Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYMRU A'R ItHYFEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMRU A'R ItHYFEL. Y MILvVR DALL. Mi af i ymladd dros y gwir, Fy nghartref hoff a'm gwlad Cusenwch fi, fy mhlant," medd ef, A ffwrdd yr aeth i'r gad. Yn of y daeth o'r gwaedlyd le Yn. fachgen cloff a dal1, Ac nis gall hvybro mwy i'r dre, Na gwe'l'd y naill a'r Hall. Ac nis gall wel'd y siriol ser, Na gwen ei faban man, Na chanfod serchog dyner don Ar wedd ei briod glan. Geill fyn'd er hynny'n llwm ei wedd I Salem ar y Sul, A cherdded yno lwybrau hedd A gwel'd cysuron fil. Mae'n ddall, mae'n ddall i bethau'r byd, Ond nid i bethau Duw: Mae'n gweled mwy na fedd y llawr, Na phrofodd byd mo'u rhyw. Yn ddewr bu'n brwydro "dros ei wlad," Coronwyd e'n ddiwall Can's gwel'd y llwybr at borth y nef Y mae y milwr daIl: Llanfyllin. O.T.D., Sir Ffiint sydd ar y blaen i hon siroedd y Gog-ledd yn nifer y rhai sydd wedi ymrestru. Hysbysir nad oes sail i'r adroddiad a gy- hoeddwyd yn y newyddiaduron Seisnig fod Capten Lloyd George wedi ei godi yn lieu- tenan t colonel." Mae yr adran gyntaf o gyflegrwyr Sir Aber- teifi ar gychwyn allan dros y mor. Apeliant at gyfeillion am gysuron i'r milwyr at fisoedd oerion a gwlyb y gaeaf. Gyda hyfrydwch y cofnodwn am ail-ddyr- chafiad Merfyn Griffith, mab y lleygwr parcn- us ac adnabyddus, Mr. T. W. Griffiths, Y.H., Llandudno, i'r swydd o Gapten yn y Fyddin Gymr-eig. Mae fel ei dad yn Weslead selog. O Gwneir cais at Arglwydd Derby am i filwyr gael eu hanfon i letya yn Llandudno am y gaeaf. Atgioffeir am addewid y Cadfridog Owen Thomas y byddai iddo wneud ei oreu dros Landudno1 os deuai efe yn ol. Z, Galar i ardal Solfach yw tranc y swyddog ieuanc Donald Morgan, mab y diweddar Capten Peter Morgan, a chefnder Mr. W. B. Morgan, Caerfarchell. Derbyniodd ei addysg yn ysgol Cheltenham. Nai ydoedd i'r Capten Eibenezer Morgan, un o fiaenoriaid y Cei Newydd. Da gan liaws cyfeillion Lieut. Septimus James, swyddog meddygol gyda'r Cameron- ians, ei weled yn mwynhau ysbaid 0' seibiant ar 01 ei lafurwaith yn y Dardanelles. Mab ydyw i Mr. Evan Hugh James, Aberystwyth, un Oi Warcheidwaid mwyaf adnabyddus Aber- ystwyth. Meddyg yn Blaenafon yw ei frawd Mr. Alfred James. Drwg iawn gennym glywed fod gair wedi Z, ei dderby-n oddiwrth gaplan y Fyddin yn hys- bvsu fod ein gohebydd yn y Dardanelles, Mr. C. G. Jones, mab Mr. W. G. Jones, gynt o Swyddfa'r CYMRO, wedi ei gymryd yn bur wael, ac yn gorwedd yn yr Ysbyty yn Alex- andria. Dymunwn iddo adferiad buan iawn. Male un llythyr oddi wrtho mewn Ilaw,-wedi ei ysgrifennu cyn iddo gael ei daro: yn wael. Mae llawer o'r milwyr Cymreig yn Bedford yn byw mewn tai gweig-ion; ac mae'r bechgyn wedi newid enwau y tai. Dyma rai o'r enwau newydd, Ty'r Arglwyddi, Ty'r Cyffredin, Tv'r Caethiwed, Knut's Villa, Suicide Club, Cartref Oddicartref. Mae deg air hugain o Wesleyaid selog1 yn byw yn Nhy'r Caethiwed ac vn Oil eu tystiolaeth hwy eu hunain yn hapus ddigon yno. Dywedir fod Cymanfa bregethu i fod yn Z, Stonehenge, yng nghanol y meini derwyddol, cyn i'r Fyddin Gymreig vmadael oddiyno. Pa sawl Cymro sydd yn Winchester weithian a wyr mai Caer Wynt yw enw Cymraeg ddinais ? Yn rhamantau Sieffre o Fynwy rhoddir lie ncilltuol i Gaer Wynt, yn arbennig' ynglyn ag Emrys Wledig, a wenwynwyd yno gan y Siais cyfrwys Eopa. Onid Germaniaid oedd y Saeson hynny'l Gwaith Emrys," neu Gor y Cewri," y gelwid Stonehenge," Vie y cynhelir y cyfarfodydd pregethu i'r milwyr. Dywedid mai o Iwerddon y clud- \vyd hwynt yno ar gyngor Myrddin i fod yn gofadail am frad y cyllyll hirion. Caled fu'r rhyfel ar rai o deuluoedd blaen- llaw Aberystwyth. Lladdwyd meibion i Dr. Harries, Y.H., a'r Mr. Arthur Hughes, clerc y dref, a dau gyfr-eithiwr arall, sef Mr. W. P. Owen a Mr. John Evans, dirprwy glerc y dref (ei fab yntau drwy ddamwain ym Mhorth- cawl). Ar goll y mae meibion Mr. J. Ballinger a'r diweddar Barch. T. Mortimer Green. Er maint pryder teulu Mr. Ballinger, dywedir fod ei ail fab, sydd yn ysgol Llan- ymddyfri, yn ymgynnyg am swyddogaeth. Tystiolaethir i ddewrder rhyfedd Harry ei frawd yn yr ymg-yjch lie y collwyd ef. Dydd Sadwrn, ym mynwent henafol Cwm- sarnddu, claddwyd gweddillion Mr. Dan Richards, o'r Gatrawd Gymreig yn y Dardan- elles, pryd y gwasanaethwyd yn barchus gan weinidog Cwmsarddu a'r Parchn. T. Phillips (M.C.), a J. Harry, Y.H. (A.). Mab oedd efe i Mr. Richards, Plas Newydd, Siloh. Yr oedd efe a dau wr011 arall, pan y cafcdd ei glwyfo, yn cyrchu dwfr o. ffynhonnell y dyfr- oedd i ddisychedu ei gyd-filwyr, a thaflodd y gelyn ffrwydr-belen atynt. Lladdwyd un, clwyfwyd yntau yn ei ben, ond diangodd y Hall. Bu Richards am ddyddiau yn un o ys- bytai Lloegr yn ceisio adferiad, ond y diwedd a ddaeth. Cafodd angladd a.nrhydeddus a phoblogaidd iawn. Yr oedd catrawd 00 filwyr ardderchog yn bresennol, ac fel rhan o'r gwasanaeth yr oeddynt yn saethu dros ei fedd. Cysured yr lor deulu ei dad, ei dytwyth, a'i luosog berthynasau. Boed tawel hedd I lwch ei fedd.

PERSONOL.