Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y MILWYR CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y MILWYR CYMREIG. ('.an y Parch. K. Peris WRU.iAMS. Ivrbyn hyn y .mae gvvahanol gatrodau y ("orffla Cymreig (Welsh Army Corps) wedi sy-mud, o Oglecld Cymru. Treuliwyd misoedd cyntaf eu hyfforddiant milwrol ganddynt yn Llandudno, Colwyn Bay, Rhyl, Prestatyn, Pwllheli, Criccieth, a Phorlhmadog, a bu trigolion y lleoedd hyn yn garedig iawn wrth v bechgyn hyn yn sydd yn y fyddin. Goddefer i mi dcKolch yn gynnes i eglwysi y gwahanol enwad.au vn y lleoedd hyn am eu caredigrwydd i'r milwyr. Clywais am yr hyn wnaeth yr eglwysi yn y gwahanol leoedd, a gwn trwy brofiad am yr hyn wnaeth .eg- lwysi Colwyn Bay. Buont ,ar eu goreu i wneud y bechgyn yn gartrefol. Bellach wedi cefnu ar 'hen wlad ein tadau,' ceir miloedd o fechgyn Cymru -ydcl yn y fyddin yn gwersylln yn Nehenbarth T Joegr yng nghyinydogaeth, Caerwynt (Winchester), o fewn ychydig filltiroedd i lan y culfor syd'd rhyngoin a r Cyf,andir. Ceir yn y wlad o amgylch dinas Can wynt s,aith neu wyth o wahanol wersylloedd. Mewn huts—adeiladau o goed a haearn (corni- gated iron)—y m.ae y mwyafrif o honorn. Ceir rhai .mewn pebyH, ond, byddant h.wythau mewn huts cyn bo hir. Profiad newydd i'r rhan fwy,af o honom ydyw preswyho mewn c.abanau .ar faes agored. Wrth edryeh. drwy ffenestr y caban He yr wyf yn ysgrifennu yr ertliylgl hon, gwelaf fod rhai g-wrychoedd a Ilwyn o goed yng nghyfeiriad y clwyr, ain, a bydd ant, os byddwn yma ddiechreur gaeaf, yn help i dorri min y dwyreinwynt garw, a gerwin- der y ddrycin. Maes tebyg i Faes Maclor, rh-vv ng y Bwlchg-wyn a Llandegla, ydyw Hazeley Down, lie y mae y gwer- syll hwn, ond .ei fod yn 1 lawer eangach, ,ac y mae yn fwy anghysbell. Prin yr ydym eto wedi cael pethau i drefn yn y gwersyll. Yll wir, nid oes ond tu.a hanner y nifer fwrledir eu hadeiladu o huts wedi eu gorffen. Y mae'r gweithwyr wrthi yn brysur gyda'r gwaith o godi'r cytiau. Clywir swn morthwylion v seiri. yn hwyr ac yn fore, a chynorthwyir ynglyn a'r gwaith o wneud ffyrdid, &c., gan rai or milwyr. Bechgyn y 10th &-iith, Battalions, South Wales Borderers (y Gororwyr), y 16th Bataliwn. dinas CaeT- dyddf), Adran o'r Royal Field Artillery, ac hefyd yr Ammunition Column, sydd yma; ac y mae yr 17th Bataliwn Royal Welsh Fusiliers ar eu ffordd i'r gwersyll hwn. Yr ydym yn cael I parade services llwyddiannns iawn bob bore S,aboth am hanner awr wedi naw. Hwn yw y gwasanaeth swyddogol, a bydd gennym dros fil o gynulleidfa. Arweinir y cam gan Sein- dorf Bataliwn Caerdvdd, a. Reindorf Crwyr Gwent bob yn ail Sul, a cheir canu tra rhagorol. Yn wir cenir ambell emyn yn fendigedig. Ar ol y gwasanaeth hwn byddaf yn ymweled a'r Military Hospital. Wrth gwrs, ymwelir a'tr ysbyty hefyd1 yn ystod yr wythnos Cawsom oedfa i'w chofio yn yr ysbyty bore yr ,ail Saboth, ym Medi. bore hwnnw bum yn aros i un o'r meddygon orffon ei waith gyd.a'r cleifion. Vn eu plith yr oedd un ha,chgenyn bur wael o'r pneumonia. Dywedodd y meddyg wrthyf ei fod yn anymwybodol, ac na byddai i'r gw,as.anaetbi fwriadem ei gynnal effeithio arno o gwbl. Mbdd bynnag, bernais mai gwell oedd i ni beidio canu d'arllenwyd rhan o Lyfr y Psalmau, a gweddiwyd. Yna rhodclais anerchiad. Yn fuan wedi i mi ddechreu, sylwais fod y bachgen hwn yn agor ei lygaid, ac yn craffu arnaf; yna dechreuodd 'borthi'r gwasanaeth' ac yr oedd yn hawdd gweled ei fod yn dilyn yr hyn. leferid. Bum yn ymddiddan ag ef ar ol y gwasanaeth, a dywed- odd rai pethau sydd. yn rhy gysegredig yn fy ngolvvg i'w cofnodi yma. Da gennyf fynegu fod y bachgen hwn wedi troi ar wella. 'Gan fod rhai cannoedd o'r milwyr o'r gwahanol wersylloedd yn myn'd i lawr i ddinas Caerwynt ar 01 te prynhawn Saboth, da y gjvnaeth y Parch. P. Jones Roberts, caplan y Wesleyaid, wrth drefnu oedfa ar eu cyfer yn yr awyr agored ymhrif heol y ddinas, yn ymyl cofgolofn, y Brenin Alfred. Aethum yno ar ol yr ysgol y Siaboth wythnos i'r diweddaf. Daethai tyrfa fawr ynghyd, amcangyfrifid fod yno tua thair mil o gynulleidfa. Yr oedd y canu yn weir- eiddiol, arweiniad y Corporal Owen Jonah Owen, o Lanberis. Yr wyf yn cofio ei daid Wm, Owen, Blaenycltlol, yn dechreu canu yng nghapel Nant Padarn, a'i diad, Jonah Owen, ar ol hynny. Gwelir ei fod yn hann.u o hen gyff o arweinwyr canu, ac nid rhyfedd .ei fod yn gwybod pa fodd i arwain. Cymerodd y Parch. Jones Roberts rannau arweiniol y gwasanaeth, a phregethais innau. Cefais y'fraint yn y gwersyll hwn o sefydlu dwy Ysgol Sul. Yn un o'r huts y cynhaliwyd1. yr Ysgol y Saboth cyntaf. Wedi hynny yr ydym wedi cyfar- fod ym mhabell y, Y.M.C.A, ac yma fel ymhob man arall He y ceir milwyr gwneir gwaith rhagorol gan Gymdeithas Gristionogol y Dynion leuainc. Mae ganddynt ddau le yng. ngwersyll Hazeley Down, 9 11 mhlith y cyfeillion sydd yn cynorthwyo ynglyn a gwaith y Y.M.C.A. yma, ceir nifer o ddynion nas gallant oherwydd rhesymau digonol ymuno a'r fyddin yn rhoddi eu gwasanaeth yn y sefydliadau hyn. Y mae Ysgrifennydd Cyfrinachol Esgob Llun- dain yn treulioei wyliau yma, ac yn gwasanaethu yn y Y.M.C.A. hut. "Ceir yma hefyd retired bank manager yn cynorthwyo y tu ol i'r cownter yn yr un hut, ,ac y mae nifer o wragedd a merched ieuainc o'r ddinas yn dod yma bob dydd i gynorthwyo. Danfonir cannoedd o lythyrau yn ddyddiol o'r lie hwn gan y i echgvn ceir d'igon o bapur ysgrifenmi, am ddim, a lie cvfieus i ysgrifennu ymhob hut. Nis gellir dweyd ()I*Ilodi ialn. werth y s-efydl- iadau hyn ynglyn a'r gwahanol wersylloedd. Ceir ymhlith y bechgyn gannoedd wedi eu magu ar aelwydydd c'refyddol qe we,.Ti- arfe- i-pvT,'d i"r capel deirgwaith ar y Saboth, ac i'r cyfadod gweddt. a'r gyfeillach bob wvthnos, ond y mae yma lawer fel arall, er hynny ceir peth daioni yn y rhai sydd yn ymddlangos yn hollol atnddifaxl o gydymdeim- lad a ]>hethau crefyddol. (.'lyw.ais am un or cyf- ryw niewn hut He yr oedd deg ar hugain o nhvyr. Daeth bachgen newydd ymrestrn (recruit) i'w plith .hachgen ydyw arf-erai w-eddio bob nos a bore wrth er-chwyn ei wely gartref. Aeth ar ei lirnau yn o\ ei arfer wrth. yanyl ei orweddle yn yr hut, ond Huchiwyd esgidiau, a phethau er,aill ato. Cododd y brawd v tybid ei fod heb ronyn o gyaymdeimlad .a phethau crefyddol a dywedodd y byddai yno helynt os na chai y bachgen, lonydd pan ar ei lini.au! P.r fod yno waeddi a thwrf yr ail nos- waith, yr oedd pethau yn well, ac ,aeth vn dawelach o noson i noson, fel pan god odd y bachgen ocldiar ei liniau ynihen ychydig dros wythnos yr oedd pob un yn yr ystafell honno ar ei liniau. Yr oedd ei ddyfa Ibarh ad tawel, a'i esiampl hyawdl, wedi eu plygu i gyd ger bron gorsedd gras. Dyl.aswn foci wedi crybwvll pan yn. son an; ein Hysgolion Saboth-ol, fod gan y Capten Ldewelyn Williams, o Caerdydd, a chyn hynny o WrfCAam, prif swyddog y Sanitary Section K.A.M.C., dd.os- barth Beiblaidd llwyddiannus iawn yng ngwersyll Avington Park. Gwelais a-niryw oi ddisgyblion, a dywedent eu bod wrth eu bodcl yn ei ddosbarth. Gall gwr o'i allu a'i ddylanwad- wneud gwaith mawr dros Crist ymhlith v bechgyn. Bendith fo ar ei wasanaeth. Diolch i'r llu cyfeillion o wahanoi rannau or wlad sydd, wedi ysgrifennu ataf. loffwn fedru eu hateb bob yn un ag un, ond nis gallaf ddod i hen gwasanaethed yr erthygl hon fel atebi.ad. Pan yn ysgrifennu i ymholi ynghylch rhai o'r bechgyn, rhodder yr enw, ynghydag enw'r Battal- ion, ar rhif yn y fyddsn. Gweddivvch y bechgyn a throsoni ninnau sydd yn llafurio yn eu plith" (rellir cyfeirio llythyr.au i mi i Hazeley Down Camp, Winchester.

Advertising

PERSONOL.