Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

. Y GONGL GYMREIG. I

CYMANFA GERDDOROL

LLANSAMLET.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANSAMLET. CYMANFA GANU. Dywedai Iorwerth Glan Aled gynt—" Os wyt yn fyfyriwr caled, dysg ganu canys nid oea dim sydd well i adfywio y meddwl pan byddo wedi lleaghau yn fawr trwy eirydu. Os wyt yn wan yn dy ysgyfaint, dybg ganu canys nid oes dim sydd yn well tuag at eu cryfhau. Os wyt am fod yn areithiwr llafarber, dysg ganu canys nid oes dim yu wêill ddysgu iawn aceniad a phwyslaia. Ac uwchlaw y cwbi, os wyt am foli dy Grewr yn un o'r dullian goreu a mwyaf effeithiol, dysg ganu canya nid oes dim yn twy cymeradwy ganddo (oa gwneir yn gywix), nac yn fwy dyddanol i tithau." t Y mae dysgu canu pethau cysegredig wedi bod yn hyfrydol waith eglwysi Llansamlet yn ddi- weddar-gan y Methodistiaid a'r Annibynwyr beth bynag. Yr wyf eisoes wedi rhoddi adrodd- iadau o'r cymaufaoedd gynhaliwyd gan y Method- istiaid yn rhan uchaf ac isaf o'r plwyf. Dydd Linn diweddaf, yn nghapelau Saron, Birchgrove, a Bethel, Llansamlet, cynaliodd I Annibynwyr y plwyf eu Cymanfa Ganu. Yr arweinydd ydoedd Mr. Rhys Thomas, Ystrad- gynlais; a rhaid d'weyd mai arweinydd rhagorol ydyw. Yr oedd y bywyd yn ei freichiau wrth arwain, a ffurfiad ei wefusau wrth ganu, yn bethan brofent ei fod yn un cymhwys i arwain cymanfaoedd canu. Dywedai yr hen Danymarian gynt fod ambell i un wrth ganu yn gwneyd ei wefusai fel "Pib Ceiliogwydd," fel nad oedd lie i sain gyflawn ddyfod allan o gwbl. Credaf, cyn y gellir gwneyd arweinydd cymanfaoedd Uwydd- ianus, y dylasai y cytryw fod a thipyn o lais weddol gryf a gloew, a thipyn o ysbryd a myn'd ynddo. Wei, un feUy oedd Mr. Rhys Thomas. Ni chlywais, ac ni welais ef o'r blaen fel ar- weinydd cymanfaoedd, ond gwyddwn am dano fel cerddor a beirniad Eiateddtodan llwyddianus iawn. :if: :if: Cynaliwyd cyfarfod y plant yn Saron, Birch- grove, boreu dydd Linn. Llywyddwyd y cwrdd gan y gwr diymhongar Mr. John Rees, goruch- wvliwr glofeydd Birchgrove. Yr oedd y plant bach, a'r plant mawr oedd yn ei cynorthwyo, yn canu yn fendigedig o swynol. Y tonau mwyaf awynol yn ol fy marn i oeddynt Hyfryd Ganaan," Mordaith Bywyd," 0 na bawn fel yr lean," ac "leuenetyd hawddgar." Cafwyd ychydig eiriau hapus a phwrpasol gan yr hen frawd Tomos Dafydd yn ystod y cyfarfod. Chwareuydd yr organ oedd Mr. Thomas Owen. f: # Cynaliwyd y cyfarfod dau o'r gloch yn nghapel mawr Bethel. Llywyddwyd y cwrdd hwn gan y Parch. M. G. Dawkins. Canwyd y tonau can- lynol" Glasfryn," Voelallt," "Bethany," "Llanidloes," "St. Aelred," "Hen Dderby," Narberth," a Spohr," ynghyd ag anthem Mr. W. T. Samuel, O'r dyfnder y llefais arnat." Cafwyd hwyl anghyffredin ar y tonau Voelallt," Bethany," St. Aelred," a'r anthem. Yn yatod y cwrdd hwn siaradwyd ychydig eiriau pwrpaaol gan Mr. Roberta, ysgolfeistr, Brynhyfryd. Gwasanaethwyd ar yr harmonium gan Mr. Madog Rees, yn cael ei gynorthwyo gan rhan o seindorf bres Llansamlet, dan arweiniad Mr. Tom Griffiths. Yr oedd y cyfarfod chwech yn yr un man yn gyfarfod gwresog dros ben, a'r capel yn llawer rhy fach i gynwys y dorf oedd wedi dyfod ynghyd. Canwyd y tonau Lenox," "Penarth," Rhyl," Pantycelyn," "Cynhauaf," "Dies Bar," a'r Emyn Hwyrol," ynghyd a'r anthem Teyrnasa Iesu Mawr." Llywydd y cwrdd hwn oedd y Parch. J. Hywel Parry. Hawdd y gallased galw y gymanfa hon yn gymanfa ganu wirioneddol. Y mae rhai cyman- faoedd dan yr enw cymanfaoedd canu, ond gellir gyda phriodoldeb eu galw yn gymanfaoedd areithio. Ni fu ond un gwr, tu allan i'r cadeirydd, yn siarad yn y gymanfa hon. Mewn ambell gymanfa fe gewoh areithiwr am bob ton genir, a mwy na hyny weithiau-yr hyn sydd yn gwneyd ysbrydoedd y cantorion yn eurion. Cafwyd yn lie areithio yn y gymanfa hon gan—" The Holy Oity "-yn y prydnawn gan Miss Mary Hughes, Birchgrove, yn rhagorol iawn ac yn yr hwyr- O rest in the Lord"—gan Miss Gwen Evans, Dyffryn Aur, yn dwynol dros ben. Rhaid d'weyd I i'r gymanfa eleni fod i fyny (os nad yn awcb) a'r rhai blaenorol. Trueni ei bod i farw gyda mar- wolaeth y bedwaredd ganrif a'r bymtheg, < PRIODAS MB. THOMAS WATKINS, TEALLWN, A MISS CATHBBINX WILLIAMS, PANTTCAWB. Bachgen didwyll a diwenwyn Yw'r priodfab, Thomas Watkin. Caru Catherine mae o galon, Cara hithau yntau'n ffyddlon. to to # Gl»rysferch addfwyn ydyw Catherine, Teilwng wraig i Thomas Watkin Mae'n un ddiwyd, ac yn airiol, Mae i gyd yn ferch rinweddol. 0 Cariad didwyll, a diwydrwydd, Gwybod gwaith y tý a'r nodwydd Hyn wna gartref tangnefeddus, Hyn wna fywyd yn gyaurus. # Meddu'r pethau hyn mae Catherine, Gwybod hyn mae Thomas Watkin Boed eu bywyd hyd ei ddiwedd. Yn ddedwyddwch a thangnefedd. SHON DATTDD.

TREFORIS.

LLYTHYR AT ^YMRY'R CAMBRIAN.

HERMON, PLASMARL.

.WAUNARLWYDD.

0 ! ABERTAWE ! ABERTAWE !

BABELL, CWMBWRLA.

"Y GENINEN."

NEATH

MAESTEG & DISTRICT,

Advertising

GOWER,

38 MILLIONS OF LEMONS

Advertising

tä.-WHERE TO GO NEXT SUNDAY?

[No title]

Family Notices