Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

--------------_.----.-NODIADAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU WYTHNOSOL. Uwchafiaeth y Mor. Er na fu amheuaeth ym meddwl neb ystyr- iol pwy yw brenhines y mor, mae rhai pethau wedi cymryd lie er dechreu'r rhyfel presennol sydd wedi tarQi ami i galon wan a phrvderus a dychryn a braw. Clywsom rai cyn heddyw y yn gofyn yn grynedig" ai tybed ein bod fel teyrnas, er ein hymffrost i gyd yn ein llynges, yn ddiarwybod wedi colli'n huwchafiaeth ar y, mor, a bod Germani yn ddirgelaidd wedi cael allan y gyfrinach sut i suddb'n llongau o> un i un, nes rhoi'n Hynys at drugaredd ei Dread- noughts. Parodd llwyddiant y submarines yn suddo rhai o'n llongau gryn lawer o anes- mwythder o'r fath, ac yn fwy na hynny, orch- fygiad a suddiad y Good Hope a'r Mbnmouth mewn brwydr yn y Tawelfor. Mae'r hyn gymerodd le'r wythnos ddiweddaf wedi chwalu ofnau disail y calonnau llwfr yn ogy,stal ag wedi cadarnhau ffydd y deyrnas yn rhag- oriaeth ac uwchaflaeth ein Llynges. Anfon- wyd yr Is-Lyngesydd Syr F. Sturdee gydag ysgwadron gref i ddelio a'r llongau German- aidd a wnaethant y dinistr ar ein llongau yn y Tllwelfor gerr, traeth Chili, a doed o hyd iddynt yn y Werydd Deheuol, ger Ynysoedd Falkland, lie y bu brwydro. Yn yr adroddiad cyntaf gyrhaeddodd diywedild fod tair o, loingau Germani wedi eu suddo, sef y Scharnhorst, y Gneisenau, a'r Leipzig, tra yr oedd y Dresden a'r Nuernberg wedi dianc; ond foreu Gwener adroddai'r papurau fod yr olaf o'r ddwy hyn wedi' ei suddo, a'r flaenaf yn cael ei hymlid. Dyma'n ddiiau'r frwydr lyngresol fwyaf o gychwyn y rhyfel; ac y mae'r canlyni.adyn galbnogol iawn i Brydain. Yr oedd yn bwysig clirio'r mor, o'r rhai hyn; oblegid buasent ar fyrr yn ymwahanu ac yn gwibio llvvybrau masnach y South Atlantic ac yn gwneud dinistr ar longau masnachol fel wnaeth yr Emden. Nid oes gan Germani yn awrondl rhyw dair gwiblong y tuallan i'w phorthladdoedd; ei hun.

';' Submarines yn Dover.

Diwedd gyrfa Beyeirs.

Haeckel a Dyfodol Ewrop.

-- --Ymg-yrclx Rwsia.

Buddugroliaeth. Serbia.

---Griorchest yn y Dardanelles.

Brwydr,o yn Flandexs a Ffrainc.

Dim Cad-oediad dros y Nadolig.