Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

PERSONOL.

CYMRU AR RHYFEL. f

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMRU AR RHYFEL. f Bydd hoi adrannau y Fyddin Gymreig yn ym- adael ar neu cyn y iaf o Fai i fyned i wersyllu allan er paratoi at fyned i'r Cyfandir. Cymerodd tua 500 o filwyrCymreig yn Northampton ardystiad dirwestol yn ymrwymo i beidio yfed dim gwirodydd meddwol am dri mis. Mae nifer lluosog o filwyr wedi cyrraedd i Drawsfynydd, i wersyll y magnelwyr. Yma y ceir ymarferiad gyda'r magnelau mawr cyn myned allan i'r rhyfel. Mae, y Parch. W. Phillips, M.A., Llan- dudno, wedi ei benodi yn gaplan milwrol. Llanwai efe y swydd o'r blaen i bob pwrpas, fel nad yw y penodiad ond cydnabyddiaeth swyddogol o'i lafur. Cyrhaeddodd 600 o filwyr i Penmaenmawr yr wythnos ddiweddaf,—dwy gatrawd, un o Sal- ford a'r Hall yn adran o'r Lancashire Fusiliers. C'awsant groesaw cynnes, a darpara y Y. M. C.A., yn helaeth ar eu cyfer. Gwnaeth Proff. Arnold sylwadau cryfion ar safle efrydwyr Cbleg y Gogledd ynglyn a'r fyddin. "Maent wedi ymuno a'u gilydd i beidio ymrestru, ac y mae yna bersonau o'r tu ol iddynt yn eu perswadio i aros gartref." Yn llys ynadol Penrhyndeudraeth dywedodd un o'r ynadon,—Capten Kirkby,—y dylai'r tafarndai gael eu cau yn gyfangwbl dros adeg y rhyfel. Nid oedd y Prifgwnstabl yn gofyn ond am gau am naw yn lie deg, a chaniatawyd hynny. Buaserri yn falch o weled un prif- gwnstabl yn anturio cymeryd cam ymlaen, ac yn gofyn am gau yr oil o'r tafarndai mewn rhan- barthau milwrol er mwyn cael prawf ar yr aw- grymiadau a deflir allan. Y dosbarth amaethyddol sydd fwyaf ar ol gyda chefnogi y fyddin. Dyna'r gwyn yn Lleyn, lie y dywedir fod cannoedd o ddynion ieuainc iach a chryf yn llechu. Pa fodd i'w cael oedd cwestiwn mawr y Gynhadledd yng Nghaernarfon. Magu cydwybod ebai un, codi dychryn cbai un arall, a chael seindorf ebai'r trydydd. Cael y tri pheth gyda'u gilydd wnelai les. Nid yw nifer y rhai sydd wedi ymuno o Sir Gaernarfon yn cyrraedd o ychydig dros 3 y cant. Mae trigolion Prestatyn yn gwneud eu goreu er sicrhau fod y milwyr ieuainc yn gysurus a dedwydd tra yn eu plith. Mae amryw o ystaf- elloedd mewn ,cysylltiad a'r addoldai yn agored ac yn rhydd iddynt ymgynull at eu gilydd gyd- a'r hwyr i ymgomio ac i ymddifyru mewn am- rywiol ffyrdd. Ymwelodd cyfaill ag un o'r ys- tafelloedd i gael golwg, ac fe allai yn bennaf o gywreinrwydd, a chafodd wledd1 heb ei dls- gwyl; synwyd ef gan wahanol ddoniau y ewm- ni. Cafwyd dwy awr hwyliog o ganu, adrodd, cyfieithu, &c., ac anodd ymwahanu ar ganiad corn yr hwyr. Mae y cynwrf mawr presennol yn dwyn i,'r goIwg y goreu sydd mewn rhai dynion. Mae i'w ganfod yn amlwg iawn ymysg ein milwyr ieuainc. Fe ddywedir am filwyr yr Almaen fod amgylchiadau chwerw y dyddiau hyn wedi eu creuloni yn ddirfawr, ond; am ein bechgyn rii, wedi eu difrifoli a'u tyneru y maent. Ceir en- ghraifft brydferth o hyn mewn llythyr o gydym- deimlad anfonwyd gan bedwar o honynt at deulu oedd wedi cyfarfod a phrofedigaeth lem sy'n preswylio yn y drws nesa' i'r ty maent hwy yn Iletva ynddo. Dyma gopi o'r llythyr:— Mawrth 17, 1915. "Annwyl Mr. D. a'r Teulu,—Dymunwn fel aelodau o'r R.A.M.C., sydd yn awr yn y lie hwn, anfon ein cydymdeimlad mwyaf a chwi fel teulu yn y brofedigaeth chwerw o golli eich annwyl briod, a mam ofalus. Bydded i Dduw yn ei ras a'i ddoethineb rodcli nerth i chwi. i ddwyn y brofedigaeth sydd wedi ei dwyn arnoch. —Yr ydym mewn cvdvmdeimlad. W. J. J. C.B. S.B. T.E." Mae'n amheus fuasai y bechgyn hyn ym medd- w\ am ysgrifennu y fath Iythyr flwyddyn ol. Bydd dydd Iau diweddaf yn ddiwrnod i'w hir gofio yn ardaloedd y Bala, a bydd yr ar- graffiadau a wnaed ar feddyliau y cannoedd plant ac ereill yn rhwym o aros ar eu cof tra byddant byw, oblegid yr oedd yr amgylchiad yn un mor eithriadol, sef dyfodiad yn agos i bedwar cant o garcharorion rhyfel i wersyllfa Frongoch, yr hwn sydd o fewn dwy filltir a han- ner i'r Bala. Tua deng mlynedd ar hugain yn 01 fe adeiladwyd distyllfa (distillery) fawr yn Frongoch, ond profwyd yn fuan nad oedd angen sefydliad o'r fath i gynyrchu y diodydd medcl- wol yng Nghymru, a bu y mudiad yn fethiant; yna daeth yr adeiladau yn eiddo i Mr.* William Owen, White Lion Hotel. Wedi i'r rhyfel presennol dorri allan fe gymerwyd yr adeilad- au gan y Llywodraeth, ac y mae miloedd o bun- nau wedi eu gwario tuag at eu cyfaddasu yn wersyllfa carcharorion. Y mae pob darpariaeth wedi ei wneud tuag at ddiogelwch, ymgeledd, a chysur y carcharorion, a thua chant a hanner o swyddogion yng ngofal y lie. Ychydig wedi chwech o'r gloch prynhawn dydd Iau cyrhaedd- odd cerbydres neilltuol orsaf Frongoch, yr hon oedd yn cludo y carcharorion, a chafwyd golyg- fa ddifrifol arnynt tra yn cerdded o'r orsaf -i'r, wersyllfa. Yr oedd1 yr olwg arnynt yn drUenus i'r eithaf, ac i bob ymddangosiiad wedi dioddef diffyg ymborth ac ymgeledd, a hynny cyn eu cymeryd yn garcharorion, oblegid daethant yma o faes y rhyfel. Er mai gelynion ydynt ni ddangoswyd dim diystyrwch tuag atynt, ond pawb megis wedi eu difrifoli, a chael eu dwyn yn agosach, wyneb yn wyneb a'r rhyfel ofn- adwy presennol yn fwy nag erioed o'r blaen. Nid ydyw hyn ond rhan fechan o'r carcharorion a ddisgwylir i Frongoch, a hynny un o'r iau nesaf. Deallwri fod, Ilaw,er o'r,ciarcharortion uchod wedi eu dal ar ol y frwydr fawr yn Ni-wve Chapelle.