Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Bala Theological College.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Bala Theological College. SESSION 1913-14. COMBINED RESULTS. M (Revised). N.B.—It is to be observed that the position of a student in this list determined by the aggregate marks obtained in all the examinations of the Session. The students to whose names asterisks are set have for" various reasons not sat all the examinations. Had they done so they would, of course, in most cases, have been higher in the list. Third Year.—(a) Second B.D.-i. John Jones, B.A. 2. Edward Williams, B.A. 3. *D. Morris Jones, M.A. (b) Ordinary.-i. Thomas Williams. 2. Hugh Jones; 3. J. Parry Jones and R. 0. Williams; 5. Edward E. Hughes; 6. O. J. Davies; 7. T. H. Wil. liams; 8. Robert Roberts 9 T. iL. Mostyn Owen; 10 Richard Edwards; II James Hughes; 12 Christmas Jones; 13 E. M. Griffiths; 14 R. Lloyd Edwards; 15 *W. H. Roberts. *Did not sit all the examinations. Second Year.—(a) Second B.D.-i 0. R. Owen, B.A. 2 T. O. Hughes, B.A. (b) First B.D. Course.—H. H. Jones, B.A. (c) Ordinary.—1 J. WTallace Thomas; 2 Enoch Rogers 3 Thomas W. Thomas; 4 R. Elias Jones; 5 R. T. Davies; 6 Watcyn M. Price; 7 W. John Jones; 8 Owen Hughes; 9 *H. Pryse Jones; 10 W. E. Williams; II Hywel Parry; 12 *Arthur Hughes; 13 *T. Beynon. *Did not sit all the examinations. First Year.—(a) B.D.-I. W. Edwin Hughes, M.A. 2 Robert Jones, B.A.; 3 David James, B.A. (b) Ordinary.-i Richard Lloyd, W. Morris, and Isaac Parry 4 John Williams 5 A. Iestyn Jenkins; 6 Evan John Jones; 7 R. R. Thomas; 8 *C. Lloyd Williams; 9 T. Alun Williams; 10 *W. R. Griffith; II D. T. Morgan. *Did not sit all the examinations. SCHOLARSHIPS AND PRIZES. Awards made upon the work of the Session. Third Year.—John Jones, B.A., Pierce Scholarship. Second Year.—O. R. Owen, B.A., Pierce Scholar-
.-.CYFARFODYDD MISOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
demusty am yr ¡¡ioo dalwyd o'r ddyled. i'w gosod yn y gist; (c) Caniatawyd i eglwys Hopkinstown newido Cgo i £80, yr un personau i arwyddo; (d) Pasiwyd fod y Parch. W. J. Jones, B.A., a Mr. W. Owen, Cilfynydd, i fynd i Penuel i holi yr ymgeis- ydd am y weinidogaeth. Uchaf Rhondda: (a) Can- latawyd i eglwys Nazareth godi £350 tuag at yr ad. gyweiriadau, yr un personau ag sydd ar y nodau eraill i arwyddo gyda'r ychwanegiad a enwau Mri. Thomas Edwards, Thomas Howells, David Megicks (b) Bethlehem, Treorci, yn hysbysu eu bod wedi dychwelyd y gweithredoedd i'r gist. Rhondda Fach: (a) I fyn'd i Calfaria, Porth, i holi yr ym- geisydd am y weinidogaeth, Parch. W. E. Williams, B.A., Maerdy, a Mr. Williams, Cash Stores, Pontv- gwaith; (b) I fyn'd i Bethania, Maerdy, ar gyffelyb neges, Parch. T. Wilson Roberts, a Mr. D. Burrell, Ferndale; (c) I fyn'd i Carmel i gymeryd llais yr eglwys ar fugail, Mri. John Thomas, David Burrell, ac Owen Jenkins, ac i Nebo, Wattstown, Parch. J. R. Evans, Mountain Ash a Mr. Thos. James, Ynyshir. Talu dyledion—Bethania, Aber. dare, jcioo; Cilfynydd, £100; Trealaw, f50. Nod- au i'w cyflwyno i ofal y Trysorydd-Hermon, Dow. lais, i nodyn am ^1,000; Abertridwr, i am -f 400, ac un am £ 50; Trealaw, -f50; Treherbert, £50; Bethania. Aberdare, 2 nodyn am £ 50 yr un; Pant. tywyll, I am 6too. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. W. Lewis, Pontypridd. Pregethwyd gan y Parchn. W. P. Jones, M.A., B.D., Treorchy; John Roberts, M.A.. Caerdydd. DE ABERTEIFI.-Mehefin 23, 24. Cadeirydd, Capt. George, Ffosyffin. Enwyd y Parch. D. Lewis Rees, B.D., a Mr. Enoch Thomas, Salem, i archwilio llyfrau'r Trysorydd, ac i roddi adroddiad yn y C.M. nesaf. Datganwyd cydymdeimlad a'r Parch. E. Morgan, B.A., Mri. E. Ceredig Evans, U.H., Dd. Thomas, Felincwm, Twrgwyn; Capt. Jenkins, C. Drindod a gofynwyd i'r Parch. D. Lewis, a Mr. Thomas Hughes, U.IL, gyflwyno cofion y C.M. i'r Mri. Samuel Llewelyn, a D. Thomas, dau o ddiacon- iaid Cenarth. Cafwyd Adroddiad am Gymdeithasfa Trefecca gan y Parchn. G. Williams, B.A., a David Morgan. Cafwyd adroddiad am y Casgliad at Gof- golofn Dafydd Morgan yn Nosbarth Aberteifi, a phwyswyd ar yr eglwysi i orffen eu casgliad ar fyrder. Ychwanegwyd y personau canlynol at y Pwyllgor AriaunolParchn. Dr. Moelwyn Hughes, G. Wil- liams, B.A., J. Green, B.A., D. M. Davies, Mri. John Nicholas, J. R. Evans, John Jenkins, Llan- bedr, a Stephen Jones, Tregaron, a bod aelodau Uwch-Aeron i fyned allan o'u swydd y flwyddyn nesaf, ac aelodau Is-Aeron y flwyddyn ar ol hynny. Rhoddodd y Parch. Evan Davies, C. Drindod, ad- roddiad o'i ymweliad ef a Mr. John George ag eg- lwysi Cenarth a Llechryd, a Mr. Dd. Davies, C. Drindod, adroddiad o'i ymweliad ef a'r Parch. Evan Davies ag eglwys Aberteifi. Diolchwyd i'r ymwel- wyr. Yn y cyfarf od unol hanner dydd agorwyd ar y mater, Cadwraeth y Saboth," gan Dr. Moelwyn Ilugheg, a siaradwyd ym mhellach gan y Parch. D. Utis. Ar gynygiad Mr. Richard Evans, C.S., pas- iwyd fod copi o adroddiad y Trysorydd i'w ddanfon i holl aelodau y C.M., a phasiwyd ym mhellach fod copi o raglen y C.M. i'w ddanfon i bob aelod o'r C.M.,—un sypyn i ddiaconiaid pob eglwys. Cadarn- hawyd adroddiad Pwyllgor y Drysorfa Sirol: (a) Ein bod yn gryf o'r farn y dylesid uno Maesffynnon a Llwynygroes yn daith Sabothol a Bugeiliol. (b) Fod Waunifor i dderbyn cymorth arferol ar yr am. odau o'u bod i ddyfod i fyny a'r safon osodir gan y Pwyllgor yn eu cyfraniadau, a chael pregeth ar yn ail nos Saboth. (c) Ein bod yn gofyn i'r Parch. M. P. Morgan barhau yn Ysgrifennydd hyd ddiwedd y flwyddyn-yn niffyg hynny fod y Pwyllgor Enwi i drefnu etholiad yn y C.M. nesaf. Ymddiddanwyd a'r blaehoriaid gan y Parch. Dr. Moelwyn Hughes a Daniel Lewis. Hyfryd oedd gwrando yr hen bererin, Mr. Sam Llewelyn yn adrodd ei brofiad. Pasiwyd y gylchdaith newydd o bum' mlynedd, a diolchwyd yn gynnes i'r cyn-Ysgrifennvdd, Parch. J. Green, B.A., am ei lafur yn paratoi'r gylchdaith, a gofynwyd iddo ei hargraffu a'i danfon i'r eglwysi. Rhoddodd y Parch. Thomas Lloyd adroddiad o'i ymweliad ag eglwysi Tanygroes, Watchtower, a Blaenanerch, a diolchwyd iddo ef a'r Henadur J. M. Howell, U.H., am eu gwasanaeth. Y C.M. nesaf i'w gynnal yn Bethania, Awst 26, 27. Mater y seiat, Heb. x. 25. Pregethwyd gan y Parchn. D. Lewis Rees, B.A., B.D., J. Green, B.A., Daniel Lewis, David Jones, D. Moses Davies, David Hughes, a Dr. Moelwyn Hughes. DYFFRYN CONWY-Ysbyty. Mehefin 24 a'r 25. Darllennwyd llythyr oddiwrth Ysgrifennydd Pwyll- gor Canolog Eglwysi Rhydd Cymru yn galw sylw y C.M. at benderfvniad yr Odyddion (Oddfellows, Manchester Unity) yn herio awdurdod Dirprwywyr yr Yswiriant i hawlio i bob Cymdeithas Gymeradwy (Approved Society) i gynnal eu cyfarfodydd tu allan i ystafelloedd trwyddedol. Gofynnwyd i'r Parchn. R. Rowlands, H. B. Williams, a Mr. H. Davies, Talybont, i dynnu allan benderfyniad ar hyn, ac yn ddiweddarach pasiwyd y penderfyniad canlynol: "That this Presbytery of the Calvinistic Methodist of the Vale of Conway held at Ysbyty, June 24th, 1914, realising the importance that insured persons, who must join an Approved Society in order to get the full benefits of National Iusurance, shall thereby be liable to temptations of Drink, welcomes the Chairman of the Welsh Commission's definite an. nouncement of the commission's firm determination to enforce the regulation prohibiting Approved Societies meeting on licensed premises, and assures them of the hearty support of the great majority of Wales. It, therefore, deplores the hostile attitude of the Independent Order of Oddfellows, Manchester Unity, towards this regulation, and urges all the Churches to advise their Young People to join Approved Societies meeting off licensed premises only." Copiau o'r uchod i'w hanfon i'r Gwir An rhydeddus D. Lloyd George, A.S., Gwir Anrhydeddus C. F. G. Masterman a T. J. Hughes, Ysw., Caerdydd. Penderfynwyd anfon cofion puraf a chydymdeimlad y C.M. at Mri. R. J. Taylor, Deganwy (mewn hir waeledd), ac Elias Jones, Dolwyddelen (wedi colli merch). Traddodwyd anerchiad gwir amserol gan y (Llywydd, v Parch. R. Williams, M.A., wrth gyflwyno y gadair i'w olynydd, Mr. John Richards Ar gyn- hygiad Mr. R. E. Thomas, ac eiliad y Parch. T. J. James, cyflwynwyd diolchgarwch gwresoccaf y C.M. i Mr. Williams am ei lywyddiaeth ddoeth a dymunol. ac am ei anerchiad rhagorol. Cafwyd Profiad y swyddogion a Hanes yr Achos. Arweiniwyd gyda hyn gan y Parch. H. I-I. Roberts, B.A. "Cafwyd profiadau melus ac eneiniad hyfryd arnynt. Gwerthfawrogid yn fawr lafur y gweinidog a'i briod, a thystid yn groew nad oedd lie i edifeirwch oher- wydd iddynt ymuno a Chyfarfod Misol Dyffryn Conwy. Caed gair gan y gweinidog (Parch. R. R. Jones) yn ategu adroddiad y swyddogion. Amlyg- odd ei lawellyàd o weled cynrychiolaeth mor gref yn bresennol, a diolchodd yn gynnes i bawb am ddod yno. Ar gynygiad y Parch. E. O. Davies, B.Sc., pas- iwyd yn unfrydol a gwresog ein bod yn llawenhau yn ddirfawr with weled gwedd mor fyw a llewyrch- us ar yr achos, yr adeiladau gwych a chysurus, a'r heddwch a'r ffyniant oedd ynddynt, ac yn dymuno iddynt nawdd y nef a'r arweiniad dwyfol yn y dyfod- ol. Ynglyn a hyn penderfynwyd anfon diolchgar- wch cynnes i Arglwydd Penrhyn am y modd bonedd- igaidd y darfu iddo ganiatau cais eglwys Ysbyty i gael ychwaneg o dir o gwmpas y capel ar delerau mor rhagorol; hefyd i Mr. Trench, goruchwyliwr Arglwydd Penrhyn, am y rhan a gymerodd i ddwyn hyn oddiamgylch, ac hefyd i'r brawd fu yno dros y C.M. yn cynorthwvo gyda'r adgyweiriadau. Caed sylw ar gynygiad Mr. Thos. Griffith, Gwydr Ucha', sef Penodi Pwyllgor i enwi pwyllgorau," &c. Ar ol trafodaeth fuddiol tynnwyd y cynygiad yn ol a chytunwyd i adael pethau fel y maent. Yn unol a'r cynhygiad y rhoddwyd rhybudd am dano gan y Parch. H. C. Lewis, B.D., pasiwyd fod y pender- fyniad ynglyn ag anfon Ystadegau'r Eglwysi i'r Cyf- arfod Dosbarth yn cael ei ddileu (gwel Ystadegau am 1913 tudalen 31). Rhoddwyd gwahoddiad cyn- nes i'r C.M. nesaf i gyfarfod yn Llansantffraid, Glan Conwy, Medi 22 a'r 23. Hysbysodd y Parch. H. H. Roberts, B.A., am rodd o ddarn o dir i eglwys Capel Curig, gan larll Ancaster, a phasiwyd i ofyn i'r Gymdeithasfa nesaf gyflwyno diolchgarwch i'r larll am ei rodd werthfawr. Cydnabyddodd y C.M. wasanaeth Mr. T. Griffith ynglyn a'r rhodd, a phas- iwyd i anfon diolchgarwch iddo. Gydag anerch- iad cryf a chlir cyfiwynodd Mr. R. Davies, Deganwy, y cynhygiad canlynol i sylw y C.M.: Gan fod trefn a chynhaliaeth y weinidogaeth yn ein mysg yn cael cymaint o sylw, a'n bod fel C.M. wedi cael mwy nag un drafodaeth ar y pwnc, ein bod bellach yn penodi pwyllgor i ystyried yr holl fater yn fanwl, ac yn ceisio ffurfio rhyw gynllun ymar- ferol i ddwyn oddiamgylch ddiwygiad." Pasiwyd hyn gan y C.M., ac enwyd v personau canlynol i weithredu ar y Pwyllgor: Parchn. W. Thomas, Robert Williams, M.A., E. O. Davies, B.Sc., T. J. James, E. J. Jones, B.A., H. M. Pugh, Mri. W. Edwards, Conwy, Edward Roberts, Colwyn, R. E. Thomas, Trefriw, John Morris, Pandy, W. Evans, Dolwyddelen, a Robert Davies, Deganwy, yn gyn- ullydd. Cafwyd agoriad rhagorol i'r mater penod- edig, Teyrnas Dduw a'i hawliau," gan y Parch. T. J. James. Cynhygiodd v Parch. S. T. Jones bleidlais o ddiolchgarwch i Mr. James am ei an- erchiad cynwysfawr a gwir rhagorol, a sylwodd y gellid crynhoi yr holl hawliau i'r gair teyrngarwch- Teyrngarwch i'r Brenin, i'r deddfau, ac i'r deiliaid. Eiliodd y Parch. R. Williams, M.A., a phasiwyd yn unfrydol. Cafwyd adroddiad o weithrediadau y Gymanfa Gyffredinol yn Lerpwl gan y Parch. J. Tudno Williams, M.A., ac o weithrediadau Cym- deithasfa Llanrwst gan y Parch. H. M. Pugh a Mr. Cadwaladr Jones, Rhydymeirch. Diolchwyd yn gynnes i'r Parch. R. Roberts am y llafur a gymer- odd i baratoi adroddiad mor gryno a chynwysfawr o hanes yr achos i'w gyflwyno i'r Gymdeithasfa. Caed trafodaeth faith a brwd ar v genadwri ynglyn a dos- parthiad y Goleuadoedwyd dyfod i benderfyn- iad ar hyn hyd y C.M. nesaf. I arwain gyda hanes yr achos, &c., yn y C.M. nesaf, Mr. Jeremiah Jones, Ysbyty. Pwyllgor y Drysorfa Gynorthwyol.—Cyf- arfu'r pwyllgor dan lywyddiaeth y Parch. H. Barrow Williams. Buwyd yn ystyried y ceisiadau canlynol, a chyflwynir hwy i'r C.M. fel rhai rheolaidd i'w cadarnhau Bethania a Penrhynside Brynpydew Capel Curig; Capel Garmon a Padoc Colwyn Bay (S.) Deganwy; Llangernyw Cefncoch a'r Garnedd Pensarn; Rhiw Road a Seion Talybont; Heol Scotland a'r Nant. Awgryma y pwyllgor fod y C.M. yn gofyn i Gyfarfod Dosparth Llanrwst ystyr- ied y priodoldeb o gorffori eglwys Llwyngwaew. Dymunir galw sylw at yr anghysondeb sydd i'w weled rhwng nifer y Sabothau y dywedir y bu'r gweinidogion yn gwasanaethu ynddynt a thaflen y cyhoeddiadau. Pwyllgor yr Ysgol Sul.-Cyfarfu yng nghapel Saesneg y Junction, Mehefin 2ofed, 1914. Llywydd, Parch. O. Gaianydd Williams, (a) Pas- iwyd i ofyn i'r C.M. basio fod cydnabyddiaeth reol- aidd (un sefydlog) yn cael ei rhoddi i Ysgrifennydd y pwyllgor o flwyddyn i flwyddyn, fel na byddo angen pasio hyn y naill flwyddyn yn olynol. (b) Penodwyd y Parch E O. Davies, B.Sc., i gyflwyno y "Medal Aur ac i draddodi anerchiad ar yr achlysur, i Mrs. Watson, Llandudno (S.), yng Nghyf- arfod Misol Medi yn Glan Conwy. (c) Trefnwyd i'r Gynhadledd ynglyn a* Ysgol Sabothol gael ei chynnal yn Seion, Llanrwst dydd lau, Tachwedd igeg, 1914. Am 2 o'r gloch—Cynhadledd Llywydd, y Parch. O. G. Williams. Materion: (1) (Lie yr Ysgol Sabothol yug Ngwaith yr Eglwys. I agor y Parch. H. H. Roberts, B.A. (2) Y modd goreu i gyfrannu addysg yn yr Ysgol Sabothol; i agor Mr. Hy Davies, Talybont. Trefnir i'r agorwyr gael chwarter awr yr un i agor, ac yna hanner awr o rydd ymddiddan ar bob anerchiad. Am 6.30 o'r gloch, Cyfarfod Cyhoeddus. Llywydd, y Parch. W. Thomas, Llanrwst. Materion: (I) Trem ar sefyllfa bresennol yr Ysgol Sabothol ynghylch y C.M. gan yr Ysgrifennydd. (.2) Anerchiad gan Miss Hughes Jones, Llandudno, ar Gynhadledd Ysgolion Sul y byd yn Zurich. (3) Anerchiad gan y Parch. H. Barrow Williams. Er mwyn cnnyn diddprdeb a cheisio gwneud y Gynhadledd mor hysbys ag y bo modd, penderfynwyd argraffu Posters i'w cyhoeddi. (Hy. Jones, Ysg.). (4) Pwyllgor Ariannol.—Cynhal- iwyd ynglyn a Chyfarfod Misol Ysbyty, Mehefin 24. Llywydd, Mr. John Richards, Penmachno. (I) Pas- iwyd i dalu amryw o filiau, sef (a) am argraffu yr Ystadegau; (b) Costau yr Arholiad Sirol. (2) Yn unol a phenderfyniad C.M. Gwytherin (Mai 7), pas- iwyd i roddi cydnabyddiaeth o £2 i Ysgrifennydd Pwyllgor yr Ysgol Sul (y Parch. H. Jones).—H. C. Lewis, Ysg. Pwyllgor Cymanfa Gerddorol Dos- Llanrwst a I.langernyw.—Cyfarfu yn Seion, Llan- rwst, Mehefin 23am, 1914. (1) Dechreu trwy weddi gan y Parch. Evan Davies. (2) Darllen y Cofnodion a'u cadarnhau. (3) Darllen v cyfrif ariannol gan y Trysorydd. 4) Dewis swyddogion y Pwyllgor, a dewiswyd yr un rhai, sef Mr. John Roberts, Bethel, yn Llywydd; Mr. R. E. Hughes, Eglwysbach, yn Drysorydd, ac Evan Hughes, Roewen yn Ysgrifen. nydd. (5) Pasiwyd fod y Gymanfa nesaf i'w chynnal yn Seion, Llanrwst, dydd lau Dyrchafael, 1915. Y cyfarfodydd i ddechreu am 2 a 5.30. (6) Dewiswyd Mr. John Thomas, Llanwrtyd, yn arweinydd y gym- anfa, a Mr. W. Matthew Williams yn organydd. Yn arweinyddion lleol dewiswyd Mri. David Jones, Gwytherin, Evan M. Jones, a Pierce Evans. (7) Dewis Llywyddion Cyfarfod y prynhawn: Mr. W. H. Williams, Dinam. Cyfarfod yr hwyr Parch. O. G. Williams. (8) Dewiswyd y personau canlynol i ddethol y tonau a'r anthemau Mri. W. Matthew Williams, W. Hughes, U.IL, Evan M. Jones, Owen Williama. John Morris, Robert Owen John Owen, Parch. Evan Davies a swyddogion y Pwyllgor.— Evan Hughes, Ysg. Pwyllgor Cyfansoddiad a gwaith y Pwyllgor Adeiladu.—Cadarnhawyd Ad- roddiadau y Pwyllgor uchod gan y C.M. Pwyllgor Adeiladu.—Cydolygai y Pwyllgor fod llwyr angen adgyweirio yr adeiladau yn Pwllterfyn, er mwyn di- ogelu yr eiddo Cyfupdebol yn y TIe, a bod y Tender a dderbyniwyd yn rhesymol, am wneud' y gwaith sef odeutu £75. (Mr. W. Edwards, Ysg). Penderfynwyd cyflwyno yr Adroddiad uchod dan ystyriaeth Pwyll- Arbennig Achos Pwllterfyn a'r Pwyllgor Ariannol, a rhoddwyd cyflawn awdurdod i'r Pwyllgor unedig hwn i weithredu fel y gwelont yn oreu. Mr. Thos. Griffith, Gwydyr Ucha' yn gynullydd. Terfynnwyd j trwy weddi gan y Parch. H. Barrow Williams. Pas- iwyd pleidlais o ddiolchgarwch i gyfeillion y lie, y chwoTydd yn arbennig, am y derbyniad croesaw- gar ac urddasol a Toddasant i'r C.M.. i'w plith. Cyho,eddwyd i bregethu y Parchn. R. Roberts, Col- wyn Bay, W. E. Williams, Talybont, David Davies, Conwy H. Barrow Williams. Llandudno, H. M. Pugh, ac S. T. Jones, Colwyn Bay. Trefaldwyn Uchaf-Manledd, Mercher a lau, Awst 5 a 6