Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

FY ATHRAW.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FY ATHRAW. GAN YR HENADUR JOHN M. HOWELL, Y.H., ABER- AERON. VII. RHWNG Aberaeron, a Llandyssul, wedi gadael Llanarth, yr ydym yn ebrwydd ar war "Sion Quilt," gwlad rhedyn, eithin, ac ysgyfarnogod. I b Dydd Iau, Medi pfed, yr oedd y grug yn hiy gogoneddus nag arfer, dydd el added igaeth y Parch. Thomas James, M.A., Llandyssul. Son- ir yn ami am erw Duw." Wele erwau Duw o bob tu, mor bell ag y gwel y llygaid, gyda rhwvdwaith o nudd drostynt, sydd yn gwneud c\ faredd y grng yn fwy. Nid yw dyn wedi aradrn a rhychu y bron- nvdd, a thyfu ei gropiau ei hun,, y fifordd yma. Duw sydd' yn ffarmio "Sion Quilt "y rhand'r neilltuedi.g ac arddunol hwn. Ar yr aswy y mae dyffryn C'lettwr, gwlad Sarnicol," bro y brwyn, a'r brithyll. Cain ddysgodd y grefft o drin y ddaear. Efe wnaeth y swch, a'r Mower a'r Binder. Bugail oedd Abel. Dacw ef a'r drum y waen. Eiddo Abel yw'r dyfodol, er mor an- hawdd yw credu hynny heddyw. Ar hyd y ffordd hudol hon y cerddai yr Athraw i'w gyhoeddiadau Sabothol, i LJan- arth, a'r Ceinewydd, a Chapel Ffynnon, a Pen- sarn, a Phenmorfa. Ar hyd y ffordd hon y cerddem ninnau, 47 mlynedd yn ol, fintai hiraethus a llwfr wrth ddychwelyd at ein tascau yn yr Ysgal; end mintai afiaethus, os nad crechwenllyd pan yn dychwelyd adref. Pa le y maent? Y mae y Parch. D. R. Wil- liams, Salem, Aberystwyth, y Parch. T. P. Thomas, Gyfeillion, Rhondda, a Mr. D. J. Rees, wedi hynny o Abergele, "wedi myn'd gartre'. Dyna air yr Athraw. Gair pagan ac nid gair Cristion yw-" y di- weddar." Y mae Mr. E. Lima Jones a minnau yn aros o fforddolion Aberaeron,. Ystyrrid yr hybarch William Evans, Gweini- dg yr Annibynwyr yn Neuaddlwyd ac Aberaer- on am 60 mlynedd, y sant perffeithiaf welwyd yn y parthau hyn. Yr wyf yn cofio ei fod yn siarad yng nghapel Ffosyffin, yn. angladd y Parch. Joseph Jones, Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr hyn y tarawai efe wrtho yn ddamweiniol, megis,—ac a ddywedai rhwng cromfachau wrth bregethu ac areithio oedd ei bethau disgleiriaf. Dyma un o'r sylwadau-—" Pe buasai yn rhaid i mi fyw yn, annuwiol am hanner awr, er mwyn ennill y nefoedd, collwn hi." Anhawdd dychmygu honiad cryfach. Gwyddai pawb ohonom, ei fod yn dweyd y gwir. I'r un dosbarth y perthynai yr Athraw. Yr oedd yn caru dysg a llyfrau, ond yn is na'r gol- udoedd deallol; ymserchai ei ysbryd gyda char- iad oedd bron a bod yn gwbl rydd oddiwrth yr anianol, yn Nuw, yn y Duw byw. Gwn am gariad sydd gymharol glir o bob daearoldeb, eto a rhyw haenau o'r darfodedig am dano yr oedd yn rhaid eu plisgo i ffwrdd, ond tebyg y bu i gariad yr Athraw at ei ddis- gyblion, at y saint yng nghapel Seion yn ogystal ac yn y Tabernael, at ei Gyfundeb, at ei briod, at ddyn, fyn"d i'r nef, heb "gysgad troedig- ZD aeth." Onid hwn yw y mawredd pennaf ? onid hyn yw bonedd Sant ? Carai ddaioni er ei fwyn, ei hun. Nid oedd cymaint pwys yn y gwahaniaethau eraill. Pwvsleisiai yn unig ar y da a'r drwg. Na, rhaid ychwanegu. Wedi cael fod bachgen yn dda, mynnai iddo fod yn, ganmol- adwv, yn well ac yn well o hyd yn yr hyn sydd oreu. Fel y dywedir fod pridd yr ynys werdd yn IIadd seirff, yr oedd ei bresenoldeb yn ddifaol i absen ac enllib. Yr oedd ei anianawd yn wrthnaws i fydolrwydd. Wrth fydolrwydd, yr wyf yn deall, nid byd yn. yr ystyr o hunangais a hunanfodd'ant, ond byd y pethau presennol, byd helyntion pobl craill, hyd rhyw fath o ddysg dinodd ac o goeg ddi- wylliant; ac ymddangosiad a rhodres. Darllenais am fachgenyn o athrylith, pan y dechreuodd efrydu meintoniaeth y meddianwyd ef a rhyw barcheclig ofn, oblegid meddai, yn awr am y tro cyntaf, yr wyf yn medru dirnad y trag'wyddol." Yr oedd ein Athraw yn hen breswylydd y byd tragwyddol hwn. Yn, ei got hirllaes glerigol, o flaen y black-hoard, a'r shalc yn ei law, offeir- iadai ger allor yr annherfynol a'r anweledig. Syllem ninnau megis dan ei aelau trymion, ef, oedd yn sideru y talcen hardda' "rioed, o farmor gwyn,—drwy postulates ac ongJau Euclid, ar bethau anrhaethadwy a gogoneddus. Nid myn'd o'n, hymyl. i'r byd rhyfedd hwn, ond dod ohono, lie y preswyliai, a'n 'mofyn iddo, a wnai. Clywais y Parch. John Thickens yn dwe\d rhyw beth tebyg am ddylanwad y Parch. D. Charles Davies yn ei cldosbarth Mathematics Yn Nhrefecca. Carai bob deddf, deddfau mesur- oniaeth diwyro, ac angenrheidiol, a deddfau g.os.odedig gramadeg a moesgarwch, symudol a symudadwy. Carai lenyddiaeth. Ceisiodd ddangos i ni ystyr sonedau Horace, a darllenem yn awchus o dan ei arweiniad Xenophon a'r Testament Groeg, ac hyd yn .oed nofelau serch y Ffrancod, mewn Ffrancaeg. Ysgrifennai Wordsworth at Coleridge ar gan, mewn, blinder, ohenvydd bydolrwydd (worldlin- ess) ei oes "0 gyfaill hoff, n,is gwn pa le i edrych Am ymwared. Llethir f'ysbryd prudd Wrth feddwl nad yw bywyd mwy ond gwisg. Er ymddangosiad—yn llaw y crefftwr, gwas Neu'r oogvdd. Rhaid i ni fyth ddisgleiria Fel y ffrwd yn wyneb heulwen, neu Annedwydd1 y'm, nid oes arddunedd 'nawr Mewn natur, nac mewn llyfr." Yng ngwylder ei rodiad, yn symlder ei foes, yn ymroddiad ei fryd, atebai yr Athraw,— "Baed felly, ond na chyfrifwch fi Ymhlith y tylwyth, fydolion, dalla'r byd Mae llyfr a myfyr yn ddau fyd da i mi, Dau fyd ardderchog, dau fyd pur a da. Yn mhob un gallaf fyw yn mhell o ofn drwg, Llid ni ddaw ataf, gan na che.:sliaf hi, Na hud tafodau cyfrwys. Mae'r hin yn hyfryd, Golud yw'r tymhorau o yd a gwin, Meddyliau llün." Ie, pan y dychwelwn dros Sion Quilt yn hwyr y dydd, yr oedd yr awyr yn las dryioyw hyd nef y gogoniant. I'r dwyrain, gwelid gorwel gwelw-lwyd arian- a'i d,d,ptirdeb oedd mor loew, ag i fod yn oer. Ar orwel mor gadawodd haul gochni rhudd oedd yn awgrymu cynhesrwydd.

CYMDEITHASFA PWLLHELI.