Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y SStUDIAD YMOSODOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y SStUDIAD YMOSODOL. GAN Y PARCH. J. MORGAN JONES, CAERDYDD. DDECHREU y flwyddyn teimlwn obaith cryf fod1 cyfnod arbennig o Iwyddiant wedi gwawrio ar y Symudiad Ymosodol, gan fod' cryn nifer o'i eglwysi fel pe wedi cael ail ddeffroad ac mewn canlyniad fod y cynulleidfaoedd yn cyn- hyddu a'r aelodau yn lliosogi. Dyna eglwys fechan Barry Island, fu am flynyddoedd fel llin yn mygu, ac wedi myned mor isel fel mai prin y ceid ynddi ddwsin o aelodau. Ond gyda dyfodiad y Parch- J. Lewis Evans i gymeryd ei gofal, newidiodd pethau er gwell. Tua dechreu y flwy,ddyn syrthiodd ysbryd gweddi yn drwm ar yr eglwrys. C'ynhelid cyfarfodydd gweddi yn fynych cyfarfodydd by.rion, cynnes, taer. Gwelwyd effaith hyn yn fuan ar yr eiglwys a'r gynulleidfa. Llios- ogoddi y gwrandawyr, a derbyniwyd cryn nifer i gyflawn aelodaeth. Yn eu mysg yr oedd Z: un gwr ieuanc o Babydd, yr hwn sydd ar gymeryd ei radd ymMhrifysgol Cymru. Yn ddamweiniol rywsut daeth i un o'r cyfarfodydd ar y Saboth. Swynwyd ef gymaint fel y daeth drachefn a thrachefn, ac yn y diwedd chwal- wyd pob amheuaeth oddiar ei feddwl, a rhoes ei hun yn aelod eglwysig. Nid oedd wedi gweled Beibl o'r blaen, ond y mae yn awr yn ei fwyta gan ei gymeryd gydag ef bob boreu i'w ddarllen yn ystod ei oriau hamddenol, a dywedir fod ei brofiiad yn y seiat yn newydd ac yn rhyfedd. CVnhyddodd yr eglwys fechan nes dod rhwng pedwar ugain a chant. Rhyw drigain o aelodau oedd yn Heath Hall chwe' blynedd yn ol, pan yr ymgymer- odd y Parch. F. W. Cole a gofal y lie. Llwyddoddi ef, modd bynnag, i daflu ysbryd- iaeth newydd i mewn i'r eglwys, nes erbyn hyn ceir yno eglwys o dros dri chant 0 rif gyda chalon i weithio. Un prynhawn Sul gofynodd y gweinidog i'r dynion ieuainc Z, oeddynt yn barod i roi eu hunain i Grist i sefyll i fyny, a chyda'r gair dyma 0 hanner cant i d'rigain o honynt ar eu traed. C'ymer- odd Mr. C'ole afael ynddynt ar unwaith, gan eu ffurfio yn ddosbarth y cymunwyr ieuainc. Yn Crwys Hall, lie y mae y Parch. Thomas, Bowen wedi bod yn gweithio' gyda chymaint egni a llwyddiant, gwnaed ychwanegiad mawr at yr eglwys. Profodd un cenhadaeth yn effeithiol d'ros, ben, fel y derbyniwyd tua hanner cant i gymundeb yn yr un cyfarfod eglwysig, Yn yr Henaduriaeth a gynhal- Z, iwyd vno yr wythnos ddiweddaf. yr oedd vr adroddiad am hanes yr achos yn gwefru pawb. Yr un noson agorwyd o^rgan newydd yn costio tua saith cant o bunnoedd. Y mae nifer o eglwysi eraiil perthynol i'r Symudiad wedi profi y cyffelyb adnewyddiad. -x- Ond dyma y. rhyfel erchyll ac ofnadwy hwn wedi dod ar ein gwarthaf, a siomi ein gobeith- ion i raddau mawr. Y mae llu anferth o'n dynion ieuainc rgoreu wedi ymuno a'r fyddin. Dywedai y Parch. Thomas Bowen yn yr Hen- aduriaeth fod rhwng aelodau, gwrandawyr, a gwrandawyr achlysurol, tua chant wedi ym- restru o Crwys Hall. C'allwyd trwy ymrestru ryw hanner cant 0 amryw 0 eglwysi eraill y Symudiad; a chryn nifer o bob un. Rhaid fod y cynulleidfaoedd wedi gwanychu yn ddir- fawr mewn canlyniad. Yn enw,edig dioddefa, yr Ysgol Sabothoi yn drwm. Collwyd dos- barthiadau cyfain o amryw o'r neuaddau, yn athrawon a disgyblion. Elffeithia hyn o angenrheidrwydd yn fawr ar y casgliadau nes mewn llawer cynulleidfa mvi-iecil i lawr i'r hanner. 0, -x- Y mae y rhyfel wedi effeithio ar gyflwr ariannol ein heglwysi mewn ffoirdd arall, sef trwy rwystro yr ymdrechion arbennig a wneid ganddynt yn yr Hydref bob amser, trwy gyfrwng darlith, cyngerdd, neu Bazaar. Ar yr ymdrechion hyn y dibynnai llawer o honynt am fodd i gael dau pen y llinyn ynghyd ddiwedd y flwyddyn. Yn fynych gwnelent y swm da o arian trwy yr ymdrechion yma. Ond gwnaeth y rhyfel bob apel fel hyn at y cyhoedd yn amhosibl. Rhwng yr ymdrech i gasglu at Drysorfa Tywysog Cymru, yr awydd am gynhorthwyo y ffoedigion o Bel- ,y gium, a'r galwadau eraill cysylltiedig" a'r rhyfel, ofer hollol fyddai unrhyw apel ar ran achos crefyddol. Taflodd hyn gryn nifer o'n heglwysi i wasgfa ariannol na fedrent ym- gynnal 0 dani. < Ac ani bai i Gyfarwyddwyr y Symudiad neidio i'r adwy a threfnu ffordd .0 ymwared am amser byr, nid oedd dim yn y golwg iddynt ond methdaliad. F'faith arall dra difrifol ydyw ein bold eisoes yn ddwfn yn nyled y Trysorydd C'yffredinol. Ddiwedd y flwyddyn ni fydd ein dyled yn llai na phym- theg cant 0' bunnoedd. Gyda llawer iawn o bryder yr wyf yn edrych ymlaen at y flwyddyn ddyfodol, yn enwedig gan fod rhannau o'r wlad yn dioddef yn drwm oherwydd dirwasgiad masnachol. Y mae ein Z, holl obaith yn y Casgliad ddechreu y flwyddyn sydd yn dod. Hwn yn unig sydd rhyngom a methiant a gwaradwydd. Gobeithio hefyd na chollwn ein ffydd yn Nuw nac yn y Cyf- undeb. Nis gall Methodistiaeth fforddio. gadael i'w hachosian cenhadol, tramor na chartrefol, gael eu llesteirio a'u parlysu oher- wydd diffyg arian. Profai hyn yn anghlod kythol i ni, a byddai fel arwyddo gwarant angeu yr egvvyddor wirfoddol. Ac yn sicr digiai Pen yr eglwys wrthym. Nis gallaf g'redu y goddef y Cyfundeb i'r Symudiad Ymosodol, gychwynwyd dair blynedd ar hugain yn ol gyda chymaint brwdfrydedd1, ac sydd wedi cael ei gario ymlaen hyd yma mor anrhydeddus, i gael ei andwyo a'i ddi- fetha oherwydd diffyg moddion. Ond amlwg yw fod dydd ein prawf wedi dod. Dyma yr adeg i ni brofi y medrwn wneud aberth er cario gwaith yr Arglwydd ymlaen. Hyderaf na thrown ein cefnau yn nydd y frwydr. r* Teg gwneud yn hysbys ymdrechion eglwysi y Symudiad Ymosodol yng Nghaerdydd, a mannau eraill, o blaid iechyd a chysur y mil- wyr. Ar y cyntaf yr oedd trefniadau yr aw- durdodau milwraidd ynglyn a hyn yn hollol anfoddhaol. Daeth y fath d6n 0' awydd ym- restru dros y wlad fel na wyddai swyddogiori y fyddin sut i ddelio a'r lliaws dynion ieuainc a gynygient eu hunain. Am y rhai oeddynt wedi ymrestru yng nghymydogaeth eu car- trefi, a chwedi cael eu pasio gan y meddygon, ceisid' trefnu ar eu cyfer, er fod y trefniant yn ddigon gwael. Ond am y rhai ddeuent i'r ddinas er mwyn ymrestru. ac heb gael certificate gan y meddyg, nid: oedd trefniant ar eu cyfer o gwbl. BUI raid) 1 ugeiniau o honynt gysgu ar y ddaear yn yr awyr agored

DYSGEIDIAETH ATHRONYDDOL GERMANI…