Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

AR Y GROESFFORDD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AR Y GROESFFORDD LLE pwysig a pheryglus i'r dieithr yw y groesffordd. Daw pob dyn iddi yn hwyr neu hwyrach yn ystod ei oes, a phenderfynir cwrs ei fywyd am byth gan y cyfeiriad a gymer yn honno. Gwir hyn am genhedloedd yn ogystal ag am unigolion, ac y mae ein cenedl ni yn awr mewn croesffordd bwysig a pheryglus. Buom yn hir yn fath o bobl yn preswylio ein hunain. Oherwydd ein hiaith, a safle neill- duedig ein gwlad, nis gallem ddo-d i nemawr gyffyrddiad a chenhedloedd eraill, na theimlo ond y nesaf peth i ddim oddiwrth eu dylan- wad. Yn y sefyllfa gysglyd a breuddwyd'iol honno dilynem ein gilydd genhedlaeth ar ol cenhedlaeth ar hyd yr un llwybr megis, fel defaid ar lethr y mynnydd, a phob un yn ceisio gwneud popeth debyceaf a allai i'w hynaf- iaid. Ni chanfyddem nemawr groesffyrdd i newid' cwrs ein bywyd cenedlaethol. Ond nid dyna ein sefyllfa yn awr. Erbyn hyn y mae ein cyfundrefn addysg ragorol wedi dwyn llu o blant gwerin y wlad i gyffyrddiad a llen- y yddiaeth oreu pob oes, a gwelir ei hoi arnynt eisoes. Gyda hynny oherwydd y cyfleusderau teithiol ami aeth Cymru i gysylltiad agos a'r byd, a daw y byd yn ei oleuni ai arferion da a drwg i fewn i ganol Cymru. Aeth y tywyll- wch heibio, a daeth y goleuni. Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr." Gyda dyfodiad y dydd deff- rodd y genedl drwyddi i weled ei bod mewn croesffordd bwysig lie y mae arweinwyr lu yn cynyg eu gwasanaeth, ac yn barod i\v har- wain y naill ffordd neu y Hall. Pa ffordd gymer hi o hyn allan 7 Cenedl fach orthrymedig yw hi, wedi bod "Yn hurt dan lawer artaith 01 ysgriw yn ddulas graith ami, ac fel pob cenedl felly y mae hi yn casau tra-arglwyddiaeth mewn byd' ac eglwys, ac ni fyn rodio mwyach yn ffordd gwaseidd-dra. y r' Yn wleidyddol hi fu o ddechreu y deffroad yn glymedig wrth y blaid Ryddfrydig ac yn ffyddlonach iddi nag odid yr un ran o'r deyrnas gyfunol, ac y mae ei chynrychiolwyr Seneddol yn estyn eu dwylaw yn barod i'w harwain i'r un cyfeiriad eto: a Iwyddant? Digon prin os na lwyddir i newid peth ar y blaid yn ei hymddygiad at Gymru. Rhodd- odd y genedl ei bryd' er's llawer dydd ar gael cydraddoldeb crefyddol, cydnabyddodd y weinyddiaeth y dymuniad trwy ddwyn i fewn Fesur Dadgysylltiad a'i basio. Ond er mwyn boddhau mawrion na feddent ronyn o gydymdeimlad a Chymru, llurguniwyd y mesur yn ddifrifol nes ei wneud yn edlych lied sal. Ac nid ydym wedi gweled y diwedd eto, onid ydyw wedi ei ohirio yn Nhy yr Arg- lwyddi a phwyllgor o'r Ty urddasol hwnnw wedi ei benodi i edrych i mewn i rhyw bethau yn ei gylch. Y mae y Weinyddiaeth yn can- iatau hyn, a'r aelodau C'ymreig yn sefyll draw yn fud, os yn wir nad oes rhai ohonynt yn dal dillad y rhai sydd yn llofruddio'r Mesur. Nid oedd raid i'r Llywodraeth ildio yn hyn, canys meddai ddigon o nerth i gario y Mesur drwodd er pob gvvrthwynebiad, a thebyg pe safasai yr oil o'r aelodau Cymreig yn gryf o'i blaid fel y saif y Gwyddelod dros eu Mesur hwy, na roddasid cymmaint drosod'd i'r Phil- istiaid. Y mae ymhlith gwerin ddeffroedig Cymru ddynion sydd oherwydd ffyddlondeb i'w hegwyddorion yn pleidleisio dros eu hym- geiswyr Seneddol ar draul niweidio eu ham- 2!" gylchiadau, ni fynant blygu i na phendefig nac esgob ar unrhyw ammod, a hawliant ddynion o gyffelyb ysbryd i'w cynrychioli yn Senedd y wlad, a than arweiniad rhai felly yn ddiau y cerddant o hyn allan. A gedwir plant y deffroad yn bur i grefydd Cymru? Os y gwneir, hwy fyddant o'r gwerth mwyaf iddi. Naturiol disgwyl i grefydd fanteisio arno, oblegid nid yw y deffroad meddyliol a chymdeithasol hwn ond cynnyrch deffroad crefyddol ac ysprydol. O'r cysegr y tywynnodd goleuni gyntaf ar Gymru, ei chrefydd hi sydd wedi rhoddi bod i'r d'i- wyg'iadau eraill yndd'i, ac y mae lliw ei chrefydd1 ar ei phrif symudiadau. A bery hi etto wedi ei goleuo i gerdded ymlaen ar hyd ffordd rhinwedd a chrefydd ? Dibynna hynny i raddau pell ar ei harweinwyr crefyddol Tuag at eu cadw ar y ffordd iawn rhaid iddynt fod mewn llawn gydymdeimlad a gwerin y wlad, ac o argyhoeddiadau crefydd- ol dyfnion, yn rhai fyddo yn caru ein cenedl ni, ac yn parchu ein crefydd yn benaf dim. Diau fod ar y groesffordd rai mewn cydym- deimlad dwfn a'r deffroad, ac yn caru ein cenedl ni, yn estyn eu dwylaw i gynnyg eu hunain, ond prin y mae eu cydymdeimlad mor amlwg a'i dyheadau crefyddol goreu hi. Gwthiant grefydd i fod yn ail neu drydydd peth, a rhai agweddau ar foesoldeb ym mhellach yn ol hyd yn oed na hynny. Nid ydynt yn enwog am feithrin parch i'r cysegredig mewn na Saboth, na Beibl, na chysegr, a thueddant i gloddio dan seiliau cysegredigrwydd y teulu. Os rhai o'r dosbarth yma fydd ar- weinwyr dyfodol y genedl, hi gyll ei phethau goreu yn y man; paid y goleuni o'r cysegr, yr hwn a'i deffrodd gyntaf, a bod yn gynorth- wy iddi, ac ni flagura y rhinweddau goreu yn ei chymeriad; collir gwerin Cymru fel gwerin Lloegr i grefydd, a chyda'i phen goleu hi gof- leidia syniadau oerant ei chalon ac a barant y bydd ei chysegr sancteiddiolaf wedi ei gau, a'i Shecinah wedi ymadael. Byth na wawrio y dydd y bydd goleuni diwylliant ac addysg Cymru yn ei harwain i fod yn ddiystyr o'r cysegredig ac i ddiarddel ei Duw. Ar y groesffordd y mae dosparth arall yn estyn eu dwylaw gan ddangos parodrwyd'd i arwain. Dynion ardderchog ydynt hwy, iach hollol eu syniadau crefyddol, a'r Efengyl yn meddu gafael ddofn ar eu hyspryd. Y maent yn ddiddadl wedi cael dust y genedl o'r pulpud ar y Saboth yn ogystal ag ar faes y Gymanfa. Ganddynt hwy yn ddiau y mae yr afael gryfaf ar y wlad, ac hyd yma cymmer y bobl eu harwain ganddynt yn lied ddiddig. Önd a barhant felly? Dywedwn cyn myned ym mhellach yr hoffem i'r gwyr hyn a'u cyffelyb fod yn arweinwyr parhaus i'r genedl. Ond onid oes arwyddion nad yw y bobl yn dilyn eu harweinwyr mor aiddgar ag y buont un,A,aith? Bron na chlywem ambell Gymro yn dweyd yn awr, Yr wyf yn amheus ohon- och." Nid o barth eu crefydd, eu gallu, na'u synwyr, yr amheuir hwy, eithr o barth eu cyd- Z, ymdeimlad a gwerin ddeffroedig y wlad. Ofnir y tueddant i ymffurfio yn rhyw ddos- barth uwchraddol, a phan ddangosant gyd- vmdeimlad a'r cyffredin bobl fod mwy o liw cydymdeimlad uwchradd ag isradd arno nag a chydradd. Nis gellir arwain Cymru yn gref- yddol bellach trwy honni rhyw uwchafiaeth swyddogol, a dangos yspryd taeog. Y mae gyda ni yngNghymru yn awr, Eglwys, er nad

Advertising