Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
POENAU AR OL BWYTA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
POENAU AR OL BWYTA. Os yw eich organau treuliadol mewn cyflwr iach a chryf, os ydynt yn tynu allan faeth o'r bwyd a fwytewch, ni ddylai yna fod un arwydd o boen nac anhapusrwydd. Ond heddyw y mae canoedd yn ofni bwyta o herwydd y poenau a ddilynant hyd yn oed bryd ysgafn o fwy da a maethlawn. 0 bosibl y mae y cylla allan o drefn, yr afti ychydig yn ddiog, neu yr ymysgaroedd yn anhrefnus. Mynwch eu cael yn fuan i ystad o yni iachus trwy gymeryd Mother Séigel's Syrup, a byddwch yn abl i fwyta heb unrhyw effeithiau poenus ar ol hyny. Bydd eich ymborth vn cael ei dreulio yn dda. Ni fyddwch yn gwybod ei fod yn cael ei dreulio. a dyna, wedi'r cyfan, ydyw y prawf goreu o dreuliad da—pcidio gwybod am dano. Y mae dyferyn o Mother Seigel's Syrup, wedi ei gymeryd ar ol pryd bwyd wedi helpu degau o filoe-dd fwynhau eu bwyd, a'u galluogi i osgoi poenau ac anghysur diffyg treuliad. cl
PERSONOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PERSONOL. Cranogwen lanwai'r pulpud yng nghapel Bwlchgwynt, Tregaron, y Saboth, -0- Mae cwmni preifat wedi ei ffurfio gan ber- chenogion y 4 South Wales Daily News,' Caer- dydd, gyda chyfalaf o 75,ooop. —o-— Bu raid i Mr. E. H. Da vies, Pentre, roi i fyny y swydd o drysorydd i Undeb Cynulleid- faol Cymru a Choleg Aberhonddu oherwydd afiechyd. --0-- Daw Tywysog" Cymru am daith dnvy Gymru yn gynar y flwyddyn nesaf. Ai iddo ef y mae Castell Caernarfon yn cael ei bara- toi -<0- Mae eglwys y T'abernacl, Blaenau Ffestin- iog, wedi rhoddi tri mis o seibiant i'w gwein- idog, y Parch. R. R. Morris, er mwyn iddo adennill nerth ac iechyd. '0- Y Parch. Lewis James, Llanfairmuallt, a ddewiswyd yn ysgrifennydd Pwyllgor Athrofa Diwinyddol Aberystwyth yn olynnydd i'r di- weddar Barch. T. J. Morgan. — 0- Mae yn yr Ymwelydd Misol'; ddarlun da o Mr. R. H. Jones, Upper Brighton, a llawer o'i hanes fydd yn dderbyniol iawn gan gylch mawr o hen gyfeillion y bardd. --0-- Rhoddodd Mr. John Jones, Llandrillo, 150P. at gael organ i gapel y Methodistiaid, a chaed yr un swm oddiwrth Mr. Carnegie, fel y mae yno organ hardd yn hollol ddiddyled. —o— Cyflwynwyd medal arian y Royal Humane Society i'r Arolygydd Morgans y Bala am ei Z! t, wroldeb yn achub bywyd modryb i'r diweddar Mr. T. E. Ellis pan wedi ei chau mewn ty oedd ar dan. --0- Mr. Fred. Llewelyn Jones, B.A., LI. B., yr Wyddgrug, sydd wedi ei ddewis yn ymgeis- ydd Rhyddfrydol yn Preston at yr etholiad nesaf. IMlab Garmonydd' yw efe, a gvvr a graen ar ei broffes ai egwyddorion. --0- Yrnad'awodd Syr Edward Anwyl o Aberyst- wyth ddydd Mercher. Bydd yn aros gyda'i berthynasau ym Mhontypridd hyd nes y bydd p ,a y Coleg yn Caerleon yn barod. Chwith gweled Aberystwyth heb yr Athro. -0-- Dr John Oman, o Westminster College, Caergrawnt, fu'n cyfarch efrydwyr Cbleg Diwinyddol Aberystwyth yn y cyfarfod blyn- yddol. Undeb rhwng gweinidogion Presby- teraidd oedd ei destyn. Gwael iawn y mae Dr. Gomer Lewis yn parhau, a dywed y meddyg nad yw i weled neb ond y rhai sy'n gweini arno. Erys yn Henllan, a Dr. Powell o Gastellnewydd Emlyn yw ei feddyg. -0-- Enillodd Mir. Hugh Owen, Treffynnon, radd M.A. ym Mhrifysgol Lerpwl y dydd o'r blaen mewn Hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol. Efe'n frodor o Niwbwrch, Mon, ac a fyddai'n athro ysgol yn y ddinas hon. -0< Dywed y Parch. W. H. Deane, ficer Pen- arth, fod 25 wedi cael bedydd esgob yn ei Eglwys ef yn ddiweddar, a bod y mwyafrif ohonynt wedi croesi oddiwrth yr Ymneilltu- wyr. —o— Dywed Mr. O. M. Edwards yn "Cymru" fod arno hiraeth am weled llyfrau Cymraeg yn rhoi hanes cyflawniad y proffwydoliaethau, ac yn dadlenu ffyrdd rhyfedd a thrugarog Duw yn cael eu rhoi yn nwylaw cin bechgyn a'n merched ieuainc. --0-- Llawenha calon ein cenedl wrth ddeall am wellhad Mr. Harry Evans, ar ol bod o dan operation. Heb os, dyma'r arweinydd c6r goreu welodd ein cenedl erioed. Nid oes odid ei well yn y deyrnas. Awgryma Dr. Gran- ville Bantock fod Liverpool wedi esgeuluso "a great and generous-minded man." Teimla'r Dr. yn rhwymedig iddo, a danghos- odd ofal neillduol am dano yn ei salwch. 'la i Bu Dr. J. Di. Jones, Bournemouth, yn canu deuawd gydag un o'i flaenoriaid yn un o gyfarfodydd adloniadol yr eglwys. Gofidia Proffesor Jenkins na bai rhagor o bregethwyr yn gwneud yr un peth. Q Mae Mr. T. A. Davies, B.A., o Goleg Aberystwyth, wedi cael galwad i eglwysi Maldwyn a Weston, fel olynydd i'r Parch. \V. J. B. Mendus. Brawd yw efe i'r Parch. Talog Davies, Lerpwl. O'— Pasiodd Mr. E. W. Lloyd Jones, B.A., Ll.B. (maby diweddar Barch. D. Lloyd Jones, M.A., Llandinam), ei arholiad terfynol fel cyfreithiwr yr wythnos ddiweddaf. Yr wyth- nos cynt graddiai Mr. Lloyd Jones yn Ll.B. yn Nghaergrawnt. -<r- Cyflwynodd' Mir. John Morris, U.H., Uchel Sirydd Meirion, bar o fenyg gwynion i Syr A. Osmond Williams, Cadeirydd y Frawdlys Chwarterol, yn arwydd o fywyd glan y sir. Dyma yr ail dro i Mr. Morris gael y pleser o wneud hyn er pan y mae yn ei swydd. --0- Mri. Alfred Jenkins, B.A., a Gwilym Jones, B.A., sy'n golygu y gyfrol newydd o'r 4 Grail,' cylchgrawn efrydwyr Coleg Diwin- yddol Abcrystwyth. Mae'r rhifyn sydd newydd ei gyhoeddi yn debycach i gylch-rawn cencdlaethol nag i gyhoeddiad coleg. ,o-- Mewn atebiad i gais Arglwyddi Kenyon a Penrhyn, darfu i 179 o aelodau llys Prifysgol Cymru a'r tri Choleg Cenedlaethol, arwyddo deiseb yn protestio yn erbyn trosglwyddo dim o eiddo yr Eglwys Sefydledig at addysg. Gofynnir i'r Prifweinidog dderbyn dirprwyaeth i gyflwyno y ddeiseb. --(}-< Da gennyf weled fod y d'rysorfa-gychwyn- wyd gan y Wesleyaid i godi cofgolofn i Humphrey Jones, y gwr fu mor amlwg yn Niwygiad 1859, yn myned ymlaen yn llwydd- iannus. Gwr rhyfedd oedd Humphrey Jones, a llanwodd le dirgelaidd a rhyfedd yn y diwvg- iad. M'ae Mr„ G. Ivor Evans, unig fab Mr. G. -0-- M'ae Mr. G. Ivor Evans, unig fab Mr. G. T. Evans, Haulfryn, Abergele (ysgrifennydd eglwys y MLC.), wedi graddio'n B.A. ym Mhrifysgol Rhydychen, gydag anrhydedd yr ail ddosbarth mewn anianaeth (4 physiology ). Paratoi y mae'r gwr ieuanc talentog at fyned i'r alwedigaeth feddygol. --{}- Mae Miss Hall, a fu gynt yn gwasanaethu ynglyn a'r Cartref," Bontnewydd, a Rigby Street Mission Lerpwl, wedi ymgymeryd a'r swydd o Sister ynglyn a'r Girls' Guild a berthyn i Free Church Council Swansea, a'i bod yn ymddangos yn hollol gartrefol yn y J gwaith ag sydd mor agos at ei chalon. --o- Gadawodd Mr. Colt Williams, y bar- gyfreithiwr, eiddo oedd yn werth 26,307p. Yn ei ewyllys cofiodd am ddwy gymdeithas eglwysig, a rhoddodd gan' punt i un a dau gant i'r llall. Y boneddwr hwn am lawer o flynyddoedd fyddai yn edrych drwy restr etholwyr Meirion a Siroedd ereill. --0- Cyflwynodd cyfeillion yn Nhreffynnon an- rhegion hardd i'r Parch. A. Wellesley Jones, B.A., B.D., ar ei ymadawiad i symud i fyw i Gaer ac i wasanaethu Cymdeithas y Beiblau. Y Parch. J. E. Davies a lvwyddai y cyfarfod anrhegion, a rhoes amryw air caredig am Mr. a Mrs. Jones. -<r- Cymro o Widnes, Mr. Glyn Hughes (i7eg oed), mab Mr. H. W. Hughes (a nai i olyg- vdd v CYMRO), a enillodd ysgoloriaeth deith- iol Ffrancaeg Swydd Caerhir. Y peth cyntaf wnaeth Glyn wedi ei hennill oedd holi am gyfeiriad cenhadon Llydaw er mwyn myned i edrych am danynt. —o— Llawenydd gan bawb ddeall fod Mr. John Jones, B.A., Trawsfynydd, wedi enill Ysgol- oriaeth am 5op. yng Ngholeg Diwinyddol y Bala, a'i fod yn uchaf ar y rhestr. Yn mis Medi bydd yn dechreu ar ei waith fel gwein- idog yn Llangoed, Sir Fon. Y mae yn an- rhydedd i'r ardal a'r enwad Methodistaidd yng Ngorllewin Meirionydd.
EIN POBL IEUAINC AR WASGAR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
gobeithio yn ddistaw bach o'r atgofion cyy- egredig, melus, ac anwyl, yn awr ac eilwaith, a i meddianna yn unigrwydd ei unigedd. Atgofion a ddeuant i'w meddiant ar brydiau rhaid' credu o ddarn emyn neu emynau D'iwyg- iad 1904, megis aderyn gwyn ymhlith yr adar duon a ehedant a chwareuant yn ddichell yn ffurfafen meddwl a theimlad. Pwy anghofia y canu a'r addoli hyd lwyr anghofio a gorch- fygu'r byd, y cnawd, a'r diafol, yn swvn nefolaidd yspryd geiriau y darn a ganlyn: — D'wedi mi ai fi oedd hwnnw Gofiodd cariad rhad mor fawr? Marw dros un bron a suddo Yn Gehenna boeth i lawr." Pvvy all ameu nad oes yna liaws yn cu plith na fuont yn addoli yn Niwygiad 1904 wrth ganu'r geiriau tyner ac anwyl hyn— D'wed i mi ai fi oedd hwnnw? Mae cymoedd y Deheudir--Dyffrynnoedd y Rhondda, Aberdar, a Merthyr, heb nodi rhan- barthau poblog Sir Fynwy, un uchel dystiol- aethu y gwirionedd a geisir, yn anniben ddigon ni gyfaddefwn, ei groniclo, sef yw hynny, fod cannoedd os nid miloedd o'n pobl ieuainc ar wasgar o gapel ac o wasanaeth crefyddol. Nid ein hamcan gymaint ydyw nodi rhestr y rhesymau paham y mae cymaint bechgyn o'r Gogledd, er engraifft, a ddeuant i'r Deheu- dir, oherwydd sefyllfa masnach y chwarelau, heb ychwanegu atynt bechgyn y Die, yn ddi- feddwl a difater o grefydd eu tadau a'u mamau, eithr yn unig nodi'r ffaith. Credwn bod gweinidogion a swydd'ogion yr eglwysi Cymreig yn y De, perthynnol i bob enwad, ar eu goreu yn ceisio ennill y rhai hyn a'u dwyn i-'w Ile. Cymry Cymraeg unieithog yn bennaf, os nid yn gwbl oil, ydyw y bechgyn y cyfeirir atynt. Fe ddeuwn ninnau, Efeng- ylwyr y Mudiad Ymosodol (Forward Move- ment), rhai o honom beth bynnag, i gyffyrdd- iad a rhai o'r bechgyn anwyl hyn ar ein hynt, ac hyd y mae ynom cymhellwn hwynt i'w cysegr eu hun i ba enwad bynnag y perthyn- ant. Nid am ein pobl ieuainc ar wasgar o'r Gogledd i'r Dte, fel lie neu ranbarth, nac ychwaith ar wasgar o'r addokty yng Nghym- ru, fel y cyfryw, a fynnom ni yn bennaf, eithr am ein pobl ieuainc ar wasgar dros y ffin, nid y ffin sydd yn rhannu'r Gogledd a'r De- heudir, eithr dros y ffin. a rhennir Cymru fel gwlad oddiwrth y gwledydd ereill. Ond y Nodyn I. ydyw hwn, fel y sylwyd, a rhydd agoriad i fater gor-bwysig, ni gredwn, ag y dygir ein C'v fun deb i'w ystyried, a hyderwn i weithredu gyda golwg arno. Eithr er cael trefn, cyfyngwn ein sylwadau ynghyda chyfeiriad lleol ein nodyn nesaf (yr ail). Cymerwn fel pennawd Ein Pobl Ieuainc ar Wasgar yn Llundain." Mawr ydyw'r gwaith. Gwyleidd-dra yng- hyda sobreidd-dra meddwl, ynghyda disgwyl- iad tawel a sicr am Ei Yspryd Ef, a'n medd- ianna ym mhresenoldeb cwestiwn mor fawr. A erys hwn pan y daw yn gyflawn i'r golwg? y t, z, Elr hynny nid ydyw yn rhy fawr. Caniateir i ni hyderu i'w oleuni grasol Ef dry wan u trwy a symud ymaith bob anhawster a ym- ddengys ar ein ffordd'. Da gennym fydd derbyn awgrymiadau oddiwrth garedigion yn Nghymru yn ogystal a'r Brifddinas, fel y bydd ein nodiadau yn ym- ddangos yn eich colofnau. J. T. WILLIAMS (gynt o Resolven), Forward Movement Hall, Abercynon, Morgannwg.