Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

PERSONOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PERSONOL. Hysbysir fod y Parch. T. J. James, Pen- machno, wedi derbyn yr alwadi fugeilio eglwys y Methodistiaid1 yn Llanelwy. —o— Y mae'r Parch. H. Ridehalgh Jones, M.A., Lcrpwl, wedi ei gaethiwo i'w dy er's mis ar ol bod gyda'r milwyr yn Weston-Super-mare. -0-- Drwg gennym glywed fod y Parch. W. E. Evans, Mankato, gynt o Feirion, wedi. bod dan oruchwyliaeth law feddygol pur chwerw. Go- beithio y caiff adferiad buan. -0- Enillodd Miss Gwenllian Mary Prys, merch Principal Prys, Aberystwyth, y lie blaenaf yn arholiadau hynaf Prifysgol Caergrawnt gyda'r gwobrwyon oedd yn dilyn. -0-- Mrs. P. M. Fidler, gweddw ysgolfeistr Bag- illt, allan o chwech o ymgeiswyr, a ddewiswyd: gan Fwrdd Gwarcheidwaid Treffynnon yn gof- restrydd genedigaethau a marwolaethau yn y dosbarth. -0-- Mae eglwys Stanley Road, Bootle, wedi codi -f,zo y flwyddyn vng nghyflog eu gweinidog, y Parch. O. Lloyd Jones, M.A., B.D. Dyma esiampl ag y byddai yn dda i ereill o eglwysi cyfoethog Cymru ei cldilyn. --0- Bwriada y Parch. J. T. Job, Carneddi, fyned drosodd i America er bod yn bresennol yn Eis- teddfod Fawr San Francisco. Cyrhaedda dros- odd tua chanol Mehefin, a bydd yno hyd ddi- Avedd Awst. Dathlir can' mlwyddiant genedigaeth John Ambrose Lloyd mewn cymanfa ysgolion yn yr Wyddgrug ar y 3ydd o Fehefin. Cenir amryw o'i donau, a thraddodir anerchiadau ar ei was- anaeth i ganu crefyddol gan y Parch. G. Parry Williams, M.A., a Mr. Thomas Roberts. Gwaith canmoladwy ydyw dysgu'yr ierainc yn egwyddorion cerddoriaeth. Mae Mr. W. Murrow, Trelettert, Sir Benfro, wedi cyr-nal dosbarth i'r amcan yma y gaeaf hwn. Arhol- wyd yr ymgeiswyr am d'ystysgrifau yn ddiwedd- ar gan y Parch. P. D. Morse, L.T.S.C. Pas- iodd nifer dda o honynt -0- Y Parch. T. Charles Williams, M.A., oedd yn pregethu yng ngwyl flynydd'ol Ysgol Saboth- ol eglwys Saesneg y Methodistiaid Croesoswallt. Da gennyf gofnodi. hyn ar adeg ag y dywedir fod pregethwyr mawr Cymru yn esgeuluso'r Ysgol, ac yn treulio prynhawn Sul fel rheol i orffwys, ar ymyi y ddalen "ysmocio." -0-- Bu'r Cadfridog Owen Thomas yn Abergele y dydd o'r blaen yn rhannu'r gwobrwyon yn yr Ysgol Sir. Ac yr oedd ystyr arbennig i.'w ym- weliad, gan iddo fod yn ysgol Mr. Thomas Lloyd. Yno y bu Henry Rees, 1. D. Ffraid a llawer o enwogion ereill. Dywedir y bu raid i Thomas Lloyd dorri ei wallt a pheidio gwrseud Q.P., cyn iddo gael ei dderbyn yn aelod o eg- lwys y Methodistiaid! -0- Ysgrifennodd y Parch. W. O. Williams, Granville, erthygl ragorol i'r 'Drych' ar y di- weddar Principal Ellis Edwards. Dyma sylw arno yn v dosbarth ,4 Gwelsom y Dr. T. Charles Edwards ddegau o weithiau wrth annerch yr holl fyfyrwyr ar bregethu ar fore Sadwrn wedi ei lyncu i fyny gan ei fater nes gwefreiddio y gynulleidfa fechan, ond yn y dosbarth eisteddai efe yn dawel i ddarllen ei ddarlithiau ar ddiwinyddiaeth ac es- boniadaeth oddiar MSS. wedi eu paratoi yn f.anwl. Eithr llefarai y Proff. Ellis Edwards yn y class- room ar adegau gyda llawn cymaint o rym ac ynni a pbe yn annerch mil 0 wrandawyr." -0' Mr. David James, B.A., Aberdyfi, yw bugail newydd eglwys Saesneg y Methodistiaid yn Fflint. Gwr a hanes dyddorol iddo yw Mr. James. Paratodd' i fyned yn athraw, enillodd dystysgrif y brifysgol, a bu am dair blynedd dan Gyngor Sir Llundain. Wedi hynny bu'n athraw mewn ysgol ramadegol yn Warrington. Gradd- iodd yn B.A. ym Mhrifysgol Caergrawnt, a threuliodd ddwy flynedd yng Ngholeg Diwin- yddol y Bala. Yn awr dechreua ar ei waith fel gweinidog, a hyde-rwn y bydd ei yrfa yn un llwyddiannus iawn. Treuliodd Syr Henry Jones y Saboth diwedd- af yn Llangernyw, ei fro enedigol, lie y mae yn uwch ei barch nag unman. -0-- Mae eglwys Harlech am ddangos mewn dull sylweddol ei pharch tuag at ei gweinidog, y Parch. Richard Evans, ar y flwyddyn nodedig hon yn ei hanes. Mae wedi bugeilio'r eglwys am 46 mlynedd, ac eleni efe yw caplan Uchel Sirydd Meirion,—Dr. Jones, un o flaenoriaid yr eglwys. Diau y bydd ereill o gyfeillion Mr. Evans ac o edmygwyr ei gymeriad pur a di- rodres yn awyddus am roi hatling yn y drysorfa. —a— Anrhydeddodd ardal Tonyrefail ei hunan wrth gyflwyno anerchiad hardd i Mr. Henry D. Rowlands fel amlygiad 0 deimlad da yr ardal- wyr a chyfeillion ereill tuagato ar ei waith yn pasio yn fargyfreithiwr. Mab ydyw Mr. Row- lands i Mr. a Mrs. D. Rowland's, Tonyrefail, ac y mae yn enedigol o'r lie. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Elfennol y lie o dan Mr. T. A. Arthur. Ac y mae ei glod yn fwy o gymaint ag na chafodd fanteision bechgyn yr oes bres- ennol. Ni fu mewn Ysgol Uwchraddol na Choleg. Ac y mae yn esiampl dda o'r hyn fedr dyn ieuanc wneud drwy ymroddiad a dyfalbar- had gvda'i wersi. Gadawodd yr ysgol pan tua 12 oed, a bu yn negesydd yn Swyddfa Lofaol Cilely am tua dwy flynedd. Yn yr amser hwn perffeithiodd ei hun mewn llaw fer. Yn ddi- lynol bu yn gwasanaethu yn Swyddfa Rheil- ffordd y G.W.R. yng Nghaerdydd, a swyddfa Mr. E. Owen ynglyn a Chymdeithas Ddarbod- ol y Mwnwyr yn yr un cIrcf. Ac am yn agos i ugain mlynedd mae yn gwasanaetliu, yn Swydd- fa Cyngor Sir Morgannwg o dan Mr. T. M. Franklen, if hwn y teimla yn dra rhwymedig am ei gynghorion a'i gyfarwyddiadau gwerth- fawr. Yn ystod ei arosiad yng Nghaerdydd gwnaeth ddefnydd mawr o'r Ysgolion Nos—y Technical Classes, a pherffeithiodd ei hun. mewn amryw gyfeiriadau nes iddo dro yn ol gael ei alw at y "bar" yn yr Inner Temple, Llundain. Mae Mr. Rowlands yn aelod o eg- lwys M.C. y lie er yn ieuanc, ac yn haelionus, a pharod i gynorthwyo achosion da, ac yn holl- ol ddiymhongar,—rhinweddau y byddai yn dda wyr ieuainc eu hefelychu.

CYMRU AR RHYFEL. f