Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

i NODION OR DEHEUDIR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

i NODION OR DEHEUDIR. Chapel Par:ade. "Clywir yn ami iawn am Church Parade, ond galiwn dybied mai rhywbeth newydd ydyw "Chapel Parade." Dyma gawd fore Sul diweddlaf yng Nghroesfan. y Fro, pan aeth y Gwirfoddolwyr, a elwir "The Creigiau Detachment 5th Batt., Glam. Regt., Volunteer Training Corps," o dan arweiniad Major J. S .Davies, clerc yr Ustus- ia.id, Pontypridd, i wrando ar y Parch. Rowland Morgan i gape] y Methodistiaid yn traethu'r gair. Pregethwyd yn briodol a hynod effeithiol oddiar y geiriau <! Dywed! wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt. Ex. xiv. 15. Tystiolaeth. pawb oedd yn bresennol oedd fod y gwasanaeth yn un eithriadol ddymunol drwyddo. Ar ddyfodiad y milwyr i fewn, canwyd anth'em genedlaethol y Ffrancod ar yr organ, ac ar eu mynediad allan canwyd anthem genedlaethol Rwsia. Miss S. A. Mbrdecai ogleisiai y gan allan o'r offeryn. Llongyfarchi.ad.—Yng nghyfarfod gweddi undeb- ,y 01 yr eglwysi yn Briton Ferry, nos Wener, M,ecl- i 10, llongyfarchwyd y Parch. W. Samlet Williams ar ben ei 4ofed flwyddyn fel gweinidog ordeiniedig, ac yn herwydd ei ofal am yr achos yn lleol a chyffre- dinol. 'Gwr ymroddedig, ydvw gydia phob rhan o waith yr Arglwydd yn yr ardaloedd lie y rnae efe a'i deulu wedi bodJ yn cyfaneddu. Er yn, ieuanc v mae yn arweinydd cerddorol. Beth bynnag yr ymafl ynddo i'w wneuthur gwna ef yn drwyadl. Gwyr y jCyhoedd am y llyfrau huddiol a gyhoeddwyd ganddo. Gweithia yn egniol gyda'i: achos dirwest- -ol. Efe sydd yn arwain y canu yn y cyfarfodydd gweddi undebol. Siaradwyd yn uchel am Mrs. Williams befyd, a'r teulu gwasanaethgar. Y mae'r plant yn nodedig am eu defnyddioldeb gyda'r achos da. Yng ngwasanaeth y cysegr y raae y teulu yn un o'r rhai mwyaf cerddorol yn ein gwlad. Dymun- ai y brodyr a'r chwiorydd o'r gwahianol enwadau yn dda iddynt, gan obeithio y byddent yn parhau yn eu defnyddioldeb a'u ffyddiondeb. Briwsion Breision o'r C.M. Pwyllgor Bugeiliol.C wr ag y mae pawb yn hon o'i glywed yn si.arad yw v doniol Barchedig H, T. Stephens, Aberdar. Am y trydydd tro yr oedd ei enw ar raglen y C.M. i gyfiwyno penderfyniad ynglyn a'r pwyllgor uchod, ac yr oedd. pawb yn awyddus i wybod beth oedd ganddo i'w ddweyd. Dyddorol fyddai darllen 'llawer o'r pethau da a dclly- wedodd, ond dywed Gofod paid ymhelaethu. Pwysieisiai fod ein I'lwyddiant fel Cyfundeb yn y dyfodol yn dibynnu ar fugeiliaeth ofalus a doeth. Anaml y byddai yr hen bregethwyr gartre', pregeth- ent ar hyd yr wythnos. (Mis gartre' a dau yn Libanus oedd eu hanes hwy. Arferid cynnal C.M'. am ddau ddiwrnodi, a mifer fawr o bregethau yn cael eu traddodi, ond erbyn hyn y mae pethau wedi newid yn fawr. Dim o'r teithio fu. C.M, am. un diwrnod yn awr, ac un bregeth yn ami yn yr hwyr. Un bregeth mewn oedfa cwrdcl pregethu yn. awr, yn lie dwy neu da.ir fel yr arferai fod.&c. Baich y pen- derfyniad oedd fod y Pwyllgor Bugeiliol yn cael eyfle i roddi barn ynglyn, a'r priodoldeb o uno dwy eglwys fechan ynghyd pan yn rhoddi galwad i fugail." Pasiwyd y penderfyniad. Cenhadaeth y1 Milwyr.—Dywedodd y Parch. M. H. Jones. B.A., Ton, John Lewis, Aberaman, a D. Jones, M.A., Penrhiwceibr, lawer o bethau cyff. yrddiadol iawn wrth roi hanes eu hymweliad a'r milwyr. Y mae'n amlwg fod nifer liosog o fechgjai goreu ein heglwysi o dan y faner, ac y maent hwy gyda miloedd eraill yn mawr werthfawrogi ymwel- iad y gweinidogion. Gresyn na byddai modd danfon llawer rhagor allan i wahanol fannau i roddi .gair o gysur i'r dewrion hyn sydd. wedi aberthu cymaint er mwyn amddiffyn eu gwlad. Yr Ystadegau.—Dr. Phillips, Tylorstown, wrth wneud sylwadau ar yr Ystadiegau, a ddangosodd fod Heihad mewn cysylltiad a'r Ysgol Sul: 23 o ath- rawon yn llai, 450 o y'sgolheigion. a 619 yng ngbyfartaledd y presenoldeb yn ystod y flwyddyn. Rhaid ,i ni gofio fod miloedd o ddeiliaid yr Ysgol Sul yn y fyddin. Yr oedd rhai casgliadau wedi myni'd yn llai, ac nid oedd meddai ef yn iawn beio y rhyfel am hyn., yn herwydd: yr oedd pobl wedi cael gwell blwyddyn mewn ystyr fasnachol nag a gafwyd o'r blaen. Rhaid1 cofio fod v bechgyn sydd wedi myn'd i'r rhyfel wedi aberthu, ac nad oes dim aberth o'n tu ni, os yn rhoi punt at rhyw achosion ynglyn a'r rhyfel ac yn tynnu hynny yn ol o gasgl- iad y capel. Y C'ipwyr.—Cyflwynwyd y bathodynau am lwyddo o honynt ddod i ben y rhestr yn Arholiad: yr Ysgol Sul, i'r rhai canlynol: —Dosbarth Hynaf, Mr. W. Rhys Davies. Llwydcoed. Dan 21 oed. Mri. Thos. J. Jones (W.), Ynysybwl, a Cyril Morgan (E.), Tylorstown. Dan i'6eg, Mr. Griffith Quick (W.), Cwmaman, a Miss Watts (E.), Bonvilstone. Dan 10, Eirwen Lloyd Jones (W.), Cwmbach, a Francis Thom,as (E.), Felin Newydd. I chwi y rhoddwyd coron cyfiawnder i'w chadw, g,an y rhai a dybiwn oeddynt farnwyr cyfiawn. Gwyl D'e a Chyngerdd. Ac 01 gwledd o'r lath oreu i'r corff yn Soar, Hopkinstown, ddydd Jau di- XiTed,d,af, cafwyd gwladd o natur arall mewn cyngerdd ardderchog yn yr hwyr. Cymerwyd rhan ynddo gan Misses Sims, Bronwen Thomas, Morfydd Rhys, Lily Owen, IMirs. Pennington, Mri. Henry Morgan, a W. Hirwen Beynon. Mr. W. Jones, B.A., A.L.LThI.a ofalai fod y berdoneg yn gwneud. ei rhan yn dda. Llywyddwyd gan y gweinidog. Cyfarfodydd [Iregethu.-M,ertl),yr Vale, Parch. J. Lewis, Aberaman. Libanus, Dowlais, Parchn. W. Davies, M.A., Aberdar, a Robt. Beynon, Abercrave. Coedpenmaen, Parchn. Richard Roberts, Glyncor- rwg, a Dr. Hughes D.D. (B.). Nelson, Parchn. Wyn Davies, Rhos, a. Lemuel Jones, Goppa. Croes. fan, Parohn. D. S. Owen, B.A., Llanelli, a William Davies., M.A., Aberdar. Baduchaf, Parchn. J. O. Jones, Caerfyrddin, .a D. T. Morgan, Abercynon. GWAU N C AEG IJRWE N. Y gwahoddedigion i gyfarfod sefydlu y Parch. Ciement Evans yn weinidog ar eglwys Siloh y Sul ,a'r Llun, yr wythnos ddiweddaf, oeddynt y Parchn. J. O. Jones (Hyfreithon), Cwmafon, a D. Picton Evans, M.A., Treforris. CWMIAFON. Cynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol y Tabernacl, y Sul ,a'r Llun diweddaf. Y gweision fu yn tra- ddodi yr Hen, hen hanes," gyda bias, oeddynt y Parchn. D. H. Williams, D.D., Casnewydd, a'r Parch. D. Cwyf.an Hughes, B.A., Sir Fon.

NODION 0 FALDWYN.

Advertising

MEIRION A'R GIjANNAU.

Family Notices

CYFARFODYDD MISOL.