Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

T"'_."-' NEWYDDION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

T" NEWYDDION. Cynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol Bryntirion, Llanilltyd Faerdref, y Sul a'r Llun, Mehefin 7, 8. Y gweision oeddynt y Parchn. James Llewelyn, Pen. ybont, a W. P, Jones, M.A., Treorci. Y Parchn. Phillip Jones, Llandilo, a T H. Morgan, Garth, -inlaeste- fu yn gwasanaethu yn ngwyl flyn- yddol Noddfa, Mountain Ash, eleni. Cafwyd oed- faon nas gellid eu gwell. Daeth eglwvs fechan yn Caeharris, Dowlais, allan yn ganmoladwy iawn yn Arholiad Sirol Dwyrain Morganwg. Derbyniodd 11 o'r plant Dystysgrifau yn yr Arholiad, ac yn eu plith enillodd Maggie Lilian Evans (merch Mr. Roderick Evans) wobr yn y Dosbarth dan 13 oed. Mawr fu .ymdrech Mr. John Evans a Miss Annie Owens gyda'r plant. Trefnodd Methodistiaid Mawddwy i gael egwyl o adloniant prydnawn Gwener, Mehefin 19. Caed hin hyfryd, a chaniatad i fyned i grounds Plasyndinas. Wedi te da dan y coed, treuliwyd pnawn difyr i ganu, cystadlu a chwareu, hen ac ieuainc yn ymuno i anghofio eu gofidiau am v tro. Cyn ymwahanu deuwyd a'r Camera i ,gael llun group i gofio am y diwrnod. Yr hwyr, yn y capel, caed cyngherdd plant, dan lywyddiaeth Mr. J. Parry. Aeth plant y Gobeithlu drwy raglen ddifyr a chwaethus, dethol- iad o'u gwaith yn ystod tymor y gauaf. Gofelid am danynt gan y Parch. R. W. Jones (gweinidog), Mr. Geo. Price. Miss Elsie M. Parry. Dyma ail ymwel- iad y plant hyn a'r Dinas, a da fydd genym eu gwel- ed yn dod eto, Teimlir yn ddiolchgar iawn i'r plant am ddod, ac i'r cyfeillion fu yn eu parotoi mor dda. Gyflwynwyd elw y te a'r concert at yr achos yn y Dinas. Dydd Sabbath, Mehefin 21ain cyfisol, ymwelwyd ag Ysgol Sul Gosen, Treorchy, gan Miss Williams, y genhades 0 Fryniau Cassia. Er na chyhoeddwyd ei hymweliad yn flaenorol, cafodd groesaw cynes a gwrandawiad astud. Traddododd y genhades an- erchiad pwrpasol mewn modd deheuig a dyddorol iawn i'r plant, gan hoelio eu sylw yn gyffredinol am haner awr. Yna, ar ol yr anerchiad, rhanwyd tyst- ysgrifau enillwyd gan aelodau yr Ysgol yn y meus- ydd llafur. Heblaw oddeutu haner cant aeth yn ilwyddianus drwy arholiad v dosbarth, aeth 103 yn llwyddianus drwy yr arholiad sirol. Rhanwyd y dystysgrifau am ddysgu allan feusydd llafur y sir. Gosodai dau beth fri ar raniad y tystysgrifau eleni, sef fod Mr. David Jones yn uwchaf yn y sir yn yr arholiad i rai dros 21 oed, ac hefyd fod eglwys Gosen yn sefyll yn uchaf yn y sir yn nifer y rhai aeth yn llwyddianu drwy yr arholiad sirol. Rhanwyd y tystysgrifau gan y gweinidog y Parch. W. M. Davies, B.A., a chafwyd anerchiadau ar yr achlysur gan yr arolygwyr, Mri. Wm. Richards, Enoch Hopkins, a John Morris. Rhifai yr ysgol a'i changen am y dydd 386. Gellir ychwanegu i'r oil ysgrifenu eu hatebion yn yr arholiad yn yr iaith Gymraeg.

GOGINAN.

Family Notices

CYDNABOD CYDYM D EIM LA D.

Advertising