Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

PERSONOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PERSONOL. Bydd yn ofidus g'an lu o gyfeillion ddeall mai parhau yn llesg1 y mae y Parch. E. Pierce, Trelogan. -0-< Cytunodd 19 allan o 32 o dafarnwyr Welsh- pool i gau y tafarndai am ddeg o'r gloch yn lie unarddeg*. -0- Siaradodd Mr. William Jones, A.S., mewn tair iaith mewn cyfarfod yng Ng-hastellnedd, -Cymraeg, Saesneg, a Germanaeg. -0- Deallaf mai'r Athro Eidward Edwards yw Deon y Celfau yng Ngholeg' Aberystwyth. Gwr prysur yw'r Cynghorwr ymhob cylch. -0-- Mae'r swydd o grwner gogledd Penfro, yn wag, ae eisoes y mae pedwar o ymgeiswyr ar y maes, Y cyflog yw can' punt y flwyddyn. -0-- 131wriedir dwyn allan gyfrol goffa: i'r diwedd- ar Biarch. Edward Humphreys, y g-weinidog adnabyddus gyda'r Wesleyaid. Golygir y gyfrol gany Parch. Edward Davies. -0- Bu Mr. r, ichard Jones, Y.H., yn agorysgol newydd ha rdld a chyfleus a adeiladwyd yn Berriew, Tl efaldwyn, yn lie hen ysgol eglwysu ig. Costio Id yr ysgol newydd fil o bunnau. --0- Y Parchn. J. H. Howard, a D. Tecwyn Evans, B.A., sydd wedi eu dewis i bregethu yng nghyfarfod blynyddol Cyngrair Eglwysi Rhydd Gogedd Cymru y flwyddyn nesaf. --0-- Rhoddodd eglwys yr Hen Golwyn alwad unfrydol i'r Parch. Hugh Edwards, Capel Coch, Sir Fon. Dfeallaf ei fod wedi ateb yn gadarnhaol, ac y bydd yn symud i'w faes newydd yn fuan. --()-I Etholwyd Miss M. M. Evans, B.A., merch Mr. John Evans, cyfreithiwr, Aberystwyth, yn llyfrgellyddes gynhorthwyol yn adran wyddonol Coleg. y Brifysgol i Gymru. Bu Miss Evans dros bedair blynedd yn y Llyfr- gell Genedlaethol. -0- Y mae eglwysi'r Babell a Channel, ger Treffynnon, wedi rhoddi, galwad gynnes ac un- frydol i Mr. T. O. Hughes, B.A., Criccieth, i ddyfod i'w bugeilio. Hyderir y gwel Mr. Hughes ei ffordd1 yn glir i gydsynio a'r alwad. -{)- C:ydymdeimlir dirwy'r wlad' a'r Parch. S. T. Jones, Colwyn Bay, a'r teulu, yn eu profedig- aeth chwerw o golli priod a mam annwyl. Mae dau o feibion M'r. Jones yn llenwi safle- oedd pwysig,-Mr. W. H. Jones, B.A., yn athraw ac yn ddarlithydd o dan Brifysgol Llundain, a Mr. T. Elwin Jones, B.Sc., yn athraw yn Ysgol Sir Caerfyrddin. --0-- Dewiswyd y brodyr canlynol yn flaenoriaid nos Saboth diwed'daf yn eglwys Brynseion, Aberd'ar: Mri. E. Llewelyn Humphreys, Chemist, Mill St.; Richard John, Fairview; Edmund Prosser, Anwylfan; David Rees (Adeiladydd); David Rogers, Brynderwen; Rees Rowlands, David's Sit., a James Thomas (Ysgolfeistr). Y oenhadon fu wrth hyn o orchwyl oeddent y Parch. W.,Marg,am Jones, Mri. John Williams, a Wm. Rees Davies, Llwydcoed, a B. James, Carmel., Talwyd y ddyled cyn yr etholiad. Mantais yn ddiau fydd y staff newydd wrth ymg-ymeryd a chyf- rifoldeb ariannol newydd. Hyderwn nad yw llwyddiant gorffennol yr eglwys yn ddim ond prawf o lwyddiant mwy yn y dyfodol agos. --0- Owr yn gwir ofalu am yr achos oedd y di- weddar Mr. John Owen, a bydd bwlch yn eglwys y Babell, Cwmbwrla, ar ei ol. Rhag- orai mewn llawer o bethau, ond yn bennaf fel Cristion, a chynhyddodd yn y cyfeiriad hwn yn gyson, nes i'r Cristion gael ei wneud yn sant. Yr oedd yn un o ffyddloniaid1 y ty, ac hawdd f uasai adrodd am lawer ymdrech gan- moladwy a wnaeth i ddod i'r cyfarfod gweddi a'r seiat. Machludodd 'haul ei fywyd yn ogoneddus, a chafodd angladd1 tywysogaidd. Gadawodd lawer o berthyna'sau, a llu o gyfeillion i wylo uwch ei fedd, ac i eneinio ei orweddfan a'u dagrau, ond y mae ef mewn byd gwell. Ei enaid hedodd uwch y bedd i drigfannau y wynfa dragwyddol. Yng nghyfarfod Dosbarth Llanrhaiadr, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Llanwddyn, pas- iwyd i longyfarchi y Parch. E. Griffiths, Meifod ar ddygiad allan y gyfrol ar Hanes Methodistiaeth Trefaldwyn Isaf." Anhawdd fydidai cael neb cymhwysach na Mr. Griffiths at y gwaith. Ai gormod disgwyl ychwaneig o ffrwyth ei ysgrifbin? Medda M'r. Griffiths doreth o wybodaeth am bersonau a fu yn amlwg yn ffurfafen yr eglwys yn y rhan yma o'r wlad, ac yn y Cyfundeb yn gyffredinol, ac .y a'i gwnelai yn gyfrol werthfawr. —o-—. Dau can' mlynedd i heddyw (Rhagfyr 16, 1714) y ganwyd y seraff-bregeth;wr a'r gwr mawr hwnnw, George Whitefield, mewn tafarndy yn Gloucester. D'arllena hanes ei fywyd fel rhamant, ac nis gallai pobl ieUainc ein heglwysii wneuthur dim yn rhagorach ar yr adeg hon o'r flwyddyn nag" ymgydnabyddu a'r ffeithiau. Pentewyn ydoedd gipiwyd o'r tan, ac hyd ei fedd bu yn llosgi yn oddaith gan dan cariad1 a brwdfrydedd dros ei Geidwad. Hwyrach na fu neb yn y deyrnas yn gallu cario mwy 0 ddylanwad ar wahanol ddos- barthiadau a bobl. Y llais swynai y .werin bobl crchfygai hefyd bendefig'ion y deyrnas, megis William Pitt, David Hume, Arglwydd C'hest; rfleld, ac eraill. Bu farw Medi joain, 1770.

I11III ----,,._------.-CYMRU…