Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
RWRDD Y GOLYGYDD.
RWRDD Y GOLYGYDD. MR. J. W. PARSON PmCE. Y llythyr cyfrinachol i law yn ddiogel. Diolch. Bydd ateb iddo yn cael ei ddanfon yn fuan. l T,. DYMUNA Cystadleuydd ar Ysgrifenydd histedd- fod y Deri i anfon beirniadaeth yr Eisteddfod i'w ehyboeddi yn y GWLADGARWR. AT PLENTYN O'I: PLWYF (Llanilltyd lardref). Ar y 25ain o Dachwedd diweddaf derbyniasom lytliyr, dan y penawd "Llanilltyd Fardref a Gwyliedydd," wedi ei arwyddnodi "Plentyn or Plwyf," mewn atebiad i lythyr Gwyliedydd. Yn amgauedig yn y llythyr oedd nodyn cyfrin- achol, a deuddeg stamp ceiniog, yn anrhegim am ein "trafferth gan nad oedd cyhoeddi y llythyr yn un traSerth—eitlir yn bleser--i ni, dychwelasom y stamps i gyfeiriad Plentyn or Plwy,f" sef "Mr. Jenkin Lewis. Llantwit Vardre, Pontypridd." Boreu dydd Llun di- weddaf dychwelwyd y llythyr hwnw, yn nghyd .er stamps-, i ni o'r Dead Letter Office, Llundain, gyda'r geiriau not known in Llantwit Vardre wedi eu hysgrifenu yn groes i'r amlen mewn inc coch. lVlae yn eglftr, felly, fod Plentyn o'r Plwyf wedi rhocldi enw a chyfeiriad twyllodrus i ni. Er hyn oil, gall yr awdwr gael y llythyr- nodau ond danfon am danynt trwy law ein dos- barthwr yn Llanilltyd Fardre. D. W. (Trelierbert). —Yr oedd cyfaill arall wedi danfon hanes y cyngherdd i ni. Di'MUNA Luther gael eglurhad gan Mr. Lews Jones, Ysg. Eisteddfod Nadolig Sciwen, pa beth yw y rheswm na fuasai yn anfon y ffugenwau canlynol i fewn ar y Don gystadleuol Helen Pitman, Sphor, a Luther. AB GITTO.—Rhaid i chwi ddanfon drwy law em dosbarthwr. Derbyniwyd—Barfog, Llofion o'r Mynydd Bach. Carwr addysg, Gwron, Llonfab, Parvo, Frere, G. Wyn, Meurig, Huw arall, Talieein, Harri Ddu.
AT EIN G OHEBW YR.
AT EIN G OHEBW YR. Ymae rhai Q'n gohebivyr, o bryd i'w gilydd, iin cyfcirio eu gohebiaethau i'r Parch. D. Brythonfryn Griffiths. Er mwyn arbed trafferth i Brythonfryn, a siomiant, feallai, i'n gohebvnjr, dymuntvn hysbysu nct fit, ac nad yio Brythonfryn yn dal cysylltiad d "golygyddiaeth" y GWLADGARWR.
[No title]
Ni wnawn sylw o unrhyw ohebiaethcvu,, d-c. fwriedir i'w cyhoeddi, os na chyfeirir hwynt fel y canlyn To the Editor, Gwladyanor" Office, Aberdare. Fob archebion, ialiadau, a llythyrau mmnachol i'w danfon i Walter Lloyd, Gwladgarwr" Office, Aberdare.
CWYMP PLEYNA.. — SEDAN YR…
CWYMP PLEYNA.. — SEDAN YR AIL. FE saif amddiffyniad Plevna, i'r oesoedcl dyfodol, fel un o'r gorchestion milwrol mwyaf nodedig ar groniclau hanesiaeth ac er fod OSMAJT PASIIA wedi ei orchfygu a'i gymeryd yn garcharor, eto fe erys ei enw mewn parch a mawredd tra pery y byd i edmygu enwogrwydd milwrol. Tua chwe' mis yn ol yr oedd y llanw Rwsiaidd yn rholio yn mlaen gyda chyf- lymdra. dirfawr, ac yr oedd llawer o feirniaid milwrol galluog yn proffwydo y buasai y Rwsiaid yn N ghaereystcmyn yn mhen chwecli wythnos. Ond ar un- waitli, yn sydyn, ac mewn ffordd dra au- nysgwyliadwy, dyma cJwck-dyma atalfa. Yr ° atalfa hono ydoedd Plevna—lie bychan di nod, ond a fydd, o hyd allan, fyth yn enwog.1 Gwnaeth Plevna dros .Y .1 Twrci fwy nag a wnaeth Metz dros Efrainc yn 1870-71, er fod gan Metz fanteision mil rhagorach yn mhob ystyr. Yr oedd Metz yn un gyfundrefn fawr o amddiifynfeydd caerog, wedi eu hadeil- adu yn ol egwyddorion manylaf gwydd- oniaetli rliyfel; ac wedi cymeryd yr ysbaid hirfaith o ddau can' mlynedd i w perffeitliio, gyda chymorth holl frwd- frydedd milwrol a holl gyfoeth Ffrainc. Ond fe larnodd Plevna i fodolaeth mewn un diwrnod inegys trwy magic—fel cicaion Jonah o ran sydynrwydd, ond yn dra gwahanol i'r cicaion hyny o ran parhad. Nid oedd na gwal, na thwr, nac amddiffynfa, yn Plevna: dim ond muriau o bridd, ffrwyth y bal a'r rhaw I Metz o bridd-weithiau, ond Metz ag y methodd holl wroldeb Rwsia ei chymeryd na g-wneyd un argraff arni am lawei' o haner blwyddyn: Metz ag y buasai OSMAN P ASIlA ynddi hyd y dydd hwn, a thros gydol y gauaf, pe buasai ganddo ond ymborth i gadw'n fyw ei filwyr carpiog. Gwnaeth y Kwsiaid dri ym- osodiad ffyrnig, ac ar raddfa eang iawn, ar y lie, ond yn hollol ofer a syrthiodd deugain mil o'u milwyr goreu o gwmpas y noddfa syml. Ar ol yr ymosodiadau llyn gwelodd y Cadfridogion Rwsiaidd nad oedd gobaith cymeryd y lie yn y ffordd o ymosodiaci, a eisteddasant i lawr o amgylch i'r amddiffynfa gan ymddi- bynu ar y gelyn Newyn i ymladd yn eu lie. Yr oedd Plevna yn gwasanaethu yn ddirfawr ar acbos Twrci, hyd yn nod pan nad oedd dim ymladcl yn myned yn mlaen oherwydd fod y lie, fis ar ol mis, yn cadw dros gan' mil o filwyr goreu Rwsia yn segur yn yr unfan, ac yn gwneyd pob mudiad rhagblaen tua chyf- eiriad Caercystenyn yn beth anmhosibl. Y mae gorfodi gelyn i eistedd i lawr mewn seguryd bron yn gystal peth a'i orchfygu. Y mae llawer o gyfeillion Twrci yn y wlad hon yn collfarnu OSMAN yn awr am na fuasai wedi ymadael a Plevna yn gynt. Ond pe gwnelsai efe hyny fisoedd yn ol, buasai yr un boirniaid yn ei goll- farnu am adael sefyllfa amddiffynedig o gryfder mor fawr pan yr oedd yn debyg- ol y gallasai SULEIMAN PASHA a MEHEMET ALI ddyfod i'w gynortlnfyo a'i waredu. Fe arosodd OSMAN yn Plevna hyd y fynud ddiweddaf, yn dysgwyl am help. Ond help ni ddaeth—daeth Newyn yn ei Ie. Ac ar foreu y 1 Ofed cyfisol pender- fynodd y milwyr dewr wneyd ymgais penderfynol i dori allan. 1 Ymosododd yn ffyrnig ar un pwynt o'r cylch oedd o'i gwmpas, ac oni buasai am drefniadau perffaith y Rwsiaid buasai yn debyg o lwyddo yn ei amcan. Gryda'i fod yn symud allan o'i amddiffynfeydd, dyma y Rwsiaid o'r tu ol iddo yn cymeryd medd- iant uniongyrchol o'r amddiffynfeydd hyny ac wedi iddo gael ei orchfygu a'i archolli yn drwm, ceisiodd encilio yn ol i Plevna, ond yr oedd yn rhy ddiweddar. Yr oedd y lie ofnadwy yn llaw ei elyn, ac yr oedd yr un mor anmhosibl iddo ef ei adfeddianu ag oedd i'r Rwsiaid yn flaen- orol ei gymeryd oddiarno. Yr oedd lluoedd aruthrol yn ei amgylchynu ar bob Ilaw, ae nid oedd dim yn aros ond ildio. Rhoddodd ei hunan i fyny, efe a'i holl fyddin, ryw ddeugain mil o wyr, yn garcharorio-n, a hyny yn ddiamodol. Wrth gwrs, nid oedd mewn sefyllfa i ddysgwyl amodau, gan fod pob gobaith bellach ar ben. Dyma ddiwedd ar Fyddin y Gorllewin, a dyma ddiwedd rhinweddol ar y rhyfel. Gall y rhyfel ymlusgo yn mlaen am ryw ysbaid eto, ond y mae yn anmhosibl i'r Tyrciaid ymadferyd. Dyma gan' mil o Rwsiaid wedi eu rhyddhau i fyned y ffordd a fynont, a'r ffordd gymerantfydd y ffordd i Sofia, Adriahople, a Chaercystenyn, ac nid oes un gwrthlu digonol yn abl i'w hatal. Os method MEHEMET AM dori trwy fyddin fach GOUKKO i waredu Plevna, y mae yn sicr nas gall sefyll o flaen y fyddin aruthrol fawr sydd yn awr ar ymsymud tua'r De. Ac i berffeithio aflwydd Twrci, y mae Servia eto wedi cyhoeddi rhyfel yn ei herbyn, ac y mae byddin Serviaidd o driugain mil o wvr wedi croesi y terfyn. Odid na chawn glywed yn ddioedi fod byddin Groeg hithau wedi cymeryd y maes. 0 Trychineb dirfawr ydyw rhyfel bob amser, ond y mae yn ymddangos yn fwy erchyll nag erioed ar dymor Nadolig. Galar yn lie llawenydd ysgaru yn lie ail gwrdd: twrf magnelau yn lie sain clychau gorfoledd Diolchwn i'r Nef- oedd fod genym ni ein hunaiii heddweh yn ein tir, a tliangnefedd yn ein broydd. Ymrodded pawb ohonom i ogoneddu prif wyl y flwyddyn, gan fwynhau llawnder heb ormodedd, a digonedd heb wastraff: bydded i'n holl ddarilenwvr—NADOLIG LAWEN
Y RHYFEL,
Y RHYFEL, MANYLION PELLACH AM GWYMP PLEVNA. —YMLADD DYCHRYNLLYD. Galluogwyd ni, yn ein rhifyn diweddaf, i roi y brys newyddion am gwymp Plevna ond ar ol hyny, daeth pob manylion i law. Ymddengys ddarfod i Osman Pasha a'i fyddin wneyd ymdrech ofnadwy i dori trwy rengau gwarehaeol y gelyn, ond curwyd y Tyrciaid yn ol wedi ymladd ffyrnig a gwaedlyd am amryw oriau. Dywedid fod dros 00,000 wedi eu cymeryd yn garcharorion. Dydd Llun canlynol, yr oedd y cyffro mwyaf yn Bu- charest, a'r holl drigolion yn gorymdeithio trwy yr heolydd. Goleuid yr holl adeiladau mwyaf, ac yr oedd tyrfaoedd yn cario tan- fiågIau, ac yn canu llon-alawon. Yr oedd yn anmhosibl bron i basio trwy yr ystrydoedd. Oddiwrth y newyddion y rhai a gadarnheir o wahanol gyfeiriadau, sicrheir fod cyni a dyoddefiadau y gwarchaedig yn Plevna, ddyddiau cyn iddynt roi eu hunain i fyny, yn ofnadwy. Yr oedd y milwyr yn meirw yn yn gyfiym.o oerm, anechyd, a newyn. lJywed newyddion diweddaracli mai nifer y carchar- orion a gymerwyd oedd 40,000,- a 400 o f-ip-nelau. Yr oedd y ddaear lie y cymerodd yr ymladdfa hon le wedi ei gorchuddio a meirwon a chlwyfedigion. Rhwng saith ac wyth o'r gloch y boreu y dechreuodd Osman Pasha, a'i fyddin gychwyn i'r ymgyrch ar ochr Widdin i Plevna. Ymosododd yn gynt- af ar y Rwsiaid, o dan Cadfridog Daniloff, ger Dolny Dubnik, ar du deheuol y Vid. Ym- osodwyd hefyd ar gadarnleoedd Cadfridog Skobeleff gydag egni mawr..Gwnaeth y Tyrciaid, hefyd, eu goreu i yru y Rouman- iaid o'u gwahanol safleoedd. Ymdrechodd Osman ei oreu, druan, i ddwyn ei holl ym- adferthoedd i'r maes er ceisio dianc trwy rengau y gelyn, a dechreuodd ymladd yn foreu, a pliarliaodd y frwydr hyd ddau o'r gloch, pan y gorfodwyd ef i gilio yn ol tua Plevna, ac yntau ei huh wedi ei glwyfo. Gadawodd ran fawr o'i fyddin yn feirw, ac yn marw, ar y maes erchyll. Desgrifia yr hanesion y frwydr hon fel un o'r rhai mwyaf gwaedlyd a fn erioed. Yn uniongyrchol wedi i Osman Pasha roddi ei hun i fyny, anfonodd Ymerawdwr Rwsia ei gerbyd i Plevna i gyrchu y gwrol Gadfridog Tvrcaidd, tuag at ba un yr ymddygwyd gyda phob parch ac edmygedd. Heblaw y 40,000 a gymerwyd yn garcharion, cyfrifid fod yn Plevna tuag 20,000 o gleifion a chlwyfedigion. Dydd Mercher canlynol, ymwelodd Ymer- awdwr Rwsia ag Osman Pasha yn Plevna, a dychwelodd iddo ei gleddyf fel cydnabydd- iaeth am ei wroldeb. Talodd Tywysog Charles o Roumania, hefyd, compliment uchel i'r Cadfridog Tyrcaidd am ei wroldeb. Dyna Twrci, bellach, wedi ei pharlysu yn ddifrifol yn Asia ac yn Ewrop, a dylai y Sultan a'i gynghorwyr weled ar unwaith mai gwaith ofer yw parhau yr ymgyrch waedlyd ac ofnadwy. Bydd fl"ordd rydd, bellach, i'r Rwsiaid fyned rhag eu blaen tuag Adrianople, ac yna i Gaercystenyn. Hyderir y daw y Porte i'w synwyrau ar ol cael ei faeddu mor druenus. AGORIAD SENEDD TWROI. Dydd Ian, Rhagfyr 13eg, agorwyd Senedd Twrci yn Neuadd Fawr y Palas Ymerodrol, gyda rhwysgfawredd neillduol, yn mhresenol- deb mawrion Twrci a chynrychiolwyr y gwahanol deyrnasoedd. Daeth y Sultan i'r neuadd rhwng ei ddau frawd, ac yna darllen- wyd yr araeth o'r orsedd, yn nghanol dystaw- rwydd-difrifol. Yn yr araeth, dywedid fod Twrci wedi dechreu ar ddiwygiadau, ond rhwystrwyd hwy i gael eu dwyn i ben gan ryfel annghyfiawn. Datganai ei Fawrhydi ei farn fod perffaith undeb rhwng y Cristionog- ion a'r Tyrciaid yn angenrheidiol. Nid oes un cyfeiriad yn yr araeth at heddweh na chyfryngwriaeth, yn syml traetha fod per- thynasau Twrci a Gwledydd Tramor ereill yn dda. APEL AM GYFRYNGIAD MIL 0 DYRCIAID WEDI EU NEWYNU I FARWOLAETH. 0 Gaercystenyn, dydd Sul, yr ydym yn cael y newydd fod y Porte wedi danfon cylch- lythyr at y gwahanol alluoedd Ewropaidd, yn deisyf arnynt gyfryngu er atal rhagor o waed; ond ni osodid yn hwnw yr amodau ar ba rai y cytunai y Llywodraeth Ottomanaidd i wneyd heddweh. SERVIA WEDI CYHOEDDI RHYFEL. Y mae Servia eto, wedi gweled llanw mawr llwyddiant yn troi o du Rwsia, wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Twrci, ac y mae ei byddin wedi cychwyn i faes y gwaed. Felly, rhwng pobpeth, gall y Twrc benderfynu ei bod ar ben arno, a geill daflu y sponge i fyny pryd y myno. Daeth y newydd erchyll o Gaercystenyn, dydd Sadwrn, fod Ahmed Moukhtar Pasha wedi pellebru i'r Seraskierate y dydd cyn hyny, na ddarfu i'r Rwsiaid yn unig ond danfon 2,000 o'r carcharorion Tyrcaidd i Kars. Ba mil o hwynt farw o oerfel a blinder ar y ffordd, a chyrhaeddodd mil arall i "P!ra«ronm. HUNAN LADDIAD ADRODDEDIG OSMAN PASHA. Yn newyddiadur boreu dydd Llun, daeth y newydd fod Osman Pasha. wedi cyflawni hunan-laddiad trwy gymeryd gwen wyn. Y chwanegid ddarfod iddo gaol ei hysbysu gan y meddygon, y rhai a wnaethant ym- chwil'iad i'w archoll, y byddai raid tori ymaith ei glun a thybir mai hyny barodd iddo gyflawni y weithred. Tybid gan lawer mai Marshal Bazaine oedd Osma,n Pasha, ond dywed yr hanes diweddaf iddo gael ei eni yn Amasia, Asia Leiaf. Gobeithio nad yw y newydd yn wir am y cadfridog enwog hwn.
Gair o L'erpwl.\
Gair o L'erpwl. DYDD Mawrth, yr lleg cyfisol. y glaniodd yr .^arhydeddus John Welsh. Croesodd y Werydd yn yr agerlong Adriatic, un o agerlongau llinell y Seren Wen. Cyfarfyddwyd ef gan y Maer, H. B. Forwood, Ysw., a nifer o aeloclau y Cynghor Trefol, heblaw aelodau y Bwrdd Masnach, a nifer o foneddwyr o safle yn y dref a'r porthladd. Y gwarchodlu a'r seindorf pres yn talu gwarogaeth teilwng i'r bonecldwr ar ei laniad yn Mhrydain i gynrychioli un o wledydd mwyaf cynyrehiol- y byd. Ymddengys Mr. Welsh yn foneddwr uchelddysg, ac yn teimlo pwysigrwydd ei swydcl fel cynrychiolydd y Gorllewinfyd yn Neuadd fawr Sant James, Llundain. Hawdd gwybod wrth ei araeth ei fod yn wleidyddwr o nodwedd uchel, ac yn deall natur ei swydd bwysig. Mae cysylltiadau Pry- dain a'r Amerig yn arbenig o bwysig mewn ystyr gymdeithasol a masnachol, a gallwn farnu fod y Llywydd Hayes yn teimlo y pwysigrwydd fod yn rlutid cael dyn o feddwl a barn glir fel llys- genadwr i Brydain. Yn ol yr hyn a ddeallwyf, y mae y dewisiad wedi bod yn ffodus neillduol, a chawn weled yn y dyfodol fod y dyn iawn wedi ei benodi, fel ag i gadarnhau y dywediad ei le i bob peth, a phob peth yn ei le." Gall y sawl sydd yn gwybod rhywbeth am y ddwy wlacl weled y priodoldeb o estyn Haw gynes i'w roesawu ar ei laniad yn mhentref y llongau, a rIled hyny yn mhell i gadarnhau y berthynas a fodola rhwng y ddwy wlad. Byddai yn golled anadferadwy weled unrhyw annghydwelediad yn cocli rhwng Prydain a'r Amerig. Daw eto yn bwysicach, am y bydcl yn rhaid i filoedcl o I bobl Cymru ymfudo i faesydd toreithiog y Gor- llewin, lie y ceir miloedd o filldiroedd o dir heb neb yn ei gyfaneddu. Gallaswn ddweyd llawer yn y cyfeiriad hwn, fel yr uuig ffordd i ddyr- chafiad y gweithiwr o'r trueni y mae ynddo yn bresenol. Rhaid i mi ymatal, gan adael i arall wneyd, rhag i'r cul ei feddwl dybio fy mod yn gweithio er mwyn hunan les, ac nid oddiar egwyddor wirioneddol. Diystyrwyd yr hyn a ddywedwyd, ond gwelir heddyw yn amlwg fod y gwir wedi ei ddweyd, ac nas gellir ei droi yn ol, am fod ffeithiau yn fynyddoedd rhy eirwon i'w croesi heb lawer o anhawsder. Fel taranfollt y disgyua y newydd am farwol- aeth John Griffith, Ysw., (y Gohebydd). Emy adnabyddus ydoedd Pobman ar y Gohebydd yn y cylchoedd Cynireig, ac nid oes un Cymro, ond odid, yn y De a'r Gogledd nad oedd yn ad- nabyddus o'r enw bydenwog a gwir Gymreig. Fel Cymro, ceid ef bob aniser yn Gymro Oy. mreig, yn llawn sel a gweithgarwch dros bob peth a berthynai i'n cenedl ni. Yr oedd yn Rhyddfrydwr eithafol, ac yn Annibynwr selog, yn berffaith gydnabyddus i bawb o fewn cylch- oedd Independia Fawr, acyn ddyn o nod a phwys- igrwydd yn yr Undeb Cynulleidfaol. Gweithiai yn galed gyda phob mudiad cenedlaethol, a gwnaeth ei ran er gwneyd yr Eisteddfod yn sefydliad parliaus a theilwng o'r genedl Gymreig. Rhaid bod yn fyr, am nad oes manylion pellach nag iddo orphen ei yrfa ddaearol dydd lau, yn nhy y Parch. D. M. Jenkins, Park Road, yn y dref hon mae Mrs. Jenkins yn chwaer iddo. Y tro diweddaf y gwelais ef oedd pan oedd yr hybarch Shencyn Ddwywaith yn myned yn ol i'r Amerig. Cleddir ef heddyw (dydd Llun), yn Llangollen. Blin genyf na fuaswn yn alluog i gael rhagor o fanylion. HINSAWDD TExAs.-Caiff gofyniad y cyfaill o Gwm Rhondda sylw buau. Mae y manylion wrth law, ond nid oes genyf amser i ysgriblo dim yn mhellach na chydnabod fy mod wedi cagly llythyr yn ei amser priodol.—Yr eiddooh, CYMRO GWYLLT.
Yr Wythfed Adsain.
Yr Wythfed Adsain. Mae pobl Mon am osod eu nod ar y byd eisteddfodol yn mis Awst nesaf. Cawn fod rh'estr y testynau wedi ei gorphen, a dyudian yr wyl yn barod wedi cael eu penodi. Coel- iweh fi, rhai garw ydyw meibion Mon am fwrw drwyddi, wedi y dechrenont, gyda, rhyw symudiad. Testynau Cymreig, a g wo bran teilwng, a phob darpariadau ereill yn cyfateb er dwyn pethau yn mlaen mewn dull Cymreig, heb fyned yn ormodol i dir Saxonia, lie nad oes dim i'w gael i Gyrnro os na fydd y Sais wedi ei daflu o'r neilldu, ar ol methu gwneyd dim ohono mewn ffordd i wneyd arian. Rhyw ferw rhyfedd a waeir gan y bonedd- wr uchelddawn, Arglwydd Aberdar, nad yw Cymru wedi codi neb o nod o flaen y byd. Pwy, tybed, oedd Roger Williams, sylfaen- ydd talaeth enwog Rhode Island A beth hefyd am nifer mawr o'r cyfryw a lawnododd Freinlen Annibyniaeth yr Amerig. Rhaid i ni gofio mai gwaed Ysgotyn sydd yn rhedeg drwy gyfaiisod-liad ei arglwyddiaeth, fel nas wallwn ddysgwyl iddo ganmol llawer ar v Cymry fel cenedl; ond eto, ni allwn setyll arholiad, yn ol ein rhifedi, ag un genedl ar wyneb y byd, er fod llawer ohonom yn mhell ar ol mewn dysg a gwybodaeth. Sicr fod ei arglwyddiaeth wedi cael lie da yn mhlith yr hen genedl, a'i dylwyth o'i flaen, fel nas gall redeg llawer arnom fel dinasyddion teilwng a ifyddlon i'r goron Brydeinig. Gall Cymry fy ngwlad, yn ol y manteision a gawsant, sefyll yn gyfoehrog ag unrhyw nifer o Ysgot- iaid, deued y cyfryw o'r lie bynag y del cm t. Hwyrach y gallem nodi llawer o enwogion Cymreig, ond i ba ddyben, gan fod ei ar- glwyddiaeth yn tybio ac yn credu yn wahanol. Mwynhaed ei grediniaeth, a chawn ninau y pleser o gredu, meddwl, a gwybod nad yw ein cenedl y lleiaf yn mhlith cenedloedd y byd mewn moesau, dysg, a gwareiddiad. Gallwn fforddio gadael i'r ystramychiaid tra- morol i arllwys eu llysnafead. o dan yr ym- wybyddiaeth fod cyfangorff y genedl yn mhell uwchlaw ein cymydogion y Saeson. Ni raid i ni dynu neb i lawr er mwyn codi ein hunain i fyny, am y gallwn sefyll heb gywilyddio dim mewn un modd. Hwyrach fod yr oer- felgarwch a ddangoswyd tuag ato wedi cael effaith arno i raddau mwy neu lai ond fe ddylai y pendefig gofio nad yw cenedl gyfan i gael ei beio am weithred dyrnaid bychan o bobl mewn c .vr o Forganwg, pan yn cael eu cynhyrfu g;i i fympwy plaid, yn llafurio o dan wres eithafol yr etholiad. Llawen genyf ddeall fod gobeithion dy- munol am eisteddfod lwyddianus yn Nhre- herbert y Nadolig. Dyma. yr unig gyfarfod blynyddol yn y De yn teilyngn yr enw Eis- teddfod. Aed y cyfeillion rhagddynt i gadw I i fyny yr hen sefydliad Cymroawl, ergwaeth- af Dic Shon Dafyddiad gwamal a phengrwn, nad ydynt yn meddwl am ddim ond ladd pob peth Cymreig. Pe gallaswn adael yr Hafot- ty mynaswn gael y pleser o fod yno, ond rhaid boddloni ar y gorchwyl o warchod cartref. Daeth y. newydd galarus i fy llaw fod y Gohebydd bydenwog wedi gadael y byd dydd lau, Rhagfyr y 13eg. Yn marwolaeth John Griffith, Ysw., fe gollodd yr eisteddfod gyfaill cywir a Chymro hyd asgwrn y cefn. Gan iddo orphen ei daith ddaearol yn nhS- ei chwaer, yn Llynlleifiad, odid na fydd gan eich gohebydd o'r dref hono benod ar y pwnc. —Yr eiddoch, JOHN JONES.
EISTEDDFOD Y DRILL HALL, MERTHYR.
EISTEDDFOD Y DRILL HALL, MERTHYR. Cynelir yr eisteddfod hon yr wythnos nesaf, sef dydd Nadolig. Da genym allu hysbysu fod argoelion gobeithiol am eisteddfod lewyrchus eleni eto. Ar y gwahanol ddat mau corawl y mae 16eg o gorau wedi danfon eu henwau i tewn. FTablaw y eorau, rhifa on wan yr ymgys- adleuwyr ereill, ar yr amrywiol destynau, tua 200. a yr yw T. J. Evans, Ysw., Ilirwaun a beiruiarl y gan. iadaeth yw Jo-tuph Parry (Pancwrdd America). Gan fod yna wledd ohwaethaa a ùymunol wedi ei pUarotoi, tebyg y gwelir llaaws o feibion a merched (Jjwiru vu inwynha'i eu hunain yn Eisteddfod v Drill llall ddydd Nadolig. Y Drill Hali, 'u v dre haftl hon,—ytv'r harddaf, A'r un g.ywiraf. dan wawr y goron. Co Penill a chart, pwdyn a chig, Sy'u diivn y Nadolig." Nos WENEK, diweddaf, bu Ardalydd Bute- yn anerch cyfarfod mawr a bi wjfrydig o Ysgotiaid, yn Greenook; ac yti ystod ei araeth dywedodd nas gal'.ai y Gwyddelod na'r Ysgotiaid ddal eu cydmaru a'r Cymry yn eu hymlyniad wrth eu hi;;ith a'n cle!ion.
Advertising
Goreu art, arf dys;». Eisteddfodd Gadeiriol OaerSli. I^IYNJILIR yr nchod yn y Castesll. DYDD LLUN V SDLG-WYN. 1878, pryd y jrw.*>brwyir yr ym- sreiswyr ltwyddiamis mewn Tr^thodau, Barddon- iaeth, Cerddoria-jth, Canuwlaeth, dc. Y TXIOMAS J. 'EV'A.VS). x sw., Jdii'waim. :s A:> T/'iiatkodau, Bwddou iaeth dr.: ISLWYK. CyfeiUyM y dyld: D. BOWEV, YSW., Dowlais. Hysbyuir boiruiad y canu yr wythnos nesaf. I'aiF DDARXAU CliltDDOSOL 1. I'r cor, dim dan 100 o rif. p, gatio yn oreu, Then shall your li^iit (Elijah) gw..br, SOp a msdal axir i'r s'.rweinydd. 2. I'r cor, di n dan G > o rif, irul enillodd dros 15p. yn flaenorol, a L-) yn oreu, Y Mab Afradlon," gwel y'O-erdd-orfu gwobr, 15p. Pob hysbysrwydd psliaeh i'w gael gan yr ysgrif- enydd lleol. JOHN TIIOIIAS, Checkwe.igher, Pwllypant. 1780 Bedwa-, Caerphilly. Psntre, Ystrad Rhondda. BYDDED hysby8 y cynelir GWYL GERDD. J, OHOL yn y lie uchod, DYDD LLUN PASG, 1878, pryd v gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol ar amrywiol ddarnau. Prif Ddar»au Corawl: 1. I'r cor o'r un gynulleidfa, heb "od dan 50 o rif, a gano yn oreu 4< P'le mae'r Haf," gan Men- delssohn (Cerddor Cymreig) gwobr, lOp. 2. 1'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 30 o rif (na enillodd dros 8p. yn flaenorol), a gano yn oreu "Pebyll yr Arglwydd," gan J. Parry; gwobr, Gp. 3. I'r cor o'r un gymdeidfa, ddim dan 30 o rif, a gano yn oren" Clyw, 0 Dduw, fy llefain (D. Jenkins); gwobr. 4p. 4. 1'1' c6r o blant, ddim dan 30 o rif, a gano yn oreu Ymadawiad y Cenadwr" (Rhif. 33, Cerddor Sol-fa); gwobr, 1p, 10s. Caniat sir i 8 mewn oed i'w cynorthwyo. Bydd y programme, yn cynwys y gweddill o'r testynau, yn nghyd ag enVlau swyddogion y dydd, yn barod erbyn Ciwwefror y laf i'w gael, am y pris arferol oddiwrth y.- Ysgrifenydd. Dros y pwylk-or, DANIEL RODERICK, Ysg., 1781 Green Hill, Ystrad, Pontypridd. DA LIB E SYLW. Y GWAED Y, BYWYD Y DYN. GWAED DRTVO -iu "i7"W'R achos o'r rhan fwyaf o'r clefydau gwaethaf i ac y mae'r corif dynol yn dioddef oddiwrth- ynt. Y gwaud sydd yn derbyu y gwenwvn, ac yn ei .trario i'r gwahanol ran an o'r corif, nes dwyn yn yn mlaen y Bast, Seirvy. Cormvydon. Penddynod, Croon Garw, 1'sfa y Cnawd, &c. G \YAK!) DllWG Yw'r achos n'r idles, Inlfammation y Llygaid, Gwynerf-m, Gout. Danodd. Spleen yii y Danedd, y 1\;u. &c.. Stitches yn yr Ochrau, &c GWAED DR ff{) Yw'r "clips yn oml o ilefvdau r Afu. Diffyg Traul, Jaundice neu r Ciefyd iielyn, 3Jwfr I'oeth, Isei- der Ysbryd, &c. I GJYAED DRWG Yw'r achos o'r Manwynion lieu Gleiyd y Brenin, Chwydd yn y Giands, Cieiydau Benywaidd, megyg Ataliadau Natur. Keintiau, Chwys Oer, Nerves Egwml, Cryd, Gloes-iadau, Darfodedigaeth, &c. Felly, mae o'r pwys mwyaf i Buro. Glanhau, a Chryfiiau y gwaed, a thrwy hyny Dadwreiddio p;)b ASechyd, trwy gymeryd y feddyginiaeth fawr at y Gwaed, set PATENT Er prawf o'r effaith nei Iduol tydd ynddvnt, gosod- er yma rai o'r tystiolaethau sydd yn fy meddiant SVH,—Gyda diolch yr wyf yn eich hysbysu o'r lies mawr a wnaeth eich Pills rhyfeddol o'r enw Hughes Patent Blood Pills," i mi. Yr oeddym am ddwy flynedd mewn blinder mawr gan Ysfa a Phoethder y Cnawd, wedi eu hachosi gan Ddis- temper y gwaed, ac wedi cymeryd ond ychydigo'r Pills hyn, mi a gefais lwyr rhyddhad, ac yr wyf yn anfon hyn er budd y cyhoedd.- B. THOMAS, Dolau, Llanelli. Giccllhad hynod o'r Distemper a'r Piles (Talfyriad). SYR,—Drwy eyrneryd eich Pills hvnod at y gwaed, sef Blood Pills," cafodd fy merch well- had neillduol oddiwrth Darddiant ar y Cnawd, Poen yn y Pen ac yn y Cluniau, dim Archwaeth, GWTthwyneb v Cylla, a mawr Hinder gan Ataliad- au Natur. Hefyd, trwy gymeryd yr un Pills, cefais lwyr iachad oddiwrth y Piles. Fe ddylai pawb wybod am danynt.—D. DAVIES, William Street, Llanelly. Gwellkad oddiwrth y Piles. SYR.—Yr wyf yn ei theimlo yn ddyleaswydd arnaf i'ch hysbysu fy mod wedi cael budd mawr drwy gymeryd dau flyehaid o'ch Pills gwerthfawr, sef "Hughes' Patent Blood Pills." Yr oeddwn yn methu cerdded cam braidd, ac yn methu eistedd oherwydd y Piles a phoen yn y rhan iselaf o'r cefn, y Cluniau, a'r Pen, ac yn teimlo yn bur wan. Yn awr yr wyf yn hollol iach, ac yn teimlo yn bur ddi- olchgar.—MARY JAMES, Cwmbran, Awst 20,1876. Y mae'r Pills hyn yn Patent. Cosbir pob ffug- iad. Registered Trade Mark-" Blood Pills." Arwerthmewn Blychaugan holl Chemists y deyrnas amis. lie.. %s. 9c., a 4s. Gc. Gyda'r post Is. 2c., 2s. lle., a 4s. 9c. oddiwrth y Patentee- Jacob H-ughes, Apothecaries' Hall, Llanelly. London Agents—Barclay, Sutton, Newbury, Sanger, Hovendon. Bristol-Pearce, Warren. Liverpool-Evana & Son, Raimes. Cardifl-Kernick. Manchester—Mather. L435