Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
10 erthygl ar y dudalen hon
Cwestiwn G-orfodaeth.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cwestiwn G-orfodaeth. Pan y mae'r amgylchiadau mor amrywiol ac mor eithriadol, a'r sefyllfa wladwriaethol mor newydd ac mor gymhleth, gDrchwylanodd a phervglus yw ccisioohhaintarddiad y sefyllfa Avresennol. Gellir dweyd fod cyfuniad o achos "ion ac o achlysuron i'r sefyllfa, ond yn amlwg chwery cwestiwn gorfodaeth ran helaeth ynddi. Gwnaed yn amlwg,ar gyfarfyddiiad y Senedd fod nifer o'r aeiodau yn benderfynol o gael trafod- aeth arno ac o geisio argyhoeddi'r Ty fod y sefyllfa lilwrol, os nad gweithfaol hefyd. yn galw am roi gorfodaeth ar waith YI1 ddiocd. Ymhlith v rhai sydd. wedi eu dwyn .i gredu hyn,, ceir amryvv o'r aei- o< .0 odau Rhyddfrydol, a rhai o'r aelodau Cymrcig. Cymerodd Mr. Ellis Griffith ran yn y ddadl, .a siaradodd yn gryf dros orfod- aciii. Dadleuwyd y cwestiwn gyda llawer o Wres ac nid heb beth chwerwder ar lawr y Ty, ac adgyfod wyd yr holl hen ddadleuon, ar y mater, i'w iz,osod ochr yn ochr a dadleuoi: eithriadol amser rhyfel. Yr oedd y Gwyddel- od a'r Aeiodau Llafur, fel arfer, yn elynion anghymodlawn i orfodaeth. Fel y cyfeiriwyd yr wythnos ddiweddaf, yr oedd Cyngres yr Un- debau Llafur wedi datgan yn bendant yn erbyn gorfodaeth ychydig ddyddiau'n flaenorol, a chafwyd rhai o'r areithiau mwyaf awgrymiad- ol a chofiadwy oddir feinciau Llafur. Yr oedd Mr. J. H. Thomas yn chwerw a chignoeth iawn. Ymholai ai cynllwyn yn erbyn v Prif- Weindog oedd o dan yr holl helynt. Bygythiai hefyd chwildroad ymysg y gweithwyr os y ceis- Jd rhoi gorfodaeth ar waith. O'r ochr arall, dywedodd Mr. Stephen Walsh, er ei fod yn vvrthwynebydd pendant i orfodaeth, v ceid y gweithwyr yn barod i'w dderbyn, ar gais unol Y Llywodraeth—os y profid ei fod yn anorfod.
Y Sefyllfa Wleidyddol.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y Sefyllfa Wleidyddol. Mae'r Senedd: eto'n a go red, ac er dydd yr agoriad y mae'r sefyllfa wleidyddol wedi dat- biygu gyda chyflymder cyffrous. Nid yw'r wlad eto wedi deall na sylweddoli yn glir iawn pa Ie yr ydym yn sefyll gan mor amrywiol a chymysglyd yw'r lleisiau yn y wasg, ac mor Nvylit a gwibiog yw'r sibrydion sy'n llenwi'r I awyr. Cyn diwedd yr wythnos soniai'r goheb- wyr Seneddol am "Argyfwng yn. y Cabinet," a bygythient chwildroad o'r ladd flaenaf yn y Llywodraeth. Nid oes weledigaeth cur ia\» n ar y sefyllfa pan ysgrifennwn, ond diameu fod seiliau i rai o'r sibrydion ynghylch y gwahan- iaeth barn sydd ymysg aeiodau'r Cabinet ar fater Gorfodaeth. Ni raid ond clarllen: clatgan- iadau diweddar gwahanol Weinidogion i weld b zll eu bod yn cymryd golwg" gwbl wahanol ar y n b b sefyllfa. Rhydd hynny vnddo'i hun sail dda i rai o'r tuallan feirniadu a chwvno a chon- demnio, a sail hefyd i ddyfalu llawer am yr hyn raid fod yn cymryd He y tu ol i'r llenni, yn eisteddiadau'r Cabinet a lleoedd eraill.
14-r. Lloyd George.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
14-r. Lloyd George. Cysylltir enw Mr. Lloyd George, yn benn.af ° bawb, a'r symudiad i ddwyn oddiamgylch orfodaeth, a throdd yr hyn a elwid yn y papur- au yn, "Argyfwng yn y Cabinet" o gylch bwr- ladau am amcanion briodofid iddo ef. Dywed- ai y rhai a honnent wybod cyfrinachau'r Cabin- et fod y gorfodwyr yno- yn cael eu harwain gan r. Lloyd George gydag Arglwydd Curzon fel 'eI brif gefnogydd. En,wid hefyd Mr. Winston Churchill, Mr. Austen Chamberlain, Mr. Walter Long, a chan rai Arglwydd Lansdowne Mr. Bonar Law, fel aeiodau o'r Cabinet a ddilynent ac a gefnogent Mr. Lloyd George yn groesgad: newydd. Nid yw'r gair croesgad' yn rhy gryf i ddarlunio'r hyn briodolid i'n cyd- wladwr enwog; gan y dywedid fod y cwmni. hod, dan ei arweiniad, yn mynd i gario'" I z, Cabinet gyda hwy ar y mater neu ynte hnwr etholiad cyffredinoi er m,,i,yn. -i r wlad roi ei Ileus ar gwestiwn gorfodaeth Gwelir fod lliw n y Wasg felen ar ei goreu, neu ar ei gwaethaf, ar y stor*, au cyffrous ac ymfflamychol hyn a'r gresyn yw mai nid y was,- honno oedd yn fwyaf ^yfrifol am y gwallgofrwydd y tro hwn. A ^ybia rhywun yn ei synwyr fod yn mryd Mr. Lloyd George weithredu fel uchod, a rhwygo'r wlad i "w sylfeini, ac yntau newydd fod yn sym- ud nefoedd a daear i gael gan. weithwyr y wlad i ymgroesi rhag ymddygiad tebyg yn eu cylch eu hunain? Rhaid i ni ddweyd ei fod yn an- hygoel, ac yn waeth na gwrthuni, am ei fod t, yn athrod ar y gwladweinydd sydd a baich trym- af y rhyfel wedi ei roi ar ei ysgwyddau.
"X Rhagymadrodd."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"X Rhagymadrodd." Ar yr un pryd, gwyddis fod Mr. Lloyd George yn cymryd golwg fwy digalon, os nad diobaith, ar y sefyllfa, ac ar ragolygon y rhyfel, na'r mwyafrif o'i gyd-weinidogion. Mae ei areithiau ar hyd yr amser wedi taro nodyn dyfnach o bryder ac o ansicrwydd: ynghylch tynged y rhyfel, a'i rybuddion wedi bod yn fwy taranllyd a bygythiol na'r un gwladwein- ydd o'i safle. Erys ei eiriau difrifol yng Nghyngres Llafur yn ein clustiau fyth. Ond ddechreu'r wythnos ddiweddaf, mewn rhagym- adrodd i gyfrol swllt o'i areithiau a gyhoeddir, y mae ei eiriau yn gryfach a'i rybuddion yn ddifrifolach nag erioed. Dywed fod ei brofiad yn ei swydd: newydd yn dangos iddo fod dar- pariaeth y gelyn yn aruthrol fwy nag eiddo'r Cynghreiriaid; ac nas gellir disgwyl i'r llanw droi o'n plaid nes y ceir cyflawnder o offer rhyfel. Gwna Ffrainc bron gymaint ag a ddichon wneud; a rhodda'r Eidal ei holl nerth yn y frwydr. Nis gall Rwsia helpu am fisoedd eto. Bydd i'r tri mis nesaf benderfynu tynged y rhyfel; ac ystyria Mr. Lloyd George ein gorchfygiad yn anocheladwy oni cheir cyfnew- idiadau yn y ffactris, y rhai a nododd cyn. hynny wrth gynrychiolwyr yr Undebau Llafur; ond ychwanega, "Os y petrusa'r genedl, pan y mae'r angen yn glir i gymryd y camau angen- rheidiol i alw allan ei nerth mewn dynion i am- ddiffyn anrhydedd a bodolaeth; os yr oedir pen- derfyniadau oll-bwysig nes yn rhy ddiweddar; os yr esgeuluswn baratoi ar gyfer popeth all ddigwydd; os mewn gair, y rhoddwn. sail i'r cyhuddiad ein bod yn lliprynu i drych- ineb fel pe baem yn cerdded ar hyd llwybrau arferol heddwch, heb elyn yn y golwg-yna nis gallaf weld unrhyw obaith; ond os yr aberth- \\n yr oil a feddvvn a'r oil a hoffwn dros ein gwlad, os y nodweddir ein paratoadau a grym, penderfyniad a pharodrwydd prvdlon ymhob cylch, yna mae buddugoliaeth yn sicr."
Effeithiau'r Datganiad.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Effeithiau'r Datganiad. Teimlir fod yr apel a'r rhybuddion uchod yn dyfod o ddyfnder argyhoeddiad ac yn syth o galon sy'n caru ei wlad yn angerddol ac yn pry- deru am y dyfodol wrth wield1 arwyddion o ddi- ffyg sylweddoliad o fawredd ein perygl. Cym- erwyd hwy ar unwaith gan un dosbarth i ol- ygu fod Mr. Lloyd George yn troi holl ffrwd ei hyawdledd i ddychrynu'r wlad i freichiau gor- fodaeth tra y defnyddiwyd hwy gan apostolion gorfodaeth i'w hamcanion eu hunain. Gwyddis fod y wasg" felen wedi bod yn rhoi ei holl ys- trywiau ar waith i geisio dwyn gorfodaeth oddi- amgylch; ac yr oedd eu gorfoledd yn, fawr pan dybient fod: Mr. Lloyd George wedi dyfod o'u tu hwy. Yn awr, mae uwchlaw pob dadl fod y cynhyrfwyr hyn ymhlaid gorfodaeth wedi codi anhawsterai^dybryd ar ffordd ei roi ar waith pe gwelid y rhaid am dano. Drwgdybir hwy am fod ganddynt amcanion eraill. Dyna ystyr awgrym Mr. J. H. Thomas am y cynllwyn i symud Mr. Asquith. Gresyn cymysgu dim o'r cynllwynion hyn a rhybuddion difrifol Mr. Lloyd George, na phriodoli iddo ef unrhyw gyd- ymdeimlad a'r rhai sy'n gwaeddi am orfodaeth er mwyn gorfodaeth, neu er mwyn cael gwared a rhai o aeiodau'r Llywodraeth sy'n wrthnaws iddynt hwy.
Mr. Lloyd George yn Ateb.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mr. Lloyd George yn Ateb. Ddechreu'r wythnos hon cyhoeddodd Mr. Lloyd George lythyr mewn atebiad i un o'i eth- olwyr, yn egluro ei safbwynt; ac yn ei oleuni gwelir pa mor ddisail oedd toreth y straeon gy- hoeddKvyd yn y papurau ddiwedd yr wythnos. Dywed fod y Llywodraeth yn ystyried cwestiwn gorfodaeth yn ddifrifol; ac y byddai ei bender- fynu heb y^yriaeth ddigonol cyn waethed ag oedi gormod. Cwestiwn o ffaith, ac nid o eg- wyddor ydyw, nieddai; ac nis gwyr am neb a wrthwy nebai .orfodaeth pe ceid allan na fyddai dim arall yn ddigonol. Ymhola paham yr am- lygir yr holl ddigofaint, a gofynna am .i'r Llyw- odraeth gael amser teg i benderfynu. Yna rhostia y rhai a fynnant greu per- sonol, a dywed yn bendant y bydd ei gasgliad- au ef yn hollol ddiystyr o'i safle bersonol. Gellir barnu pa mor awyddus yw rhywrai i hau drwgdeimlad, pan gofir fod rhai yn gweld yn y z;1 I frawddeg uchod fygythiad Mr. Lloyd George i ymddiswyddo Terfyna'r llythyr gyda dat- ganiad nad yw'n tynnu dim yn ol o'i rybuddion blaenorol.
Airaith. y rrifweinidog.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Airaith. y rrifweinidog. Ar agorlad y Senedd cafwyd golwg ar rai o agweddau y rhyfel gan Mr. Asquith. Dywedai ein bod yn awr yn gwario tua thair miliwn a han ner y dydd ar y rhyfel, ac mai'r tebyg yw y bydd y swm yn codi'n uwch eto. Yr ydym fel teyrnas, hefyd, wedi ymrwymo am y swm en- fawr o 250 0 filiynau i wledydd eraill, yn cyn- nwys ein Cyngrheiriaid a'n Trefedigaethau; ac ystyriai y chwyddid y swm hwnnw hefyd. Heb- law y many lion ariannol, taflodd Mr. Asquith beth goleuni ar bwyntiau eraill. Dywedodd fod y nifer sydd wedi ymrestru hyd yn hyn yn rhifo yn ymyl tair miliwn, a chymeryd i'r cyf- rif y rhai wasanaethent yn, y fyddin a'r llynges ar gychwyn y rhyfel. Yr oedd yr ymrestru wedi bod yn ardderchog; ond am y pryd yr oedd y llif wedi arafu. Cyweirnod araith Mr. Asquith oedd fod ymdrech ac ateb y wlad yn wyneb galwad ddigyffelyb yn destyn syndod a chan- moliaeth.
Adolygiad Arglwydd Kitchener.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Adolygiad Arglwydd Kitchener. Yr un dydd yn Nhy"r Arglwyddi, yr oedd Arglwydd Kitchener yn adolygu gorffennol y rhyfel. Calonogol a gobeithiol oedd ei gyweir- nod yntau, er mai'r agwedd filwrol oedd ei faes arbennig ef. Nid oedd yn yr adolwg fawr o ddim nad ydym yn gyfarwydd a hwy trwy'r papurau; eto tynnodd dau osodiad o'i eiddo sylw cyffredinoi, sef ei ddatg'aniad fod Ger- mani bron ymhen ei thennyn yn y dwyrain; ac y gall ei holl fuddugoliaethau yno droi allan yn y pen draw i fod yn ddim ,gwell na gorch- fygiadau mewn rhith. Mae"r newyddion di- weddaraf o'r rhan ogleddol o'r ymgyrch yn ad- rodd am ychwaneg o lwyddiant i'r Germaniaid, fel yr ofna rhai fod hyd yn oed Kitchener yn rhy obeithiol. Ond arhoser cyn barnu; gall y sefyllfa newid yn raddol, fel y mae eisoes wedi gwneud yn Galicia. Drachefn, wrth son am y Dardanels, dywedodd fod arwyddion, fod gwrthsafiad y Twrc yn gwanychu, a'u hysbryd yn amlwg yn torri .i lawr. Hyderwn y profa dwy broffwydoliaeth Arglwydd Kitchener yn wir.
Y Rhyfel.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y Rhyfel. Yrydym yr wythnosau hyn yn mynd trwy gyf- wng eithriadol o dywyll yn hanes y rhyfel. Er fod Rwsia wedi llwyddo i roi atalfa ar rwysg y gelyn yn Galicia; edrych pethau yn ddrwg iawn mewn rhannau eraill o'r llinell. Mae Vilna wedi ei gadael i'r gelyn; ac amlygir pryder mawr am dynged byddin Rwsia yn y rhan hon o'r maes. Bygythir ei hamgylchu gan, ddwy fyddin elynol. Byddai hynny yn drychineb mawr a difrifo1 iawn. Llwyddodd y Grand Duke lawer gwaith i dynnu allan ei fyddin- oedd o gonglau cyfyng iawn; a hyderwn fod y swyddogion sy"n aros yn y rhan hon, yn feistr- iaid ar yr un gelfyddyd1. Profa'r hyn gymer le yn y gorllewin ac yn y Dardanels wirionedd datganiad Mr. Lloyd George,—nad yw ein dar- pariaeth eto mewn offer rhyfel yn ddigonol i roi inni'r oruchafiaeth. Er fod y cyflegrau yn Ffrainc wedi ysgubo ffosydd y gelyn am wyth- nosau, a'n rhyfel-longau ninnau wedi bwrw tan ar lannau Belgium, nid yw'r effaith yn c tnigoii, i roi agoriad i'r milwyr i ruthro ymlaen.
Wythnos y Gyllideb.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Wythnos y Gyllideb. Cyn y darllennir y sylwadau hyn, bydd llawer wedi rhedeg eu llygaid dros ffigyrau anferth cyllideb gyntaf Mr. McKenna. Mae'r gyf- rinnach wedi ei chadw yn well nag arfer, ac nid oes neb yn honni gwybod nemawr am gynyg- ion newydd y Llywodraeth. Ond gwyr pawb f-od baich aruthrol i'w roi ar y wlad mewn toll- au; ac ymddengys pawb yn sylweddoli'r sefyll- fa'n ddigon byw i beidio protestio—ymlaen llaw o leiaf. Diameuy bydd beirniadu a chondem- nio ar lawer o'r cynygion.; ac nid oes disgwyl amgen nag i'r Gyllideb fod yn un amhoblog- aidd, am ei bod yn sicr o fynd yn ddwfn 1 kgell- au pawb.