Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

------CHAOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CHAOS. Wei, wel, mae'r byd yn gaos gwyllt, John Dyna ddywedodd cyfaill wrthyf fel diweddeb i ymddiddan ar helyntion yr oes. Glynodd y gair chaos yn dyn wrth fy meddwl, a phar- odd imi fyfyrio. Aethum at yr awdurdodau er gwybod ei wir ystyr. Cefais allan i'r hen fardd Hesiod bersonoli y gair fel ag i gynrych- ioli sefyllfa gyntaf bodolaeth defnyddir ef eilwaith gan Miltwn i bersonoli tryblith neu gymysgedd, yr hyn yw ffynhonnell pob peth creedig. Mae'n amlwg fod drychfeddwl Miltwn o Chaos yn seiliedig ar y geiriau A'r ddaear oedd aflunaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder." Deallais ym mhellach yr arferir y gair yn wrthgyferbyniol i cosmos, sef trefn, rheoleidd-dra, pryd- ferthwch. I ddisgybl Moses ceir portread o'r gwahaniaeth sydd cydrhwng stad y greadig- Z, aeth ar y dydd cyntaf, a'r stad ar y seithfed dydd. Yn fyr felly, golyga Chaos yr hyn sydd gymysg, annhrefnus, afreolaidd, tywyll. M'eddwl fy nghyfaill, o ganlyniad, yn ei eiriau ddifynnwyd uchod, ydyw fod y byd mewn stad o annhrefn a chymysgedd. Y gwir a ddywed- odd. Yn onest yn awr, a fu creadigaeth erioed mewn fath gawl er yr adeg dywell y daeth i fod? A oes son yng nghroniclau hanes unrhyw oes neu wlad, am y fath dry- blith, y fath dywyllwch a dallineb, ag a welir ar y dde ac ar yr aswy law ym mhobman heddyw Mi wn yn eithaf da fod gwyleid'd- dra gau a Phariseaidd yn arfer cyfrif yr oes bresennol yn waeth o ran moes a chrefydd na'r un oes flaenorol, ond ychydig sydd yn coelio peth felly, am fod achwyniad o'r fath yn rhagrithiol. Mi gredaf fy hun fod moes a chrefydd yn uwch heddyw nag erioed, eithr nid yn ol yr hen safonau o farnu, ond yn 01 safonau newyddion yr ugeinfed ganrif. Ond nid moes a chrefydd yv fy mhwnc yn bres- ennol. Rhaid i bwy bynnag arfero ei lygad i sylwi wybod fod byd a chymdeithas yn eu gwahanol ochrau mewn sefyllfa gaotaidd rhyfeddol. Mae'r papur newydd bob- ben boreu yn esboniad clir ar hyn. Sylwer yn gyntaf ar y Gwledydd Tramor, Y mae Mexico fel crochan berwi; y mae deheubarth America fel genau y Vesuvius y mae India a deheubarth Affrica fel symbylau yng nghnawd Prydain Fawr; y mae gwled- ydd y Balkans fel cleifion mc\vn twymyn, yn methu gorffwys na dydd na nos; ac am wled- ydd eraill Ewrop, nid yn unig y maent yn llawn o anhwylderau o fewn iddynt eu hunain, ondedrychant fel lladron ac ysbeilwyr ar ei gilydd. Rheol fawr bodolaeth y gwledydd Ewropeaidd yw, "Y trechaf, treisied; a'r gwanaf, gwichied." Ar ol cyfnod o gnoi a thraflyncu ymhlith gwledydd Ewrop, ac ar ol i'r cyfrif ohonynt sicrhau, fel cwn., yr asgwrn, a difetha y cor- gwn bychain, fe fydd Armageddon ar raddfa na weiwyd mo'i bath rhwng y Gorllewin a'r Dwyrain er ennill y fuddugoliaeth. Chaos Prydain Fawr, Edrycher i gyfeiriad yr Iwerddon, beth sydd ynoi ond y eymysgedd mwyaf! A ddaw cos- mos allan o'r chaos, wys? Pwy garia'r dydd, Carson neu Redmond ? Edrycher eto ar berthynas Prydain a Ger- mani. Mae'r ddwy wlad fel dau gi cynddeir- iog, yn utiig eu bod yn ofni ei gilydd yn hytrach na, bygwth ei gilydd. Nid ydyw y dreadnoughts o'r ddeutu ddim amgen na chwibanu y llanc bach wrth basio'r fynwent yn yr hwyrnos, er cadw'r bwganod allan o'i feddwl. Meddylier eto am St. Stephan. A welwyd y fath gaos erioed? Pwy yn Nhý y Gyffredin heddyw wyr ei feddwl ei hun? A oes weledigaeth eglur gan neb sydd yn livw- odraethu trosom? Bieth am y Suffragettes? Tra yn edrych ar y chwiorydd hyn mae gvvyr cedyrn y wlad' a'u ilaw ar eu genau, yn fudion fel pyst, ac yn analluog: i wneud dim. Er gwaethaf difrodaethau, dinystr eiddo, car- charu, porthi gorthrechol, &c., fe erys y chaos, ac hyd yma, nid oes argoel am lewyrchvn o oleuni i ymlid ymaith y tywvll- wch. Pa bryd, wys, y daw Daniel newydd i farn Cyfalaf a Xilafur. Mae'n dywyllwch Aifftaidd yma eto. Mae'r frawddeg, "labour unrest," wedi ei llosgi i fewn i'n lienaid. Beth fydd y diwedd? Ni pherthyn i'r ysgrifennydd farnu ar hawliau a iawnderau y ddau barti. Syl- wedydd yn unig' ydyw ef, a chenfydd fod y berthynas rhwng y cyflogwr a'r cyflogedig yn dra chaotaidd, a gall yn rhwydd iawn synied fod rhesymau digonol yn fynnych dros yr ym- gyrch gymer le cydrhyngddynt, a bod streics a "lock-outs" yn arwydd'ion o gynnydd a gwaseidd-dra yn hanes y ddynol hil tnvy'r byd o'r bron. Byd y Meddwl. Nid llai ei gymysgedd na'r cyfeiriadau nod- wvd uchod' yw byd y meddwl. Yn wir, tueddaf i'r farn fod mwy o gaos yma nag yn y cylchoedd eraill, er mor boenus y cyfaddef- iad. Os dylai goleuni, os dylai y cosmos fod yn rhywle, fe ddylai fod yn y meddwl; canys os tywyll yma, yna tywyll ym mhobman arall. "Os yw y goIeuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch Sylwer er engraifft ar stad athroniaeth yr oes! Bu Kant a Hegel mewn bri unwaith, ond y maent erbyn hyn wedi colli eu huwch- aiiaeth, am ba c'yd, nis gellir dweyd. Y mae slump ym marchnad y syniadau Ideal- aidd ar hyn o bryd, a cheir y llyfran ,y draeth- ant arnynt yn weddol rad. Yn ystod y blyn- yddoedd' diweddaf, torrodd syniadau eraill ar draws Idealaeth yr Ellmynwyr, ac ar y Ilwyfan heddyw saif Pragmatiaeth a Bergs- oniaeth. Rhwng y gwahanol ysgolion o ath- roniaeth, nis g^yr braidd neb lie mae'n sefyll. Nid oes neb yn sicr yn ei feddwl ei hun. Oherwydd y cyfnewidiadau diweddar mewn athroniaeth, ynghyda chasgliadau'r uwch- feirniadaeth, y mae diwinyddiaeth ei hun yn y tawdd-lestr. Teimlir nad yw enwau Awstin a Chalfin mor wyrdd ag y buont, ac ar y cyfan fod dydd yr hen ddiwinyddion yn cyflym basio, a bod yn rhaid ini wneud ail gyfrif o'n daliadau diwinyddol, a'u dwyn, os g'ellir, i gyd-gerdded ag amgylchiadau ac anghenion yr ugeinfcd ganrif. O'r braidd y carem fod yn esgidiau proffeswyr diwinyddol ein Coleg- au, am y rheswm syml fod y fath gaos yn nodweddu'r awyrgylch. Mewn llythyr chwar- eus at gyfaill idelo yn y wlad, dywedodd y diweddar Canon Liddon mai'r achos o'r fog yn Llundain ar y pryd oedd fod ffenestri study Dr. Westcott yn agored. Dichon nad yw pethau yn hollol mor ddrwg yn sefydliadau diwinyddol y byd heddyw, ond credwn fod ynddynt lawer o fog serch hynny. Fe wyr y proffeswyr diwinyddol yn eithaf da ystyr y frawddeg a creed outworn," a thasg ang- hyffredin o anhawdd yw boddhau ei enwad, a chyfaddasu ar yr un pryd ei wersi a'i ddar- lithiau at amgylchiadau y dydd. Mae'n bosibl dysgu yn 01 syllabus heb ddysgu yn ol cydwybod. Bydded pob dyn yn sicr yn ei feddwl ei hun. Dywedodd Aristotle unwaith, os wyf yn cofio yn iawn, rywbeth fel hyn I love Plato, but I love truth better." 0 oes, y mae chaos ym mhobman, a pheth anymunol ydyw. Dichon y rhaid iddo fod, ac y pery hyd nes yng nghwrs datblygiad yr oesoedd y daw allan o hono drefn a chyng- hanedd. JOHN JONES.

EIN POBL IEUAINC AR WASGAR.

AR Y GROESFFORDD