Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
EISIEU £ 500 ar Log o 3^ 0/0 i Gapel y Cydweli, Sir Gaerfyrddin. Ymofyner a Mr. A. Harris, i Croft Terrace, Kidwelly, Camarthen.
CYFARFODYDD MISOL. .-.--...--------
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ffyddlondeb, addfwynder, a charedigrwydd. Yr oedd yn gyiaill ffyddlon. Bu yn ffyddlon i foddion S:as, ac yn arbenig i'r seiat ganol yr wj'thnos. ydai yn dvner wrth y gwan, ac yn garedig wrth y tlawd. Cyfranai yn helaeth tuag at gynal yr achos mawr. "Bu yn ffyddlon yn yr holl dy, megis .gNvas," ac yn fab tangnefedd yn ngwir ystyr y gair. Teimlir colled fawr ar ei ol. Penderfynwyd anfon cydymdeimlad y C.M. a Mrs. Edward Jones, Park Shop, Carrog, wedi colli ei phriod, Mr. J. 0. Jones wedi colli ei dad, a'r Parch. J. O. Jones., B.A., Bala, wedi colli ei fain, a Mr. Robert Evans, Pare, wedi colli brawd, a Mr. David Hughes, Bryneglwys, wedi colli chwaer, a Mr. Robert Evans, Ty Isa', Glyndyfrdwy. wedi colli ei briod, ac a Mr. Robert Jones, Rhosygwaliau, mewn afiechyd. Derbyniwyd llythyrau oddiwrth Mr. E. W. Thomas. Bryneglwys, Mr. Robert Hughes, Talybont, Mr. David Davies, Llangwm, Mr. Thomas Ellis, Llanfihangel, yn cyd- nabod cydymdeimlad y C.M. a hwy mewn profedi-g- aeth; oddiwrth Mr. David Jones, y Bala, yn cyd- nabod cydymdeimlad y C.M. ag ef mewn afiechyd a chydnabyddwyd cydymdeimlad y C.M. a Mr. Simon Williams, Corwen. gan y Parch. John Wil- liams. Derbyniwyd llythyrau oddiwrth y Prif- weinidog ,Mr. H. Haydn Jones, A.S., Syr J. Herbert Roberts, A.S., a Mr. Ellis Jones Griffith, A.S.. yn cydnabod derbyniad penderfyniad y C.M. ar Fesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad; oddiwrth Mr. D. T. Davies, Prif Brisiwr Cymru, dan ddeddf y Cyllid igio, yn cydnabod derbyniad rhestr o'r capelau ac enwau aelodau y Pwyllgor a benodwyd i brisio eiddo y Cyfundeb o fewn cylch y C.M.; oddiwrth y Parch. R. R. Williams, M.A.. Towyn, yn hysbysu ei fod yn derbyn yr alwad i fugeilio eglwys y Bala, a'i fod yn gobeithio dechreu ar ei weinidogaeth yno yn nechreu mis Medi. Cafwyd profiadau y blaenor- iaid, a hanes yr achos yn y lie, o dan arweiniad y Parch. J. Henlyn Owen. Ar ddechreu yr awr hon teimlem ein bod wedi dyfod i lecyn glas y C.M. Dywedai y blaenoriaid eu profiadau yn rhydd a than fesur helaeth o eneiniad. Ceir fod gwedd lewyrch. us ar yr achos yn Cefnddwysarn. Nid oes dyled ar yr eiddo. Mynychir pob moddion o ras ar y Sab- bath a nosweithiau gwaith gyda chysondeb. Nid oes ond ychydig o'r gwrandawyr yn aros heb fod yn aelodau. Bydd y tri blaenor bob amser yn bres- enol yn seiat ganol yr wythnos os na fydd rhywbeth anghyffredin yn atal. Yr oedd yn amlwg fod y fath gariad brawdol yn y swyddogaeth, ag sydd yn gyf- lawniad "o gyngor Paul," gan dybied eich gilydd yn well na chwi eich hunain." Cafwyd gair gan y gweinidog y Parch. J. O. Jones. Cyfeiriodd yntau at y cydweithrediad hapus sydd yn yr eglwys, ffydd- londeb yr aelodau. a pharodrwydd v bobl ieuainc i wneyd eu goreu. Rhoddir gwahoddiad cynes i'r C.M. nesaf i Gapel Celyn, ddyddiau Mercher a Iau, Awst 19, 20. Dechreuir am 10.30. Mater ymdrin- iaeth, Crefydd y i5fed Salm. I agor Mr. Evan Jones, Moeladda. I wrando Hanes yr Achos, Mr. David Hughes, Bryneglwys. Mater y Seiat. Yr angenrheidrwydd am Adfywiad Ysbrydol gyda chref. Mdj" seiliedig ar Phillipiaid i. 9-II. Dewiswyd: Yfc) Y Parch. J. T. Alun Jones, Bala, yn Ysgrifen- ydd, a Mr. J. W. Roberts, U.II., Bala. yn Drysor- ydd, a'r Parch. Owen Ellis yn aelod ychwanegol ar Bwyllgor Trysorfa y Gweinidogion am y tair blyn. edd nesaf. (b) Y Parch. J. Foulkes Ellis, Gwyddel- wern, yn Ysgrifenydd, a Mr. David Jones, y Bala, yn Drysorydd y Cenhadaethau am y tair blynedd nesaf. Enwyd y Trysoryddion a'r Ysgrifenyddion i gymeryd gofal y gwahanol gasgliadau. Terfynwyd trwy weddi gan Mr. John Roberts, Celyn. Dechreu- wyd cyfarfod y prydnawn gan Proff. David Phillips, M.A., Bala. Amlygodd y Llywydd lawenydd y C.M. o weled y Parch. J. Alun Lloyd, Mochdre, yn bres- enol yn ein plith. Gwnaed sylwadau ar yr Ystadeg- au gan Proff. Richard Morris. M.A., B.D., Bala, a Mr. D. R. Thomas, Rhosygwaliau Bu y ddau yn ffyddlon i edrych i mewn i'w holl gynwys, a dywed- asant lawer o bethau ag y mae yn rhaid i ni eu cym- eryd i ystyriaeth yn y dyfodol. Ar gynygiad y Parch. J. Henlyn Owen a chefnogiad Proff. David Phillips, M.A., diolchwyd yn gynes i'r ddau am eu gwasanaeth gwerthfawr. Rhoddwyd rhybudd o gyn- ygiad (i) Gan y Parch. Edward Edwards, Carrog: Ein bod yn dewis personau i holl swyddau y C.M. trwy bleidlais ddirgel." (2) Gan Proff. Richard Morris, M.A., B.D.. Fod y C.M. yn penodi pwyll- gor bychan o ddau neu dri o frodyr i gynorthwyo yr ystadegydd yn nygiad allan yr ystadegau; fod y Pwyllgor hwn i adolygu (a) Yr adroddiadau ysgrif- enedig o'r eglwysi; (b) Yr Ystadegau fel yr anfonir hwynt gan yr ystadegydd i'r wasg (c) Y prawfleni o'r wasg. (3) Gan Mr. J. O. Jones, Pare, Ein bod yn gwneyd i ffwrdd a'r Pwyllgor Enwi o hyn allan." Treuliwyd rhan o gyfarfod y prydnawn i ddathlu dau can' mlwyddiant Howell Harris. Agorwyd gan y Parch. H. A. Jones, Cynwyd, trwy ddarllen papyr Ilafurfawr, coeth. a da. Dilynwyd gyda chyfeiriad arbenig at gyfnod y gweithio i7i<i75I> Sa^ M.r- Williams, Cynfal; a chyda chyfeiriad arbenig at gyfnod y neillduo 1751-1773, gan y Parch. Owen Ellis. Ar gynygiad y Parch. J. O. Jones, Llandder. fel a chefnogiad Mr. John Jones, Llandrillo. di- olchwyd i'r tri am roddi i ni hanes y Diwygiwr mewn dull clir, dyddorol, ac adeiladol. Gan nad oedd y Parch. Tom Evans, M.A., B.D., yn bresenol i roddi ei gynygiad gerbron. sef, Fod adroddiad Pwyllgor y C M. i'w roddi vn nghyfarfod y boreu ac nid yn nghyfarfod y prydnawn, fel y mae," pasiwyd i symud ymlaen at y mater nesaf. Hysbysodd y cenhadon fu yn ymweled ag eglwys y Bala, sef y Parch. Owen Ellis a Mr. R. E. Roberts, Llanuwchllyn, fod Dr. j W. R. Griffith wedi derbyn cymeradwyaeth yr eglwys f fel ymgeisydd am y weinidogaeth, a'u bod hwythau i wedi eu boddloni yn ei atebion. Rhoddwyd caniat- i ad iddo i sefyll arholiad y Gymdeithasfa ar yr ym. t ceiswyr am y weinidogaeth y dydd Mawrth olaf yn 9 0 Gorffenaf nesaf. Penodwyd Mr. Robert Evans, Bala. a'r ysgrifenydd i ofalu am yr arholiad. Hys- bysodd y cenhadon fu yn Dinmael, sef y Parch. J. R. Jones, a Mr. David Davies, 'Llangwm, fod yr eg- lwys yno wedi dewis Mr. David Ellis Davies, Shop, a Mr. John Rowlands, Ffridd Fawr, yn flaenoriaid. Mewn atebiad i lythyr Pwyllgor y Goleuad.' pen- derfynwyd Nad ydym fel C.M. yn ymgymeryd a dosbarthu Y Goleuad,' ar hyn o bryd." (Pasiwyd hefyd i anfon yr adroddiad y tro hwn, i Ddolgellau yn ogystal ag i Gaernarfon. Cynygiwyd gan Mr. Robert Evans, Cefnddwysarn, a chefnogwyd gan Mr. J. Jones Edwards, Llanuwchllyn, fod y personau canlynol yn cael eu penodi yn ymddiriedolwyr ar yr eiddo yn Glyngower:—Dros yr eglwys, Mr. John Roberts, Pantyronen. Mr. Morris Edward Peters, Rhydwen, Mr. Morris Roberts, Bryncocyn, a Mr. Robert Jones, Tyisa. Dros y C.M., y Parch. Owen Ellis, Llanuwchllyn, Parch. Robert Davies, Cwm, Mr. O. M. Edwards, M.A., Llanuwchllyn, Mr. R. T. Vaughan, Llanfor, Mr. E. T. Roberts, Llwynein. ion, a Mr. J. W. Roberts, U.H., Bala. Rhoddodd eglwys Llandderfel rybudd y bydd yn gofyn i'r C.M. nesaf benodi ymddiriedolwyr ar Gapel y Caletwr. Awgrymwyd y personau canlynol:—Dros yr eglwys Parch. J. O. Jones, Islwyn. Mr. Charles Owen, Plasisa, Mr. John Edwards, Hafodfawr, Mr. Owen Parry Owen, Tyddynbarwn, Mr. Owen Francis Wil- liams, Caehowell, Mr. John Hughes, Hafottywen. Dros y C.M., Proff. Richard Morris, M.A., B.D., y Coleg, Parch. David Thomas, Llandrillo, Mr. Hugh Meredith Jones, Hengar Isa, Glan'rafon, Mr. David R. Thomas, Cartref, Rhosygwaliau, Mr. William Williams. Brynpader, Llanfor. Darllenwyd rhestr y casgliadau. Hysbyswyd fod y symiau canlynol wedi eu derbyn :—Yr Ysbyttai, £ 2 17s. 6^c. yr Achos Dirwestol 18s. 2g. y Drysorfa Gynorthwyol £23 14S ic. Capel Wolverhampton ^10 8s. iiic. y Gronfa Fenthyciol £ 5 gs. l-tC. Cafwyd gair gan y Parch. Dd. Thomas ar gasgliad y Gronfa Fenthyc- iol, ac ar y Casgliad at Gapel Wolverhampton, (I) Dymunir i'r eglwysi geisio chwyddo'r casgliad eleni at y Gronfa Fenthyciol ai gwblhau yn bryd- lon. (2) Taer erfynir i'r eglwysi sydd a benthyg ganddynt dalu yr ad-daliadau erbyn C.M. Medi. (3) Os dyntuna unrhyw eglwys wneyd cais am fenth- yg o'r gronfa eleni anfoner v cais ar y Daflen. a geir gan yr Ysgrifenydd Sirol, erbyn C.M. Awst neu Medi. (I) Dymunir i'r eglwys orffen y casgliad at Gapel Wolverhampton mor fuan ag y bydd modd. Erfynir hefyd iddynt ddefnyddio'r cardiau casglu a anfonwyd. (2) Apelir am gynoithwy sylweddol re tuag at y Bazaar a gynhelir yn yr Hydref. Er cyt- leusdra i'r eglwysi addawa Mrs. J. W. Roberts, Berwynfa, Bala, dderbyn nwyddau dros ddosbarth Penllyn, a Mrs. H. O. Richard, Dolafon, Corwen, dros Edeyrnion a Cherrigydruidion. Penodwyd y Parch. J. O. Jones, Llandderfel, a Mr. Robert Evans, Cefnddwysarn, i fyned i Gwyddelwern i gynorthwyo yr eglwys i ddewis rhagor o swyddogion. Cafwyd adroddiad o'r Gymanfa Gyffredinol gan y Parch. J. A. Jones a Mr. R. P. Roberts. Dolhendre, ac o weithrediadau Cymdeithasfa Llanrwst gan y Parch. J. O. Jones, Llandderfel, a Mr. Edward Roberts, Llanuwchllyn. Anogwyd yr eglwysi i gymeryd sylw neilduol o'r genadwri ynglyn a Chadwraeth y Sab- bath. Cafwyd adroddiad Pwyllgor y gwrthgiliadau ar ymadawiad heb docynau gan Mr. R. T. Vaughan. Derbyniwyd yr adroddiad, a phenderfynwyd dwyn y mater hwn i sylw am ddwy flynedd eto yn olynol. Cafwyd adroddiad Pwyllgor y Drysorfa Gynorthwyol gan y Parch. Owen Ellis. Derbyniwyd yr adrodd- iad yn tystio fod y ceisiadau am gymorth yn rheol. aidd, ac arwyddwyd taflen y ceisiadau gan y Llyw- ydd. Cafwyd adroddiad Pwyllgor y Meddianau gan Mr. E. T. Roberts, Llwyneinion. Hysbyswyd fod gweithredoedd wedi eu gwneyd ar y tir yn y Calet- twr, a'u bod wedi eu tynu allan ar ffurf rhai y Cyfundeb fod y brodyr yn y Calettwr wedi dyfod i dde,alltwriaeth a Syr H. B. Robertson Pale yng- hylch cyfnewidiadau mewn perthynas i'r tir, ac hefyd wedi cael sicrwydd yn nghylch Right of Road.' Cyflwynwyd i'r Pwyllgor gynlluniau o dy newydd i'r gweinidog a fwriedir ei adeiladu yn y Gro. Cadarnhawyd yr adroddiad. a rhoddwyd can- iatad i eglwys v Gro symud ymlaen gyda'r gwaith. Darllenwyd adroddiad Pwyllgor y Gymanfa Ganu gan Mr. J. Llewelyn Jones, Llandrillo. Derbyniwyd yr adroddiad'i fod dan ystyriaeth hyd y C.M. nesaf. (I) Dewiswyd Mr. T. Llewelyn Jones yn ysgrifenydd v Pwyllgor. (2) Cynygiodd y Llywydd, y Parch. Tom Evans, M.A., B.D., y rheolau canlynol mewn perthynas i'r Gymanfa Fawr: (a) Fod y Gymanfa Fawr i'w chynal bob dwy flynedd yn olynol yn y Bala a Chorwen. (b) Fod y Pwyllgor hwn yn gofyn i'r dosbarth yn yr hwn y cynhelir y Gymanfa i dalu £ 2 tuag at dreuliau y Pwyllgor. Cyfansoddiad y Pwyllgor (3) Fod aelodau y Pwyllgor i'w dewis am ddwy flynedd. (4) Cyfansoddiad y Pwyllgor i fod fel y canlyn (a) Ysgrifenyddion Cyfarfod Ysgol Pen- llyn a Cherrigydruidion ac Ysgrifenydd Pwyllgor y Gymanfa Ganu Edeyrnion yn rhinwedd ei swydd. (b) Y Cyfarfod Ysgol i ddewis pedwar, dau bob blwyddyn, a phwyllgor Edeyrnion i ddewis pedwar, dau bob blwyddyn. (c) Y C.M. i ddewis dau (o bob dosbarth) un bob blwyddyn. (d) Y Pwyllgor Blyn- yddol i gyfarfod yr. wythnos olaf o Fawrth i ddewis tonau, &c. (5) Llywydd y Pwyllgor i'w ddewis bob dwy flynedd, ac i barhau yn aelod o'r Pwyllgor fel cyn-lywydd am ddwy flynedd. Y Llywydd i'w ddewis yn y Pwyllgor cyntaf a gynhelir ar ol y Gym- anfa Fawr. Nid vw y Llywydd i'w ail ethol. (6) Yr Ysgrifenydd i'w ddewis bob pedair blynedd, ac vn ail etholadwy. (7) Y Trysorydd i barhau yn ei swydd. (8) Fod y Trysorydd i gyflwyno mantolen bob blwyddyn i'r pwyllgor hwn. (9) Fod yr Ysgnf. enydd i anfon hysbysiad o leiaf wythnos cyn y cyf- erfydd y Pwyllgor. (10) Y Llywydd, yr Ysgrifenydd, a dau o aelodau y Pwyllgor (i'w dewis) i gyfarfod i ddewis tonau &c., yn lie y rhai ddewiswyd gan y Pwyllgor hwn, nas gellir eu cael i'r Rhaglen. (11) -w- O'r 16 o donau ar y Rhaglen, fod naw, tri o bob dosbarth yn cael eu derbyn gan y Pwyllgor ar gym- eradwyaeth Pwyllgorau y Dosbarth, a'r saith eraill i'w dewis gan y Pwyllgor, y gweddill i'w dewis o'r rhestr neu o donau heb fod ar y rhestr fod copi o donau cynygiedig nad ydynt yn y Llyfr Tonau i'w dwyn i'r Pwyllgor. (12) Fod y Salm-donau a'r Anthemau i'w dewis gan (13) Fod Tonau'r Plant i'w dewis gan y dosbarthiadau yn eu tro (Ed- eyrnion eleni). (14) Pasiwyd yn unfrydol fod Proff. Tom Evans i barhau yn Llywydd am y ddwy flynedd ddyfodol. (15) Penderfynwyd fod pob arian dyled- us i Bwyllgor y Gymanfa Ganu i'w talu i'r Trysor- ydd trwy Drysoryddion Jtwahanol Gyfarfodydd Ysgolion. (16) Fod Rhagleni'r Gymanfa Ganc i'w hanfon i Ysgrifenyddion y Cyfarfodydd Ysgolion yn Penllyn a Cherrigydruidion, ac i Ysgrifenydd Pwyll- gor Canu Edeyrnion, a'u bod hwy yn gyfrifol am danynt. (17) Fod costau yr Ysgrifenydd i'w talu gan Drysorydd y Pwyllgor hwn. (18) Fod blwyddyn aelodau y Pwyllgor i ddechreu yn Ionawr. ac fod yr Ysgrifenydd i roddi rhybudd i ysgrifenydd y C.M. ac Ysgrifenyddion y Cyfarfod Dosbarth pan y bydd eisieu ethol aelodau newyddion. Llanwyd ffurf o Benderfyniad ynglyn a phenodiad Pwyllgor Prisio'r ciddo o fewn terfynau ein C.M., ac awdurdodwyd y Llywydd a'r Ysgrifenydd i'w arwyddo. Terfynwvd trwy weddi gan Mr. Charles Jones, Llandderfel. Rhoddodd eglwys Cefnddwysarn dderbyniad croes- awus iawn i'r C.M., ac ar gynygiad Mr. J. Edwards, 'Llanuwchllyn, a chefnogiad y Parch. J. Morgan Jones, diolchwyd yn gynes i'r chwiorydd am eu llafurus gariad. Ar ol yr odfa gyntaf traethwyd ar fater y seiat, Yr angen am yr Ysbryd Glin i ar. gyhoeddi 0 bechod," dan lywyddiaeth y gweinidog, y Parch. J. 0. Jones. Pregethwyd gan y Parchn. E. Lloyd Jones, Richard Morris, M.A., B.D., J. Foulkes Ellis a J. H. Williams, Portmadoc. DYFFRYN CLWYD.—Y Fron, Mai ISfed. Llvw- ydd, Parch. J. D. Owen. Darllenwvd llythyr Mr. Hugh Jones. o Goleg y Bala, yn derbyn galwad y Bontuchel a Chlocaenog. Apefia y Cartref, Bont- newydd, am gymorth yn wyneb costau eithriadol ddisgyn arno. Rhoddwyd ar y Parch. H. O. Hughes i wneyd a fedr yn ein cylch i'w gyfarfod. Pasiwyd ein bod yn llawenhau yn wyneb penderfyn- iad Dirprwywyr Yswiriant Iechyd Cymru i ddal at y rheol a osodwyd ganddynt vn gwahardd i Gym. deithasau cymeadwy gyfarfod mewn lleoedd trwydd-. edol, a lluniwyd penderfyniad yn datgarThyny yng- hyda'n bod yn barod i wneyd a allom i ffurfio barn gyhoeddus ar y mater at Mr. Master- man ac eraill cyfrifol. Datganwyd llawenydd am yr anrhydedd a roddwyd, ar y Parch. O. Owens yn y Gymanfa Gyffedinol ddiweddaf. Hysbyswyd y C.M. fod eglwysi Clawddnewydd a Derwen wedi rhoi galwad unfrydol i Mr. Edward Williams, B.A., Bala, i ddod i'w bugeilio. Cadarnhawyd yr alwad. Di. wygio y rheolau sefydlog. Rhoddwyd rhybudd y daw hyn i sylw yn y C.M. nesaf. Gwnaed coffad tyner a gwerthfawrogol am ein diweddar frawd y Parch. Jonathan Jones. Mawrygid ef fel dyn, Cristion. a gweinidog. Yr oedd o feddwl cryf, cym. eriad cadarn, a gweithiwr difefl yn winllan. Yr oedd ei feddwl yn berffaith dawel am ei berthynas a Duw, a'i ddyfodol, ond awyddai yn fawr am es- tyniad oes i lafurio. Y mae bwlch mawr ar ei ol. Bu eglwysi ei ofal yn garedig iawn wrtho yn ystod ei gystudd hir, a'r Parch. O. Owens. Pasiwyd i anfon cydymdeimlad ag eglwys Llanelwy, ac a Mrs. Jones yn ei hunigedd hiraethus. Cauir y dysteb y mis hwn (Mehefin). Ysgrifena y Parch. Edward Thomas nodiadau am dano i'r Blwyddiadur. Gwnaed coffad hefyd am Mr. Thomas Foulkes, blaenor yn y Cwm. Bu yn ffyddlon iawn gyda'r achos yno yr oedd ei deimladau crefyddol yn gynes, ac ymawyddai am ei ymddatodiad. Trefnwyd i an- fon at eglwys y Cwm a'i deulu i gydymdeimlo a hwy. Yr un modd at Mr. Wm. Ellis. Seion; Mr. G.O. Morris, Llanrhaiadr; Mr. J. Davies, Pres- tatyn; Mr. R. Lloyd Edwards, Bala; Mr. J. R. Hughes, Dyserth. mewn afiechyd. Cafwyd profiad- au a hanes yr achos yn y Fron a'r Brookhouse dan arweiniad y Parch. E. J. Jones, M.A., a Mr. O. Bleddyn Lloyd. Mwy o ddydd nag o nos oedd eu profiad, a siriol oedd yr achos ar y cyfan yn y ddau le. Gobeithia y Fron am gapel newydd cyn hir. a pharotoir am dano. Bydd y C.M. nesaf yn Llan- sannan, Awst aoied. Arweinir yno gan y Parch. R. P. Hughes a Mr. J. Hughes, Syrior Goch. Derbyn- ir yno lais yr eglwys ar Mr. J. P. Davies, Clawdd- newydd. Gwnaed yr etholiadau canlynolLlyw- yddion am 1915, y Parch. Pierce Owen a Mr. Gower Roberts, U.H., yn Ysgrifenydd y C.M. am 1915-17 Parch. R. Roberts, B.A., Ph.D.. yn Ysgrifenydd yr Ysgol Sul, Parch. D. P. Jones yn Gynrychiolwyr i'r ddwy Gymdeithasfa nesaf y Parchn. J. D. Owen, R. R. Parry a'r Mri. J. Williams, Peniel, a W. Vaughan i'r Gynhadledd Saesneg yn Nghaer, y Parch. R. H. Thomas. Disgwylir cyfran yn fuan o'r eglwysi at Gapel Wolverhampton, a defnyddiau hefyd at y Bazaar yno. Anfoned yr eglwysi eu cyf- ran at Sasiwn Llanrwst erbyn diwedd y mis hwn (Mehefin). Dychweled yr eglwysi a'r pregethwyr y tafleni i bwrpas Trysorfa y Gydnabyddiaeth Sab- bothol wedi eu llanw erbyn diwedd y mis hwn neu os oes modd yn nghynt i'r Parch. D. E. Jenkins. Cymeradwywyd argymhellion y Pwyllgor Adeiladu, a'r Pwyllgor Dirwestol. Gwnaed yr eglwysi anfon eu hadroddiad am stad dirwest yn eu mysg 1 r Parch. J. D .Owen, fel y gallo gyflwyno yr adroddiad ar y pwnc i'r Sasiwn yn y C.M. nesaf. Trefnwyd i bre. gethu nos y C.M. y Parchn. G. H. Havard, M.A., B.D., ac E. James Jones, M.A.