Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

-;.... Undeb Corawl Castell…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Undeb Corawl Castell Harlech DYDD IAU, GORFFENNAF 2, 1914. GAN MR. O. 0. ROBERTS, DOLGELLAU. Dyma y 5ed Wyl o'r ail gyfres i'w rhestru gyda a fu. Mawr fu ein pryder am dani: yn bennaf pryderem am y tywydd am fod ein llwyddiant materawl yn ymddibynnu ar yr hin am y dydd. Trueni na bai yn bosibl cael rhyw orchudd i ddal y gwlaw ac i gadw y gwynt ymaith. Dylid cau y ddau dalcen i'r I stage:' mae yn oer ofnadwy i'r cantorion fel y mae wedi bod hyd yn hyn. Yn ffortunus cafwyd diwrnod braf a hyfryd hyd tua chanol cyngherdd yr hwyr. Yr un ydoedd y swyddogion eleni a'r pedair blyn. edd blaenorol, ac amlwg ddigon eu bod wedi llafurio yn ddyfal ac effeithiol, yn neilltuol y ddau Ysgrif- ennydd A gaf fi yn yr yspryd goreu roddi awgrym- iad i'r cyfeillion yma: sef, iddynt fynnu cael y programs' allan dair wythnos cyn dydd yr wyl: yna anfon dwsin neu ddau i bob cor i'w gyrru i brif deuluoedd pob ardal. Eleni ni chawsom brogram nes inni landio ar blatform Station Harlech! Yno yr oedd y bechgyn yn bloeddio programs! Wrth gwrs prynais un y cyfleustra cyntaf. Nis gwn a oedd yr arweinyddion ereill wedi derbyn un ai peidio: gobeithio eu bod. 0, ie, bu bron imi fyned i lwgfa, pan wrth ddringo i'r castell, yr edrychais, yr agorais, ac y dechreuais ei ddarllen! Y fath wisg—garb—y fath type! Y photos! Y gwallau o bob math, lliw a llun! Nid oedd deilwng o'r hen Wyl o gwbl! Dyma y Festival oreu yn v byd," meddai un o lywyddion y dydd ac meddai cerddor enwog wrthym ni, This is the noblest and finest institution we have." Wel, mae yr uchod yn ddweyd cryf; eto pan ystyriom bopeth nid ydym yn meddwl eu bod ymhell o'u lie. Yn un peth mae yn glir a phob sect; una bob plaid a phob dosparth: a mae hyn bron yn wyrth yng Nghymru. A dyna ei hamcan eto; mae dyben yr hen wyl yn gosod gwerth am- hrisiadwy ar y sefydliad. Gwella canu cynulleidfa- ol; gwella a chodi canu corawl; creu awydd i ddysgu offerynnau cerddorfaol: a cheisia wneud hyn oil o gariad at y gwaith, er ei fwyn ei hun a gwneir yr undeb o gorau o weithwyr, llafurwyr cyffredin. Gwneir corau Festival trefydd mawr Cymru a Lloegr o'r dosparth canol a'r uchaf, a'r rhai hynny wedi cael addysg gerddorol dda. Maes Llafur yr Undeb eleni oedd(a) Dysgu deg o donau cvnulleidfaol; (b) Dysgu un March, (c) Dysgu Cantata-Duw sydd Noddfa (J. T. Rees) (d) Dysgu Part I. o'r Oratorio—"St. Paul." (e) Pob Cor i ddysgu unrhyw ddarn o'i ddewisiad ei hun. Yr oedd da ar bymtheg o gorau yn ffurfio yr Un- deb eleni: pedwar o Sir Gaernafon; unarddeg o Feirion; un o Sir Drefaldwyn; ac un o Sir Aber- teifi. O'r uchod canodd unarddeg ar bennau eu hun- ain: felly ni chawsom y pleser o glywed chwech: nis1 gwn beth allasai fod y rheswm o hyn y mae yn edrych braidd yn "suspicious Chwith iawn inni yn bersonol oedd colli gweled a chlywed "Cor bach Talsarnau!" Cyfapfodydd y Boreu a'r Prynhawn. Yr oedd un-ar-bymtheg o items yng nghyfarfod y boreu: allan o'r nifer yma yr oedd pymtheg wedi eu cyfansoddi gan Gymry: 93 y cant: a foddlona hyn y Proffeswr o Aberystwyth tybed? Y prynhawn allan o 16 o items vr oedd n gan gyfansoddwyr Cymreig. Ai Sais-addoliaeth yw hyn tybed? Yr oedd y detholiad o donau yn un hapus iawn; yr unig beth deimlem oedd diffyg amrywiaeth: gormod o'r lleddf dim ond tair yn lion. Buasai tonau fel Llangoedmor, Dusselldorf, &c., &c., yn odidog i gor mor fawr. Y boreu canwyd pedair o donau a'r prynhawn bump. Effeithiol a swynol ydoedd y canu o honynt oil. Yr oedd, wrth gwrs, rai yn fwy felly na'i gilydd tlws a nawsaidd iawn inni yd- oedd y datganiad o "LIef," cyfansoddedig gan Pencerdd Ffestin. Gresyn na roisid enwau awdwyr y tonau ar y program fel awdwyr yr Anthemau. &c. Y don 'Hermon' hefyd oedd yn ogoneddus. Bu bron iddi yrru Moab i'r cysgod! Yr oedd un peth yn arweiniad fy nghyfaill, Mr. McLean, o'r tonau, ag oedd yn torri ar y boddhad a'r mwynhad o'u gwran- do; ac yr wyf wedi sylwi fod yr oil o'n professional conductors yn gwneuthur yr un peth: tebyg mai y dysgedigion hyn sydd yn iawn ond i ni y mae yn niweidiol ac anaturiol. Yr ydym wedi gweled a chlywed rhai o'n prif arweinyddion yn ceisio cael gan y cantorion i wneud pethau disynwyr ac ang- herddorol hollol, a hynny i ddim pwrpas ond i geisio creu rhyw effect afiach! Dyma y trosedd-cyflymu, yn wir carlamu ambell i linnell, neu bennill: yna yn hollol sydyn arafu: mewn gair newid amser naturiol tonau. Bryd arall gwneud 'pause' hyll a hir. Nid oes angen o gwbl am y newid eithafol ar saibau anghynulleidfaol. Fyddai y Gwyllt byth yn gwneud hyn, ond byddai bob amser yn sicr o dynnu allan bob syniad, meddwl ac enaid pob pennill trwy eu canu In strict time.' Yr enw oedd gan Tanymarian ar y math yma o ganu ydoedd Hwyl am dro." (I'w barhau). .v.

[No title]

..--'0.......,-""T-!!!---"'-'--"'-'-----'o._....._...---=-,......",,-,_----__,_--..,.;…

YR ABERMAW.1

Y Fcifol Gymdeithas Frytanaldd…

Advertising