Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
LLADRATA PREGETHAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLADRATA PREGETHAU. MAE'N bryd i ni ddeffroi a chodi ein lief, gwregysu ein lwynali, ac ymarfogi i ddadlenu twyll y fasnach felldigaid hon sydd yn cael ei dwyn ymlaen yn ei le sanctaidd Ef. Bu dyrnu arni dro ar ol tro, eto, ffyna yn ein gfwlad; mwy na hyny, ymddengys fel pe wedi cael ail fedydd, a bygythia fwrw canghenau i bob cyfeiriad, ac nid heb sail, darogenir ei bod yn fwy llwyddianus heddyw'r dydd nag erioed. Pan oedd llyfrau'n ddrudion, llenyddiaeth yn brin, a disgyblaeth feddyliol yn anaddfed, gallesid taenu cysgod o esgus dros fenthyca am byth gynyrchion pregethwrol eraill. Ond mal y dywedir, yr oes oleu hon, pan mae addysg wedi esgyn i'w gorsedd, pob math o ysgolion yn britho'r wlad, cyfoeth llenydd- iaeth wrth dd'rysau pawb, nid oes rithyn o reswm dros ddwyn y drafnidiaeth hon o'r fangre y pregethir gonestrwydd. A ellir, tybed, tadogi cynydd y fasnach hon i ddadblygiad addysg yn ein gwladl Cwynir weithiau, ein bod yn boenus o debyg i'n gilydd, ac fod dysgeidiaeth yn difa gwreidd- ioldeb. Ond cymeryd mantais anhegf ar un o fendithion ein hoes ydyw priodoli bryntwaith fel hyn iddi. Onid oedd Dr. Edwards, Princi- pal Edwards, a David Charles Davies, wedi yfed yn ehelaeth o ffynhonau dysg" a diwyll- iant; ond pwy erioed a g-add achlysur i'w cy- huddo o len-ladrad ? Cyfrwng i ddyn gael Rafael arno ei hunan ydyw gwir addysg, a dWYIll allan o'i drysorfa bethau newydd a hen. Eto rhaid cydnabod, y dygir cwyn yn erbyn nifer sydd wedi cael amaethiad athrofaol, yn llusgo llythyrenau wrth eu henwau, ac yn tor- heulo yn myd dysg, eu bod yn euog o'r ynfyd- waith hwn. Cofier nad ydym yn beio y Method- istiaid yn anad un arall ar yr un pryd, y mae yn llai esgusodol yn ein mysg ni. Yn un peth mae gan bregrethwyr yr Hen Gorff fwy o amser i nyddu pregeth o'u gwe eu hunain nag eiddo pregtethwyr enwadau eraill. Unwaith y mis, a phrin hyny, y trethir ein gweinidogion ni i osod wrth eu gilydd ddwy bregeth, tra y mae brodyr y Ilwythau eraill adref bron bob Sul. Nid yohwaith ar foreu Sul gartref, ar ol ffwdan a thrybestod yr wythnos flaenorol, y preg-ethir pregeth gwr arall; ond syrthir gan- waith i'r un bai, a marchog"ir drwy'r wlad, a chyhoeddir gyda rhyw hyfdra anesgusodol ar uchel-wyliau y bobl eiddo eraill o'r testyn i'r Amen. Turia hyn dan seiliau moesoldeb, ac nid rhyfedd fod y weinidogaeth mor brenaidd ac aneffeithiol mewn ami i fan. Pwy ddiwrnod, y pregethwyd mewn Sasiwn, ar destyn tarawgar ganefengylydd poblog- aidd, fras aralleiriad o eiddo gweinidog arall. Clywais fod bug-ail ieuanc o'r Gogledd wedi ei glwyfo pan glybu hyn, ,g"an i'r gwr hwnw glywed ei breg-eth ef rai troion, pryd na chlybu ef wr y De ar y testyn gymaint ag un- waith. Onid ydyw hyn yn bradychu urddas, yn tueddu i gynyrchu chwilfrydedd afiach yn y cynulleidfaoedd, ac yn demtasiwn i greu drwgdeimlad rhwng gweinidogion a'u gilydd. Wrth gtodi testyn ar amgylchiad neillduol, dy- wedodd y diweddar Barch. W. James, Aber- dar, "angenrhaid a osodwyd arnaf i breg- ethu y bregeth hon, oblegid clywaf fod brawd arall yn ei phregethu drwy'r ixlad,-ond fy mhregeth i ydyw." Y fath brofedig'aeth i wr o dynerwch teimlad Mr. James ydoedd cael ei osod yn y fath brofedigaeth i amddiffyn ei hun. Onid ydyw yn demtasiwn, os bydd gan ddyn bregeth well na'i gilydd, ar destyn tlws a newydd, ei rhoddi naill du os bydd rhai o'r lladratawyr yn bresenol. Ond ychydig sydd yn euago ddwyn pregeth dyn byw, rhai sydd yn ngafaelion newyn mawr; ond dywedir fod defnyddio eiddo pregethwyr sydd wedi tewi, ac yn llefaru eto yn eu cyfrolau yn dra lliosog. Yn awr, y mae hwn yn drosedd i'w gosbi, ac yn arferiad y dylid rhoddi pen arni. Yn un peth y mae hyn yn gam a phregfeth- wyr eraill. Y dosbarth hwnw sydd yn llafurio yn galed, yn ceisio meddwl yn ddwys, ac yn well ganddynt foddloni ar stwff cyffredin, a bod yn weddol ddison am danynt na defnyddio cynyrchion dynion eraill nad ydynt deilwng i ddatod carai eu hesgidiau. Cyrhaedda rhai safle uchel, a hyny heb gostio dim iddynt. Hefyd, dinystria hyn bersonoliaeth y dyn ei hun. Mantais hyd yn nod i'r gwirionedd ydyw yr amrywiaeth sydd rhwng ysgrifenwyr y Beibl aru gilydd, manteisia: yr Efengyl ar yr un gwahaniaeth sydd rhwng g*weinidogion. Dyna ydyw pregethu, meddai Brooks, gwir- ionedd yn pasio drwy bersonoliaeth. Ofnir nad ydyw llawer pregethwr, ond pibell wedi ei Z, chysylltu wrtli ffynon arall. Nid y_w wedi bod mewn gwewyr am genadwri, nid yw wedi cyf- ranogi o neillduolion gwreiddiol ei gvmeriad, ac y mae yn amddifad hollol o stamp ei natur ef ei hun, yr hyn sydd yn rhoddi siidd ymhob pregeth, a minar ei chenadwri. Nid yw y dosbarth yma byth yn meddu yr elfen o gyn- ydd, ac mae y syniad o anrhydedd yn gwhl estronol iddynt. Y maent fel yr eiddew yn chwilio am rhyw bren i sugno ei fywyd a dringo ar ei bwys i gyfeiriad sylw a chymerad- wyaeth dynion. Y diwedd yw, wrth hir lad- rata myned yn rhy eiddil a lliprinaidd i gyn- yrchu dim eu hunain. Wrth gwrs, nid oes neb nad yw yn dibynu am gynorthwy, goleuni, a chyfarwyddyd. I hyny y cyhoeddir llyfrau, ac y telir yn uchel am danynt, ond dylai pob pregethwr fel y pren droi yr holl adnoddau sydd o fewn ei gyrhaedd yn fywyd iddo ei hun. Yr hyn a gondemniwn ydyw defnyddio eiddo dyn arall yn un clwt, gan ffug honi ei fod yn sefyll ar ei wadnau ei hun. Cyfyd y drwg- hwn o segurdod meddwl, a diffyg syniad am hawliau y gynulleidfa, a dibrisdod am ddvlan- wad y gwirionedd. Prin y tybiwn fod yn bosibl i unrhyw ddyn o ddifrifwch ysbryd, a phwysigrwydd ei gyfrifoldeb i Dduw a dynion, ddefnyddio y pulpud i ddibenion mor wael a drygionus. Bu ami i leidr wyneb galed yn g-wneyd yn rhy hyf ar eicido, Robertson, Mac- laren, ac yn ddiweddaf oil Emrys ap Iwan. Beth hefyd am y People's Bible, a Wilkinson, ac eraill. Cymerer y rhybudd, mae gwylwyr wedi myned allan, a rhaid cael allan y gwahan- iaeth rhwng y cnaf a'r diniwed. Mae ami i gais personol wedi ei wneyd at ddiwygio y beius, y perygl ydyw y bydd yn rhaid wrth fesurau llymach. MIN-Y-MYNYDD.
YR OCHR ARALL. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR OCHR ARALL. GAN SAMOTH. LLONGYFARCHIAD calon i'r CYMRO ar ei ym- ddanghosiad amserol ym myd llenyddiaeth ein gwlad! Eiddunwn iddo fywyd, iechyd, a hir çdyddiau i wasanaethu ei genhedlaeth yn ffyddlon a didderbyn-wyneb. Boed ei lais yn glir, ei gam yn gadarn, a'i genhadaeth yn fendithiol. Er nad yw ei enw yn arwyddo plaid na sect, eto hyderwn y rhydd sylw ar- benig i'r enwad cryfaf, a'r enwad mwyaf Cymreig' yng Nghymru, gan beri i'r enwad hwnnw fod, ymhob ystyr, yn rhagorach nag erioed. "Nid da lie gellir gwell." -3- Bellach, y mae ei ragflaenydd, y Goleuad, ar gael ei godi i'r Cabinet, a'i wneud yn Gang- hellor y Trysorlys Methodistaidd. 0. hyn allan nid llawer ellir disgwyl ganddo ef heb- law bod yn organ swyddogol y Corff. Bydd swydd yn sicr o'i wneud yn dawedog ac un- ochrog fel llawer un o'i flaen, a bydd y werin Fethodistaidd yng Nghymru a Lloegr o'i ran ef yn lied ddilafar. Felly llawenydd nid bychan yw gweled Y CYMRO yn dod i lanw'r bwlch pwysig hwn, ac i fod yn beth atalfa rhag' i'r Corff fyned yn hollol unbenaethol. ~§- Fel rheol, y mae dau du i bob dalen, ac o dro i dro yn y golofn hon ceisir troi cwrr y dail er mwyn gweled beth sydd ar yr ochr arall; neu i ddweyd hyd y gellir beth ddylai fod yn ol barn y werin yn lied gyffredinol. Anfonir adroddiadau pwyllgorau, &c., i'r wasg wedi eu hysgrifenu ar un tu i'r ddalen yn unig yn ol deddf yr argraffydd. Ac yn ami iawn bydd gweithrediadau pwyllgorau swyddogol lawn mor unochrog a hynny. Ni roddir cyfle i'r mwyafrif mawr weled dim ond yr ochr honno, a gwae y neb a geisia weled. Gwir yw y gair hwn am bob cymdeithas pan y cyfyngir eu gweithrediadau i'r cylch swydd- ogol yn unig, a phan y ceir organ swyddogol at eu gwasanaeth y mac perygl iddynt fynd yn offeiriadol ac yn babyddol heb yn wybod. Dyna hanes. cymdeithasau g'wladol, llcnydd- ol, a chrefyddol, yn y gorffennol, a dyna fydd eu tuedd yn y dyfodol hefyd. Yn y blynydd- oedd diweddaf gwelwyd hyn yn amlwg mewn y rhai o brif lysoedd y Cyfundeb. Pan y beiddiai un o'r bobl ymholi gwelid magnelau cryfa'r Corff yn ei ffroenio'n union, ac os na cheid llawer o fwledau ceid digon o dwrw a mwg i ddistewi ac i gladdu yr ymholwr druan mewn ofn a dychryn. Nid oedd peth felly ond yn magu anfoddlonrwydd mewn dosbarth oedd yn chwanog am ryddid barn a llafar. Purion peth, gan hynny, fydd troi'r dail yn hamddenol drwy'r wasg, ac edrych yn dawel a diofn ar yr ochr arall. Bydd hynny'n rhwym o fod yn iechyd cymdeithasol, ac yn gyfle i awyro ambell gongl grefyddol sydd yn dihoeni yng nghysgod offeiriadaeth fwll er's amser hir. Hyderwn y ceir rhyddid i wneud peth felly yn Y CYMRO, ac y caniateir i ninnau yn y golofn hon edrych weithiau ar "yr ochr arall i ambell fater heb na gwg na dieter. Trwy wneud peth o'r fath hwyrach y gallwn gydgerdded yn well, o leiaf byddwn yn ddi- ogelach ar ol cael cipolwg' ar y clawdd o boptu, ac nid gwaeth gwir er ei chwilio gan nad pwy fydd y chwilotwr. Yn ein dyddiau ni gwaeddir ar ben bob heol am Undeb, a gellir tybio fod y waedd yn un- llais. Gofynir am uno'r enwadau, ac am uno'r casgliadau; ac yn y Gogledd pwysir am gyfraniadau at Goleg y Bala, &c. Yn y cylchoedd cyhoeddus ni chlywir ond un ochr yn unig, ond na thybier wrth hynny nad oes ochr arall yn bod pe ceid rhyddid i'w dangos. Efallai fod cyfle felly wedi dyfod o'r diwead, ac y bydd pawb o weld yr ochr arall yn teimlo'n well, ac hyd yn oed yn teimlo'n haws dygymod a'r ochr swyddogol nag erioed o'r blaen. Teg yw egluro nad oes gan Samoth yr un fwyell i'w hogl, ac nad oes ganddo'n bersonol yr un gwyn yn erbyn na swyddog na llys, yn grefyddol nac yn wladol. Bydd hyn yn fantais iddo allu dal y glorian yn weddol wastad, neu ddangos, beth bynnag, fod deu- pen yn perthyn i bob clorian cvwir.
PERSONOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PERSONOL. Llywydd dewisedig Cyfarfod Misol Sir Fflint am y chwe mis nesaf ydyw Mr. Richard Jones ("Yr Hen Flaenor "). Mae y Inarch. H. P. Roberts, B.A., Coed- poeth, wedi derbyn galwad o eglwys Seisnig Beaumaris, a bwriada ymsefydlu ynci yn nechreu Gorphenaf. -4-- Bvdd yn ofid gan gylch eang glywed am afiechyd difrifol Dr. Bebb, prifathraw Coleg Llanbedr. Gwr caredig a pharod ei gym- wynas yw Dr. Bebb, a chyda'r pethau pwys- icaf nis gwyr ddim am raniadau plaid nac enwad. Miae y Parch. D. Eurof Walters, B.A., B.D., newydd roi i fyny y swydd o gynrych- iolydd Cymdeithas y Beiblau yn Neheudir Cvmru a Sir Fynwy ar ol ei llenwi am bedair bfynedd. Dteallaf nad yw Mr. Walters yn cael iechyd da er pan y mae wedi ymgymeryd a'r gwaith hwn. -+- Teimla eglwys Salem, Pencoed, yn bur hyderus y bydd i'r Parch. R. C. Lewis, B.A., Aberafon, gydsynio a'r alwad unol a thaer i ddyfod atynt i'w bugeilio. Sicr yw mai nid o'u bodd y gwna pobl bresenol ei ofal ollwng eu gafael ynddo, ac os yr ymedy, fe edy fwlch mawr ar ei 01, a theimlir hiraeth dwys oblegid ei golli. Hwyrach na chlywodd neb o'r darllenwyr am Mr. Evan Thomas, glo fasnachydd, Bala. Gwr diddan, hael, diwyd ydoedd, a bu farw fel y bu byw. Oind yr oedd wedi casglu tipyn o arian, ac yn ei ewyllys gadawodd 200p. i eglwys Capel Mawr y Bala, a mil o bunau dan ymddiriedolaeth y Cyfarfod Misol i ddeg o egiwysi bach y cylch. Cofiodd, hefyd, am dlodion y dref a'i berthynasau.
CHWAETH
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
hwaeth ? (a) Y rhai na wyddant am eithaf- ion ocrni na gwres, ond sydd yn byw mewn hinsoddau tymherus; (b) pobl glannau'r mor- oedd; (c) preswylwyr y gwledydd lie y mae amlder afonydd; (d) y cenhedloedd livi-iny J mae eu cyfannedd mewn broydd goludog o amrywiaeth golygfaoedd--mynydd, y dyffryn, doldir, coetir, mor, afon, rhaeadr, &c., &c. (Fiv barhau). .J.u-