Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Y DIWEDDAtR MR. OWEN EVANS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DIWEDDAtR MR. OWEN EVANS, PARIS HOUSE, CONWY. Yn ddiau, ni ddigwyddodd yr un amgylchiad er ys amser maith, a daflodd ein tref i'r fath fraw i sym- udiad disymwth y gwr annwyl ucbtod. Aeth o'i. gar; tref yn gynnar prynhawn' L:un, Medi 13', i "dynnu llun" palasdy gerllaw'r dref. Gan ei rfod yn hir yn dychwel aeth rhai o aelodau'r teulu i chwilio am dano. Clywsant iddo fyned i Fynydd y Dre' er cael darlun newydd o Dieganwy. Yn ddiweddarach aeth cyfaill iddo i'r mynydd i geisio cael o hyd iddo, ond methodd. Wedi anesmwytho yn fawr er. byn hyn ceisiod-d y teulu gynorthwy yr heddgeidwaid lleol, a threfnwyd 'search parties' o'r trigolion a'r milwyr. Ac am chwarter wedi un ar ddeg o'r g:och y nos daethpwyd o hyd iddo yn gorwedd yn gwbl naturiol yng ngolwg Deganwy Oind 'wedi marw' er ys ori,au., Tystiai y meddyg mai'r galon oedd yr achos. Dioddefasai oddiwrthi yn ddiweddar, er na wyddai ond y cylch agosaf ato am hyn. Yn ei symudiad collwyd un o fasnachwyr mwyaf adnabyddus y dref. Yr oedd yn wr o gyngor, a llawer gynorthwywyd ganddo yn y modd hwn. Y oedd bob amser yn amlwg gyda phob symudiad ey- hoeddus yn y dref, er na chwenychai swydd ar un- rhyw gyngor cyhoeddus. Bu yn wasanaethgar iawn fel llywydd cor undebol y dref am nifer o flynydd- oedd. Yr oedd yn Ymneilltuwr cydwybodo: ac yn Rhyddfrydwr cadarn. 'Bu yn amlwg iawn ynglyn a gwaith yr eglwys yng Ngharmel. Derbyniai pob rhan o'r gwaith ei gyn- orthwy. Bu yn un o athrawon ffyddlonaf yr Ysgol Sul Cymerai ddyddordeb anghyffredin yn ei llwyddiant. Llawer gwaith bu yn arolygwr. Yr oedd yn athraw da, a thystia ei ddosbarth nad ang- hofianf y Saboth olaf y bu byw. Yr oedd yn neill- tuol o afaelgar yn pwysleisio yr ysbrydol mewn bywyd. Ar ddiwedd yr ysgol yr oedd mor fywiog ag aiifer yn y cyfarfod athrawon yn trefnu ar gyfer gwaith y gaeaf. Penodwyd ef eto eleni i ofalu am y Band of Hope. Taflasai lawer o'i yni i hwn, a gell- id ymddiried bob amser i'w ffyddlondeb ef. Hefyd am flynyddoedd bu yn dysgu'r Sol'ff.a i'r plant. Cat- odd Cymdeithas Ddiwylliadol y Bobl Ieuainc ynddo gefnogydd aiddgar bob amser.. Yr oedd yn drefnydd gwych. Efe oedd un o ysgrifenyddion y Basar lwyddiannus- gynhaliwyd yrna yn ystod bug-eiliaeth y Parch. Gwynedd iRoberts. Gweithiodd yn ddiwyd hefyd gyda chymanfa plant y dosbarth, ynghyda'r gymanf.a ganu. Gweithiwr i ddyfnder ei fod oedd Mr. Evans. Meddai ar y fath yni fev yr oedd yn bur anhawdd gan ei gydnabod gredu ei fod yn 62 mlwydd oed pan bu farw. Magodd deulu parchus. Ni fu tad erioedyn fwy. ymroddgar gyda'i blant, a gwelodd hwyntyn tyfu i fyny yn wasanaethgar yn y deml. Ni fu teulu yn fwv ffyddlon a gwasanaethgar yng Nghonwy na theulu Paris House. Y mae'r mab hynaf Mr. Arthur LI. Evans yn ysgolfeistr yng Ngharmel, ger Treffynnon, erbyn hyn, a'r ail fab Mr. Herbert O. Evans yn y Post Office yn Rhyl. Y mae Miss Gwladys Evans yn athrawes yn ysgol y genethod yng Nghonwy, a'r ddwy ferch ar'all adref gyda'u mam. Cydymdeimlr yn fawr a'r teulu oll yn eu galar mawr ar ol un mor annwyl. Cafodd gladdedigaeth parchus y dydd lau canlyn- ol. Yr oedd. yn ddydd o alar yn y dref. BTaenorid yr orymdaith! gan y gweinidogion, yna y cor un- debo:, ac yn dilyn dosbarth yr ymadawedig yn yr Ysgol Sul yn dwyn 'wreaths,' wedi hynny y corff, yn cael ei ddilyn gan y teulu a'r cyhoedd. Gwasan- aethwyd gan y Parchn. Henry Jones, Pensarn, EvaJl Jones, Glan Conwy, a D. Davies (ei weinidog). At lan y bedd canodd y cor undebol 'Ar lan 'r lor- ddonen ddofn' yn effeithiol iawn.

—;—♦—; LLANPUMPSAINT.

BR YN AMMAN.

[No title]

Advertising