Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

OYMANFA GERDDOROL Y TREFN-YDDION…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OYMANFA GERDDOROL Y TREFN- YDDION GA LFINAIDD YN ABER- TA WE. Mr. GOL.-Y mae Mr. Silas Evans, yn garedig, wedi cyfeirio fy sylw heno at lythyr Mr. Cynlais Prosser, yn y GWLADGARWR am heddyw, mewii perthynas i'r gymanfa uchod. Y mae Mr. Prosser yn credu fod y brwd- frydedd mawr a ddangoswyd er's ychydig yn ol yn nglyn a'r gymanfa wedi diflanu. Fel sail i'w gred, y mae yn ad*)dd hanes y pwyllgor oedd i fod yn Plasmarl. Fel ysgrifenydd pwyllgor y gymanta, yr oedd yn ddrwg iawn genyf glywed hanes y ddau frawd ffyddlon o Birchgrove, ar noson wlyb a garw iawn, yn cerdded gymaint o ffordd i gyfarfod a siomedigaeth. Nid oedd- wn, yn bersonol, yn gwybod dim am y cyfryw fowyllgor, ac heblaw hyny, yr oeddwn y noson hono ugeiniau lawer o filldiroedd o Abertawe. Fe ddichon (tybied yr ydwyf) i'r brwdfryd- edd," y sonia Mr. Prosser am dano, arwain rhai i nodi pwyllgorau ar y cyntaf yn rhy amI. Beth bynag, y mae yn hyfrydwch mawr genyf i hysbysu Mr. Prosser, a'r cyfeillion da ereill y perthyn iddynt wybod, fod y brwdfrydedd yn parhau hyd heddyw. Nid tan shavings ydyw gobeithio, fel yr ofna Mr. Prosser, ond tan o natur arall yn hollol, "nefol dan," fydd yn cynyddu fwyfwy yn barhaus. Y tan a deimlwyd lawer gwaith cl pan oedd yr anwyl Ieuan Gwyllt yn ein mysg. Y mae y programme campus erbyn hyn allan o'r wasg, a chanoedd lawer ohonynt wedi eu gwasgaru y mae rhai corau, eisoes, wedi dechreu ar eu gwaith o ddifrif. Yr ydym yn sicr, gydag undeb, llafur arferol -cantorion ein capelau, medr y tri arweinydd- ion, a gofal a synwyr y pwyllgor, y bydd y gymanfa yh y Music Hall, dydd Llun, Mai 13eg, 1878, "ya un nodedig mewn llawer ystyr. Y mae yma ddefnyddiau rhagorol. Hyderaf y bydd i'r pwyllgor lwyddo yn yr amcan sydd ganddynt. Yr ydym yn dysgwyl y bydd y pwyllgor nesaf yn un lluosog a dylanwadol, i gyfarfod yn Glandwr, pan y dealla yr arweinyddion fod angen am dano yr ydwyf yn addaw eich hysbysu i gyd. W. SELWYN DA VIES. Abertawe, Rhag. 7, 1877.

DEBI.

BWRDD YSGOL LLANGIWC.

ALEOGRAPHIA, SEF CYFUNDRAETH…

BYRDDA U CYHOEDDUS ABERTA…

AT BWYLLGOR EISTEDDFOD CAS-LLWGRWIi.

ETSTEDDFOD CWMGAR W.

BARDDCNIAETH A BEIRDD.