Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y BYDOEDD UWCHBEN. Can Caradog…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BYDOEDD UWCHBEN. Can Caradog Mills (Sigma). Gan y Parch. T. Mordaf Pierce, Dolgellau. iLIawlyfr ar Seryddia-etb yw'r gyfrol werihfawr hon, ac wedi ei hysgrifennu mewn iaith semi a choeth. Prin y gallesid credu fod yng ngallu'r Gymraeg i lefaru'n wyddonol mor ddidrafferth hyd nes darllen y llyfr graenus hwn. Flynyddau'n ol cyhoeddodd Sigma lyfryn bychan arall tra dydd. orol ar RADIUM. Ystyrid y llyfr hwnnw yn gryn orchest, ond yn sicr, er ei ragored, nid oedd namyn rhagredegydd gwylaidd i'r llyfr hwn. Cyflwynir ef i "Bobl Ieuainc Cymru," a gellir ei gymell yn galonnog i bob Cymro, boed hen. boed ieuanc ac agorir o'i flaen fydoedd newyddion a dieithr, wedi eu mesur a'u pwyso'n ofalus yn ol dawn ddiwedd- araf gwyddoniaeth. Holodd beirdd Cymru lawer ynghvlch y "Hyd. oedd Uwchben," a gadewid i'r cwestiynau ymgolli'n ddiateb yn yr eangder mawr. Nid oedd neb yn dis- gwyl am atebiad. Byddai ceisio ateb yn ddwfr oer ar warr ambell fardd. Ond o'r diwedd dyma Sigma yn dechreu ateb yr holiadau fel gwyddon. ac yn gwneud hynny mewn Cymraeg bersain. Y mae'r darluniau yn rhagorol iawn, ac yn anhebgorol er deall yr ymdriniaeth. Trwyddynt ceir syniad cynnil am eangder llywodraeth yr Anfeidrol nes synnu a phensyfrdanu dvn. Eglurir y termau ser- yddol yn fanwl, a rhoddir gair ynghylch y dargan- fyddwyr o dro i dro. Dyry hyn gipolwg ar gamre'r wyddor bwysig yn ei datblygiad araf drwy'r can- rifoedd, a chodir awydd yn y darllennydd am fwy; o wybodiaeth, ac am fwy o oleuni eto i chwilio helynt eincâr ifydoedd. Onid dyma gamp Ilawlyfr fel bivn? Ychydig iawn yw'r brawddegau tywyll yn y llyfr, ond ceir ambell un yma ac acw a fyddai'n ddigon o destun dadl mewn dosbarth. Nid drwg i gyd yw peth felly, oblegid creai awydd chwilio mewn rilwy nag un cyfeiriad, ac o'r chwilio deuai mawr ddai- oni. Dywedir mai'r llyfr hwn ar Seryddiaeth yw'r Cyntaf a gyhoeddwyd yn ein Hiaith" (eyflwyn iadj), ac ychwanegir, "nj chiyhoeddwyd llawlyfr er- ioed yn Gymraeg ar y wyddoniaeth hon" (rhagair). Ni charem gondemnio dywediad mor bendant, ond carem ofyn beth am Y Darluniadur Anianyddol," a gyhoeddwyd yn 1850, gan Edward Mills? Mae'n wir mai "Tr.aethawd v gelwir hwnnw, ond y mae ,ar yr un llinellau yn union a Llawlyfr Caradog Alills. Na fydded. cweryl rhwn" y MI Ilsi.ald! R.hennir y Traethawd yn ddwy ran, un ar ser- yddiaeth, a'r liiall ar Ddaearyddiaeth. Dyddorol fyddai rhoddi, cynnwys y rhan ar seryddiaeth ochr yn ochr a'r Llawlyfr. Edward Mills Caradoc Mills (1850). (1914). Arweindraeth. Arweiniad. Y Ddaear, ei Ilun, ei maint, &c. Termau Seryddol Seryddi,aeth-sylwadau ar. Deddfau Kepler a Newton. Yr Haul, ei faint, ei natur. Y-Cysawd Heulog. Y Blaned Mercher. Yr Haul. Y Blaned Gwener. Y Lleuad. Y Ddaear a'i > Lleuad. Mercher—Gwener. Y Lleuad—amrywiaeth. Y Ddaear. Y Blaned Mawrth. Mawrth Y Blaned Iau. Iau. Y Blaned Sadwrn. Sadwrn. Y Blaned Hers chel neu Uranus. Uranus a Neifion. Y Comedau. CQmedau a Ser Gwib. Nef Ddarlunelliad. Cynulliadau Ser. Y mae y rhan seryddol yn y Darluniadur yn cynnwys oddeutu 70,000 o eiriau, ac yn agos i banner cant o ddarluniau. Y mae v Llawlyfr vn cynnwys oddeutu 50,000 o, eiriau ac vn agos i gant o ddarluniau. Nid ydym am foment yn cymharu y nail] lyfr a'r 11al1, ond yn unig dangos mai nid y Llawlyfr yw'r llyfr cyntaf a gyhoeddwvd ar y wyddor hon yn y Gymraeg. Nodedig o ryfedd yw hanes y Iluniau yn y Darluniadur. Gwehydd wrth ei gelfyddyd oedd Edward Mills, ond gwnaeth y plates i dd,angos rhyfeddodau'r wybren a'i law ei hun. Cartrefol oedd yr arfau, ac alcan oedd y defnydd, ond Ilwyddod,d, i gael darluniadau hynod o gywir i egluro'r bydoedd uwchben. Yr un modd y gwnaeth y mapi.au yn y rhan Ddaearyddol—llinyn hir o tin wedi ei droi drosodd a throsodd, dra- chefn a thrachefn, nes cael llun da o'r wlad a geis- iai dd,angos. Hefyd dyfeisiodd beiriant i ddangos- y lluniau hyn ar canvas,' a bu ar Led y gwledydd yn egluro'r bydoedd fry gyda'i barabl a'i .beiriant. Elai y peiriant allan o drefn weithiau ar ganol ei waith, gan adael y gynulleidfa yn y t'wllwch. Ond wrth drwsio'r peiriant dan ei ddwylo cadwai Ed. Mills i s:arad, a chadwai y bobl yn siriol trwy eu sicrh,ati fod yn rhaid ca-el nos cyn cael ser. Fodd bynnag, arall yw gogoniant Llawlyfr Sigma, ac y mae eL ddarluniau ef o'r gwneuthuriad goreu. Y syndod yw y gellir ei gael am 2S. 6c. (post free 2s. gc.), o'r Llyfrfa ym Mangor. DioJchwn yn gynnes 1 Mr. Mills aqj gyflwyno llyfr mor deilwng i'w gyd- genedl.

SYLW AR FISOLION.

LIVERPOOL A'R CY!LCH.

RI-IIWMATIC AC ANHWYLDEB Y…

ADOLYGIADAU.