Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
? THE COUNTY SCHOOL, (foe &,oCgetre q$vammar Dr. Ellis Endowment, A.D. 1665. Boarding & Day School lor Boys, EXCELLENT general education and training provided, .Ee with special preparation for the Universitiet, the Civil Service and Gsmmersi. BOARDERS received at the HEADMASTER1 S HOUSE. Far Prospectus, Fees, &e., apply to the HRADMASTHSL. i)B7WILLIAMS' SCHOOL DOLGELLEY. Preparations for the Central Welsh Board &nd Oi ford Local Examinations, London and Welsh Matri- cuLation, and University Scholarships. There are three leaving Exhibitions, tenable at Colleges, which are awarded annually upon the re- sults of the year's work. The Building and Grounds are excellently adapted to secure the comfort and health of the Pupils. A NEW WING was built in 1910 to meet the demand for increased accomodation. A Domestic Science Department h&s recently beta added. TENNIS, CYCLING, AND HOCKEY. Inclusive Feet: BOARDING, j626 per annum j TUITION, For prospectus, apply to the Headmistress or to the Clerk to the Governors. Old College School, CARMARTHEN. -I'- Principals: REV J. B. THOMAS, Late Headmaster of Park-y-Velvet Academy, under graduate of London University Open Exhibitioner of Cardiff University; First in English, and Dis- tinction in Chemistry; ist. Prizeman in Classics and Mathematics at Trevecca College. Rev. D. GLYNDWR RICHARDS, B.A. (Hons.), B.D. (Wales). Prizeman at Presbyterian College, Carmarthen; Winner of Graduate Sharp Prize Holder of Hibbert and Berman Scholarships." Science and Mathematical Master MR. EVAN WILLIAMS, B.Sc. Successes for 1913 alone 64 Results up to May, 1914 29 BOARDERS RECEIVED. TERMS MODERATE. Apply to Principals. Mr. 0 D. Parry, A.HC.M, A.U.C.W. BeirnSati, Arweindd, ac Organ Recitalist, &a. Parotoir disgyblion gogyfer a'r arholiadau ynglyn a phrif golegau yn unig; mewn chwareu y berdoneg, yr organ, a diwylliant lleisiol. Hefyd, dymunir tynu sylw y Pwyllgorau Eisteddfodol, a Chymanfaol at dri o ddarnau newydd allan o'r wasg. Rhangan, "Bydd yn ffyddlawn" i leisiau T.T.B.B.. Canig, Brenin y Bore,' i leisiau S.S.A. Anthem Gyman- fpAl "Dy holl weithredoedd," S.A.T.B. Cyfeiriad: SCHOOL OF MUSIC, LILANRWST, N.W. O.Y.—Hefyd argraffiad newydd Perlau Seion." Jk tsT *kiho s# THE NON-POISONOUS DISINFECTANT ANO AIR PURIFIER n .iiT MM—m
-----,--------"-.......,...---",--.__----.',,-_.._--,_w-..-.--.--,,----,,-___.-y._"'''…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
0- aeth. Perchir ac edmygir y ,gweinidog gan Bres. byteriaid y ddinas, a hoffir ef yn fawr gan ei frodyr yn y weinidogaeth, Cryfder a swyn ydyw ei nodweddion. Mae yna swyn yn ei gryfder, a chryfder yn ei swyn. Mae'n swynol-gryf yn ei gartref, ar yr ystryd, yn nhai ei blwyfolion, ar y llwyfan, ac yn y pulpud. Ac mae'n un o'r gwyr a roisant eu heneidiau dros enw ein Har,glwydd ni Iesu Grist." Etholwyd ef i waiih pwysig, sef, efengylu ymhlith y Cenhedloedd an- chwiliadwy olud Crist. Yr ydym ni yma sydd yn gwybod am ei waith a'i lafurus gariad yn hyderu y ca gan y Cyfundeb a'i gen,edl y croesaw a wir deilynga. Cewch ei fenthyg am dymor, a chofiwcb, rhaid inni ei gael yn ol W. ROWLANDS, The Manse, Shelford, Victoria, Australia, Mai 19, 1914. 0 America. Ymysg v teithwyr laniodd yn Llynlleifiad ddydd Gwener yr wythnos ddiweddaf, yr oedd y Parch. E. 'Lloyd Jones, B.A., B.D., a'i briod o Cayuga, N.Y., U.D.A. Y mae Mr. Jones yn fab i'r diweddar Mr. Edward Jones fu am flynyddoedd lawer yn argraff- ydd yn y Bala, ac y mae ei fam, yr hon sydd yn awr yn byw yn yr America, yn un o ddisgynyddion y diweddar Robert Llwyd," Plas Ashpool, sylfaen. ydd achos y Dyffryn, Llandyrnog,—tad Methodist- iaeth Dyffryn Ciwyd. Cychwynodd y mab ei yrfa addysgol yn y Bala, wedi hynny bu am dymor yn Aberystwyth yn adeg y diweddar Principal T. C. Edwards, ac yn ystod y cyfnod yma bu yn treulio llawer awr gyda'r Principal yn darllen pawflenni ei esboniad ar yr Epistol at y Corinthiaid. Ymfudodd i'r America yn 1887 treul- iodd ddwy flynedd yn gweithio ei grefft fel argraff- ydd yn swyddfa "Y Drych," lie hefyd yr oedd ei dad ar yr adeg honno; yna, ail-ymaflodd yn ei benderfyniad i fyned i mewn am y weinidogaeth, a threuliodd saith mlvnedd yngngholegau yr America, gan gymeryd ei B.A., a'i B.D., ac wedi hynny, ym- sefydlodd yn Cayuga fel bugail ar yr Eglwys Bres- byteraidd Seisnig, yr hon ofalaeth y mae newydd ymryddhau oddiwrthi, ar ol gwasanaeth ffyddlawn am ysbaid o ddwy flynedd ar bymthe,g. Heblaw bod am dymor yn Moderator y Pres- bytery, ac yn Stated Clerk (Ysg. y Cyf. Misol) am rai blynyddoedd, bu hefyd am wyth mlynedd yn arholwr i'r Presbytery mewn Diwinyddiaeth, ac mewn llythyr at eich gohebydd ysgrifenodd flwyddyn yn ol, dywed "My work is not hard, but neverthe- less, 'keeps me constantly at it; the best of all is, I love my work, and would not exchange my lot with that of a merchant or a lawyer making £ 10,000 a year." Credwn fod yr ychydig fanylion uchod yn meddu diddordeb i'r lliaws myfyrwyr oedd yng ngholegau y Bala ac Aberystwyth yr un adeg a Mr. Jones, ac hefyd i'r cylch mwy Iliosog o efrydwyr fu yng ngholeg y Bala yn ystod yr amser y bu ei dad a'i fam yn trigiannu yno. Bu ei dad hefyd am rai blynyddoedd yn oruchwyliwr yn swyddfa y Feibl Gymdeithas yn Llundain, cyn ymsefydlu yn y Bala, ac yn aelod .gweithgar yn un o eglwysi Methodist- iaid y Brif Ddinas. Os bydd rhai o gydnabod Mr. Jones yn dymuno gohebu ag ef, tra y mae 'drosodd yma, gellir anfon llythyrau i ofal J. Williams, a Riverslea," Flint. Llywyddiaeth y Gymdeithasfa. Dymunaf eich hynawsedd i wneud ychydig sylwad- au ar y drafodaeth a gymerodd yn Sassiwn Llan- rwst ar y mater uchod, mewn canlyniad i waith y pwyllgor arbennig benodwyd gan v Gymdeithasfa i ystyiied y priodoldeb o ad-drefnu gwaith y Cym- deithasfaoedd yn cyflwyno ei adroddiad. Y peth cyntaf ar restr yr argymhelliadau ydyw Ein bod yn dymuno dwyn ar gof i'r Gymdeithasfa nad oes dim yn rhwystro iddi ddewis llywydd yn achlysurol o blith y blaenoriaid, pe tueddid hi i wneuthur felly, a phe barnai hi y byddai hynny yn rhyw radd o gymmorth iddi i wneud ei gwaith yn fwy effeithiol." Fel y cofiwch Mr. Gol., fe fentrais i feirniadu ychydig yn ysgafn ar hyn yn Nghymdeithasfa Cemmaes, a diolchaf i'r Parch. Rhys Lewis (Llyw- ydd Cyfarfod Misol Arfon) am godi y mater eilwaith i sylw yn Llanrwst. Er nad oeddwn i yn bwriadu (pe wedi gallu bod yno) gwneud ychwaneg o sylw o'r mater, gan fy mod (fel y dywedais yn Cemmaes) yn berffaith foddlawn i'r gweinidogion barhau i lywyddu. Fe wyr y rhai a'm hadwaenant i oreu fy mod yn meddu parch diffuant i weinidogion yr efengyl. Ond wrth fyned dros hanes y drafodaeth y mae yn amhosibl parchu sylwadau dau neu dri ohonynt o leiaf, a da gennyf allu credu, a da i'r Cyfundeb hefyd na ellir cael dau ddwsin o'n brodyr parchedig yn y Gogledd a gymeradwyai eu sylwad- au annoe h a diraddiol i niter lliosog o'n brodyr. Cyfododd y cyntaf i egluro ddarfod i'r pwyllgor roddi cryn bwys ar y mater hwn, ac yr oeddynt yn awyddus i ddangos mai fel anrhydedd eithriadol y golygant ethol lleygwr i'r gadair. Ni warafunid i ddynion fel Mr. Edward Griffith, Dolgellau, a'r di- weddar Mr. Peter Roberts, Llanelwy, lanw cadair y Gymdeithasfa yn awr ac eilwaith, ond nid syniad oedd fod i bregethwyr a lleygwyr ei llanw bob yn ail fel mater o ffurf." Oni fuasai yn well a doethach i eglurhad fel yr uchod fod heb ei roddi o ,gwbl; yn sicr nid oedd y pwyllgor oil mor "ddall a'i gymer- adwyo, yn enwedig dwyn enwau personau neilltuol i'r wyneb, a fernid yn deilwng i dderbyn yr an- rhydedd eithriadol, un o'r rhai hyn eto yn aros, ie brawd anwyl nad oes neb call a warafunai iddo yr anrhydedd uchaf y gall ei Gyfundeb ei roddi iddo. Ond ai doeth ydoedd enwi un allan o dros dair mil blaenoriaid y Gogledd? Gellid bod yn sicr beth ddywed ef ei hun ar hyn. Brawd parchus arall a -A"> ddywed mai yn araf y dylid symud gyda hyn, sef with gwrs agor y drws i flaenoriaid lywyddu. Ond atolwg pa le y mae y perygl? Fe gydnabyddir fod yr holl weinidogion yn awr yn agored i gael eu dewis, y rhai a rifant dros 500. Ai tybed nas gellir cael 5°0 allan o'r tair mil blaenoriaid a allai gys- tadlu a hwynt mewn gallu i lywyddu? Ac onid y Gymdeithasfa sydd yn dewis ar hyd y blynyddoedd? Ac a pes rhywun a ddywed wrth edrych ar y gorffennol fod yua rai gweinidogion wedi dyfod i'r gadair yn anheilwng o'r anrhydedd Paham felly y rhaid ofni ymddiried i farn a doethineb aelodau y Gymdeithasfa yn y dyfodol? Hefyd. goddefer i mi hysbysu y rhai nad ydynt yn gwybod, a dwyn ar go i rai nad ydynt yn cofio, fod holl aelodau y Gym- deithasfa, yn flaenoriaid a gweinidogion, yn ethol- adwy i'r gadair ac i'r ysgrifenyddiaeth yn hollol gyd- radd yn ol y Constitutional Deed. Legal Hand Book, page 82, regulations No. 5. Sylwer eto ar yr hyn a ddywedodd brawd arall, un o brif golofnau y Cyf- undeb, sef y cytunai a'r hyn oedd wedi ei ddweyd, ac meddai, os gadewid allan y gair achlysurol fe fyddai y peth mor agored fel y gellid, ac mae'n debyg mai hynny a wneid, ethol pregethwr a blaenor i'r gadair bob yn ail. Da fe ddichon fyddai dewis lleygwr i'r gadair, ond nid oedd ef yn credu mewn gosod pregethwr a lleygwr bob yn ail. Efryded y brawd hwn eto y Cyfansoddiad. ac fe wel fod y peth mor agored ag y geill fod. Ond credaf y gallwn ymddiried yn noethineb yr etholwyr eto yn y dyfod- od na chaiff cadair y Gymdeithasfa mo'i darostwng .gan na gweinidog na blaenor. Wrth derfynu mae yn dda gennyf feddwl y gall y Cyfundeb ymfalchio yn y ffaith mai ychydig ydyw nifer ein brodyr yn y weinidogaeth ag sydd o'r un ysbryd a'r brodyr y cyfeiriwyd atynt, ond fod ein gweinidogion yn gyffredinol yn cael eu cynrychioli gan y brodyr doethach a gymerasant ran yn y drafodaeth ddiangenrhaid hon. Bagillt. GOODMAN P. EDWARDS. Ein Hysgol Sul. Byddem yn dra diolchgar pe baech yn rhoddi ychydig le yn eich colofn gohebiaeth nesaf. Llawer o son sydd led-led Cymru, fod ei Hysgol Sul-yn colli ei dylanwad ar y werin, ac mae cyfeill- ion yr hen goleg gwerinol gwerthfawr yn teimlo i'r byw drosti. Llawer o gynadleddau yn cael eu cynal ymhob sir, a llawer o siarad ar y modd i'w bywioccau. Cymherir hi ag Ysgolion Sul y gwledydd pellennig, megis yr Amerig a Korea. Cofier ar yr un pryd wrth wneud hynny fod y Ilwyddiant yno yn can. lyn yn naturiol ddiwygiad crefyddol, megis y bu gyda ni yng Nghymru yn 1905,6, pryd yr oedd gwedd lewyrchus ar Ysgol Sul Cymru. Mae cynlluniau lawer yn cael eu cynnyg er gwella yr achos teilwng hwn, ac mae llawer o'r cynlluniau hyn yn dra Americanaidd eu nodweddion, megis 'Cradle Roll,' a Home Department.' Pob parch i bob cyfallun er adfywio ein Hysgolion. ond nac anghofier nodwedd- ion cenedlaethol y Cyalry wrth wneud hyn. Eisieu dynion sydd yng Nghymru heddyw a'u calon yn y gwaith, yn Ire eu llafar,—llai o gynadleddau a mwy o weithio. 'Rwyf wedi cael y fraint o fynychu y cynadleddau hyn, ac mae pethau yn cael hwyl arnynt, ond ychydig o'r brwdfrydedd tanllyd hwn sydd yn cael ei droi i weithgarwch. Cofus gennyf glywed am hen garedigion yr ysgol yn cerdded hyd yr heolydd yn chwilio am ddisgvblion ac mae yn debyg o fod gymaint o ofn y cewri hyn ar esgeu- luswyr yr ysgolion, fel nas meiddient aros gartref o'r ysgol. O! am y ddegfed ran o'u hysbryd hwy i galonnau ein siaradwyr presennol. Mae llawer o welliantau yn cael eu cynnyg i ysgol. ion plant, megis copybooks' a thywod a darluniau chwaethus er ceisio diddori y plant. Mae perygl mewn gorwneud y pethau hyn, ac anghofio pethau uwch. Ceisir eto athrawon ieuainc ar y plant Ileiaf. Tybed a ydyw hyn yn fantais i gyd? Nis gall athraw ieuanc 16eg neu i8eg oed gydymdeimlo yn dda iawn a phlant pump i ddeg oed. Gall fod yr athraw neu yr athrawes yn ysgolor penigamp, ac yn helaeth yng ngwybodaeth Feiblaidd, ac eto i gyd yn methu fel athraw. Ceisier yr athraw sydd a'i galon yn y gwaith, ac mae hwnnw yn. sicr o wneud llwyddiant. Gwn am Ysgolion Sabothol yn cario allan gynllun- iau arbenig megis y canlyn :-Rhoddir card a dar- lun arni i bob un o'r plant, ac ar yr ochr arall yr ystori wedi ei hysgrifennu. Ychydig o ffydd sydd gennyf yn y cynllun yna, achos fe all y plentyn wneud bron y cwbl fan hynny. a'r athraw ddim. Ceisier y darlun heb yr ystori, a gwnaed yr athraw yr ystori i fyny ei hun. Mae yna gynllun arall, sef fod yr arolygwr, neu yn hytrach, y gweinidog, yn paratoi y wers am y Saboth, a'r athrawon yn ei chopio i lawr ar bapur, a'i chyflwyno y Sul canlynol. Dyna ydyw gwneyd I parrots.' Rhodder y wers i'r athraw. on ieuainc hyn ar eu gradd eu hunain, a cheisier ganddynt hwy eu hunain eu gwneud yn addas i blant ieuengach. Byddir drwy hynny yn cael,gan ein plant i6eg i i8eg oed feddwl ychydig drostynt eu hunain. Ni fyddant yn llwyddiant ar unwaith, ond nid ydyw y cynlluniau newyddion yn llwyddiant chwaith ar wahan i feddylgarwch. Peth arall sydd yn fy mlino yn,glyn a'r Ysgol Sul ydyw ein Safonau. Mae ein cymydogion agosaf yn rhagori arnom. Nid oes lyfryn Cymraeg addas i blant ar y meusydd llafur presennol, ac etto i gyd yn V farchnad Seisnig mae yno doraeth o lyfrau syml, addas, wedi eu britho a darluniau lliwiedig at- tyniadol. Dyma ydyw gwendid mawr Cymru hedd- yw. Nis gallwn ddisgwyl i blentyn gael mwyniant mewn darllen Hanesion Beiblaidd yn eu dull Beiblaidd. Ai nid ydyw yn bosibl i'n Cyfundeb cyfoethog ni, agor ychydig o'u llygaid, ac wedi hynny agor yr hen hosan drom yna, a chyhoeddi rhai llyfrau addas i blant. Byddai hynny yn fendith o'r mwyaf. Mae mwy o angen hyn nag sydd o Lyfr Tonau newydd. ATHRAW.