Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
-_._-ADOLYGIADAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ADOLYGIADAU. Spurrell's Welsh-English Dictionary. New Edition, completely revised. Edited by J. Bodvan Anwyl. Dygwyd yr argraffiad gwreiddiol allan yn y flwydd- yn 1848. Er yr adeg hono gwnaed cynydd mawr mewn ymchwiliadaeth i'r Gymraeg, ac angenrheid- iol oedd cael Geiriadur yn corffori'r casgliadau sicr. Gwnaed hyny i fesur gydag ad-argraffiad o Eiriadur Dr. J. Davies o Fallwyd yn I Nghyfres y Fil,' ond wele gyfrol lawnach drachefn, -ac un dra hylaw i'r efrydydd Cymreig. Yn y Rhagymadrodd esbonir fod yr orgraff yn seiliedig ar adroddiad y Pwyllgor y gweithredai Syr John Rhys yn Gadeirydd, a'r Athro John Morris Jones yn Ysgrifenydd iddo. Cynorthwywyd Mr. Bodfan Anwyl gan ei frawd enwog Syr Edward Anwyl; a sicrhaodd gydweith- rediad Athrawon a Darlithwyr pob un o'r colegau cenedlaethol. Diau fod hyn vn gam hir yn nghyf- eiriad unffurfiaeth. Cyflwynir y llyfr hefyd i'r Athro Syr John Rhys ac ond cael yr awdurdodau hyn i gytuno'n wirfoddol, ni fyddai raid i ysgrifen- wyr is eu safle ymdroi lawer yn hwy yn anialwch dyrys orgraff yr iaith. Inoddir tua 2,500 o eiriau i mewn yn y Geiriadur hwn, a'u cyfystyron yn y Saesneg. Nodir y rhai ansathredig gydag arwydd. Bydd hyny yn rhybudd i dramorwyr ddysgant ein hiaith, yn gystal ag yn ychwanegu at wybodaeth hanesyddol y Cym- ro. Daw cyfoeth y Gymraeg yn amlwg iawn yn y gyfrol hon, ynghyda'i hystwythder, a pherseinedd llawer o'r geiriau. Dengys hefyd dlodi llawer a ddefnyddiant yr iaith, ac na fedrant ond y hi-pan feddylir gyn lleied o'r ddwy fil a haner hyn sydd ar arfer gyffredin yn ein plith. Nid rhyfedd i ol- ygydd newyddiadur ateb un o'i ohebwyr, a geisiai gyfarwyddyd ynghylch llyfrau da i'w darllen, gan ddywedyd, Darllenwch yn gyntaf oil Eiriadur eich iaith. Ceir lliaws o eiriau y Beibl nad yw eu hystyr, bellach, yn gwbl eglur, ond i'r efrydydd: eglurir y rhai hyny hefyd yn y gyfrol hon, gyda'u cyfeiriadau ysgrythyrol. Ychwanegir, ar y diwedd, gyfres dda o enwau lleoedd, ac un arall o flaen- ddodiadau ac olddodiadau, gydag esboniad o'u hystyr a natur eu gwasanaeth. Dylai cyfrol fel hon fod wrth law pob darllenydd o farddoniaeth y cynfeirdd a'r gogynfeirdd ac yn wir bydd yn dda ei chael at rai o'r beirdd newydd hefyd. Pan gyfyd gwr a fedro orffen gorchestwaith Silfan Evans, mantelsir ar ei lafur yn v llyfrgelloedd a'r sefydliadau cyhoeddus yn benaf ond llyfr yw hwn i'w feddianu*n bersonol gan bob un hoffai ddarllen ceinion ei iaith o bob oes mewn eglurder a mwynhad. Pobol Capel Nant y Gro. Gan 0. Madoc Roberts, Conwy. Ymgais syml ydyw cynwys y llyfr hwn at bort- readu bywyd Ymneillduol Cymru yn ystod yr haner canrif ddiweddaf." Dyma'n ddiau amcan cwbl deilwng ac amcenir y tro hwn bortreadu'r bywyd Ymneillduol fel yr ymddengys i un oddifewn iddo, ac un mewn gwir gydymdeimlad ag ef. Ni ddy- wedir dim amharchus am na barwn na thirfeddian- ydd o eglwyswr a choffheir pethau da saer, bugail a morwr y cyfnod hwnw heb sen mewn gair na dirmyg mewn ton. Ysgrifena ambell un erbyn hyn, fagwyd ar fronau Ymneillduaeth, mor nawddogol o'i hen saint, ac mor dosturiol at eu "culni" tyb- iedig, nes gosod bri anghymesur ar wylltineb medd- yliol, a chanoneiddio cymeriadau pwdr eu gwala os gellir mewn rhyw ffordd ddangos fod annibyniaeth ar eu hoes yn perthyn iddynt. Na alwer neb yn broffwydi os mai carchar a haeddant; a "bedd- au" llawn fydd eiddo'r cyfryw rai: nid oes ynddynt nerth bywyd. Un o nodweddion hyfrytaf y llyfr deniadol hwn yw'r bias peraidd ac iach deimlir arno. Saif Willie Moreton am y newydd a'r blaenfyned- ol mewn meddwl ac arferiad; ond y mae yntau yn eithaf diogel ar yr hanfodolion. Darlunir yma lawer cymeriad conglog-adnabyddir yn dda wedi ei wel- ed a da fyddai iddo yntau weled ei hun yn y drych hwn fel y newidio ei ffydd. Ceir cymeriadau eraill yn y gyfrol gwerth eu dangos er mwyn eu hedmygu a'u hefelychu bydd coelio fod y cyfryw rai yn cael eu magu yn yr eglwysi yn sirioldeb i ysbryd ami ddarllenydd ac yn adgyfnerthiad i'w ffydd. Ysgrif- enwyd y chwedl hon yn dra difyr, gyda llawer o'r arabus wrth ddesgrifio'r personau a'r digwyddiad- au, ac ystraeon da-rai o honynt yn hysbys o'r blaen, wedi eu gweithio i mewn yn hapus i'r hanes. Odid na rydd neb y llyfr o'i law nes llwyr orffen ei ddarllen ac erys amryw o'i gymeriadau yn gyfeillion mynwes- ol i ni am dymor hir. T.R.J.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CYLCHWYL GERDDOROL HARLECH. Yn y rhifyn nesaf o'r CYMRO bydd adolygiad ar Gylchwyl Gerddorol Harlech gan Mr. O. O. Rob- erts, yr arweinydd cerddorol adnabyddus. THE COUNTY SCHOOL, GREEN HILL. TENBY. Boarding School for Boys. A thorough modern education. Preparation for the Universities, the Various Professions, Civil Service and Commerce. Special attention given to backward pupils. IDEAL CLIMATE. For Prospectus, &c. apply to the Headmaster. THE COUNTY SCHOOL, (goe &>otgetCet? grammar £ c$oo £ .) Dr. Ellis Endowment, A D. 1665. Boarding & Day School for Boys EXCELLENT general education and training provided, JS with special preparation for the Universities, tht Civil Service and Cammmrct BOARDERS received at the HEADMASTER S HOUSE. For Prospectus, Fees, &c., apply to the HEADMASTER. County School lor Boys. GROVE PARK, WREXHAM. Chairman of Governors J. E. POWELL, ESQ., J.P. Fine new buildings. Healthy locality. Labora- tories, Lecture Room, Workshop. Extensive Grounds with Pavilion, &c. Pupils have won the Chief Inspector's Gold Medal in the C.W.B. Exam. six times, and have taken Open Scholarships or Exhibitions at Balliol, New University, Trinity, and Jesus Colleges, Oxford; also at St. John's & Downing, Cambridge, and at the Welsh Colleges, Welsh Matric., &c. Careful at. tention to subjects for business, and Civil Service. Boarders received. Prospectus from Head Master. (14511. I)R.'VIJjIJIAlS' SCHOOL. DOLGELLEY. Preparations for the Central Welsh Board and Ox- ford Local Examinations, London and Welsh Matri. culation, and University Scholarships. There are three leaving Exhibitions, tenable at Colleges, which are awarded annually upon the re- sults of the year's work. The Building and Grounds are excellently adapted to secure the comfort and health of the Pupils A NEW WING was built in 1910 to meet the demand for increased accomodation. A Domestic Science Department has recently beea added. TENNIS, CYCLING, AND HOCKEY. Inclusive Fees: BOARDING, L26 per annum; TUITION, :£5. For prospectus, apply to the Headmistress or to the Clerk to the Governors. Old College School, CARMARTHEN. .< Principals REV J. B. THOMAS, Late Headmaster of Park-y-Velvet Academy, under graduate of London University Open Exhibitioner of Cardiff University; First in English, and Dis- tinction in Chemistry; ist. Prizeman in Classics and Mathematics at Trevecca College. Rev. D. GLYNDWR RICHARDS, B.A. (Hons.), B.D. (Wales). Prizeman at Presbyterian College, Carmarthen; Winner of Graduate Sharp Prize Holder of Hibbert and Berman Scholarships." Science and Mathematical Master MR. EVAN WILLIAMS, B.Sc. RESULT OF 1913 64 FIRST RESULT OF 1914. Sucesses of the School i. the last College of Preceptors Honours Division I 1st Class 4 2nd Class and Pharmaceutical 0 9 3rd Clas 8 Sum Total in One Examination 22
---------<_---COLOFN Y DARLLENWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
.< ddim y byddai yn waeth genyf iddo gael ei gy" hoeddi ar benau tai. Nid wyf yn deall eich rheswm chwi dros eu cyhoeddi;'ond ihyngoch chwi a hyny. Yr wyf yn sefyll at bob gair a ysgrifenais ond nid wyf yn ystyried fy hun yn gyfrifol am yr esboniad a roddir ar fy ngeiriau. Yr esbonwyr eu hunain sydd yn gyfrifol am hyny. Nid wyf yn deall amcan eich cyfeiriad yn niwedd nodiad XXI. at y ffaith fy mod yn gyfranddaliwr (un gyfran) yn Nghwmpeini y Wasg Genedlaethol. Yr esboniad y mae amryw wedi ei roddi—yn unfarn --i mi arno ydyw, eich bod, fel eich cic olaf i mi, yn awgrymu, gan fod genyf gyfran yn y Cwmpeini, yn dueddol ato, ac i drosglwyddo v Goleuad iddo, er fy mod yn ymddangos yn wrthwynebol, ac yn dal wyneb i chwi. Wedi darllen eich dwy erthygl flaenorol dywedodd amryw wrthyf mai ceisio dangos yn awgrymiadol yr oeddych ynddynt mai arnaf fi, wedi'r cwbl, y gorwedd y bai o symud y Goleuad o Ddolgellau a'i drosglwyddo i Gaernarfon, er fy mod i yn ymddangos ar y wyneb yn groes i hyny. Yn awr, meddynt, dyma brawf o hyny. Y mae Evan Jones, wedi'r cwbl, yn gyfranddaliwr yn Nghwmpeini y Wasg Genedlaethol. Pa eisieu prawf pellach? Nid dau na deg sydd wedi dweyd hyn wrthyf. Wel, rhydd i bawb ei farn, a'r neb sydd yn barnu sydd yn gyfrifol am v farn hono. Nid myfi. Yr eglurhd ar yr un gyfran yr wyf vn ei dal yn Nghwmpeini y Wasg Genedlaethol ydyw hyn Pan sefydlwyd y Cwmpeini rai blynyddoedd yn ol, gwnaed hyny fel Cwmpeini Cyfyngedig. Mewn trefn i ffurfio Cwmpeini Cyfyngedig rhaid cael saith o aelodau. Gofynodd y rhai yr oedd baich y cyfrifol- deb arnynt i mi fod yn un o'r saith hyn. Addewais fod, a rhoddwyd i mi un gyfran. Ni thelais erioed geiniog am dani, ac ni dderbyniais erioed geiniog oddiwrthi. A phan ddaw y c Goleuad i'r swyddfa hon ni fydd hyny nac elw na cholled i mi, er fy mod yn gyfranddaliwr fel y nodais. Yn un o'ch ysgrifau vr ydych yn awgrymu, gan na chywirais ond un ffieiwr vn unie: yn yr ysgrif, fv mod cystal a chydnabod gwirionedd y gweddill. Y gwir yw, pe dechreuwn gywiro y naill beth neu y llall a awgrymir mewn ysgrifau fel hyn, na ddeu- wn byth i ben. Wedi'r cyfan y mae genyf lawer o barch i synwyr cyffredin y darllenydd fel tarian i'm diogelu rhag sibrydion ac awgrymiadau amheus. Yr eiddoch, &c.. Caernarfon, EVAN JONES. Mehefin 24, 1914. [Gwelir sylw ar y llythyr uchod mewn colofn arall. —Gol.]. Cofio'r Hen Lyfirwerthwr. A fyddwch chwi mor garedig a chaniatau i ni hysbysu fod ychydig o gyfeillion i'r brawd ffyddlon Richard Jones, wedi cylarfod yn Machynlleth, dydd Mercher, Mehefin 24ain. Y mae dydd blin wedi ei ddal; a bydd yn ddrwg gan lawer ddeall mai yn Ysbyty y dre y mae yn awr. Da genym weled oddi- wrth bob arwydd fod bendith y nef ar driniaeth y meddyg, a chredwn y gwelir yr ymwelydd cyson a phreswylwyr v cylch yn cario'i faich eto, cyn hir. Deallwn fod awydd cryf yn nghalon llawer i ddat- gan eu teimladau da tuag ato mewn modd sylwedd- ol; a phenderfynwyd apelio at y rhai wyddant am y gwasanaeth pwysig a gyflawnodd fel llyfrwerthwr teithiol ymhlaid llenyddiaeth bur a dyrchafol, er cyflwyno iddo arwydd o'n gwerthfawrogiad o'i lafur yn ystod blynyddoedd lawer. Y mae enw Richard Jones, y Llyfrau," yn bur adnabyddus, a'r dydd niawr a ddengys pa sawl un gychwynodd ddarllen cyfrolau da o dan ddylanwad ei eiriau cymeradwy- ol. Enwyd deg o frodyr o'r cylch gyda'r rhai sydd a'u henwau isod yn bwyllgor i weinyddu'r dysteb a derbynir unrhyw swm genym gyda diolchgarwch. E. G. Jones, Pennal, Llywydd. sr. R. T. Owen, Aberllefeni, K R. W. Jones, Aberangell, IF D. Cunllo Davies, Machynlleth. Ysgrifenyddion. Hugh Davies, Machynlleth, Trys. Y Parch. B. Scott Williams, B.D. Yn eich erthygl yn y Goleuad am yr wythnos hon y mae cyfeiriad at ymadawiad dau o weinidogion a'r Cyfundeb. Fel hvn y dywedir wrth drafod gweithrediadau Cymdeithasfa Llanrwst:—" Myneg- wyd fod dau wr dysgedig o'n pregethwyr yn gadael y Cyfundeb un yn myned at yr Eglwys Rydd yn Scotland, a'r llall at y Presbyteriaid Seisnig. Wrth draethu ar ad-drefnu y casgliadau fe ddywedodd un gwr fod yna genadwri at y Cyfundeb yn eu hymadaw- iad. Nid ydynt yn ein gadael am na fedd y Cyfun- deb waith iddynt, ond am fod porfa fwy gwelltog yr ochr arall i'r terfyn." Nid vw yn eglur iawn pa un ai ysgrifenydd yr erthygl ai y siaradwr a ddyfynir biau y frawddeg ddiweddaf. Hyderaf mai yr ysgrifenydd oblesrid bvddai vn archoll ddofn i galon llawer o gyfeillion y Parch. B. Scott Williams ddeall fod brawddeg o'r fath wedi ei defnyddio am dano ef ar lwyfan y Sasiwn. Y mae Mr. Williams yn adnabyddus iawn i mi ac i lawer eraill o ddar- llen wyr y I Goleuad.' Bu yn efrydydd yn y Coleg Duwinyddol am dair blynedd ac wedi hyny bu am beth amser yn athro yn yr Ysgol Ragbarotoawl. Llafuriodd yn ffyddlon yn eglwys Rossett am yn agos i saith mlynedd, a gwnaeth hyny yn wyneb llawer iawn o anhawsderau a phrofedigaethau. Ys- tyrir ef gan bawb a'i hadwaena yn Gristion a bon- eddwr na welir ei debyg yn ami. Y mae yn olyn- ydd teilwngi'w dad duwiol a'i daid enwog, sef y Parchedig Evan Williams, Abermule, a'r Hybarah William Powell, Penfro. Nid oes neb a'i hedwyn dybia am foment ei fod yn ymadael o'r Cyfundeb ond am resymau y gall ei farn a'i gydwybod yn ddi- rwystr eu cymeradwyo. Goddefwch i mi, Mr. _f"7:;C7: Golygydd, adgofio eich darllenwyr fod yr ensyniad a awgrymir yn y frawddeg uchod wedi ei wneyd gan lawer pan ymadawodd Dr. Jowett 0 Birmingham gan gefnu ar yr Annibynwyr ac ymuno a'r Eglwys Bres- byteraidd yn New York. Y mae geiriau anfrawdol yn bethau cyffredin pan ymedy gwr a'i gyfundeb; ond nid ydynt oherwydd hyny i'w cymeradwyo. Onid yw hi bellach yn amser i ni gydnabod hawl pob un i ymuno a'r Cyfundeb v cred y bydd yn fwy- af dedwydd a defnyddiol ynddo? Ac oni ddylid gweyd hyny heb briodoli gwael amcanion? Gall y Parch. B. Scott Williams deimlo yn eithaf tawel fod ei hen gyfeillion yn Nghymru yn ei barchu heddyw gymaint ag erioed, ac yn dymuno iddo fendith Duw ar y cam pwysig hwn yn ei haiie's. Pwllheli. JOHN HUGHES.