Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

ADOLYGIADAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADOLYGIADAU. CYFLAWNDER BENDITH. Dan olygiaeth y Parch. D'. IMardy Davies, Pontycymer. (xxiv.— 277). Pris 3/6 net. Gan y Parch. B. Watkins, Ferndale. Cyfrol yw yr uchod o bregethau a darluniau rhai o brif enwogion yr Hen Gorff. Ei golygydd medrus yw y Parch. D. Mardy Davies. Pontycymmer. ,M.ae yn un dda odiaeth, ac yn brawf diymwad o chwaeth uehel, gwybodaeth eang, a barn addfed ei golygydd am areithfa ei enwad. Mae yr ymgymeriad o cr:\vyn allan hon yn gryn anturiaeth, ac fe bair lo,gfa a chwestiynau lawer. Yn ddi.au yr edrychir arni fel sampl ac .arddangosiad o gymeriad a iwerth y wfmi dogaeth yn ein plitli fel enwad. Mae yr etholedig- ion hyn yn rhai haeddiannol a chymeradwy iawn o'r safi,o anrhydeddus hon o gynrychioli urddas, nerth, ,a ffyddlondeb y weinidogaeth Eethodistaidd i'r efengyl sanctaidd yr hon draddodv/yd unwaith i'r saint." Dywed y golygydd hefyd mai un o'r cymhellion barodd iddo ymgymeryd a'r drafferth a'r draul o gasglu a chyhoeddi hon ydoedd rhoddi gwybod i'r oesau a ddel pa fath gewri oedd gennym yn nechreu yr ugeinfed ganrif. Mae y cymhelli.ad yn un rhagorol, ac mewn cydgord hollol ag ysbryd yr oes bresennol. Mae yr anturiaeth. yn un lwydd- jannus cyn belled a chyfansoddiad y gyfrol, ac yn un sydd deilwng o gefnoga,eth frwdfrydig pob pre- gethwr, blaenor ac aelod Methodistaidd; a meddwl ydym hefyd ei bod yn haeddu lie parchus ar fwrdd pob Cymro pur a gwladgar. Awgrymasom y pair hon gwestiynau llosgawl f,e- allai ym mynwes llawer. Diddadl yw nad chwech- arlugain o weinidogion sydd heddyw gan yr Hen Gorff yn deilwng o'r safle ar anrhydedd hon o'i gynrychioli yn ei weinidogaeth i'r oesau a ddel. Mae yma etholi.ad wedi cymeryd lie, ac nid oes cym- aint ag awgrym wedi ei roddi yn ol pa safon neu oddiar ha awdurdod y gwnawd yr etholedigaeth hon. Gwyddom fod golygydd hon yn Galfin iach ond sicr gennym nad etholiad heb un amod y gweithredodd yn ei ol yn ei gasgliad o ddefnyddiau at y gyfrol hon. Nid etholedigaeth yn ol gras sydd yn rheswm am le yn hon. Pa ragoriaethau oedd yn cad eu gofyn nis gwyddom-pa un ai athrylith, talent, dysg, d.awn, a phoblogrwydd, neu gydgyfarfyddiad o'r oil oedd yn rhaid eu cael i deil- yngu lie yn hon-nid yw hyn eto yn ddatguddiedig. Beth bynnag barodd i'r glorian droi o blaid y dewis- olion hyn rhaor i ereill. yr ydym yn berffaith dawel .a dibryder am edmygedd a pharch yr oes a ddel i weinidogaeth yr oes hon yn ein plith. Wei, beth .am y gyfrol ei hun? Mae o ran ei diwyg allanol yn ddestlus ac hylaw, cymedrol ei phris, gwerthfawr iawn ei chynhwysiad, ac yn un a gyfiawnhâ ei henw, ac a sicrha anrhydedd a chlod i'w golygydd a'i chyhoeddwr. Ceir ynddi nawar- hugain o ddarluniau cywir ac hardd-darlun o'r piegethwr yn blaenori y bregeth. Gwnant ynghyd oriel odidog, teilwng o unrhyw ystafell. Rhoddir inni hefyd ragdraith alluog a thra phwrpasol i gyf- rol o'r fath hon, gan y bardd bregethwr y Parch. J. E. Davies, M.A.. Llanelli, ar y testun tragwyddol ei ddyddordeb-" Y Pulpud-Ddoe, Heddyw, ac Yfory.' Mae yn rhagdraith cyfoethog o hanes ein Pulpud, a chyflawn o gyfarwyddiad.au gweithfawr. Mae hon hefyd yn un Gyfundebol, yn yr ystyr y ceir ynddi gynrychiolaeth deg ac agos cyfartal o'r Gogledd a'r De. Diau nad gweddus a brawdol ynom (gwyddom nad diberygl) fyddai dethol yma a thraw allan o gyfrol fel hon sydd mor amrywiol a chyfoethog el chynwys. Dichon mai dymunol a chymeradwy ynom fydd enwi y saith sydd wedi gorffen eu gyrfa, ac sydd heddyw yn rhan ddisglair o'r cymaint cwmwl tytstion." Gofod a balla i ni nodi testynau a materion pregethau y rhai annwyl hyn. Y cynaf yn y gyfrol v c-eir ei ddarlun gwir dda a'i bregeth werthfawr yw yr hybarch Evan Phillips, Castellnewydd Emlyn. Yn canlyn ceir y diweddar Barchedigion Wm. Williams, Hirwain, Griffith Ellis, M.A., Bootle, M. D. Jones, Mountain Ash, Francis Jones, Abergele. J. J. Roberts (Iolo Carnarvon), a James Morris, Llanstephan. Mae eu coffadwriaeth yn fendigedig, a'u henwau yn berarogl i holl Israel Duw. Yr oeddent yn seithwyr da eu gair, yn hoff gan Dduw, ac yn gymeradwy gyda dynion." Nodasom y rhai hyn yn brawf o'r hyn ellir ei ddisgwy] yn y gyfrol odidog hon. Felly yr ydym yn gydwybodol a chalonnog yn argymhell pawb i brynu a darllen hon. Mae ei golygydd llafur. us a theyrngar i'w enwad ynghyda'i awydd a'i bryder am i'r o-esau a ddel gael syniad cywir a chyflawn am urddas, cyfoeth a mawredd y Pulpud Method- istaidd yn nechreu yr ugeinfed ganrif yn haedu ein cefnogaeth fwyaf gwresog. Mae yn anturiaeth a gynyrchwyd gan argyhoeddiad am nerth a gwerth gweinidogaeth bur ei enwad i'r oes bresennol. ae i'r oesau a ddaw. Ac os oes ychwaneg o gyffelyb hon ganddo yn yr arf.aeth, dywedwn yn ddiweniaith Melus moes eto." Gan y Parch. T. Mordaf Pierce, Dolgellau. Gyfrol hardd iawn, yn cynnwys ohweeh ar hugain o dewisbreg-eth,au gan chwech. ar hugain o ddewis- bregethwyr Calfinaidd. Ceir yma gyflawnder o am- rvwiaeth mewn oed. mewn dawn, ac mewn mater. Ychwan-egir at ei dyddordeb trwy fod yr holl bre- gethwyr yn .adnabyddus i'r oes bresennol, a hyder- wn y bydd y rhan fwyaf o honynt yn adnabyddus hefyd i'r o.es nesaf. Erbyn hyn y mae ychydi.g o honynt wedi noswylio, ond erys y doreth o honynt yng nghanol eu gwaith,, a phwys a gwres y dydd o'u bl.aen. Y Detholiad. Nid hawdd oedd dewis y n.ifer gofynol i lyfr fel hwn o fys,g lluoedd y Corff, a themtid un o'r urdd i adael teimlad lywodraethu barn. 'Hysbys yw mai hawlfraint Blaenor yw ethol pregethwyr, a gwna hynny igyda sel ac urddas gweddus, i'r fath: swydd. Ond yn y gyfrol hon Gweinidog sy'n ethol, a natur- iol yw bwrw igolwg dros ei waith er gweled A ellir Blaenor o honaw." Rhaid dweyd ar unwaith y carwn. weled amryw ereill ymhlith yr etholedigion, a'r rhai hynny'n dywiysogion maes a theml. Y mae gan bawb o honora ei breigeth.wr neilltuo-1, ac y mae mor anodd dewis pre gethwr i bregethwr ag ydyw dewis eariad i garwr. Ond pe gofynid, Pa rai o bregethwyr Mardy ddy.lai ro'i lie i bregethwyr Mor- daf?' rhaid addef mai gormod go,rehest fyddai enwi cymaint ag un o. honynt. Pe tynid un allan o'r llyfr fel y mae byddai twll yn y gyfrol na allai neb arall ei lenwi'n hollol. Felly, rhaid cydnabod chwaeth a medr y golygyäd yn y detholiad. iLlwyddodd i gasglu amrywiol ddoniau'r pulpud i gylch gweddol gyfyn.g. Rhennir yr etholedigion yn gyfartal rhwng y De a'r Gogledd, a gofelir am gynriychiolydd i bob un o'r Colegau Diwinyddol. Lleolir fnvynt yn y llyfr yn ol blwyddyn eu hordeiniad, sef o 1860 hj^l 1898 —" naniyn dwy flyn.edd deugain." Gwelir fod cryn garnp ar yr olygyddiaeth yn y trefniant. Y Darluniau. Ceir naw ar hugain. o ddarluniau graenus iawn, ac i lawer byddant yn fwy o werth na'r pris a delir am y llyfr i gyd. Dyma'r wynebau v bu'r miloedd yn syllu gyda syndod arnynt o dro i dro, a gwelw,yd llawer un o honynt yn gweddnewid o dan rym y llewyrch ndol nes y tystiai pawb ei wyneb oedd fel wyneb angel." Dtyddoro] yw sylwi ar yr amrywiaeth mawr sydd ynddynt, nid yn unig yn ffurf y wyneb, ond hefyd yn null trwsiad. Os edrychir ar orid y Cenhadon Hedd a igyhoeddwyd; yn 1867. oeir gweled unffurf- iaeilT mawr hyd yn oed yn nhrefniant eu barfau. Pawb yn eilio bran yr un fath.. Mawr y cyfn-ewid erbyn hyn. Nid oes yma ond pump yn unig yn dilyn yr hen arfer dda honno. a gwnant i ni feddwl am wei sion Dafydd wedi eillio hanner eu barfau." Y mae dau ar bymtheg wedi ymnasareiddio, heb oddef i ellyn gyffwrdd eu cnawd, nes gwneud i ddyn feddwl am Aaron a'i dylwyth. Aeth pedwar i'r eithaf arall gan "eillio eu holl flew,' nes ein had-

-'"-_____--OFN MARWOLAETH.