Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN PAWB A FHOPETH

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN PAWB A FHOPETH Coflfadwriaeth. Dr. Charles Edwards. Beth sydd wedi dod o'r mudiad i gadw yn fyw goffadwriaeth un o enwogfion penaf Cymru, sef y Prifathraw T. Charles Edwards, D.D.? Rhyw bedair blynedd yn ol cychwyn- wyd mudiad ynglyn ag Urdd y Grad'dedigion, os wyf yn coiio yn iawn, gyda Syr Marchant Williams yn arweinydd, ond ar gais Pwyllgor Caffadwriaeth Dr. Lewis Edwards, rhoddwyd y mudiad o'r neilldu hyd nes y gorffenid y gwaith ynglyn a choffadwriaeth Dr. Lewis Edwards. Bellach mae y mudiad hwnnw wedi ei gwblhau er ys dwy flynedd. Rhyw dri mis yn ol daeth y mater i fyny drachefn ynglyn a Rheolwyr Coleg Aberyst- wyth, acenwyd pwyllgor i ystyried pa gynllun i'w fabwysiadu er cael hyn oddiamgylch. Am ryw reswm neu gilydd, yn ol a glywais, ni alwyd y pwyllgor ynghyd, a'r tebygrwydd ydyw y bydd i'r symudiad hwn fel y Hall o'i flaen syrthio i'r llawr. Mae yn warth i genedl y Cymry ei bod wedi gadael dros gymaint o flynyddoedd i'r dyn mawr fod heb na chofiant iddo na dim gweladwy yn Aberystwyth nac yn y Bala i ddangos ei gysylltiad a'r ddau le. Os na wna awdurdodau Cbleg Aberystwyth symud yn fuan, mae ym mryd rhyw 800 neu 1000 o hen fyfyrwyr Principal Edwards i godi coifgolofn iddo o flaen y Coleg yn Aber- ystwyth, ac y mae amryw o honynt eisoes yn barod i roddi a Zi i .£5 yr un at yr amcan hwn. 0 hyn i ddiwedd yr haf anfonir cylchlythyr at yr hen fyfyrwyr i gael eu barn ar y mater. Graddau Prifysgol Cymjru. Pa hyd y goddefa y wlad i'w gweinidog- ion gael eu sarhau gan Awdurdodau Prif- ysgol ein gwlad? Flwyddyn ar ol blwyddyn gwrthwynebir, a hyny yri effeithiol, gan fwy- afrif aelodau Llywodraethwyr y Brifysgol, y cais i roddi gradd anrhydeddus i arweinwyr crefyddol ein cenedl. Nid oes wahaniaeth pa mor enwog fyddo dyn fel ysgolhaig, mae y ffaith ei fod yn bregethwr yr Efengyl yn ddigon o reswm dros wrthod iddo radd a wir deilynga. Adroddai y diweddar Tom Ellis wrthyf un tro am y frwydr boeth gafwyd mewn cyfarfod o'r Awdurdodau pan gynyg- iwyd fod y diweddar Principal Edwards i dderbyn y gradd o D. D. Yr oeddis wedi pasio fod eraill, megis Joseph Chamberlain, i dderbyn gradd; ond pan ddaeth enw Dr. Edwards gerbron gwrthwynebwyd1 ef yn ffyrnig, gan y byddai yn ddarostyngiad ar Mr. Chamberlain iddo dderbyn gradd yr un adeg a phregethwr Methodist. Clywais fod enwau dau o brif bregethwyr ac esbonwyr Cymru wedi bod gerbron yr Awdurdodau y flwyddyn ddiweddaf, ond yn ofer. Ni fynai y mwyafrif son am enw yr un gweinidog1 yr Eifengyl. M'ae yn hen bryd i'r wlad i ddat- gan ei barn ar y mater hwn. Ymwelwyr o'r Cyfandir. Yr wythnos ddiweddaf bu cwmiii o rhyw 45 0 Francwyr a Belgiaid ar ymweliad a Gog- ledd Cymru. Yr oedd y mwyafrif o honynt yn dal cysylltiad a newyddiaduron Ffrainc a Belgium, a chwech o honynt yn olygyddion rhai o newyddiaduron blaenaf y ddwy wlad. Amcan yr ymweliad oedd gweled ansawdd y wlad fel ag iddynt allu yn gydwybodol ddwyn i sylw eu cydwladwyr ragxwiaethau Lloegr a Chymru fel lleoedd i ymweled a hwy. Cefais gyfle am rai oriau i ymgom a nifer o honynt, a dywedent yn ddifloesgni nad oeddent eroed wedi dychymygu fod Gogledd Cymru yn wlad mor brydferth. Hefyd yr oeddent yn uchel eu clod o'r derbyniad serch- og roddwyd iddynt gan y Cymry, yn enwedig yn y lleoedd mwyaf C'ymreig. Nos Fawrth rhoddodd y Llywodraeth wledd iddynt hwy a rhyw 300 eraill yn y Savoy Hotel, Llundain. Er sfomedigaeth i'r Tramorwyr methodd' Mr. Lloyd George a bod yn bresenol i gadeirio-- Mr. Herbert Samuel, A.S., gymerodd ei le. Traddododd y Cadeirydd araeth hyawdl yn y Ffrancaeg, a phryd bynnag yr enwai enw Mr. Lloyd George bloeddiai y Tramorwyr eu huchel gymeradwyaeth. Yr oedd yn iechyd calon i'r Cymry oedd yn bresennol ddeall mor uchel y saif ein cydwlad-kkr en,,vog yng ngolwg pobl flaenaf y Cyfandir.

-----,--------"-.......,...---",--.__----.',,-_.._--,_w-..-.--.--,,----,,-___.-y._"'''…

Advertising