Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

MIARWTOLAETH Y PARCH. E. J.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MIARWTOLAETH Y PARCH. E. J. EVANS, PENRHYNDEUDRAETH. Bore Llun y Pasc, tua 9 o'r gloch, bu farw y Parch. E. J. Evans, Llys Ivor, ar ot cystudd blin er ys amryw fisoedd. Yr oedd Mr. Evans yn 76 mlwydd oed, ac yn unig frawd y Parch. Richard Evans, Harlech, Ebrill 5, 1913', y bu Mrs. Evans ei briod farw-dwy flynedd i'r diwrnod. Cydym- deimlir yn fawr a'i frawd, ac a Miss Richards, ei nith, sydd wedi bod mor ofalus o hono yn ystod ei waeledd. Bydd yr angladd yn un cyhoeddus, a chleddir yn Harlech dydd Gwener. Cynhelir gwas- anaeth byr yng nghapel Nazareth, rhwng II a 11.30. Brodor o Orllewin Meirionydd ydoedd Mr. Evans, ac yng nghylch y Cyfarfod Misol hwnnw y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Ganwyd ef yn Tyddyny- garreg, gerllaw Dolgellau, Mai iaf, 1839, efe a'r Parch. Richard Evans, Harlech, yn efeilliaid. Dech. reuodd bregethu yng Ngwrecsam yn 1862. Bu dan addysg yn ysgolion dyddiol y Brithdir, Arthog, a Dolgellau, a thrwy y cwrs arferol yn Athrofa'r Bala. Ordeiniwyd ef yn weinidog yng Nghymdeitfiasfa Llangefni yni Mehefin, 1867, a bu yn fugail ar eg- lwysi Han ley a Crewe am ddeng mlyn edd. Galwyd ef yn Ionawr, 1889, i fugeilio eglwysi Nazareth a'r Fron, Penrhyndeudraeth, ac yma y treuliodd weddill ei oes, yn uwch ei barch ymhlith y bobl oedd yn ei adnabod oreu nag unman arall, a'i fywyd distaw a phur yn berarogl yn yr holl gylch.

-----NOD I ON 0 FALDWYN.

Family Notices

CYFARFODYDD MISOL.