Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Marwolaetli Mr. Chamberlain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Marwolaetli Mr. Chamberlain. 0 ganol ei neilltuaeth maith a thrist, dis- gynnodd Mr. Joseph Chamberlain i ddistaw- rwydd y glyn gyda sydynrwydd brawychus ac anisgwyl. Yr oedd allan yn yr awyr agored, fel arfer, ddydd Llun; tarawyd ef yn waelach ddydd Mawrth, a bu farw'n dawel nos lau, pan yn ymyl ewblhau ei 78 mlwydd. Paratoid 1 ddathlu'r amgylchiad gyda chyfarfod mawr; ond daeth yr angel cryf i geisio'r hen wron adref ac i newid holl drefniadau'r llawr. Ni raid petruso rhoi lie uchel i Mr. Chamberlain ymysg gwladweinwyr ei oes, er i'w yrfa ar lawer cyfrif droi allan yn siomedig. Yr oedd yn wr o allu diamheuol, ac o benderfyniad di- ysgog; yn feddyliwr clir, yn areithiwr grym- us, ac yn ymladdwr dihefelydd. Paratodd ei hun ar gyfer gwleidyddiaeth trwy waith dinesig, ac yn uniongyrchol wedi ei fynediad i'r Senedd gwnaeth ei bresenoldeb yn hysbys a theimladwy yno. Cychwynnodd fel radical, os nad fel gwerinwr; a rhyfedd meddwl i un o broffwydi grymusaf a llymaf diwygiad a chynnydd golli ei ffordd yn niwl pleidiaeth wleidyddol a chael ei hun ar fynydd Ebal yn cyhoeddi'r felldith ar y pethau y bu gynt yn eu bendithio ar Gerisim. Nis gwyr neb fan- ylion mewnol y cam cyntaf, pan y gadawodd Mr. Gladstone a'r Gwyddelod ac Ymreolaeth; ac er ei fod wedi ei briodoli ganwaith i uchel- gais personol siomedig, ni fyn neb heddyw ar lan ei fedd geisio codi'r lien mewn amharch- edigaeth. Colled fawr yn ddiameu i Rydd- frydiaeth oedd ei ymadawiad; ond ni phetrus- wn ddweyd mai'r golled fwyaf oedd iddo ef ei hun. Y peth a dery dyn fwyaf yn ei gylch oedd ei bersonoliaeth ddigymar, i'r hon y dygir y dystiolaeth uchaf gan ymlyniad Bir- mingham wrtho a'i harwr-addoliad ohono. Yno y rhoed ei weddillion i orwedd ddydd LIun.

Dr. Gore ar Wyrthiau.

Dr. Sanday yn Ateb.

Adfer Gogoniant Babilon.

Cynhadledd yr Ysgolion Sul…

Ail-ddarlleniad Mesur y Gwelliant.