Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

GOHEBIAETHAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GOHEBIAETHAU. (Nid vdym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am syniadau yr ysgrifenwyr). CYFARFOD MISOL TlREFALDWYN UCHAF. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Mr. Evans,—Byddaf ddiolchgar i chwi am hysbysu trwy gyfrwng y Cymro mai Hydref 13 a 14 yw dyddiad C.M. Seion, Trefaldwyn Uchaf. Glan Dwr, ROBT. DAVIES, Ysg., Trefeglwys, 24 Medi, 1915. CM. SIR GAEiRFYRDDIN. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,-Mae C.M. nesaf i'w gynnal yn Llanddarog, Hydref y ige,g. I ddechreu am 12 o'r gloch. An- fonir cerbydau i gyfarfod y tren i Cwm-mawr a ILlan- arthney. Dymunir ar y rhai sydd yn bwriadu bod yn bresennol anfon eu rilenwa u i Mr. Joshua Jones, Tor- coed, Porthyrhyd, Llanarthiney. THOMAS PHILLIPS, Ysg. y C.M. CYNHALIAETHI Y WEINIDOGAKTH YN Y DEHEUDIR. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Mewn atebiad i lythyr "Wrtyd," ;dv'munaf ddweyd y ceir gweinidogion o fewn 'cylch Eglwysi Seisnig Sir Forgannwg nad yw eu hoH enillion. am flwyddyn gyfan yn cyrraedd ZSo,. ,Enw,af yr Eglwysi Seisnig am y rheswm y tybjr yn jgyffredin eu bod hwy yn talu mwy am y Weinidog- aeth na'r Eglwysi Cymreig. Credaf fod amryw o'r cyfryw yng Nghyrddau Afisol rhannau amaethyddol y Deheudir. Wele fy atebion i ofyniadau 'Wrtyd i. Nid oes rheol unffurf ar hyn. Lie nad oes cyt- uncleb pendant i gadw cyflog y fugeiliaeth ar wahan, nodir swm ant' ftwyddyn. fo'n cynnwys tal am y fugeiliaeth ac am nifer o Suliau, pryd y disgwylir y gweinidog i bregethu gartref. Gall gymryd cyhoeddiadau lie y myn ar y Suliau eraill. 2. Nid yw £ 80 yn gyflog sylweddol i weinidog yn ardaloedd gweithfaol Morgannwg. A chymryd tri o'r brodyr hyn. ar antur, gwn am danynt eu bod yn weinidogion llafurus. Pregethant bob Sul o'r flwyddyn. Derbyniant gymaint fyth all eu heglwysi dalu iddynt, ac wrth gwrs, golyga hynny y rhan fwyaf o'u cyflog. Rhaid felly mai bach iawn ydyw'r tal dderbyniant am eu cyhoeddiadau mewn eglwysi eraill. 3. Nid ydyw y rhai y soniais i am danynt yn der- byn dim o unrhyw ffynhonell arall. Yr eiddoch yn bur, 26, Shirley Road, TnmrAS BOWEN, Caerdydd. CYNHALIAETH Y WEINIDOGAKTH. AT OLYGYDD Y CYMRO. i Syr,-Gofynna y Parch. J. Evans, Abermeurig, gwestiwn yn y "Cymro" d'iweddaf, "Beth sydd yn rhwystro ? Nodaf i chwi rai pethau:— (I) Dull ac ymddygiad offeiriadol y bugeiliaid, ynghyd a'r pwys mawr a roddir ar addysg glasr.rol fel unig gymhwyster i'r weinidogaeth, tra i fesur yn anwybyddu gwybodaethl gyffredinol a phrofiadol o Air Duw, a"r mawr bwysi o bregethu "Eiengyl Crist." (2) Y lie a'r sylw a roddir yn y Gymanfa i'r ychydig Oi'r essentials ymhlith y blaen.oria.id, a r 'wire-pullers' ymhlith y gweinidogion. Sylwer ar hanes unrhyw Gymanfa, a gwelir ar unwaith fod yr holl siarad yri gyfyngedig i'r ychydig bobl push- inig, fel pe na byddai yna neb y tuallan i r ychydig essentials wybodaeth, barn, na. doethineb. (3) Y mae yr un pIa, difaol i'w ganfod yn y Cyfar- fodydd Mi sol. Chwi welwch ryw hanner dwsin: ar eu tmed byth a hefyd, a'r rhai hynny heb fawr o gymhwyster heblaw yr hyn a eilw y Sais yn cheek,' ac y mae hynny yn peri i lawer o'r dynion goreu aros gartref, neu os digwyddant fod yn breseniiol, y maent wedi dysgu bod yn ddistaw. 4. Er yr honnir fod y Cyfundeb yn werinol o ran ei gyfansoddiad, yn ymarferol nid yw felly, a chyn condemnio eglwysi bychain na mawrion am anffyddlondeb, chwilier allan. ymha le y mae y bai, & mwy na thebyg y ceir fod llawer o flaenoriaid y C.M. yn hynod am eu habsenoldeb o'r moddion wythnosol, a bod y rh'ai a ofalant am yr achos yn ei weddau ysbrydol nemawr byth yn myned idd'o. Y mae dau ddosbarth o fl,aenoriaid. (s) Y syniad tra chyffredinol ymhlith y werin mai mater o I fusnes,' yw I pregethu yn bresennol, ac y mae y ffaith nas gellir ymddiriedl i addewid preg- ethwr yn myned ymhell i g,adamhau hyn. Heblaw h'ynny, y mae ymddygiad,au ein pregethwyr mawr a chyfoethog,' yn eglur ddangos nad yw 'aberth' yn e-i geiriadur hwy. Dyna i chwi rai o'r £ rhesymau a glywir yn dra chyff-edinol. hvdl yn oed y tuallan i'r Gymanfa a'r I Jyfarfodyddl Misol.. Yr eiddoch, Caerdydd. METHOMST O'R DE, C Y GYiMRAEG. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl ISyr,-Cydnabyddir yn gyffredinol fod yr Ida!eg yr daith fwyaf persain. (musical) yn Iwrob. Y mae perseiniaeth iaith yw dibynnu yn bennaf ar ei llafariaid. Pwysleisiodd Mrs. Watts Hughes flyn- yddau yn ol yn ei llyfr "The Vowel Method of Voice Production," y ffaith fod sein.iau y l.afariaid yr, un yn y Gymraeg a'r Idaleg. Os at hyn yr ychwaneg- ir y cyfoeth o 'dipthongsi' sydd yn y Gymraeg na- oheir yn yr Idaeg, teg ifyddai hawlio. rhagoriaeth i iaith y Cymro. Er cadarnhau hyn diarllenner yn fanwl a phwyllog emyn adnabyddus Glan Geir.ionydd,— o Dduiv rho im' dy hedd A .golwg ar dy wedd, A maddeun awr fy meiau mawr Cyn 'r elwy'i lawr i'r bedd Onjd: im' gael hyn, nid ofna'i 'r gjyn N,acholyn angeu'n hwy, Dof yn Dy law i'r ochr draw Heb friw na braw ryw ddydd a ddav Uwchlaw pob loes a chlwy. A sylwe-r ar beautiful curves y deuseiniaid- Ymha iaith y üeir y fath gyflawnder? ac eto ni chynwysa y pennill yr oil geir yn yr iaith. Y mae ein cenedl. yn cael ei hystyried yn gerddor- ol, ond tybed nad i berseiniaeth ein hiaith yr ydym yn ddyledus am hyn, ac nid i unrhyw archwaeth neu gariad tuag at gerddoriaeth bur? Pan glywo diethriaid dorf o Gymry yn canu ynghyd y maent yn synnu at gyfoeth y donyddiaeth soniarus, ac yn dyfod i'r pendeifyniad ar unwaith ein bod yn gen- edl hynod gerddorol. Pe baent yn manylu a chwil- io i mewn i natur yr hyn fyddwn yn hoff a ganu, feallai y caent eu s,iomi yn ein chwaeth. Er ein bod yn barod iawn i fabwysadu y cymeriad o fod yn gerddorol. y mae lle i ofni nad ydym yn talu y sylw dyladwy i dlysni a cheinder ein hiaith. Pe bai ein pobC ieuainc ond sylweddoli fod yr iaith Gymraeg yn s-efyll mor uchel ar gyfrif peroriaeth ei seiniau, byddai llai o awydd arnynt am newid eu rhieni. Ychydig amser yn ol gwnaed'ymgais at gywiro tipyn ar orgraff yr iaith, ond erbyn neddyw y mae yr ymgais clodfawr hyn wedi. troi yn ysfa ddistrywiol ymhlith rhyw ddosbarth o ysgrifenwyr. Y maent fel y dihirod hynny sydd yn naddu ac yn crafu eu henwau ar goed a cherryg ymhob man pob un am adael ei fare ar yr hen iaith. Rhai am ddilyn lied- iaith eu hardal; eraill am ddilyn rhyw reol,au tyb- iedig rhai am atgyfodi hen eir Iau, neu ffurfiau ar eiriau cynoesol; eraill am gymreigyddio rhagor o eiriau Seisnig at y gormodedd ,sydd gennym yn bar- od. Nid wyf yn ameu dysg a gwybodaeth y bob! dda hyn ond pe bu,as-ent yn ieddiannol ar glllstiau cerddgar, prin y buasent am i ni fabwysiadu atco yn Ke adgof, hyoUedd yn lle hyawdledd, a geiriau Seisnig fel sli (sly), yn dreiwmff (triumph), &c. Pan yn angenrheidio'l er eglurder defnyddier faint a fyner o. eiriau Seisnig, ond rhodder hwynt mewn italics yn eu ffurf briodol, a nheidier a beichio y Gymraeg a'u hyl'dra. Byddai yn fantais hefyd pe bae'r ysgrifenwyr sydd am ddefnyddio "cym'ryd" a 'sgrifenu" yn rhoddi'r sillgoll i mewn. Nid yw fawr. bwys gan y Ihaws. pa ffurf sydd hanesyddo], ramadegol neu orgraffyddol gywir, iddynt hwy y mae "cymeryd" ac "psgrifenu" wedi cael oes ddefnydd- iol. ddigon maith i allu hawlio eu lie. Y mae am- ddifadu yr iáitho iaiariaid yn cwtogi ei swyn. Pan .fydd y gair ''sgrifenu" yn diilyn un fo'n diweddu gyda chydseiniad megis "wrth sgrifenu," ceir pump cydsain yn olynol heb yr un llafariad. Mewn He fel hyn mor wasanaethgar ydyw'r hen "y" ddirmygedig. Nid oes amh/euaeth nad diymunol fyddai cysoni ychydig ar yr orgraff, a gwneud rhyw fan weKiant- ,au emill, ond os na e:,].ir gwneud hynny heb agor y drws i bob math o hagrwch gwell fyddai gwneud y tro hyd yn oed heb y gwelliantau. Onid oes gormod o gymhwyso'r orgraff at lafar gwl,ad-I Ai nid gwell fyddai ymdrechu cael y llafar. edig yn nes at yr argraffedig'.a'r llenyddol? Byddai yr olaf yn cyrchu at nod arbennig, tra y mae y cyntaf yn tueddu tuag at ddileu pob safon. Rhyw ddiofalwch es,geulus,-miath o slovenliness-sydd yn rhoddi bod i. lawer tafodi,aith,. a goreu po leiaf o ,g geinogaeth roddir i,'r cyfiyw. Pe ceid gan yr athrawon a'r plant i dalu sylw i seiniau yr iaith, a chraffu ar eu prydferthwch, cawsai eu lleisiau ddat- blygiad. naturiol a diiwylLiedig ibyddai. chw.aeth at y tiwis. a'r cain yn cael ei fethrin; a mwy na'r cyfan deuai'r plant i feddwl llawer mwy o iaith eu mam. Ynglyn a hyn, nid anfuddiol cyfeirio at ddau sylw wnaed gan lywydd y British Association y dydd o'r blaen Y cyntaf Human intelligence is affected by sentiment as much as by reasoning," a'r Hall "How- ever beautiful an idea might be, it loses its effect by being placed before us in an unattractive form." Ar bob cyfrif dylid gofalu fod y darnau Cymraeg roddir o flaen plant yr ysgolion yn syml, yn bur, yn ddilediaith a th:ws. Yr eiddosh, Aberystwyth. JACK EDWARDS. GO R F F EN N AF AC AWST YN NORTH- AMPTON." AT OLYGYDD Y OYMRO. Annwyl Mr. Evans,—Ar gais nifer o gyfeillion yr ydwyf yn anfon ychydig o'm hanes am y ddau fis uchod. Goebithiaf y cyrhaedda y Uythyr hwn ddau amcan. I. Dwyn argyhoeddiad dyfnach i'r eg.wysi fod y milwyr Cymreig yn mawr werthfawrogi yr ym- drech wneir gan ein Cyfundeb. ar eu rhan, ac yn ail carwn weled yr eglwysi yn gyffredinol yn cyfrannu yn sylweddol tuag at y .gronfa, er mwyn cario y gwaith da ymlaen. Otolegid nis gallwn fforddio ,ada,el i'r gwaith hwn ddioddef, gwaith ag sydd, ni gredwn, yn rhyngu bodd y Meistr. Er mwyn trefn ar y sylwadau a g,anryn, rhanwn hwynt yn dri dosbarth, dan dri o bennau. I. Y Bregeth. 2. Yr Ysgol Sul. 3'. Yr ymweliad personol. I. Y Bregeth. Wrth gychwyn i Northampton pryn- ervvn lawer gyda golwg ar beth i bregethu. Ac wedi dychwelyd yn ol dyna'r cwestiwn ofynwyd i ni gan amryw gyfeillion. Y pregethau a gyfansodd- wyd gennym yu ystod y .misoedd diweddaf oedd y rhai a draddodwyd i'r milwyr. Gal went am yr Hen Efengyl, yr hon sydd yn, parhau bythi yn new- ydd ac yn rhoddi nerth i gyfarfod a'r anigylclnad au newydd sydd wedi codi yn ein gwlad. Yr un Efengyl ag a bregethwyd i'r teulu gartref, oedd yr un gymwys i'r bechgyn oddicartref. Goddefer i ni ddweyd ein profiad pan yn sefyll am y waith gyntaf o flaen cynulleidfa yn rhifo tuag wyth gant o fiJ- wyr. I ni oedf.a fythgofiadwy oedd honno. Erys y S,aboth yn gysegredig bytihi. Enillwyd profiad y dydd hwnnw, hyderwn, fydd yn eiddo i ni ac o werth i ni hyd ddiwedd ein hoes. iRhaid oedd cael cen- adwri. IRhaid argyhoeddi y bechgyn fod Duw yn si.arad mewn modd neilltuol a hwy. Nid oedd amser i fanylu llawer a mynd ar ol y cysylltiadau. Y cwestiwn i ni heddyw oedd. hwn—Beth yw y gwir- ionedd mawr, amlwg, a disgynwn ar hwnnw. Griist, nefoedd, a thragwyddoldeb. dyma'r pethau oedd yn hawlio ein sylw. Teiml.wyd eu grym, mawr oedd eu dylanwad ar ein hysbryd gorehfygwyd ni yn llwyr. Parod oeddym i ddweyd gyda'r apostol, "I mi y llai na'r lleiaf o'r holl saint." Ond gweddi daer anfonwyd i'r nef. A diolch Iddo daeth ateb 'by return.' Derbyniodd y pregethwr y fendith. Traddodwyd y genadwri, a mawr ydyw ein hyder fod yr efengyl wedi cael croesaw gan y cannoedd milwyr oedd, yn gwrando. Dyna'r canu eto. Haedda hwn sylw. O'r fath ganu! Y bechgyn oedd yn 'marchio' a gyfeiriad y 'trenches,' ac yn ymbaratoi i wynebu y tan, yn canu, ie, yn canu a'T ysbryd. IZhaid oedd rhoddi 'vent' i'n teimladau nilsl gallwn. gadw'r dagrau yn ol. Credwn am y bechgyn wrth eu clywed yn canu ■ yr hen Emynau cysegredig eu bod wedi gwel'd gogon- iant y Gwr fu farw drostynt, ac oblegid hynny can- ent ei glodydd. Diolch Ibyth iddo. 2. Yr Ysgol Sul. Yn y King's Palace, Abington Road, lie yng ngblanol 'area' y milwyr Cymreig y eynhalicm yr Ysgol: a mawr oedd ein llawenydd wrth weled y bechgyn yn dyfod—a hynny cofier trwy lawer iawn 0 anhawsterau i dalu teyrnged o barch i'r hen sefydhad. Dyma bl.ant yr Ysgol, wedi eu magu ar fronau yr Ysgo:, ac yn teimlo yn annwyl tuag ati, ac yn glynu yn dyn wrthi. Meddai un ohonynt wrthym, 'Dyw y Saboth ddim yn Saboth i mi os. heb yr Ysgol Sul." Treuliwyd ambell awr ddifyr ac adeiladol yn y gwahanol. ddosbarthiadau. Cawsom y fr,aint am ran o'r amser o arwain !mewn dosbarth Saesneg. Bechgyn o'r de gyfansoddent y doslbarth hwn, a gair da iddynt gan bawb a'u had- waenent, a daeth hefyd lythyrau canmoliaeth iddynt oddiwrth eu gweinidog. Cofiwn yn dda am un Ysgol pryd yr oeddem yn trin y cwestiwn o Ffydd yn ol awdur yr En. at yr Hebreaid. "Ffydd fel gaLu i ,sylweddoli yr ysbrydol a'r tragwyddol." Yn ystod yr ymddiddan cyfeiriwyd at ü' "cwmwl tystion." Deiliaid y Deyrnas ysbrydol: y rhai oedd yn sefyll ar yr oriel yn gwylio y rhedegwyr yn yr yrfa grefydd- ol. Ac meddai un bachgen wrthym, "I have buried my father and mother, but I have not lost them, I feel that they are still near me, taking a great in- terest in my life. Sometimes when I am tempted to do wrong, the-thought ,comes to me that mother is watching me, then I am encouraged to do right. Atebiad rhagorol. Ond pwysleisdwyd y gwirionedd mai trwy edrych ar lesu, Pentywysog a Pherffeithydd ein ffydd y mae cael nerth i redeg yr yrfa yn llwydd. iannus. Cawsom gyfleusterau fel hyn yn yr Ysgol i ddwyn v bechgyn wynelh yn wyneb a gwirioneddau mawr yr efengyl a'u 'clensio.' 'Rhoddwyd sylw i'r cwestiwn o ymweliad yr angylio-n ym Mons. Nid oedd lie i amheu y peth. Bu rhai o'r bechgyn yn siarad. a swyddogion y fyddin fu ym Mons, a dyna oedd eu tystiolaeth ihwlY, fod ymweliad yr angylion yn ffaith anwadadwy. Yr ydym ninnau o nifer y bob!, syml, sydd yn credu yn yr oes oleudig hon, fod "pob peth yn bosdbl i Dduw." 3. Yr Ymweliad. Gwaith yr wythnos. Cwestiwn arall ofynwyd i mi gan amryw oedd a ganlyn-Pa beth oeddech yn ei wneud yn ystod yr wythnos? Gwaith mwyaf yr wythnos oedd, cerdded, cerdded am filltiroedd, myned ar ol y bechgyn. Cychwynwn allan lawer boreu gydag amryw --feiriadau, a rhaid oedd myned ar ran y teuluoedd i chwilio am y bechgyn. Weithiau cerddwn am ran fawr o'r diwrn- od i geisio un, pryd arall rhaid oedd dal ati yr ail ddydd am fod y milwyr Cymreig wedi eu gwasgaru dros y dref fawr. Ffordd aml] pur effeithiol i fug- eilio y praidd oedd mynychu y Park Abington Rd. Yma pan yn braf yr oedd prif gyrchfan y milwyr, ac yma cawsom gyfle ardderchog i ymddiddan a hwy. Unwaith a dwywath vr wythnos ymwelsom a'r cleifion yn y 'Red Crossi Hospital, a mawr oedd llawenydd y Cymry o we.ed gweinidog o'r hen wlad a bron yn ddieithrdad, y gair olaf glywem wrth ym- adael oedd hwn, "Brysiwch yma eto." Buom droion ar ymweliad a'r milwyr Cymreig yn Bedford a Rushden. Bechgyn o Fon, Arfon a Meir- ionydd. I ni braint fawr oedd cael gwel'd b,erhgyn glannau Meirion diwrnod neu ddau cyn cychwyn allan am y Dardanelles, a dymuo Duw yn rhwydd iddynt ar ran eglwysi Oymru, ac ar ran eu teulu- oedd. Ysgydwasom law a llawer iawn ohonynt, a hatch oeddwn ohonynt. Bechgyn ardderchog oedd- ynt yn wyneb yr anhawsterau, gyda sirioldeb mawr. Siaradent pivdag lamlygrwydd o serch! am y rhai an- nwyl gartref, a gofidient eu bod yn analluog i dalu ymwehad a'r hen aelwydydd. cyn cychwyn i ffwrdd. Edmygwn eu teimlad yn fawr. Aeth y bechgyn yn ddyfnach i'n serch. Clod iddynt am eu gwaith yn ymgymeryd a'n brwydrau ni, Talwyd ymweliad a'r carchar. Gofidiwn weled cymaint yno trwy y ddiod feddwol. Dywedodd y chief wrthym pan yn ymadael, "Sir, nine cases out of every ten that are here, are here through drink. Ni does angen ymhelaethu ar hyn. Traddodasom ddwy bregeth Seisnig mewn Mission Hall yng nghanol y Slums. Gwelir felly fod cylch cenhadaeth y Cyfundeb yn dra eang. Haedda y Cyfundeb ein diolch goreu am wneud darpariaeth ysbrydol ar gyfer y milwyr Cymreig yn ddiwahan- iaeth. Brodyr o bob enwad yno yn gytun heb neb yn tynnu'n groes.. Carwn wneud un awgrymi.ad trwy y llythyr hwn, set ein bod fel eglwysi Cymru yn anfon ein diolch goreu i deuluoedd Northampton am eu croesaw car- edig i'n milwyr a'u gofal ohonynt tra yn cartrefu yn eu plith. Hefyd ein bod yn dangos ein gwertlj- I