Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

NODION CYMREIG. --

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION CYMREIG. Yn y rhifyn nesaf o'r Cymro cyhoeddir ysgrif neillduol o ddidd(-)rol,Adgofio-n am y Parch. David Davies, Abermaw, gan y Parch. H. Barrow Williams, Llandudno. -+- -+- Bydd' darlithiau Cymdeithas Cymry Caer- grawnt yn cael eu traddo,di eleni yng N gholeg Aberystwyth o'r iofed hyd y 2gain o Awst. Mae tua dau ddwsin o raddedigion PrifysgoI Caergrawnt yn darlithioi ar gynifer a hynny o destynau. Bu'r gyfres hon yn llwyddian- nus iawn y llynedd, ac argoel dda yw gweled y bechgyn yn gafael mewn gwaith fel hwn. -+- -+- Rhoddodd Mr. Thos. Edwards, paentiwr, Bangor, dystiolaeth yn y llys ynadol yn erbyn adnewyddu trwydded tafarndy. Ac ebai y bargyfreithiwr oedd dros y tafarnwr wrtho Fuasech chwi, Mr. Edwards, ddim yn paentio'r ty tafarn pe cawsech gynnyg?" Na fuaswn," ebai'r gwron dirwestol, "mi fuaswn yn gwrthod fel mater o gydwybod." Iechyd i'w galon. -+- -+- -+- Pwy sydd i gynrychioli Sir Aberteifi ar ol yr etholiad1 nesaf ? Pwy fydd dewisedig y blaid Ryddfrydol yn yr' etholiad? Pwnc diddoror iawn, ond un a thipyn o gonglau iddo. Buaswn yn hoffi cael darlun o bob un o'r ymgeiswyr ac ysgrif arnynt, yn rhoi eu hanes yn fanwl. Ni bydd fawr o newid yn y siroedd eraill, a hwyrach na bydd yn Sir Aberteifi o ran hynny. Chwith darllen am farwolaeth Mr. Richard Pugh, is-olygjdd yr "Oswestry Advertiser," yn 55am mlwydd oed. Gwr llednais, tawel, a chydwybodol, yn deall ei waith ei hun, ac yn gallu ysgrifenu llawfer gyda'r cyflymaf yn v y wlad. Gwnaeth gymwynasau i ugeiniau o wyr cyhoeddus y wlad. Ond a glywsoch chwi am rywun yn cofib am y caredigrwydd a gafodd oddiar law gwyr y wasg ? -+- -+- -+- Cefais adroddiad maith am y basar gynhal- iwyd yr wythnos o'r blaen at helpu cenhad- aeth Penrhyn Bay, hanner y Jfordd rhwng Llandudno a Colwyn Bay. Codwyd ysgoldy yn Penrhyn Bay ddeng mlynedd yn 0'1, yn costio 6oop. Y Parch. John Edwards gy- chwynodd yr achos, ac efe sydd wedi ei ym- geleddu ar hyd y daith. Unodd eglwysi y cylch i helpu'r gwan gyda'r achos, a gwnaed elw o I70P. wedi talu'r costau. Rhagorol. -+- -+- Oes gormod o chwant am phisygwriaeth yn y wlad? Dywed y doctoriaid yn lied g-yffredin fod. Mae Hawer yn doctora eu hunain, ac yn cadw fferyllfa gartref. Eraill, am radlon- rwydd, yn mynecl at ddoctor yr insurans, ac yn yfed yn anniwall. Dau beth yr amcana'r meddygon ato,—atal i bobl ddoctora eu hun- ain, a'u rhwystro i yfed gormod o phisyg y doctor. Mae'n ofnus fod y wane am phisyg yn un rheswm dros fod y pwyllg-orau sirol yn methu cael y ddau pen llinyn ynghyd. Dyma gyfrol drwchusa hardd ar Hanes Methodistiaeth Sir Fflint" newydd ei chy- hoeddi. C'asglwyd y defnyddiau gan y di- weddar Barch. Griffith Owen, Rhosddu, a chwblhawyd hi dan olygiaeth ei fab-yng- nghyfraith, v Parch. H. C. Lewis, B.A., I B.D. Llandudno. Mlae'r darlun o'r Parch. Griffith Owen yn un gwir dda a naturiol. Cewch adolygiad ar y gyfrol mae'n siwr. Haedda sylw helaeth, oblegid mae'n gyfrol o agos i 700 o dudalennau, ac yn rhoi hanes y Cyfundeb Methodistaidd drwy'r holl gylch. Gair am yr orgraff. Yn araf y gellir newid hen orgraff y swyddfa. Oncl er hwylustod i bawb, dewiswyd yn safon Eiriadur Gymraeg a Saesneg Spurrell, a gyhoeddwyd yn ddi- weddar dan olygfiaeth Bodfan. Pe gofynid i mi beth yw un o anghenion n-awr yr Ysgol Sabothol heddyw mewn rhai rhanbarthau o Gymru, dywedwn mai angen athrawon ffyddlon. Fel y rhagorai ami un o'r hen dadau yn y cyfeiriad hwn Cof byw gennyf am ambell un o honynt. Ni wyddai ddim amesgeuluso ei gydgynulliad. Nid edrychai ar y cymylau, ac ni wrandawai ar swn y gwynt na rhuad y daran. Ni flinwyd ef erioed gan glefyd y Saboth. Gwell ganddo luasai i'r clefvd hwnnw fod arno bob dydd na'r dydd y byddai ei ddosbarth yn cyfarfod a'i ,-iiydd, i ddarllen Gair Duw. Beth pe gellid sicrhau y ffyddlondeb cyffredinol eto! Dilys yw fod angen. Mae y tymor yn fyr, y gwaith yn bwysig, a'r Barnwr wrth y drws. -1- -+- Dau gan' mlynedd yn ol y ganwyd Edward Richards, sylfaenydd ysgol enwog Ystrad Meurig, un o pioneers addysg uwchraddol yng Nghymru. Teiliwr oedd ei dad, a thafarm.vraig oedd ei fam. Ond rywsut, modd nas gwyr neb, fe fagwyd yn y plant reddf at addysg. A oedd a fynno Monachlog Ystrad Fflur oedd gerllaw a hynny? Sut bynnag, ymhen amser, rywdro yn 1734 neu 1735, fe agorodd Edward ysgol yn Ystra.d Meurig, ac yno y mae byth. Yr wythnos ddi- weddaf bum yno yng- nghanol clerigwyr yn dathlu dau gan' mlwyddiant genedigaeth syl- faenydd yr ysgol. Ac yr oeddwn yn mwyn- hau yr wyl yn rhagorol. Yn wir mi fyddaf yn hoffi edrych ar gynulliad o bersoniaid yn Sir Aberteifi, a gwyneb mawr yr Hybarch John Jones fel llawn lleuad yn eu canol. Gwyl i'w chofio ydoedd, a buasai yn dda gennyf gael colofn i adrodd yr hanes. -+- -+- -+- Mae testynau Eisteddfod Gadeiriol NIbn, a gynhelir yn Rhosneigr, Llungwyn a Mawrth, 1915, allan yn brydlon. Ai tybed mai at hon y cyfeiriwyd ym mhwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol dan yr enw Seintiau y Dyddiau Diweddaf? Edryched Bang-or ati. Mae testynau Rhosneigr yn deilwng o'r Genedl- aethol. Dyma le i bobl ieuainc ymgodymu. Anfoner 2jc. at Mr. R .H. Jones, Council School, Rhosneigr, am y llyfr. Mae'r dar- luniau sydd ynddo yn werth hynny a rhagor. Un peth newydd yn y testynau,—Ateb cwest- iynau ar "Y gelf o gadw ty," cyfyngedig- i ferched mewn gwasanaeth. Buaswn yn hoffi gweled gwragedd Mon yn sefyll yr arholiad hwn! -+- -+- Rhag i chwi feddwl mai ysmalio yr wyf, dyma'r gofyniadau. Bernwch chwi. 1. Danghoswch pa faint fyddai yn ddoeth dreulio ar fwyd mewn wythnos ar gyfer teulu o bump: tri phlentyn dan 13eg; y gwr yn dyfod adref bob dydd ac yn ennill 18s. yr wythnos. Mae'r rhent yn 3s. 6c. Enwch y nwyddau a'u prisiau. 2, Rhoddwch gyfarwyddiadau o berthynas i'r golchiacT wythnosol. Danghoswch yn fanwl sut i drin (a) dilladau gwlan, (b) rhai lliwiedig, (c) rhai gwynion, (d) sidanau. 3. Rhoddwch saith o reolau pwysig iechyd, y cyfryw ag y dylai cadwres y tv dalu sylw neilltuol iddynt. 4. Dywedwch wrth ferch ieuanc ar fedr priodi gweithiwr pa fodd i dreulio ugain punt ar ddod- refn a nwyddau ty. 5. Disgrifiwch y dull goreu i bobi bara gwyn a bara cymysg hefyd i wneud pastry. 6. Rhoddwch chwe' engraifft o fedrusrwydd house-keeper i ail-ddefnyddio at rhyw wasan- aeth arall hen nwyddau ty. Anturiaf wobr well nagf a gynygir yn yr Eis- teddfod i bob morwyn a atebo y cwestiynau yna! D'ywed rhai pobl fod yr iaith Gymraeg yn marw. Nid felly y tybia golygydd un o wyth- nosolion masnachol pwysicaf Lloegr, fodd bynnag". Y ddwy wythnos ddiweddaf cy- hoeddwyd erthygl yn The Commercial Motor" hollol Gymraeg yn apelio at amaeth- wyr a pherchenog-ion cerbydau teithio Cymru i ystyried manteision cost cerbydau modur tir a ffyrdd o'u cymharu a chost i gadw ceffylau i wneud y gwaith. Ysgrifennwyd' yr erthygl yn Saesneg gan y golygydd, ac aeth i'r gost a'i chyfieithu gan feistr yr iaith Gymraeg" -+-- -+- Digwyddiad diddorol i lu y tuallan i'r gym- dogaeth oedd agoriad Capel Cbffadwriaethol Henry Rees yn Llansannan dyddiau fau a Gwener. Ceisiais gael darlun o'r capel i'w anfon i'r CYMBO, ond nid yw yr un gefais yn gymwys i'r pwrpas. Ymgasglodd tyrfaoedd i'r wyl o bob cyfeiriad, a phregethodd y Parchn. Owen Owens, T. Charles Williams, M.A., a Robert Roberts, Colwyn Bay. Aeth capel Henry Rees yn rhy fach, a chwyddodd y gynulleidfa drosodd nes llenwi capel William Rees gerllaw. Tarawiadol iawn oedd hynny, i uno'r ddau frawd enwog", gan ofyn i Hir aethog uno i ddathlu coffadwriaeth ei frawd. Mi wn y buasai Hiraethog y cyntaf i gyd- nabod mai ei frawd oedd y pregethwr mwyaf, ac i gynorthwyo yn yr wyl. Mae'n sicr fod y ddau frawd yno -+- -+, Darllenais y "Welsh Outlook" am Gorff- enaf gyda llawer o chwilfrydedd, yn enwedig dalennau y darllennwyr tua'r diwedd. Yr Eglwysi a Chwestiynau Cymdeithasol" ydyw pwnc y llythyrau, a dyma i chwi yn yr iaith yn yr hon y'i ganed rai 0 fedd'yliau y Parch. Peter Hughes Griffiths: Jesus of Nazareth declared Himself explicitly on this point, and said that the one thing His disciples could not afford to think about was housing. And a certain scribe came to and said unto Him, Master I will follow Thee whetherso- ever Thou goest.' And Jesus saith unto him, The foxes have holes, and the birds of the air have nests but the Son of man hath not where to lay his head." Houses are not important at all. Then how have we come to this, pass? I will say Christians have been too concerned about housing themselves. They have refused to minimise the material world in spite of the Master's express declaration. They have so cottonwooled their environment, so cushioned their homes and their persons, that luxury has at last had its inevitable result. They are now enervated, the heroic has departed, that serene detachment and magnificent independence that marked the early Christians have disappeared, and in their place what? A flabby tenderness, a maudlin sentiment, a flesh sensitiveness to every- thing that incommodes flesh, a hyper, aesthesia that makes it painful to gaze upon the superficial ills of life. Was it not Abraham Lincoln that said once, when he pulled a pig out of the ditch, that he did it not for the sake of the pig, but fori the sake of his own ,comfort. So do we tackle social problems, not as kings but as slaves. We go in for housing of the poor, and for hospitals for cats, and what we seek to cure we make ten times worse. r. The world, in science, in Parliament, is very concerned about the ills of men. It goes to the prodigal in the far countny, and tells him: T am very sorry for you. This is not at all a nice i place to live in, but be patient and I will kill these pigs and remove these troughs, and send some disinfectants here, and then you can build a villa and live comfortably and enjoy your independence." And with this teaching the churches are called to join. The churches may- the Church won't. She will ever go to the prodigal and say: Young man arise, go home z!1 to your father." Her emphasis must always be on the necessity of cosmic adjustment in the in- dividual soul. Onid yw'n iechyd darllen geiriau Philistiad o feddyliwr fel yna yng nghanol byd 0 faterol- ion? <