Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

CONWY A'R CYLCHOEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CONWY A'R CYLCHOEDD. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Dywedodd tgwyddel am aelod seneddol par- ablus unwaith Whenever he opens his mouth he is sure to put his foot in it." Ysgrifennais innau yn fy ngwiriondeb i hysbysu nad oedd Seion yn ail i'r unrhyw gynulleidia yn ei -sel dros achos sobr- wydd. Dylaswn ddeall mai cyfeirio wnelai eich go- hebydd medrus at ddifrawder crefyddwyr yn gyff- redinol yn y frwydr fawr dros ddirwest. Yr un ystyr sydd i'w gwyn a geariau yr hen emyn adna- byddus Paham y mae Scion, yn hiapian a huno A'r tgelyn mawr cyfrwys. mor eofn ac effro," &c. Yr un pryd nid oes neb ond crefyddwyr yn gofalu o gWibl am achos .sobrwydd a rhinwedd yng "Nghonwy a'r cylchoedd." Nid wyf fi yn arfer ag ysgrifennu i'r newyddiadur y blynyddoedd hyn, ac felly yr wyf yn agored yn fy anwybodiaeth i dorri y rheolau. Nid ymosodais ar neb erioed mewn newyddiadur, a phe buaswn yn tueddu at waith felly yn awr fe fuasai o leiaf ugain yn dyfod o dan fy ffrewyll fach o flaen eich gohebydd yng "Nghonwy a'r cylch," os, ydyw ify nychymyg i pwy ydyw yn gywir, canys yr wyf yn ei gyfrif yn frawd mor gar- edllg ag ydyw o ddawnus. Hoffwn fel ynitau weled mwy o ymdrech i sobri'r wlad, lac y mae y fasnach mewn diod gadarn wedi cael gormod o'i rhwysg o Lawer yng Nghonwy ar hyd yr holl flynyddoedd. Gosodir bri arni yn y gorfforaeth feL y prawf pres- enoldeb amryw o dafarnwyr yn v Cyngor Trefol. Nid wyf fi yn perthyn i'r un o'r ddau le a enwyd, ond y mae igweithwyr dewr dros Ddirwest yn y ruaill a'r Hall ohonynt. Mae y Pwyllgor Dixwestol hefyd eto yn 'fyw iawn' ac ar adegau yn frwdfrydig. Troer y gwres yn waith dros sobrwydd yn y gorfforaeth ac ymysg y milwyr. Nid oedd dim ymhellach o fy meddwl na rhoi itramgwydd i'r gohebydd lleol. Yr wyf yn falch ei fod yn gwneuthur hyn o wasanaeth trwy y Oymro yn enwedig gan ei fod yn gallu dweyd y gwir heb ofni neb. No offence, remem- ber," ebe Will Bryan. Yn wir pe gwybuasai y jgo. hebydd pwy anfonodd yr epistol bach hwnnw i'r # Cymro fe chwarddai yn iach. Yr wyf yn awydd- us i'w gefnogi yn ei ymdrech i ddeffro dirwestwyr at eu gwir waith. Cynhaliwyd cyfres o gyrddau ddechreu y flwyddyn gan yr areithiwr adnabyddus Tennyson Smith. Diau i'r pwyllgor wneuthur ei oreu wrth drefnu y cyfar.fodydd hynny i gynhyrfulr cyhoedd difraw. Parch a diolch iddynt am hynny— yr wyf yn rhydd i ddweyd hyn gan nad oedd i mi unrhyw Law yn y gorchwyl. Ond nid wyf yn tybied mai dyma'r math o waith sydd yn angenrheidiol, a phrin y gallaf gredu fod unrhyw ffiwyth arhosol i ryw demonstration felly. Gwyliadwriaeth gyson a chydweithrediad aalonnog yr holl arweinwyr a'r eg- lwysi ymneilltuol raid gael i sicrhau llwyddiant. Mae gennyf ddefnydd 6 neu 120 ysgriiau cryfion i'r "Cymro," neu xyw giyhoeddiad ar faterion pwysig ac amserol i'r cylch yma, megis Dirwest Conwy yn ei berthynas a'r ymneilltuwyr ac a'r fainc ynadol," Cyngor yr Eglwysi Rhyddion-ei waiith yn y gorff- ennol, a'i ddyledswydd yn y dyfodol," &c. Er ie- alLai ,fy mod yn fwiy o fardd nag o lenor hyderaf na fernir yn amhriodol i mi fel awdwr yr ysgrifau hynny pan gaf hamdden i'w rhoi wrth eu gilydd i alw fy hun Siluriad II." Rhan o'm braint yw bod yn unknown,' ond byddaf bob amser yn hollol deg a difalais. Diolch i chwi am y Cymro Mawrth 24ain—rhagorol,—y rhiiyn. goneu eto o'r brawd gwas- anaethgar. Yr eiddoch yn gywir, DIRWEST. ♦

'LLYTHYR ODDIWRTH Y PARCH.…

DLANIDLOES.

MAE'R GERMANIAID FEL FFERYLLWYR

Advertising

TREHARRIS.