Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Cwestiwn G-orfodaeth.

Y Sefyllfa Wleidyddol.

14-r. Lloyd George.

"X Rhagymadrodd."

Effeithiau'r Datganiad.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Effeithiau'r Datganiad. Teimlir fod yr apel a'r rhybuddion uchod yn dyfod o ddyfnder argyhoeddiad ac yn syth o galon sy'n caru ei wlad yn angerddol ac yn pry- deru am y dyfodol wrth wield1 arwyddion o ddi- ffyg sylweddoliad o fawredd ein perygl. Cym- erwyd hwy ar unwaith gan un dosbarth i ol- ygu fod Mr. Lloyd George yn troi holl ffrwd ei hyawdledd i ddychrynu'r wlad i freichiau gor- fodaeth tra y defnyddiwyd hwy gan apostolion gorfodaeth i'w hamcanion eu hunain. Gwyddis fod y wasg" felen wedi bod yn rhoi ei holl ys- trywiau ar waith i geisio dwyn gorfodaeth oddi- amgylch; ac yr oedd eu gorfoledd yn, fawr pan dybient fod: Mr. Lloyd George wedi dyfod o'u tu hwy. Yn awr, mae uwchlaw pob dadl fod y cynhyrfwyr hyn ymhlaid gorfodaeth wedi codi anhawsterai^dybryd ar ffordd ei roi ar waith pe gwelid y rhaid am dano. Drwgdybir hwy am fod ganddynt amcanion eraill. Dyna ystyr awgrym Mr. J. H. Thomas am y cynllwyn i symud Mr. Asquith. Gresyn cymysgu dim o'r cynllwynion hyn a rhybuddion difrifol Mr. Lloyd George, na phriodoli iddo ef unrhyw gyd- ymdeimlad a'r rhai sy'n gwaeddi am orfodaeth er mwyn gorfodaeth, neu er mwyn cael gwared a rhai o aeiodau'r Llywodraeth sy'n wrthnaws iddynt hwy.

Mr. Lloyd George yn Ateb.

Airaith. y rrifweinidog.

Adolygiad Arglwydd Kitchener.

Y Rhyfel.

Wythnos y Gyllideb.