Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

GENI, PRIODI, A MARW. GENEDIGAETHAU. Evans.-Mehefin 22, priod Dr. D. R. Evans, Plas- yreryr, Clwtybont (nee Edith Howell, Pencoed), ar fab. Jones.-Mehefin 23, priod Mr. R. E. Jones, post- feistr, Dinbych, ar ferch. Lioyd.-Mehefin 27, yn Aelybryn, Corris, priod y Parch. J. Christmas Lloyd, ar ferch. Owen.—Mehefin 29, priod v Proffeswr David Owen, Birkbeck College, Llundain, ar ferch. PRIODASAU. Roberts-—Hughes.—Mehefin 27, yng nghapel Seion, Roe Wen, gan y Parchn. O. Gaianyda Williams a Caleb WilUams. renmaenmavwt, Mr. H. Hughes Roberts, a Miss Ellen Ann Hughes, Graianfryn. Thotnas-Edwards.-Mehefin I7eg, yng Nghapel Tabernacl, Porthmadog, gan y Parch. J. IL Wil. liams, Mr. Oswald Thomas, i, Gogerddan Cottages, Aberystwyth, a Miss Catherine Gwen- dolen, unig ferch Dr. Edwards, Cemmaes Road. MARWOLAETHAU. I)avies.-Gorffennaf iaf, cleddid Mr. John Davies, Minffordd, gynt Bryngoleu, Gwernymynydd, ym mynwent gyhoeddus yr Wyddgrug. Wrth y ty darllennwyd rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch. Ellis Llovd, Bwcle; a gweddiwyd gan y Parch. Evan Davies, Cilcain, Yng nghapel y fynwent, darllen. nwyd gan.y Parch. J. J. Morgan, a gweddiwyd gan y Parch. G. Parry Williams, M.A., yr Wyddgrug. Wrth y bedd darllennwyd a gweddiwyd gan y Parch. Isaac Charles Roberts, y gweinidog. Yr oedd y gweinidogion a ganlyn yn bresennol: y Parchn. Richard Jones, Mancott; John Roberts, Wrecsam; George Jones, Sychtyn; J. H. Wil- liams, Mynydd Isaf. Un o flaenoriaid y M.G. oedd yr ymadawedig, a bydd colled ar ei ol. Ffoulkes.—Mehefin 23, yn 74 mlwydd oed, Mrs. Foulkes, anwyl briod Mr. John Ffoulkes, Bryntir. ion, Llanfwrog. Howell.—Mehefin 28, yn 29 mlwydd oed, Mr. W. T. Howell, mab Mr. Davies, Post Office, Felinfach. Hughes.—Mehefin 28, yn 52 mlwydd oed, Mary, anwyl briod Mr. Owen Hughes, Bryngwynant, Ffestiniog. Cymerodd yr angladd le ddydd Sul, y Parch. R. R. Jones, Ysbytty, yn gwasanaethu. JOries.-Mehefin 23, yn 60 mlwydd oed, Mr. John Jones, Tycapel, Tanyfron, illangannan. Jones.—Mehefin 12, Mr. David Jones, Maethlon, Towyn, wedi rhai misoedd o gystudd, yn 58 ml. oed. Brodor ydoedd o ochr ddeheuol yr afon bdyfi, gerllaw mangre genedigaeth ei gefnder, y Parchedig T. J. Edwards, Abercarn. Croesodd i Feirionnydd tra yn llanc, a threuliodd yn agos i ddeugain mlynedd o'i oes yn ardal dawel Maeth- Ion, gan amaethu tyddyn bychan o'r enw Bwlch, a gweithio fel plate-layer ar y reilffordd. Yr oedd yn weithiwr diwyd a chydwybodol: mwynhai barch ei gydweithwyr ac ymddiried ei uwchafiad. Ni bu yn segur na diffrwyth, ychwaith, gydag achos crefydd er fod ganddo lwybr anhygyrch a hir i gapel Maethlon, ac y byddai weithiau wedi cerddsa cryn lawer eisoes yn ystod y dydd, an- fynych y gwelid ei le yn wag mewn unrhyw gyf- arfod crefyddol. Ymddangosai yn mwynhau cym. deithas y saint, ac yr oedd ei fryd ar wasanaeth ei Arglwydd yn ei gysegr. An6dd bod yn ffydd- lonach nag y bu ef. Rhoddai bris hefyd, ar bryd- londeb, ac ar ufudd-dod parod i gymeryd rhan ,,y y nygiad gwaith y cyfarfodydd ymlaen. Dangos. ai ofal mawr am y deml a'i hamgylchoedd; ac yr oedd mor fedrus ag ydoedd o ofalus i drwsio ac addurno yr adeiladau. Llanwodd bob swydd ynglyn ag eglwys ac Ysgol Sul Maethlon, a bydd colled fawr yno ar ei ol. Dewiswyd ef yn flaenor deuddeng mlynedd yn ol, ac yr oedd yn Fethodist teyrngarol: dilynnai hanes y Cyfundeb mewn newyddiadur a chylchgrawn, a charai gofio bod hwythau fel eglwys fechan yn rhan o'r Corff mawr. Gadawodd weddw, a chwech o blant, ol mewn galar dwys am un fu yn briod a thad ?h&gorol. Mae iddo un mab—Mr. Thomas Jones, T?c-» yn athraw gwyddonol yn Keighley, York- shire. Cafodd gladdedigaeth neilltuol o liosog ddy,dd Llun, Mehefin isfed; danghosid pob parch Posibl iddo ef a charedigrwydd i'w deulu. Dyg- wyd ymlaen wasanaeth crefyddol wrth y ty gan y Parchn. T. R. Jone. ac R. R. Williams, M.A., ae yn y capel ganddynt hwy a'r Parchn. E. G. Jones, Pennal, John Lewis, Aberdyfi, a J. H. Symond, Towyn. Heddwch i'w lwch ym mynwent y capel a garai mor fawr ac a wasanaethodd mor ffyddlon. Pryce.—Gorffennaf 4ydd, yn Eyton, ge'r yr Am- wythig, Mr. David Pryce, yn 88 mlwydd oed, blaenor yn yr eglwys Fethodistaidd yng Nghoed- way, a thwr cadarn i Lawer ydoedd. Ceir cofnod- iad am dano mewn rhifyn dyfodol). Taylor.-Mehefin 27, yn 83 mlwydd oed, Mrs. Elizabeth Taylor, Libanus Cottage, Borth, Aber- ystwyth, un o ffyddloniaid eglwys Libanus er ei sefydliad. Willias.-Mehefin 28, Mrs. Williams, anwyl briod y Parch. R. A. Williams (Berw), y Ficerdy, Waen- fawr.

Advertising

Bala Theological College.