Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

.-.CYFARFODYDD MISOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFODYDD MISOL. AMSER CYMDEITHASFAOEDD A THREFN Y C.,M. Y Gymanfa Gyffredinol-Llundaiii, Mehefin 8, 9, 10, 1915. Cymdeithasfa'r Gogledd-Caernarfon, Awst 25, 26, 27. Cymdieithasfa'r De-Hebron, Aberaman, Gorffenaf 28, 29, gO. Brycheiniog-Clydach, Gorph. 7, 8. I ddechreu am tin o'r gloch. Caerfyrddin—Pontyates, Gorffenaf 14. I ddechreu am 10.30. Bydd tren yn rhedeg o Burry Port am 9.45 a.m. Dyffryn Clwyd.—Llansannan, Awst 2ofed. Dyffryn Conwy.-Llansantffraid, Glanconwy,^ Medi 22 a 23. De Aberteifi-Bethania, Awst 26, 27. Mater y Seiat, Heb. x. 25. Gogledd Aberteifi-Rhydlwyd, Gorffenaf 29, 30. Gorllewin Meirionydd— Henaduriaeth Morganwg (Dwyrain)—Gelli, Ystrad, ddydd Iau, Medi 15, am 2.15 o'r gloch. Penfro-Neyland, Gorffenaf 22ain. Testyn y Seiat, Micah viii. 8. Trefaldwyn Uchaf.—Manledd, yr amser i'w nodi eto. SIR GAERFYRDDIN.—Cross Inn, Mehefin 15. Llywydd, Parch. Morgan Jones, Llanelli. Cadarn- hawyd cofnodion y C.M. diweddaf. Trefnwyd adeg i'r Pwyllgor Arianol gyfarfod. Rhoddwyd hanes yr achos yn y lie. Y mae'r eglwys hon mewn sefyllfa hynod o lewyrchus o dan ofal y Parch. E. J. Evans, heddwch a thangnefedd yn ffynu yn eu plith, a. ffyddlondeb i'r moddion wythnosol yn cael ei ym- arfer gan yr aelodau. Ymddiddanwyd a blaenoriaid yr eglwys am eu profiad ysbrydol. Yn eu plith yr oedd un hen frawd yn bedwar ugain mlwydd oed, ac yn ystod y maith flynyddoedd heb fod mewn angen am feddyg na meddyginiaeth i'w gorff, ond yn gwybod am Iesu Grist, y Meddyg gwell," ac yn treulio lawer o'i amser yn ei gymdeithas, ac yn cael amI i brawf ei fod yn cael ei wella trwy rin gwaed ei Waiedwr. Yr oedd y brodyr eraill yn dwyn ar- Wyddion amlwg eu bod o dan oruchwyliaethau Ys- bryd y Gras." Derbyniwyd Mr. Thomas, Scur- lock, blaenor ieuanc yn yr eglwys hon, yn aelod o'r C.M. arwyddwyd y llyfr dirwestol ganddo. Dar- llenwyd llythyrau yn diolch am gydymdeimlad oddi- wrth Mr. Henry Ambrose, Llandilo. a Mr. John Edward, Capeluchaf. Rhoddwyd hanes yr ymwel. iad biynyddol igan yr ymwelwyr yn y dosbarthiadau canlynol: Llanfynydd, Llansawil, Llanymddyfri, Llangadock. Cafwyd adroddiad manwl a gonest gan y brodyr am stad yr eglwysi. Nodent y diffyg. ion. yn gystal a'r rhagoriaethau, ac wrth gymeryd y cwbl i ystyriaeth, testyn i fod yn ddiolchgar sydd genym i'r Arglwyd am fod yr achos niewn gwedd mor gysurus yn ein. plith. Gwnaed sylwadau coffa- dwriaethol am y diweddar Mr. Davies, Birds Hill. Yr oedd ein diweddar frawd yn meddu ar grefydd bersonol diamheuol. yn hynod am ei ffyddlondeb a'i weithgarwch yn ei eglwys gartrefol, a theimlir colled ar ei ol. Penderfynwyd fod llythyrau o gydymdeim- lad at amryw o bersonau a theuluoedd mewn cystudd a thrallod. Hysbysodd y Parch. D. J. Henry, B.A., Lanymddyfri. fod tri o frodyr wedi eu dewis yn flaeaoriaid yn y Tynewydd, Cilycwm, sef ri. Daniel Jones, Lamb Shop, William Williams, Cwmdynent, a Daniel Williams, Sarnheol, a derbyn. iwyd yr adroddiad. Cymeradwywyd adroddiad Pwyllgor y Genhadaeth Gartrefol, a phenderfynwyd fod Ysgrifenydd Sirol y Genhadaeth i ohebu a'r eg- lwysi sydd ar hyn o bryd heb fugeiliaid, sef a ydynt yn bwriadu sicrhau bugeiliaid yn fuan fel y gellir cyflwyno ei achos am .gymorth gerbron y Pwyllgor Cyffredinol. Achosion o'r Dosbarthiadau Dosbarth Meidrim-Yn ol cais y dosbarth hwn penodwyd y Parch. J. E. Thomas, St. Clears, a Mr. John Jenkins, Cowin Grove, i fyned i Meidrim i ddewis blaenor- laid a'r Parch. D. M. Thomas. Lacharne, a Mr. John David, Llanddowror, i fyned i Bancyfelin ar yr un neges. Mr. John Jenkins, Cowin Grove, wedi ei benodi yn aelod ar Bwyllgor yr Ymweliad. Yn ngwyneb y cwyn a gyflwynwyd gerbron gan y Dos- barth, sef fod nifer o weihidogion a phregethwyr yn tori eu hymrwymiadau Sabbothol, ynghyd a'r niwed a wneir i'r achos trwy hyny. ac ar ol cryn siarad ar y mater pwysig hwn, penderfynwyd ein bod yn dy- muno er cadw i fyny urddas y weinidogaeth ar y gweinidogion, y pregethwyr a'r blanoriaid i fod yn ffyddlon i'w hymrwymiadau Sabbothol. Dosbarth Hendre Yn aelod ar Bwyllgor yr Ymweliad, y Parch Richard Thomas, Penygroes; Addysg y Weinidoig- aeth, Parch. Thomas Francis, Hendre; y Cenhad- aethau, y Parch. Richard Thomas. Dos. Amman- ford: Aelod ar Bwyllgor yr Ymweliad. Parch. Philip E. Evans, Llandebie. Dos. Llanddarog: Aelod ar Bwyllgor yr Ymweliad, Parch. Hugh Ed. wards. Ar gais y Dosbarth hwn penodwyd Pwyll- gor i ystyried y priodoldeb i sefydlu eglwys Seisn.ig yn Mhontyberem; aelodau y Pwyllgor ydyw y xhai canlynol: Parchn. D. Rowlands, Caerfyrddin, John Morgan, Bancyfelin, Thomas Francis ,Hendre. W. D. Navies, Tumble, Daniel Jones, B.A., Pembre, Huw Edwards. Pontyberem, a Mr. William Eynon., Llan- elli; y Parch. Huw Edwards yn gynullydd. Pen- derfynwyd fod y mater canlynol i'w harifon i sylw yr eglwysi trwy gyfarfodydd y Dosbarth, sef y ddyledswydd ar rieni i ofalu am addysg grefyddol y plant ar yr aelwyd, a bod pragethau yn cael eu traddodi ar y mat-er gan y pregethwyr yn yr eglwysi. Galwyd sylw at yr Arddangosfa Genhadol a gyn. helir yn Nghaerfyrddin, a rhoddwyd anogaeth i'r eglwysi i fod yn deyrngarol i'r mudiad trwy roddi Pob cefnOlgaeth i'r arddangosfa. Dewiswyd yn gyf. arwyddwyr sirol y Genhadaeth Dramor am y tair blynedd nesaf, y Parch. J. F. Edwards, Llanfynydd, a Mr. W. T. Morgan, Broad Oak, yn aelod ar Bwyll- gor yr Athrofa am dair blynedd Mr. Walter James, Llangadock. Penodwyd y Parch. W. Nantlais Will liams a Mr. Thomas, Council School, Bettws, i fyn- ed i Brynamman i gael y C.M. yn Medi yn lie Tach- wedd, am y rheswm ei bod yr adeg hono yn bwr- iadu cynal cyfarfod ymadawol i'r Parch. David James Davies, B.A., un o blant yr eglwys, a mab i'r Parch. Rhystyd Davies, yr hwn sydd yn myned allan yn genhadwr i Fryniau Cassia. Penderfynwyd fod eglwys Brynamman i ohebu ac eglwys Cydweli ar y mater, gan hyderu y bydd iddynt gael eu cais. Rhoddwyd caniatad i eglwys Esgernant i ddewis ym- ddiriedolwyr ac i gyflwyno yr enwau yn y C.M. nesaf. Penodwyd y Parch. J. E. Davies, M.A., Llanelli, a Mr. Philip Perkins i fyned i Llanarthney ar fater neillduol. Gosodwyd ar yr Ysgrifenydd i ysgrifenu i Caernarfon i ofyn am delerau argraffu slips adroddiad y C.M. Rhoddwyd hanes y Gym. anfa Gyffredinol gan Mri. David Davies, U.H., Caerhedin, a Rhys Price, Caerfyrddin. Nid oedd neb o gynrychiolwyr Cymdeithasfa Trefecca yn bresenol i roddi adroddiad. Trefnwyd i'r Arholiad Taleithol i'w gynal yn y Trinity, Llanelli, Gorffenaf 28, 29. Gofalwyr y Parch. D. S. Owen, B.A., a Mr. William Jones, Siloh, TJanelly. Lie ac amser y C.M. i'w hysbysu etc. Mater y Seiat Gyffredinol fydd Gwaith yr Ysbryd Glan,' i arwain y Parch. J H. Davies, Llanelli. Cymeradwywyd penderfyn- iadau y Pwyllgor Arianol. Am 3 o'r gloch cynhal- iwyd y Seiat Gyffredinol. Y mater: Gwaith yr Ysbryd Glan (a) Ar y byd (b) Yn yr eglwys (c) I Grist. Yn arwain yn ol penodiad ar ddechreu y Cyfarfod Misol, y Parch. W. D. Rowlands, Caer- fyrddin. Pregethwyd gan y Parchn. Thomas Francis, Hendre, J. E. Davies, M.A., Llanelli. DWYRAIN MORGANWG.-Trehill, Mehefin 18. Llywydd, Parch. J. Morgan Jones. Dechreuwyd gan y Parch. J. Morgan, Llwynpia. Y C.M. nesaf i'w gynal yn Bryntirion, Gorffenaf gfed. Llywydd, Mr. E. M. Price, Trehafod. Gweinyddir yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd yn nghyfarfod y boreu. Seiat am 3. Mater, Dyledswydd yr eglwys yn ngwyneb difaterwch yr oes." I agor y Parch. M. Williams, Cilfynydd. Cadarnhawyd Cofnodion y cyfarfod blaenorol. Darllenwyd llythyrau oddi. wrth y Parch. W. Lloyd Mri. T. Jones, Merthyr, Morgan Lewis, Glynedd, D. Morris. Twynrodyn, R. J. Lewis, Ynyshir, Noah Morgan, Llanilltyd Fawr, ac hefyd oddiwrth Mrs. Morgans. Tonyrefail, a Mrs. Williams, Pontygwaith, yn diolch i'r C.M. am ei gydymdeimlad a hwy yn eu profedigaethau. Pasiwyd i anfon ein cydymdeimlad a'r rhai canlyn. ol yn, eu profedigaethau :-Dr. E. T. Davies, Caer. dydd, Mri. Thos. Davies, Penygraig, W. Thomas, St. Fagans, C. Beddoe, Nelson, Cyngh. James Evans, Clydach Vale, David Burrell, Ferndale, Mrs. Thos. Jenkins, Trehafod, Mrs. Noah Morgan, (Llanilltyd Fardre, ac a'r Parchn. H. W. Thomas, Porth, B. T. Evans, Llantwit Major; Mri. E. Mathews, Peny- graig, W R. Jones, Porth, David Lewis, Ton, yn eu cystudd. Hysbysodd Archwilwyr Trysorfa'r C.M. Genhadaeth Dramor Adroddiad y C.M. Y Symud- iad Ymosodol, eu bod wedi cael yr oil yn gywir, Hysbysodd y cenhadau fu yn eglwys y Twyn, Caer- philly, yn cymeryd llais yr eglwys ar fugail, fod yr eglwys bron yn unfrydol yn ei galwad i'r Parch. J. N. Jones, Melincryddan. Hysbysodd y cenhadau fu yn Bethlehem, Mountain Ash, a Jerusalem, Ynysy. bwl, yn holi yr ymgeiswyr am y weinidogaeth, eu bod wedi cael eu llwyr foddloni yn eu hatebion a'r ddwy eglwys yn unfrydol yn eu cymeradwyo i fyn'd rhag eu blaen. Hysbyswyd fod dau wedi cael eu dewis yn flaenoriaid gan eglwys Hebron, Aberaman, sef Mri. Thos. J. Hamer, John Jenkins, a'r ddau yn ddirwestwyr. Adroddiadau Pwyllgorau.—Yr Ysgol Sul: Cyflwyno diolchgarwch y C.M. i'r arholwyr am eu llafur cariad gyda gwaith yr arholiad. Hysbysu gyda llawenydd fod yn yr oil o'r Dosbarthiadau gynydd yn nifer y rhai a ysgrifenold yn Gymraeg. Mae tua 8 y cant yn rhagor z, eleni na llynedd wedi ysgrifenu yn Gymraeg. Cymeradwyir (a) i bregethu yn y Gymdeithasfa nesaf ar yr Ysgol Sul,' y Parch. John Thickens, Llundain; (b) i agor yr ymdriniaeth yn y cyfarfod arall, y Parch. Howell Davies, B.Sc., Barry Dock. Pwyllgor Arianol.-Pasiwyd ein bod yn estyn cymorth o Drysorfa y C.M. i'r eglwysi a ganlyn:—Hebron, Aberaman, Zio; Moriah, Mis- kin, £12 los.; Noddfa, Mountain Ash, ^20; Llog am arian, £ 17 103.; Ynysboeth, £ 12; Llatiwonno, ,Cio; Cwmbach, £15; Treforgan, fio; Bryste, Pio; Dinas Powis, P,7 ios. Jerusalem, Lio; St Fagans, Zio.; Tongwynlais, ^25 Penderyn ac Ystradfelite, ^25 Aberthyn, 95; Barry Dock, £ 2 ics. Llanilltyd Fawr, Lio; Pendeulwyn, ^5 Penmarc a St. Athan, Li5 Soar a Threhill, ^15 Wenfo, Zio (yn amodol) Brynsadler a Pontyclun Cio (at y fugeiliaeth) Coed. lai, ^5 5 Croesfaen, £ 10; Felin Newydd, P,7 10s. Gilfachgoch, Cio; Caeharris, Lio (yn amodol); Deri, £17 ios. Merthyr Vale, Cio; Abercanaid Pio (yn amodol); Twynyrodyn, £10 (yn amodol); Nor- ton Bridge, £ 7 ios. Llaniltyd a Bryntirion, Cto; Coedpenmaen, £20; Hopkinstown, £ 7 ios. Llan. bradach Z25 Blaenrhondda, £ 5 Dyffryn, Zi5 Dinas, ^10; Pontrhondda, £ 5 (yn amodol) Watts- town, LCxo (yn amodol). Hefyd pasiwvd i gyflwyno ceisiadau am gymorth o'r Genhadaeth Gartrefol fel y canlyn:—Hebron, Aberaman, £ 7 10s.; Miskin, £$i Noddfa, ^20; Ynysboeth £ 13; Llanwonno, £ 51 Cwmbach, £ 10; Bryste ^10; Dinas Powis, £ 7 zos. Jerusalem (Splotts), ^r8; St. Fagans, ^5; Tongwynlais, JEi5; Ystradfellte, £ 10; Aberthyn. Lio; Barry Dock, £ ios.; Llanilltyd Fawr, [,r: Pendeulwyn, £ 5; Penllin, AI); Penmarc, [,8; St. Athan. L7 'Os- Soar a Threhill, [,10; Wenfo, Lio; Brynsadler a Pontyclun, Pio (at y fugeiliaeth) Croesfaen, £ 10; Felin Newydd, C,7 ios. Gilfach- goch, C5; Caeharris Lio (yn amodol); Deri, Cto; Fochriw, £7 ios. Abercanaid. fro (yn amodol); Merthyr Vale, £ 10; Twynyrodyn, £ 10 (yn amodol) Norton Bridge, £ 7 10s.; Llanilltyd Fardre, £ 5 Coed- penmaen, 110; Hopkinstown. jBro; Llanbradach, ,Cio; Blaenrhondda, 65; Dyffryn, tio; Pontrhon. dda, £ 5 (yn amodol) Wattstown £5 (yn amodol). Dewiswyd y Parch. J. Morgan, Aberdar, ynghyda'r Cyngh. Walter Williams i'n cynrychioli ar Bwyll- gor y Genhadaeth Gartrefol. Deallwn fod y farch. J. M. Jones ar y Pwyllgor hwn fel cynrychiolydd y Gymdeithasfa. Gan fod y contract a'r argraffwyr yn terfynu ddiwedd y flwyddyn hon. penderfynwyd ein bod yn anfon am tenders, a bod y Parch. M. H. Ellis, Cyngh. W. Williams a'r Ysgrifenydd i ben. derfynu pa un i'w dderbyn. Yr argraffwyr i fod o fewn cylch y Cyfundeb. Dymuna y Pwyllgor aw- grymu y priodoldeb i'r Trysorydd fod yn Oruchwyl* iwr Adroddiad y C.M. o ddechreu y flwyddyn nesaf ymlaen. Yn gymaint a bod y Trysorydd eisoes yn derbyn oddiwrth yr eglwysi arian Deddf Ad-daliad, Cyfarfodydd Diolchgarwch, a Thrysorfa y C.M. y gall wneuthur hyn hefyd golyga hyny ychwanegiad yn nghyllid y Drysorfa. Felly gofynir i'r C.M. beidio penodi neb i'r swydd hon o hyn allan. Teimla y pwyllgor yn ddiolchgar i Ddosharth Merthyr am y cymorth sylweddol y mae wedi ei estyn i eglwys Penuel, Twynrodyn. Hefyd, gofyna i'r Dosbarth anog eglwysi y Graig a Thwynrodyn i ymuno dan yr un ofalaeth fugeiliol. Gofyna y Pwyllgor gan Ddosbarth y Fro weled fod eglwys y Wenfo dan ofalaeth fugeiliol ar ol terfyniad y cytundeb presenol. Y Pwyllgor Bugeiliol yn cym. eradwyo dewisiad eglwysi Carmel. Blaenllec'hau, a Nebo, Wattstown, o fugail. Arholiad Ymgeiswyr am y Weinidogaeth i'w chynal yn Bethlehem, Mnt. Ash, a'r Parch. Gwmryn Jones a Mr. Isaac Ben- jamin i fod yn wyliedyddion. Hysbysodd y Parch., John Morgan, Aberdar, fod amryw o'r eglwysi o fewn y C.M. heb anfon i fewn eu cyfran at y coleg. au. Mawr hyderai y byddai yr holl eglwysi wedi anfon cyn y Gymdeithasfa nesaf. Rhoddwyd cania- tad i Mr. Thomas Thomas. Caerdydd, anfon cylch. lythyr i'r eglwysi er casglu pob manylion fydd 0 help i bwyllgor cynhaliaeth v weinidogaeth. Pen- odiadau ynglyn a'r Gymdeithasfa nesaf.—I roddi hanes yr achos o fewn y C.M. Yr Ystadegau, y Parch. T. Jones Davies, Taffs- Well, Ystadegydd y C.M. Adroddiad o'r Wedd Ysbrydol, Parch. W. Lewis, Cwmparc. Yn ychwanegol at y rhai a enwyd gan Ddosbarth Aberdar i gynorthwyo eglwys Hebron ynglyn a'r Gymdeithasfa, enwyd v Parchn. W. Lewis. Pontypridd, J. Morgan, Aberdar, H- r. Stephens, Aberdar. Rhoddwyd caniatad i'r Parch. John Lewis anfon cylchlythyr ynglyn a'r Gymdeith. asfa i'r gwahanol eglwysi. Mater cyfarfod y gweim-. dogion: Yr angen sydd arnom barhau bwysleisio ar brif athrawiaethau yr efengyl." Penodwyd y Parch. T. J. Jones, Treforgan, yn oruchwyliwr y Goleuad hyd ddiwedd y flwyddyn-pryd y gwneir trefniadau newyddion yr adeg hono. Diolchwyd yp. gynes i'r Parch. W. Davies, B.A., am ei sylwadau rhagorol ar yr Ystadegau,—dangosodd Mr. Davies mai nid achos i ddigaloni oedd genym ond achos lawer i lawenhau fod yr achos goreu yn gwisgo gwedd mor lewyrchus yn ein plith. Hysbysodd y Parch. W. Lewis. Pontypridd. fod ei gysylltiad fel bugail ar eglwys Penuel wedi dod i derfyniad. Rhoddwyd caniatad i Mri. W. H. Williams, B. T. Evans, D. Jeff. Davies, M. J. Rees, eistedd yr ar- holiad am fynediad i Aberystwyth, ac i Mri. Owen Jones, J. Bassett W. H. Edwards, eistedd yr arhol- iad am fynediad i Goleg y Bala. Darllenwyd rhestr yr eglwysi sydd yn derbyn cymorth o'r Gronfa Fen. thyciol eleni :-Ystradfellte, ^50; Penderyn, ;625 Pontneddfechan, E75 Brynsadler, [,25; Hebron, Aberaman. 675 Ebenezer, Maerdy, .450; Tre-r thomas, [,50; Llanwonno, £ 50; Cwmlai, £5°' Pas. iwyd ein bod yn anfon barn y gwahanol Ddosbarth- iadau ynglyn a'r Arholiad a'r Cymraeg i sylw Pwyll. gor yr laith Gymraeg. Enwyd y Parchn. J. M. Jones, J. Cynddylan Jones,, D.D., Aaron Davies, D.D., a Mr. Ed. Jenkins, U.H., Caerdydd. i fyned i'r Wenfo ar neges neillduol, y Parch. J. M. Jones, yn gynullydd. Pasiwyd i gyflwyno achos Mr. D. W. Stephens, Ystrad Rhondda, yr hwn sydd wedi derbyn galwad o Ystalyfera, am gael ei ordeinio yn Nghymdeithasfa Hydref. Cafwyd hanes, yr achos o fewn Dosbarth y Fro gan y Parch. Howell Davies, B.Sc., Barry Dock, a Mr. Illtyd Williams, Castleton. Rhoddodd y Llywydd rybudd y byddis yn ychwanegu ymddiriedolwyr ar y capel a'r eiddo yn Bethania. Maerdy, yn y C.M. nesaf. Materion o'r Dosbarth- iadau. Aberdar: Caniatawyd cais y Dosbarth am lythyr trosglwyddiad i Mr. Isaac Jones, blaenor o Ynysboeth, i undeb a Chyfarfod Misol Gogledd Aber. teifi. Hirwain Caniatawyd cais eglwys Llwydcoed i ychwanegu yn v flaenoriaeth, ac enwyd i fyned yno i'w cynorthwyo yn hyn, y Parch. H. T. Stephens a Mr. Lewis Powell, Hirwain. Y Fro: (a) Caniatawyd cais eglwys St. Athan i newid nodyn 6120. i arwyddo Mri. Illtyd Williams, John David, Alfred Sarle, J. P. Thomas, a'r Parch. J. M. Phillips (b) Swyddog) ion y Dosbarth: Llywydd, Parch. J. O. Evans, Tre. hill; Ysgrifenydd Parch. Emrys Davies, Pontfaen Trysorydd, Mr. Illtyd Williams. Llantrisant: Y Dosbarth yn hysbysu fod y Parch. B. T. Salmon wedi ei ddewis i gynrychioli y Dosbarth ar Bwyllgor Arianol y C.M. yn lie y diweddar Barch. Richard Morgan. Merthvr: (a) Caniatawyd cais eglwys Panttywyll, i newid nodyn Cioo am ddau nodyn £60 a 40 yr un. I arwyddo Mri. W. Powell, Evan Lougher, John Evans, Evan Jones, ac Edward Mathews; (b) Caniatawyd i eglwys Pontmorlais newid nodyn Z450 i dri neu bedwar nodyn am yr un swm-yr un personau i arwyddo. Hefyd caniatawyd i'r unegIwys gael lease Mr. Twomey (un o'r deil- iaid) allan o'r gist i ofal Mr. David Jones. Ponty. pridd: (a) Eglwys y Bedwas yn hysbysu ei bod yn cyflwyno policy yr Yswiriant i'w rhoddi yn y gist; (b) Eglwys Cilfynydd yn cyflwyno Bond of In.