Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

...-",,--"-'''-_.'-'''-''-''---.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLITH 0 LUNDAIN. Fe ddywedodd un o'n gwyr ieuanc disglaer, mewn araith ar y Ddrama, mai Llund,ain yw crucible Cymru, ym mha un y cymysgir gwahanol elfennau y De a'r Gogledd er mwyn llosgi popeth annheilwng a chadw aur pur ein cariad at ein gwlad. I sylwcdd- oli'r amcan godidog hwn, rhaid inni yn y Brifddinas gadw ein cysylltiad a phob agwedd o fywyd Cym- reig, hyd y gallwn. Un o'r anhawsterau pennaf yw diffyg cronicl cyflawn o hanes y mudiadau yng Nghymru. DTsgwyliasom yn hir am fwy o awel Cymru lan, a llai o fwg y sect, yn y wasg y dydcliau hyn, ond hyd yn ddiweddar, ofer fu'r disgwyl. Yn Saesncg y cyhoeddid yr unig gylchgrawn gwir genedlaethol ei nod, ond y mae ymddanghosiad Y Cymro yn arwydd fod Cymru yn bwriadu agor ei mynwes i'w phlant sydd ar wasgar. Parhaed yr ym- drech i godi llwyfan i bob symudiad teilwng o'n tra. ddodiadau a'n dyfodol, yn ddi-ragfarn ac yn ddi-oin Mae llu o wyr y wasg o Ffrainc newydd oifitn eu pererindod trwy Gymru a I.loegr, a thrwy garedig- rwydd y trefi ar hyd a lied y wlad, cawsant drem ar ein bywyd a'n golygfeydd. Yr oedd amryw o Gym- ru yn bresennol yn y ciniaw a ddarparwyd, a dis- gwylid anerchiad can Mr. Lloyd George, ond ni fedrodd ddod o Dy'r Cyffredin. Gyrrodd air i ddat. gan ei ofid, ac i ddangos maint ein dyled i'r gwyr sydd beunydd yn yinladd y frwydr am Heddwch ar y Cyfandir. Fe wnaed ymgais gan rai o'r Ceidwad- wyr penboeth i ail-daflu'r sen ar y Canghellor, trwy ei wawdio ar adeg y gwyddent nas gallai. ateb, ond ni fu iddynt nemawr o lwyddiant; nid felly y codir safon gwleidyddiaeth, a da gennym weled nad yw eu harweinwyr yn eu cefnogi. Ychydig o sylwadau wnaed yn y papurau newydd. ion ar bresenoldeb curad o Eglwys Loegr fel swydd- og yn y Boxing Match,' gynhaliwyd yma ychydig ddyddiau'n ol. Y mae rhai yn ei gondemnio'n rhagr farnllyd, ond teccach fuasai ei adgoffa na fu fawr o les yn deilliaw i Eglwys Dduw o ymdrechion y 'sporting parson' yn y dyddiau gynt. Cas gweled miloedd yn dioddef mewn tlodi a thrueni dirfawr- yn ymbil ar yr Eglwys estyn llaw i'w codi-ac un o'i hoffeiriaid yn dysgu ereill i gau eu dyrnau! Nos Sadwrn y gwelwyd y perfformiad cyntaf o chwareugan Arglwydd Howard de Walden a Joseph Holbroke—' Dylan,' sef yr ail a gyfansoddwyd ar chwedlau Cymru Fu. Cymerir diddordeb mawr gan lliaws o Gymry yng ngwaith T. E. Ellis,' fel y'i gelwir ar y rhaglen, ac fe geir disgrifiad manwl yn y rhifyn nesaf. Eglwys (M.C.) Clapham Junction.—Yrr wyf yn gobeithio nad oes neb o ddarllenwyr y CYMRO am funud yn coleddu y syniad mai rhyw fympwy gwag ac ymhongar sydd yn fy nghymell i groniclo rhai o weithrediadau yr eglwys hon: Fy nghred ddi- ffuant yw ei bod yn gwir deilyngu sylw, ac y gallant dan fendith yr Arglwydd fod yn symbyliad i weith- garwch, brawdgarwch ac undeb mewn eglwysi er- eill. A mwy na hynny am y credaf y rhoddant lawenydd i galon ac yspryd lawer mam a thad ac y mae eu plant yn aelodau o'r egTwys hon. Dyma grynodeb byr yn arddangos cynnydd yr eglwys am y pum' mlynedd diweddaf :-Aelodau.-1909: 217; Casgliadau, £ 294. 1910: 246; £ 303. 1911 246; £ 303. 1911: 278; £ 304. 1912: 289; £ 312. 1913: 306; £321. Ar sail y ffigyrau hyn, gwnaeth yr eg- lwys gydag untrydedd hollol, godiad sylweddol yng nghyflog ei gweinidog y Parch. D. Tyler Davies, yn gydnabyddiaeth o'i gwerthfawrogiad o'i lafur. Mi a obeithiaf na chaiff Mr. Davies byth achos i ddweyd yr hyn a ddywedodd y diweddar Barchedig John Angell James pan yn rhoi i fyny fugeiliaeth yr eglwys fawr yn Carr's Lane, Birmingham, ac yn mynd i eglwys fach yn suburbs y ddinas. Wei, ineddai, chwi roisoch imi bopeth ofynais gennych ni omeddech ddim a ofynnais gennych at unrhyw achos da, ond ces ofn yn eich parodrwydd i roi o'ch arian eich bod yn meddwl y gallech fy nirprwyo i i wneyd eich gwaith, ac, i'ch rhyddhau chwi o'ch rhwymedigaethau crefyddol personol i Grist, a than y teimlad hwnnw yr ymgymerais a gofal eglwys fechan nad oes ganddynt ddim i'w roi ond rhoi eu hunain." Ond da gennyf allu sicrhau nad yw eg- lwys Clapham Junction ar hyn o bryd ar y tir hwn, ond y mae yma lafur cariad o'r swyddog mwyaf gweithgar i'r aelod mwyaf distadl, ac y mae yr eg- lwys yn eithriadol am lafur a gweithgarwch y chwior- ydd. Yn ychwanegol at hyn wedi tynnu dyled y capel i lawr dros fil o bunnau yn ystod y ddwy flyn- edd ddiweddaf, teimlwyd awydd am harddu y cysegr a chael ventilation gwell ac electric light yn He gas. Aed at y gwaith yn ddiymdroi—pawb o unfryd calon yn y gwaith. Nid oes yn perthyn i r ddeadell yr un ddafad ddu na'r "ddafad ungorn a roi gymaint o drafferth i Hiraethog gynt. A'r Saboth diweddaf yr aed i'r capel gyntaf wedi yr adnewyddiad. Wedi'r bregeth yn y boreu cafodd yr Ysgol Sul y gweddill o'r dydd i gadw gwyl flynydd- 01 y plant. Un o nodweddion yr wyl hon yw dyfod. iad Mrs. l-loyd George atom i gyflwyno i'r plant eu certificates a'u gwobrwyon ynglyn a'r arholiadau blynyddol dan nawdd Undeb yr Ysgolion. Er nad aeth cynifer o blant ag arfer dan arholiad, daeth V rhai aeth i mewn bron oil allan yn y dosbarth rhagorol, ac enillwyd amryw wobrwyon. C'afwyd cryn ddifyrwch pan yr aeth merch ieuanc, Miss Lewis, Ysgolfelstres yn Streatham i fyny i dderbyn ei certificate yn un"g-. Cawsom anerchiad rhagorol gan arolygwr yr Ysgol, Mr. John Ashton, ar Rwymedigaeth Cymru i'r Ysgol Sul,' ac yn profi uwchlaw pob amheuaeth fod Ysgol Sul Cymru wedi ei chychwyn gan Mr. Morgan, Ysgolfeistr o Sir Aberteifi, 10 mlvnedd o flaen Ysgol Sul Robert Raikes. Sylwodd Mr. Ashton pa mor ddyledus yw Prydain a'r byd yn wir i Gymru fechan, gan mai o'i mewn hi y cafwyd pioneers y tri sefydliad sydd Y. wedi effeithio mwyaf yn eu dylanwad ar gymdeithas ym Mhrydain. Yr Ysgol Sul i addy&gu'r Beibl. Y Gymdeithas Feiblaidd, ac yn Newtown y cafwyd y Socialist cyntaf sydd yn tynnu sylw y Diwygwyr politicaidd mwyaf y byd heddyw. Y mae ein rhwymedigaeth ni fel cenedl yn fawr i'r Ysgol Sul, oblegid o honi hi y cawsom y pregethwyr sydd yn cael eu cydnabod a'u gosod ar restr flaenaf pregeth- 'wyr CristTonogol y byd, ac iddi v rhaid priodoli safle uchel gwerin Cymru mewn addysg a diwyll- ZI) iant. Gobeithiwn y cedwir ei nodwedd Gymreig yn iLlundain i fod yn ysgol pob oedran, ac na ddiryw. iai byth i fod yn ysgol i blant yn unig." Canodd y plant eu hymnau, Gweddi Plentyn,' 1 Dydd Coroni,' 'Pwyso ar ei fraich,' yn dra swynol, dan arweiniad Mr. R. L. Davies, yn profi y llafur oedd wedi bod i'w haddysgu, a chanodd y rhai bach eu solos a'u hadroddiadau yn fendigedig o syml ac effeithiol. Adroddodd Dosbarth o ferched ieuainc yn yr hen ddull Cymreig un o benodau o Esaiah. Cyflwyn- odd Mrs. Lloyd George lyfr i bob plentyn perthynol i'r eglwys, ac yr oeddent yn rhifo no o blant dan 14 oed. Llongyfarchodd M.rs. Lloyd George yr eg- lwys am harddwch y capel, ac yr oedd wedi cael boddhad neilltuol wrth glywed v plant yn canu ac adrodd, ac yn acennu Cymraeg mor groyw. Credai fod eglwys Clapham Junction yn un o'r eglwysi mwy. at gweithgar yn y Cyfundeb, a theimlai yn sicr y gwnai y bobl ieuainc eu rhan i gadw i fyny ei chymeriad da a'i gweithgarwch. Yr oedd yn gobeithio nad ai apel a gwahoddiad taer yr arolygwr ddim yn ofer, ond y ceid gweled ychwanegiad sylweddol yn yr Ysgol y flwyddyn hon eto." Ar ei ran ei hun ac ar ran yr eglwys, ac yn arbennig y plant cyflwynodd y Parch. Tyler Davies ddiolchgar- wch gwresog i Mrs. Lloyd George. Yr oedd pob plentyn yn foddlawn aros am fis heb ei wobr, er mwyn y pleser o'i chael o law Mrs. Lloyd George. Mae yn sicr yr erys noson y plant bellach yn sef- ydliad blynyddol ynglyn ag eglwys Clapham Junction. D.E.

YR YSGOL HAF GYMREIG.

ABERGELE.

COLOFN Y BEIRDD.