Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cynhallodd eglwys Bethesda, Abermule, ei chwrdd 'ynyddol y Sabbath diweddaf. pryd y pregethwyd y dydd gan y Parch. Enoch Anwyl, Adfa. ^aed cynulliadau mawrion.
Pregethau Noson Walth.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pregethau Noson Walth. a atolygasant gael pregethu y geiriau hyn lddynt y Saboth nesaf."—Actau xiii., 42, PREGETH II. Tybir mai'r Iddewon mewn gwirionedd a atolyg- asant. Paham yr oeddynt mor awyddus am gael pregeth arall ar yr un geiriau? Am fod y bregeth gyntaf wedi gosod bywyd o'u blaen yn un darn cyf- rodedd, tra o'r blaen nad oeddynt erioed wedi ei weled ond yn glytiau darniog. Cawsant un olwg, a dymunent un wedyn, ar wahanol amgylchiadau bywyd yn rhedeg i'w gilvdd-ae yn ffitio. < Yr oedd- ynt wedi hen gynefino ar ddarllen y gyfraith a'r proffivydi; ond pan y cododd Paul i fyny ac am- neidio a'i law am osteg, gwelsant am y tro cyntaf eu bywyd eu hunain a bywyd eu cenedl yn gytun a'r pethau a ysgrifenwyd. Cawsant y drem honno ar eangder bywyd a geir weithiau nes creu brwdfrydedd bywyd. Cyneuodd yr Apostol ryw chwilfrydedd yn- ddynt ynghylch pethau mawr crefydd a gwlad. Gyda Ilaw, yr oedd y dydd a'r lie yn dra ffafriol i hyn oil. Wyr ieuainc, ar ol wythnos o fethu gweled pethau yn gweithio i'w gilydd yn briodol, trowch i mewn i'r Synagog ar foreu Saboth, a diau y deuwch i ddweyd gyda'r Salmydd, Pan amcenais wybod hyn blin oedd hynny yn fy ngolwg i hyd onid aethum i gysegr Duw yna y deallais." Lie iawn ydyw'r cysegr i gael ein meddyliau atom. Gadawer i ni edrych ar rai pethau yn y bregeth a wnaeth iddi dynnu mor dda. Yr oedd gan v pregethwr hanes eu cenedl ar flaen- au ei fysedd. Yr oedd ei bregeth yn llawn o ac ynghylch," ac wedi," ac ar ol hynny," a phob wedi yn marcio tro newydd yng ngyrfa'r genedl, a phob tro yn yr hanes yn dweyd wrthynt yng ngeiriau loan, Y mae yn dyfod ar fy ol i," ac felly bachai yr Apostol eu sylw, ac arweiniai hwy o gam i gam, o un amgylchiad yn eu hanes i am- gylchiad arall, nes dod a hwy yn nes, nes, at y 'cwblhau pob peth' a wnaeth bob peth yn eglur. Mae bywyd yn dod yn odiaeth o ddiddorol pan wyliwn bob gwedd arno-ei grefydd, ei fasnach, ei wleidydd- iaeth, ei gryfder a'i wendid yn gweithio ac yn effeith- io ar ei gilydd. Yr oedd Paul wedi bron ysu y bobl yma a'r diddordeb yiia. Cysylltodd Dduw a'u cenedl, a hwythau a'u tadau, a'r oil a'i gilydd. Taflodd hwynt dros eu pennau i ganol trobwll bywyd. Enynnodd ynddynt ryw hid ynghylch an- rhydedd cenedl ac awydd am wneud i fyny am golliadau eu tadau-am "eu harferion hwynt yn yr anialwch." Dangosodd iddynt mai'r parch goreu allent hwy dalu i .goffadwriaeth eu tadau ydoedd bod yn gryfion lie buont hwy yn wan-talu mwy o sylw i ddysgu Crist nag a wnaeth eu tadau i wersi Moses. Braint fwyaf un oes ydyw unioni camwri oes o'r blaen. Mae'r un peth yn rhoddi ail gynnyg i'r tadau fyw, a rhoddi gollyngdod iddynt o'r purdan yr anfonwyd liwynt iddo oherwydd eu colliadau. Mae'r apostol yn dechreu gyda chyfeiriad at eu cenedlaetholdeb. Nid peth bychan yn eu golwg ydoedd cael eu galw "y bobl hyn, Israel." i n o fanteision mwyaf pobl sy'n cadw eu hunain yn genedl drwy'r oesau, er gwaethaf pob temtasiwn a phob cyfleusdra i gymysgu ag eraill, neu i foddi eu hunain, ydyw y brwdfrydedd cenedlaethol maent yn fagu ac mae'r" oil mae hyn yn ei olygu a'i gynnwys yn torri allan yn yr enw a hoffant, fel Israel a Chymry." Mae dweyd yr enw, rywfodd. fel agor llifddor llyn lie mae'r bywyd wedi bod yn croni o'i ddechreu. I'r cenedlgarwr, mae'r enw yn cynnwys yr oil ag ydyw, yr oil a gara, a'r oil a gara fod. Pan orchfygwyd yr Isaeliaid yn Ai, cyrhaeddodd gofid Josua ei eithaf yn y geiriau Y Canaaneaid a dorrant ymaith ein henw oddiar y ddaear." Wedi eu denu a'r enw, bachodd eu sylw ym mhellach drwy gyfeirio at y tadau. Yr ydych wedi sylwi y fath barch a delir i'r tadau yn yr lien Destament? Mae'n ardderchog! Wrth ddarllen, yr ydych yn tynnu eich het o hyd, o hyd, i'r tadau. Mae'n debyg mat yn y fan yma y cafodd y Saeson afael ar eu brawddeg odidog old world courtesy!" Y ffordd effeithiolaf hyd yn oed i gymell Duw i'w sylw ffafriol ydoedd dweyd ei fod yn ddigon da i'w tadau. Ac mae'r parch yma oedd rhyngddynt yn naturiol iawn. Yr oedd y tadau wedi cael siars ynghylch dysgu y plant yn yr holl bethau ynglyn a r genedl. Onid tarawiadol iawn ydyw y fath ddarpar- iaethau a hyn a geir yn llyfrau Moses?—" A bydd pan ddywedo eich meibion wrthych. Pa wasanaeth yw hwn gennvch? Yna y dywedwch "-fel a'r fel. A mynega i'th fab y dydd hwnnw"—y peth a'r peth, &c." Ac yng nghanol rhagolygon disglaer Cymru heddyw, nid oes dim mwy calonogol na'r darpariaethau a wneir i ddysgu'r plant am eu tadau ac am yr hyn a aeth o'r blaen. Enaid cenedlaeth. oldeb ydyw parchu'r rhain. Yng nghenedl Israel vr oedd yr agosrwydd yma rhwng tad a mab yn nodedig iawn. Ystori dda i ddangos hyn yw 'stori colli'r mulod. Anfonodd Cis ei fab Saul a'i lane i chwilio am danynt. Buont mor hir yn dycliwelyd, a daeth Cis mor bryderus, fel yr anfonodd ddau wr i chwilio am danynt hwythau. Sylwch ar eiriau y gweision pan gyfarfuasant: Wele, dy dad a ollyng- odd heibio chwedl yr asynod, a gofalu y mae am danoch chwi, gan ddvwedyd, Beth a wnaf am fy mab." Cymerwch eto yr ochr arall: Pan ddaeth Jacob i dynnu allan delerau ei adduned i Dduw yn Bethel, ymhell oddicartref, mewn gwlad ddieithr, yr os fawr ar ba un y dibynnai ei gadwraeth ef o'r adduned ydoedd A dychwelyd o honof mewn heddwch i dv fy nhad." A cheir engreifftiau eto cyffelvb. Fel yr hogyn bach penfelyn gymerais rhwng fy neulin un Sul i wrando'i wers. Dodais 9 fy mys ar lythyren ag y methai yn lan a'i hadwaen, ac nid yn fuan vr anghofiaf y cymysgedd 0 bryder a chywilydd ddaeth dros ei wyneb anwyl. Credai yn sicr fod anrhydedd ei d^ a'i dylwyth yn y fantol ac yn dibynnu ar ei allu ef i enwi'r lythyren. Wedi hir boeni yn ei ben bach, a chan edrych ym myw fy llygad, daeth yr atebiad ardderchog, Wn i ddim, ond fe wyr fy nhad." Wrth fyn'd i'r ysgol un nawn Sul adroddai cyfaill wrthyf fel yr oedd ei fachgen bach wedi gofvn iddo beth oedd mountain yn Gym- raeg. Fe aeth y peth fel saeth i nghalon i," meddai, gan ychwanegu, fel math o obaith am y plentyn wedi'r cwbl—" ac fe welodd y bachgen hynny." Teimlwn fod fy nghyfaill braidd yn eithafol, ond wedyn, yn anad pob gair, yr oedd y bachgen wedi annghofio mynydd ac vntau wedi ei eni wrth odreu Cader Idris. Draw ac yma drwy ei ymadrodd cyfeiria Paul at rai o arwyr yr hen amser wrth eu henwau, ac egyr pob enw fyd o fyfyrdodau. Cyfeiriodd at Abraham yr hen wr bonheddig rhadlon, heddychlon, yr hwn, er mwyn heddwch a chymydogaeth dda, berodd i i Lot "ddewis ei dir; at Moses—Moses a'r "law gadarn a'r ofn mawr;" Moses ag y mae y bennod olaf o Deuteronomium yn coffau ei farwolaeth a'r bennod gyntaf o Tcsua, a llawer pennod wedyn, yn methu gwneud hebddo Moses a gladdwyd gan Dduw, ond sydd wedi bod yn hofran drwy Hanes byth er hynny. Sonia am Samuel, a Saul a Dafydd—y "cewri oedd yn byw ar y ddaear y dyddiau hynny." Yr oedd pob un o'r dynion yma wedi bod a'i law yn tylino Hanes eu cenedl ac fel y cyfryw yr oedd eu henwau noethion i glyw v bobl yma ar foment yn cael eu dilladu a'r gweithredoedd ag y gwyddent iddynt eu cyflawni. 0 strong and noble race, Benefactors of man! High and Godlike minds! In your path thro' the world Ye left a tract of greatness. Yr oedd i'r bobl Hebreig lenyddiaeth, ac mae Paul yn eu hudo a hyn eto. Mae'n son am leferydd y proffwydi y rhai a ddarllennid bob Saboth," ac am yr hyn a ysgrifennwyd am dano Ef;" yn adrodd darn iddynt o lyfr iTsaias, ac yn dechreu codi" o'r Psalmau, "Megis ag yr ysgrifennwyd yn yr ail Psalm," meddai, Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn Psalm arall meddai drachefn. Llyfr y Psalmau!—cyffes ffydd a chyffes ffaeleddau un gen- hedlaeth ar ol y Hall; llyfr geiriau gollyngdod calon, boed hi drom neu ysgafn, oes ar ol oes; llyfr gweddi cyffredin pob to, o ddynion: ac fel pe i gadw'r hawl gyffredin yma iddo, mae r bobl yn ei ddarllen bob yn ail adnod hefo'r person bob dydd Sul. Defnyddiodd swyn arall drwy son am yr hen drig- fannan. Soniodd am hen wlad yr Aifft, ac am yr anialwch, ac am dir Canaan; a thra yr oedd efe yn eu henwi, yr oeddynt hwythau yn rhedeg dros ddigwyddiadau ihyfedd pob lie, a difyr iddynt yd- oedd edrych yn ol arnynt o'r pellder yma. Cyfeiria wedy'n at wahanol gyfnodau gwleidydd. ol y bobl ryfedd yma-am oresgyniad Canaan, am fam wyr Israel ac am eu brenhinoedd; ac ymwthiai dynion mawr pob cyfnod i'r wyneb fel yr elai ym- laen. Wedi'r cwbl, er eu bod wedi teimlo y swyn distaw sydd mewn galw pethau ymhell o draw, nid dyna barodd i'r dynion yma ofyn am ail bregeth. Yr oeddynt wedi clywed y pethau hyn lawer gwaith o'r blaen, ond dyma'r tro cyntaf iddynt glywed curiad calon ynddynt, a dyna gododd yr awydd ynddynt am gael clywed y geiriau drosodd drachefn. Yng ngolwg Paul, nid oedd helyntion boreuaf y tadau, eu datblygiad cymdeithasol a chrefyddol, a cheinion eu llenyddiaeth, yn ddim ond cyrrau gwisg Crist, a'i unig amcan yn eu coffhau ydoedd dod a'r bobl i gyffwrdd ag ymyl ei wisg Ef" a'u harwain fesul ychydig oddiwrth ymyl ei wisg at ymyl ei galon ac mae cael y ?alon yma i mewn i unrhyw beth—llyfr, dailuii, pwlpud, senedd, cenedl, dyhead-yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn y byd i'r peth. Gwers fawr Paul i Gymru heddyw, ydyw y dylai cenedl ar ei gyrfa fod a'i hwyneb ar iachawdwriaeth. Mae'n dechreu gyda'r tadau ac yn diweddu gyda'r iachawdwr Iesu. Byddwn weithiau yn clywed fod Cymru'n disgwyl dyn. Y gwaith dorrir allan iddo ydyw tynnu llun ein cenedl i bobl eiaill. Ond ni ddaw, ac nid oes eisieu iddo ddod. loan Fedydd- iwr oedd yr olaf i ddweyd Y mae yn dyfod ar fy ol i-un," ac fe ddaeth Hwnnw yn union deg. A gall Hwn wneud mwy erom na neb arall—ein tynnu i'n lie, nid tynnu ein llun. Yr hyn ddywedodd Ef, mewn effaith, ydoedd Y mae yn dyfod ar fv ol i fy mhobl, ac yn eu mysg y Cymry," a'r hyn sydd eisieu ydyw gweled Hwn a'i ddilyn.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cynhaliodd M.C. Uwchymynydd eu cyfarfod pre- gethu nos Fercher a dydd Iau 17, 18 cyfisol. Gwas. anaethwyd gan y Parchn. D. Cwyfan Hughes, B.A., Bryndu, a Lemuel Jones, Goppa. Nos Sadwrn a'r Sul diweddaf, Mehefin 20, 21, bu y Parchn. Lemuel Jones Goppa, a S. T. Jones, Colwyn Bay, yn cyynal ein cyfarfod blynyddol yn Nhalysarn
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
charms all dltt I I & THE DEST &GOES FURTHES?,' THCM/VS HEOUEV « CS LTZ NtWCASTLe-OK TVN|.
PERSONOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y Parch. D. Adams (Hawen) yw beirniad y traethawd ar "Ddylanwad Dr. T. "Charles Edwards ar Addysg a MeddwlCyniru" (I 5P. 155.) yn Eisteddfod Genedlaethol Aberyst- wyth y flwyddyn nesaf; a'r Athro J. Glvn P'avies, M. A. Prifysgol Lerpwl, sydd i feirn- ladu'r Tri Chywydd Byr—Cywydd Serch, I Cywydd Gofyn, a Chywydd Coffa. -()- C, Yn y "Contemporary Review" am y mis hwn ceir ysgrif gan Gymro, y Prifathraw E. Griffith Jones. Ei destun ydyw "Theology: Ptolemaic or Copernican?" Ei bwnc yw dangos fod diwinyddiaeth yr oes yn g-wneud dyn yn lie D'uw yn ganolbwynt crefydd. Mae'r pwyslais yn awr ar fawredd dyn, a chollir golwgi ar sylweddau gwrthrychol mawrion crefydd. Amheuthun yw erthygl fel hon yn y 'Contemporary.' 0 Gwr o Griecieth yw Mlr. O. W. Griffith, B.Sc., ond yn Athro yn Llundain, sy'n dadleu'n fwyn yn y Beirniad a'r Athro Miall Edwards, M. A. Methodist a gwyddonwr yw Un, ac Annibynnwr ac Athro Diwinyddiaeth yw'r Hall. Buddiol fyddai cael trafodaeth uwchraddol ac eang ar y prwnc rhwng y ddau. Yr oedd Cymru'n deall mwy am grefydd yn amseroedd y dadleuon diwinyddol nag yn awr er fod ambell ddadl yn ddigon digrefvdd. -Û>< Y mae Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru wedi cyfarfod a cholled drom ym mar- wolaeth Mrs. Griffith Davies, Penmaenmawr, ar ol chwech wythnos o gystudd. Yr oedd Mrs. Davies yn un o'r prif arweinwyr o'r dechreu. Bu yn Llywyddes am dair blynedd, ac yn Is-Lywyddes am naw mlynedd. Yr oedd yn un o'r arweinwyr mwyaf dbeth, cryf, a. grasol. Hi yw y gyntaf o rai fu yn swydd- ogion i'r Undeb sydd wedi ei chymeryd ymaith. -0- Mae'r Proffeswr Jenkins, Aberystwyth, wedi ,ei alluogi i arwain pump o Gymanfaoedd Canu yn ystod yr wythnosau diweddaf, a beirniadu mewn cystadleuaeth bwysig yn y Drefnewydd. Mae yn llawer o galondic1 iddo fod y tonau mae wedi gyfansoddi a'u cv- hoeddi yn yr Atodiadi Gemau Mawl, wedi dod mor boblogaidd. Clywsom ei fod wedi cynnygf y llyfr hwn i Bwyllgor y Llyfrfa, Caer- narfon, ond eu bod wedi ei wrthod. LJed debyg fod yr awdur erbyn hyn yn falch o'r gwrthodiad, gan fod y llyfr wedi troi yn llwyddiant. --{}-- Yr oedd 13 yn cymeryd y llw i fod yn Ynadon Heddwch dros Sir Feirionnyd'd yr wythnos ddiweddaf: -Colonel Percy Henry Enthoven, Dolrhyd, Dolgellau; Mr. Robert Evans, Crynierth, Llandderfel; Mr. Thomas Huson, Penygarth, Bala; Mr. Dd. Meredith, Llys Meirion, Dblgellau; Mr. John Lascelles, M.A., Penmaendyfi, Machynlleth; Mr. Owen Owen, Dental Surgeon, Bl. Ffestiniog; Mr. David Evans, Gwern I ago, Pennal; Mr. H. J. Eivans Escuan, Towyn; Mr. M'eredith Jones, Caethle, Towyn; Mr. Michael Roberts, Aberllefenni; Mr. Bertie Ryman Hall, Bryn- aber, Bala; Mr. Bertram Clough Williams Ellis, Brondanw, Penrhyndeudraeth; Mr. L. T. G. Osmond Williams, Borthwen, Penrhyn- deudraeth. —o— Gosodwyd i fyny yn Neuadd Sir Dolgellau ddarlun ragorol o Syr Osmond Williams, a piyflwynwyd iddo yn glod i'w lafur gan gyfeill- ion. Mab yw Syr Osmond i Mr. David Wil- liams, Castell Deudraeth, rhyddhawr y Sir o afaelion Toriaeth am y tro cyntaf er adeg Cromwel. Bu'r mab yn aelod seneddol am agos i ddeng mlynedd', a bu'n gweithio yn y Sir mewn llawer cyfeiriad. Yn y cyfarfod ddydd M'awrth i gyfiwyno'r darlun, llywyddai Nir. Price, Rhiwlas, un o Doriaid mwyaf rhoric y Sir, a siaradwyd gan Dr. J. Jones, Mri. E. Griffith, Munro Edwards, W. Owen, ac E. O. V. Lloyd. Rhyngddynt hwy gyn- rychiolent bob adran, a phawb yn canmol y gwr y rhod'did ei ddarlun yn hen oriel barchus y Sir.