhwylder blaenaf ceir fod y chest yn dyoddef ac yii olaf clyoddefa y gwddf. Bydd y fam, neu yr hon fyddo yiigweiai, yn sier o gael fod Enaint Holloway yn feddygin- iaeth amnhrisiadwy yn yr achoaion peryglus hyn. Ond ei gymhwyso at y gvvddt, y ddwyfron, a'r cefn, rhydd esmwyth-had diflaei; hyrwydda yr anadliant, lftddfa y peswch, dwg y Hiw priodol yn 0.1 i'r gwefusau, a chyll y gwynebpryd yr ym ddangosiad gwelw sydd yn rhagwyddo sefyllfa beryglus y cyfansoddiad. Nid yn unig y mae yr Enaint gwerthfawr hwn yn iachau y clefy d ei hun, ond symuda yr achos o bob ol-effaith.
CLADDEDIGAETH MR. JOHN EVANS,…
CLADDEDIGAETH MR. JOHN EVANS, TRECYNON. Yn y rhifyn diweddaf o'r GWLADGARWR, darfu i mi hysbysu am farwolaeth sydyn y cyfaill twymgalon, a'r tåd cynes a hoff, John Evans. Ganwyd ef yn mhentref gwledig Llan- ddeusant, sir Gaerfyrddin. Mab ydoedd i Mr. William Evans, ffermwr yr hwn sydd yn awr yn hen wr, wedi cyrhaedd ei bedwar ugain ac un o flynyddau. Yn ystod boreuol oes ein cyfaill ymadawedig, gweithiai gyda'i dad ar y Norm ond pan oddeutu 13 oed, gadawodd dy ei rieni, a daeth i fynu i Hirwaun, Aberdar, i fod yn apprentice yn y grocery a'r drapery gyda'r diweddar hen dad, David Davies, Blaengwawr, tad David Davis, Ysw., Y.H., Maesyffynon, Aberdar. Arosodd ychydig o nynyddau yn y lie hwn, ac yna symudodd i lawr i Heol-y-felin, i gario yn mlaen yr un gorchwyl gyda'r un meistr, gyda'r hwn yr arosodd hyd nes iddo briodi; yna, aeth i gadw siop ei hunan yn yr un heol, sef Harriet Street. Tra yn y fan hon, llwyddodd yn ei fasnach, pryd yr oedd yr amser yn well ganwaith nag yn awr, a phan nad oedd llawer o fasnachwyr yn y lie. Yn mhen blyn- yddau lawer, prynodd adeilad ar yr heol a gyd- nabyddir yn Heol-y-felin, o'r enw Clives Arms, a throdd ef yn siop a thy byw cyfleus ac eang, yn yr hwn y gorphenodd ei, yrfa ddaearol. Codwyd ef i fyny ar aelwyd grefyddol, a bu yn grefyddol hyd ei farwolaeth, gyda'r Trefnyddion. Calfinaidd. Yr oedd yn un o hen aelodau. Carmel, ac yn tlaenor yn yr eglwys hono er's tair blynedd. Yr oedd yn un parod iawn i wneyd cymwynas pan y caffai gytie. Yr oedd hefyd yn drysorydd y Building Fund perthynol i'r capel, a phob amser yn barod ac ewy llysgar i roddi ei arian a'i amser at wasanaeth crefydd, heb wneyd ymffrost yn y byd pan yn gwneyd hyny. Gallaf ddweyd yn ddibetrus y bydd yn golled dirfawr i'r eglwys yn y cyfeiriad hwn. wetya, yr oeacl yn bieiaivvr cynes a gwresog i'r Ysgol Sabothol, a phob amser yn gwneyd ei eithaf gyda rhanau ereill perthynol i'r achos. Ond yn y teulu y mae y bwlch mwyaf wedi ei achosi, yr hwn ni ollir ei lanw yn rhwydd, os o gwbl. Yr oedd yn wastad yn gwneyd ei oreu i osod ei deulu mewn sefyllfa gysurus. Dydd lau diweddaf, ymgasglodd tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gyrnwynas olaf i'w weddillion. Cyn codi o'r ty, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. Thomas Rowlands mewn modd difrifol a tbeimladwy dros ben. Canwyd wrth y ty yr hen emyn melus, Mae nghyfeillion wedi myned," ac yna aethpwyd i Eglwys St. Fagan. Ar waith y corff yn myned i'r Eglwys, yr oedd Mr. Wm. Protheroe yn chwareu y "Dead March" 'ar yr organ mewn modd meistrolgar a theimladwy iawn. Darllenwyd y gwa3anan- aeth angladdol gan y Parch. H. P. Williams, curate. Wedi canu emyn, chwareuwyd t6n arall ar yr organ wrth fyned allan o'r Eglwys yna, dodwyd corff ein hanwyl gyfaill i orwedd. yn y bedd hyd foreu mawr y'dydd diweddaf. Gadawodd weddw a phump o blant, yn nghyd a lluaws mawr o berthynasau a chyfeillion, i alaru ar ei ol; ond y mae yn gysur meddwl na raid i ni alaru megys rhai heb obaith. Yr Arglwydd a'u nertho yn eu tywydd garw. Y nos Saboth canlynol traddodwyd pregeth angladdol i'r cyfaill ymadawedig yn Carmel, gan y Parch. T. Rowlands, Aberdar, oddiar 1 Pedr i. 23—25, i gynulleidfa luosog ac hiraethlon. Mae yr eglwys hon wedi colli yn ystod y saith mlynedcl diweddaf, un gweinidog a phump o flaenoriaid yr hyn beth na sydd wedi dygwydd, mewn cyn fyred o amser, yn un eglwys yn sir Forganwg. Ond eto i gyd y mae'r achos yn fyw ac yn lied llewyrchus.—Cludydd MARWOLAETH CYMRA.ES YN AMERICA. Medi4ydd, yn Ridgway, swydd Iowa, Wiscon- sin, America, yn 46 mlwydd oed, bu farw Mrs. Sarah Davies, anwyl briod Henry E. Davies, gynt o Galltyrerw, Cilyewm, sir Gaerfyrddin. Merch ydoedd i amaethwr anrhydeddus yn Llanddewi Brefi, Ceredigion, ac yno y ganed hi yn 1831. Priodwyd hi a Mr. H. E. Davies yn 1851. Bedyddiwyd hi yn 1852 gan y Parch. John Morgan, Talyryn, ac ymunodd a'r gynnll- eidfa yn nghapel Seion, Rhandirmwyn. Pryd hwnw yr oedd prydferthion y rhosyn ar ei gwedd, mwynder yr oenig yn ei mynwes, buanedcl yr ewig yn ei gosgedd, a swynion yr eos yn ei llais pan yn odli moliant y Mawredd yn y gynulleid- fa. Bu am ddeng mlynedd yn Galltyrerw, yn llenwi cylchoedd y wraig rinweddol, y fam hyfwyn, y gymydoges gymwynasgar, a'r aelod grefyddol ddifwlch, a mor agos ei difai a nemawr un yn rhodfeydd yr anialwch, anneddle marwol- ion, ac yn y fro y magwyd hi. Y mfudodd gyda. ei phriod a thri o blant i America yn 1862, a dechreuasant eu byd yma yn swydd Dartfort, ar geulan y Green Lake, yn Wisconsin. Mudasaut oddiyno i Ridgway, rhwng Arena a Dodgville, yn y dalaeth hono, a phrynasant ddau dyddyn ar y gwastadedd mawr. Eithr am yr wyth mlynedd diweddaf yr ocdd iechyd Mrs. Davies yn gwaelu. Enciliodd o'r neilldu i gael ham- dden i farw, ymlonyddodd yn llifeiriant dyfr- oecld mawrion, ac yu marl y Brenin y cyrliaedcl- odd y tiroedd tawel, culfach y gwaredigion, a. gorphwysfa "y rhai lluddiedig." Medi 9fed daearwyd ei gweddillion yn nxynwent y Bedydd- wyr yn Ridgway. Gweinyddwyd yn y ty gan y Parchn. Meredith Kvan», Salem, a Thomas Holland, Dodgville pregethwyd yn y capel gan y Parch. W. Jones, ei gweinidog ac ymddydd- anwyd a'r byw wrth y bedd gan y Parch. Evan Owen (A.), a Mr. Theobald, Hyde Mills (yn Saesneg). Bu farw dau o blant i Mrs. Davies o'i blaen hi, hithan a'u dilynodd ar haner dydd, ac y mae saith gyda ei phriod yn aros i gofio yn wylnfus am dani. Pan ar wahoddiad i Gymanfa Wisconsin, yn 1871, cofiwn y daith o Scranton, Pennsylvania ac yr oedd genym ddeuddeg cant o filldiroecld. Myned heibio llynoedd mawrion Erie, y Superior, a'r Michigan. Ac nid hawdd ebargofi tlysinch y dinasoedd, megys Cincinnati, Chicago, Milwaukee, Maddison, ac Arena. Ac wedi myned i ben y daith, hawdd fu pregethn deg neu ddeuddeg o droion yn fforestydd Salem, coedwig Ridgway, (t. chapel inaAvr y Presbyter- iaid yn Dogvillo. Pererinion y Gorllewin yn yr wyl, rhai yn wylo, ereill yn moli, awen Trebor yn odli englynion, a Mrs. Davies yu y mvvyniant mawr y dycbliau dellwydd hyny. Pan yr awn i'r parthed draw uuwaith eto, teimlwn chwith- rwydd i gael lie Sarah yn wag, a hi goruweh y ser gyda'r stiiit, ac yn chwaer i seraphiaid gwynfa. Yma eto rhaid ymatal, Y nos sy'n d'od yn nes i'n dal Awn ar ol y dyner hwyr, I ddilyn yr addolwyr." -D. W. Morris, Cwmmmddu.