Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
PENEGOES, MACHYNLLETH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENEGOES, MACHYNLLETH. Anrhegu.—Diwrnod dyddorol yn hanes, eglwys y M.C. yma oedd yr 16eg o'r mis hwn. Gwahoddwyd aelodau yr eglwys, i dreulio'r prynhawn yn Bryn- ffynon, lle'r oedd gwledd yn baiod ar mi cyfer. Wedi i bob un wneud ei ran gyda hynny, caed eyE arfod arbennig yn ffrynt y ty. Amcan hwn oedd er cyflwyno anrheg i Mr. Edwards, ar achlysur ei bnodas a .Miss Williams, o Lanbrynmair. Arwein- iwyd gau Mr. Madryn Jones, v gweinidog. Caed anerchiadau doniol a difyr gan Mr. Pugh (cyd-fiaen- or a Mr. Edwards) Mri. J. H. Roberts, R. Evans, Post Office, David Griffith, Bryntudur, y Parch. W. Roberts, Rhydyfelin Mrs. Pugh, M.aesllwyni a phenillion i'r amgylchiad gan Mr. Evan J. Jones. 'Silver F,ruit-IStand' oedd yr anrheg, a galwyd ar Mrs. Margaret Richards, fel yr aelod hynaf yn yr eglwys, i'w gyflwyno. Gwnaeth hithau hynny mewn anerch- lAd neilltuol o gryno a dyddorol. Yna diolchwyd gan !Mr. Edwards ar ei ran ef a'i briod, mewn geir- iau cynnes a phwipasol. Nid oes baH ar ei lfydd- londeb a'i 'lafur gyda'r Achos mawr. Nod pennaf ei fywyd yw-gwneud daioni. Boed i endith yr Arglwydd mewn rhagluniacth a gras gyf icihogfr ddau er mwyn cyrraedd yr amcan hwnnw.
YSBYTY YSTWYTH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YSBYTY YSTWYTH. Dydd Gwener, Medi iofed, dygwyd i'r Ysbyty weddillion dau oedd wedi ymadael a'r ardal er ys blynyddau, i'w daearu ym mynwent bro eu maboed sef y Parch. Isaac Morgan, ficer Eglwyswrw, Pen- fro, a 'Mrs. Elizabeth Williams, Rhydyronen, Tre- garon. Dygwyd corff y blaenaf o Landrindod,—lie y buasai yn aros er ys. ychydig wythnosau,-gyda'r tren i Strata Florida, ac oddiyno mewn elorgerbyd i fynwent eglwys Ysbyty. Byr fu ei gystudd, a chiwith gan yr ardal oedd clywed am ei ymadawiad sydiyn. Yr oedd yn drigain namyn un, ac yn wr dir briod. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. Daniel Mor- gan, Gwarlevel, un o hen fiaenoriaid Methodistiaid yn Ysbyty, a phen saer gwaith mwn Lefel Fawr. Derbyniodd ei addysg elfenol yn hen ysgol Lefel Fawr dan yr hen ysgolfeistr Mr. Ellis Roberts, yr hwn wedi hyn fu'n cadw slop lyfrau yn Ffestiniog, gwr oedd yn cadw disgyblaeth lem ond yn athro llwyddiannu, a throdd allan ysgolheigion gwych Wedi bod yma, aethi i ysgol Edward Richard, Ys- tradmeurig—seren fore addysg uwchraddol Ceredig- lon-a phwy all fesur dyled Cymru i'r ysgol hon. Ar ol gorffen ei gwrs yma, aeth i goleg Durham, o'r lIe yr urddwyd ef yn ddiacon. yn y flwyddyn 1884. Ar ol gorffen yn Durham cafodd gur,adiaeth Llan- goedmor, Aberteifi. Arosodd yma hyd y flwyddyn 1900, priyd y penodwyd ef i fywioliaeth Eglwyswrw, gan Arglwydd Halsbury. Yr oedd yn bleidiwr selog i ddirwest, ac yn hynafiaethydd gwych, a rhoddodd lawer o gynortbwy i'r Pwiyllgor Brenhinol yr Hen Gofadeilau Cymru a Mynwy. Bu ar ymweliad a'i ardal enedigol yr haf, blwyddyn i'r diweddaf, a dangosai ddyddordob neilltuol yn hen fangre ieuenctid. Pan yn sef y 11 ar Ben Shetin, ac yn edrych ar y dyffryn arddunol islaw, dywedai m-ai ar hyd ddyffryn yr Ystwyth o Afan, y daeth yr efengyl i'r Ysbytty, ac nid o ddyffryn y Teifi. Gofynodd am gennad i fynd fewn i Gwar- -evel yr hen dv lIe !y ganwyd ac y treuLiodd ei ieu- enctid rhwydd oedd gweled ei fod yn teimlo'n fawr Wrth gofio am yr hen amser gynt ac am y rhai a'i rhagflaenasant ef. Bu ar ei liniau hefyd yn yfed dwr ? hen bistyll y Felin a phan gymellai gwraig lestr lddo i yfed, gwrthodai gan qdweyd ei fod am yfed fel y gwnai pan yn blentyn. Miynych y coffai am ,dano ei hun ac erail.l pan yn vr Ysgol Sul yn ben gap- el Ysbytty, yn nosbarth y diweddar Joseph Morgan, Tymawr, ac nid oedd ball byth ar ei glod a'i barch 1 w hen athro. Soniai am y brwdfrydedd a'r sel ynglyn a'r ysgol. Adroddai yn fynych am dano ryw fore Sul yn gosod ei law ar glun un o'i gyfeillion yn yr Ysgol, ac oj ei bum bys i'w weld yn y neith- er ar ei dr-owsis rib. "Bachgen," meddai, "mae drowsis din liyb sopen." 'Dyw e' ddim gwa-j haniaeth bachgen," medde'r llanc, ma leinis tu fewn iddo." Yr oedd ei fam wedi bod yn golchi y trowsis dydd Sadwrn, a ihaid oedd i'r llanc ei wisgo yn wlyb neu golli'r ysgol. ■ Gallasai Dewi Berws (y Parch. David Oliver, Mile I'-nd, Llundain) a'r Is Brif Gwnstabl Morgan, y J-'ala, ysgrifennu pennod ddyddorol am yr hen ddos- baithi hwn, ac am Ysgol Sul Ysbyty. Teithiodd yr ymadawedig lawer. Bu am deithi,au yn Llydaw, yr ^dal, yr Aifft, a gwlad Canaan. Dygodd gydag ef 'adref ddwr o'r lorddonen, a bu yn ei ddefnyddio ^roion mewn bedyddiadau. Cadwai hefyd yn barchus bar o esgidiau, yn y rhai yr esgynodd Fyn- ydd Calfaria. Gedy ar ei ol ddau frawd a chwaer, -NLIR. Daniel Morgan, Matlock, y Parch. Joseph Morgan, ficer Aberaman, a Mrs. Owen, Waltham- stow, iLlundain. Daeth lliaws o'i hen blwyfolion yn L,I,an,goedmor ac Eglwyswrw i fyny i'r angladd, ac arnlygent barch mawr iddo. Cludwyd gweddillion Mrs. Williams, Rhydyr-on- mewn elor-gerbyd o Tregaron i'r Ysbyty. Bu farw Medi 6ed, yn saith mlwiydd a ttoriugain. ac w,edi bod yn wael er ys dros ddwy flynedd. Priod ydoedd i Mr. John Williams, masnachydd. ac AiUrtioneer gynt. Yr oedd yn meddu ar bersonol- laeth gref, ac yn ddiddan mewn cwmni, ac yn barch- Us yn ei hardal. Derbyniodd hithau ei haddysg dan Mr. Ellis iRoberts, a gwnaeth. ddefnydd da ohono. Hanai o un o deuluoedd mwyaf adnabyddus Y cylch, a theulu sydd iyn lied, adnabyddus. rai o honynt trwy Gymru. Ei rhieni oeddynt Thomas a Mary Morpan, Y Geufron. Yr oedd ei thad yn un ben fiaenoriaid Methodistiaid Ysbyty, a'i mam yn erch i Joseph Edwards, Hendrefelen, yr hwn oedd o ddychweledgion Daniel Rowlands Llangeitho. ef ar daith trwy ogledd Cymru fel "Cynghorwr" gyd,a'r enwog Ebenezer Morris. Brodyr ei mam oedd Edward Edwards, 'Hendrefelen, un o fiaenor- iaid galluocaf y Cyfundeb iyn ei ddydd,—am yr hwn y crybwylla Mr. Daniel Davies, y Ton, yn ei ysgrif- au yn y 'Cymru,a'r Parch. William Edwards, ficer Llangollen, a tad Deon Edwards, Bangor, ac Esgob Edwards, Llanelwy, Brodyr iddi oedd y di- weddar Joseph, Morgan, Tymawr,, awdur pennod gyntaf "Cofiant Dafydd Morgan y Diwygiwr," a ficer presennol Ystrad Ffin. Bu chwaer iddi farw er ys. blwyddyn yn ol, set. Mris. Jane Bonner, yr hon oedd o alluoedd uwch- law'r cyffredin, fel y gwyr Methodistiaid Pontmor- lais, a Threharris. Yn y llyfr "Atgofion Henaf- gwr," gan y diweddar Canon Evans, Llanelwy ceir pennod ddyddorol am y teulu hwn, dan y teitl "Teulu Hynod." Sonia am nifer fawr o ddisgyn- yddion Joseph Edwards, Hendrefelen, sydd wedi ac yn gwasanaethu yr eglwys yng Nghymru, ond ni sonia am ddyled M,ethodisti,aeth. i Joseph 'Edwards a'i ddisgynyddion, nac am ddyled yr eglwys. i Fetb- odistiaeth. Gelid ysgrifennu llawer am Joseph Ed- wards, ac am ei gysylltiadau ef a'i ddisgynyddion ynglyn a'r achos Methodistaidd yn yr ysbyty, a'r un modd am Thomas Morgan. Gwasanaethwyd yn yr ang:add gan y Parchn. W. Williams, ficer Lled- rod. Madoc Jones, Tregaron, George Jones, B.A., a J. M. Williams, M.A., Ys,ti-adineuri' Gedy ar'ei hoi briod, a thair, merch, ac un mab, sef y Parch. T. Williams, curad Rhos, :on-S-ea. 'Daeth lliaws mawr ynghyd i'r angladd o Tregaron ac ardal Ys- byty.
MEIRION A'R GLANNAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MEIRION A'R GLANNAU. Llestri Cymundeb.—Er ys ychydig yn ol symud- odd eglwys Betp.: (M.C.), Dolgellau, i gymryd llestri cymundeb unigol, er mwyn cyfarfod a chais y lliaws.. Y cwestiwn nesaf oedd, beth a wneld a'r ben lesiri a roddwyd i'r eglwys gan y diwddar J. Meyrick Jones, Ysw., yn y tlwyddyn 1877. Pasiwyd eu rhoddi i'w cadw mewn glass case yn yr ysgoldy, ac yn ffodus iaw.n fe roddodd Mr. D. R. Mills, un o flaen- oriaid yr eglwys y 'case' yn anrheg. Cymerwyd gofal o'r llestri hyn gan y diweddar Mrs. Edwards, PCasyndre, ac ar ei hol hi g,an Mr. a Mrs. E. J. Edwards, mab a merch yng nghyfraith Mrs. Ed- wards, ac yn awr y maent wedi eu tfosglwyddo i'r eglwys, ac yn cael eu cadw yn y 'case.' Y mae yn argraffedig ar y 'case' gan bwy y rhoddwyd hwy, a diolchwyd i Mr. D. R. Mills yn yr eglwys nos Sul diweddaf, ac i deulu Pl,asyndref am ofalu am danynt am yn agos i ddeugain mlynedd. iiydd y llestri yn awr yn goffadwriaeth am v diweddar foneddwr caredig. Parhau imewn sefyllfa arannol lwyddiannus iawn y mae l'sgol Sir Towyn,—y gweddill mewn llaw ar ddechreu'r tymor hwn, yn _f81 Bob yn dipyn y mae eglwysi Blaenau. Ffestiniog yn decbaeu dod i weled mai priodol fyddai cynilo ychydig ar yr adeg presennol. Buasai llawer yn meddwl mai doeth fuasai cau eu hanner, a mynedii at eu gilydd i addoll. Ond da yw gweled fod rhai wedi symud ychydig i ddechreu y moddon yn gynt, sef 5 o'r gloch nos Sul. Bydd hyn yn ychydig o arbediad, ond dywedir y gellid gwneud llawer mwy na hyn trwy beidio goleuo y Gallery, achael y rhai sydd-yn eistedd; yno i l.awr. Hefyd, i beidio cynnal cyfarfodydd canol yr wythnos oddigerth unwaithi, sef cyfarfod gweddi a seiat bob yn ail. Ac os bydd eis- ieu cynnal unrhyw gyfarfod, arall paham na wnaiff nawn Sadwrn y tro. Os ydyw eglwysi mawr tu- allan i'r ardal yn cynilo yr adeg bresennol, tybed na ddylai eglwysi tlodion yr ardal wneud hynny ar un- waith, a hynny mewn amryw gyfeiriadau. Oni ddylid galw y brodyr ynghyd vmhob eglwys fel ag i wneuthur hyn at y gaeaf dyfodol. Da gennym weled fod Pwylleor Eisteddfod Meir- ion wedi penderfynu cael cyngerdd nos Calan. Er nad oedd y ddigon hyderlis, i gaej Eisteddfod, caed. mwyafrif dros gael cyngerdd. Casglwyd £76 10s. yn Nolgellau at Gymdeifhas y 'Russian Red Cross yr wythnos ddiweddaf. Gwas- anaethodd Mr. Edward Williams, o Ysgol y Cyngor, fel Ysgrifennydd y mudiad, a thaflodd ei holl yni i'r gwaith. Cafwyd nifer dda o foneddigesau ieuainc i gasglu. a gwerthu y fflagiau, a chaed y swm a nodwyd yn elw clir yn y diwedd. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion Dosbarth Dolgell- au yn Arthosr y Saboth cyn y diweddaf. Y prif waith yng nghyfarfod y cynrychiolwyr oedd dewis swyddogion ac ail ddewiswvd yr oil,—Mr. Lewis James, Llanelltyd, yn llywydd; Mr. John Thomas, Dolgellau, yn drysorydd, a Mr. R. C. Evans yn ysg- rifennydd, a'r Parchi D. O. Ellis, Hermon, yn hol'- wr. Cafwyd cyfarfod ysgol rhagorol, a chynrych- iolaeth gyflawm. Yn eglwys Bethel (W.), Trawsfynydd, nos Saboth diweddaf, chwareuwyd y Dead March far yr organ er coffhad am ei hen weinidog y diweddar Barch'. W. Lloyd Davies, Cae'rgybi. Pasiwyd hefyd bleid- lais o gydymdeimlad ar teulu galarus yn eu -p,rofc edigaeth. Dengys cyfrifon dau fisol Dosbarth Deheuol Ffest- iniog, pa rai ddarllenwyd ym Moriah, Trawsfynydd y Saboth diweddaf fod yna leihado 49 yn rhif aelodau yr YsgolSabothol nac oedd y ddau fig cvf atebo,i, y flwyddyn ddiweddaf. Y rhyfel a'r dir- wasgiad yn y fasnach lechi sydd yn cyfrif am hyn. Anfonwyd yr englynion isod gan Eifion Wyn i iMrs. 'Richard Jones, Cae'rffynnon, Trawsfynydd, fel edmygedd o'i barch i'w thad Mr. Owen Davies o. Dremadog. Bu farw yn hynod o sydyn yn Surgery Dr. Pierce Jones, Porthmadog, boreu Mercher, Medi'r 8fed. life oedd prif gerfiwr ar gerrig bedd- au, &c., yn iard ffirm fasnachol y Meistri Richard Williams, & Co., Porthmadog. Ystyrrid ef fel "cywrain gerfiedydd cerrig." Efe gerfiodd mor brydferth ar gofgolofnau loan (Madog, Glaslyn. &c. Mae llun delyn ar feddfaen Glaslyn yn waith Haw y gwir gerfiedydd a thyn sylw ac edmygedd pawb. Yr oedd yn eyfaill mawr ag Eifion Wyn. Yr oedd yn hoff iawn o hysgota ac yn ddaliwr llwyddiannus. < Yr oedd yn gymeriad tawel a dirodres, unplyg, .gonest a diwyd iawn, ac yr oedd yn fawr ei barch gan ei feistri; Symudwyd ef yn sydyn yn 60 mlwydd oed. Gedy blant i alaru ar ei ol, a dwfn gydymdeimlir a hwynt. 0 BARCH I'M HEN FFRYND OWEN DAVIES, brodor o Dremadog (Gwr syml, diwyd, cydwybodol ydoedd. Carai bysgota yn angerddol. Ceir llawer o'i waith yn y fynwent wrth odre'r Foel. Yno, o dan garreg o'i luniad ei hun, y cwsg ei olaf gwsg. Claddasai briod ei ieuenctid un mlyn,edd ar hugain yn ol. Bu farw'n ddisymwth iawn). Wedi.'r cur air cysui-o,-is, y maen R'hoisom ef i huno 0 dan fawrhad ei hen fro, Fwyn gyfaill fyn ei gofio. Hoffai ryddid y ffriddoedd,a suon Croesawus. aberoedd Da'i rodiad a'i air ydoedd, A dyn o .serch llednais oedd. II Mae erw drist meirw draw,—ac o'i mewn, 'Mysg meini'r ymadaw, Ceir tystion cariad distaw Ei, oes., a thlws waith ei law. Hedd i'w lwch yn y gwyrdd lawr—mwy ni wyr Am un ing; mewn unawr Y darfu pob ofn dir fawr Huned ei hun hyd y wawr. Medi, 19I5. EIFION WYN.
GWELLHEWCIH ETCH HUNAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWELLHEWCIH ETCH HUNAIN. Y mae ymborth da, wedi ei dreulio yn dda, mor hanfodol i'ch nerthi corfforol a meddyliol ag ydyw ffrwydrbeLenau a miagnelau er llwyddiant ein byddin ar faes y gwaed. Y mae gelynion eich corff yn. lleng- oedd, ac fe wna. y rhai'n ddifrodofnadwy, os na ellwch chwi, mewn adegau pan fyddo eichgallu i'w gwrthsefyll yn cael ei drethu i'r eithaf, ddibynu ar adnoddau digonol o nerth bywydol wedi ei gynvsg- aeddu drwy dreulio yn drwyadl yr ymborth fwyteir gennych. Diffyg Treuliad, a gweithlrediad ,anfodd. haol yr afu a'r ymysgaroedd-dyna yr hyn bar drwbl i chwi, ac y maent yn galw am driniaeth ofalus' a phriodoli. Ymataliwch rhag eu gorfodi i wneud eu gorchwylion gyda mesurau eithafol, megis 'pick-me-up,'achyff.eiriau tost at ryddhau'r coludd- ion, oblegid fe wna hynny fwy o ddrwg nag o ddai- oni. Yn hiytrach, cynorthwywch hwy o'u gwirfodd, megis i weithgarwch iach, ewyllysgar, ac effeithiol, drwy roddi iddynt gynorthwy meddyglyn. da, megis Mother SeigeFs Syrup.' Yna, sylwchi fel y bydd eich noerth a'ch yni yn cynyddu, tfel y byddo o'r di- wedd yn -Tlfartalll i unrhyw alw,ad a wneir arno.
"CAFOD 0 FLODAU."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pris 6ch. Trwy'r Post 7c. "CAFOD 0 FLODAU." Can y PARCH. T. GWiERNOGLE EVANS, Llanstephan, S. Wales. Byw lendid ac ysbland,er-oddifry, Lonydda fron Dwysder; Tonnau o arog: tyner Gyfyd byth o'r 'Giafod' ber. —AP HEFIN. Hyfryd yw aros gyda'r Blodau hyn.—Parch. Silyn Evans. Odiau bedd ysbrydol ynt, A diwenwvn serch danynt.—Cynfelyn. Blodau uwch beddau y byd—ond nid llai swynol am hynny-'S.W.D; News." Llvfryn hynod ddel, yn cynwys nifer_o bryddestau, neu ddarnau hiraeth ar ol enwogion ein gwlad, gyda darluniau obionynt.-I Celt Llundain. Mae llawer o linellau naturi.ol a meddylgar yn y cerddi coffa hyn. Gallu i grynhoi llawer i gwpled byr, ac y mae'r cof yn bachu ynddynt, ac yn eu trysori, fel y car dyn eu hadrodd iddo'i hun, ar ol dodi'r llyfr üi'i law.—Gwylfayn y Tyst.' Mae'r blodau yn brydferth odiaeth, a pheraroglant yn hyfryd.—' Cymro.' Dygodd dynerwch i'm calon, a deigr hiraeth i'm llygad ar ol y brodyr annwyl y cenwch mor rhag- orol ar eu hoi. Gwnewch wasanaeth mawr, yn ar- bennig i'r. to ieuanc sydd yn coda. Codaf fy ngoJ- ygon tua'r nef, a disgwyliaf yn aiddgar am "gafod" arall, wedi ei hanfon gan yr un awdur.—Moses Evans, Blaengarw. Wrth adolygu'r cread, gweld y goleuni wnaeth Duw! Felly finnau wrth adolygu'r llyfryn hwn. ¡Mae bywgraffiadau mewn darn,au o farddoniaeth, fel yma, vn Ilaw-er mwy effeithiol i.'r amcan, na chyf. rolau rhyddieiithiol, y rhai na ddarllenir gan ieuenc- tid yr oes. Darllenant v darnau hyn, a phrofant yn ysbrydiaeth iddynt. Dyl.asai'r llyfr gael derbyniad i bob teulu Methodistaidd, yn arbennig, trwy Gym- ru! Chwecheiniog ofynnir am dano-y mae yn werth t6.-Dr. Cynddylan vn Sassiwn Tregaron. Mae rhai eglwysi yn anfon am ni,fer i'w rhoi yn wobrwyon i'r plant. Rhoddir telerau arben i'r cyfryw. Mae Dr. Lewis Edwards, Parchn. John Bowen, Evan Phillips, James Morris, John Thomas, Watcyn Wyn, iMissi MajirEluned George, ac eraill yn "Y Gafod Plodau."