Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
BIRKENHEAD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BIRKENHEAD. Wiililmer Road.—Nos Lun cynhaliwyd cyfarfod i groeslawuy Parch. Gwilym H. Evans, B.A., yn fugail. ar eglwysi Willmex Road, Birkenhead. Llywyddwyd grany Parch,. S. 0. Morgan, a chymerwyd rhan gan y P-archn. 'Talog Davies, R. G. Jones, Emlyn Dav- ies, T. J. Rowland, Rid,ehaigh, Jones, 0. J. Owen, Mri. George Burrow, J. D. Evans, John Owen, Caer J. H. Costain, J. Matthews a'r bugaiil newydd. Caf. wyd cyfarfod rhagorol.
:'COLEG Y BALA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COLEG Y BALA. We.le ddechreu blwydd'yn newydd eto yn y Coleg, a'r fintai o fyfyrwyr yn fechan iawn. Ni fu ein nifer yn y Coleg cyn lleied yng nghof neb o'r t6 presen- nol o efrydwyr. A phan yr ychwanegir at a ddywed- wyd, y ffai-th fod yr Ysgot Ragbaratoawl, ysywaeth, i'w rhe.stru- bellach1 ymhlith, v pethau a fu, gellir dycihjmygu :fod gwedd bur wahanol ar 'bethau ragor a fu. Cof gennym weled cynifer a. chant namyn pump yn derbyn addysg cydrhwng yr Ysgol a'r Col. eg, end erbyn, heddyw nid oets, yma ond deuddeg-ar- hugain. Llongyfarchwn Mr. D. M. Jones, M.A., B.D., ar ei benodiad' yn ddaiiithydd yn y Coleg, ac estynwn .iddo. groesaw cynnes i'n plith, a'n dymuniad^ yw iddo- goroni ei yrfa ddisglair fel efrydydd a llwyddiant cyff- elyb fel athro. \V,e]le res-tt o'r myfyrwyr, ar fedr gorffen eu cwrs yn y Coleg, sydd yn ago-red i dderbyn galwadau •<— Dr. W. iR. Griffith, W. E-dwyn Hughes, M.A., A. lestyn Jenkins, Evan J. Jones, H. H. Jones, B.A., Robert Jones, B.A., Richard Lloyd, D. T. Morgan, William Morris,, 0. R. Owen, B.A., Isaac Parry, P R. Thomas, C. Lloyd Williams, B.A., John Wil- liams, T. Alun Williams. W. F. E.
NODION 0 FALDWYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION 0 FALDWYN. 'Cafwyd: siom dixfawr y noson o'r blaen yn Llan- fylli.li'. Disgwyliwyd dau wr parchuiS i ,arf,er eu dawn ar faterion dirwestol. Ni ddaeth yr un ohonynt i'r golwg. Erbyn hyn y mae esbonia-d wedi dyfod. Yr oedd y Parchedig William Price o Lanfair yn wael, a'r Parch. Alun T..Jones o'r un lie wedi anion at yr ysgriflennydd i ddweyd ei fod yn analluog i fod yn bresennol. Onid oes modd i osgoi y siomedigaethau hyn? Pe bu,as;ai v cyfeillion lleol wedi cael gwybod, nid ydyw ILlanfyllin yn fyr 0' ddoni.au o bob math. Yr oedd Cymanfa Ddirwestol Maldwyn yn Llan- santrfraid. yr wythnosl ddiweddaf yn llwyddiant per- ffaithi. Daeth nifer go dda o gynrychiolwyr yng- hyd, a chafwvd anerchiiadau pur fywiog a dylanwad- 001. Nid lie ydyw cymanfa. o'r lath hon i ddangos. donioldeb mewn araithyddiaeth, ornd He ydyw i roddi ,arweini.ad. a gwybodraeth i'r wLad drwy y cynrych- iolwyr am Isymudiada u y byd dirwestol. Cafwyd hyn a llawer mwy yn Llansantffraid. Amhaethyn oedd ymweliad. y Parch. Glyn Davies a'r Parch. 0. L. Roberts, Liverpool. Penodwyd nifer o. frodyr i ymweled a'r Prif Gwnstabl er ceisio ei argyhoeddi parthed rhai: pethau sy'n dal perthynas. a'i waith fel prif swyddOrg heddwch y sir. Gallasai Cymdeithas Ddirwestol Maldwyn. wneud a llawer gwell cefnogaeth oddiwrth y gweinidogion. Y chydig, ohonynt .oedd yn bresennol. Coded eglwysi y sir am y Saboth Dirwestol, yr ail Sul yn Nhachwedd. Disgwylir i bob eglwys wneuth- ur casglia.d at hyrwyddo. dirwest. O'r casgli.adau hyn yr ydys yn anfon cyfraniadau dros, y Cyfarfodydd Alisol i Gvmanfa Gwynedd, y Gymdeiihasfa, a Phwyllgor Dirwestol Maldwyn. Anfoner y casgliad- au o.'r rhan isaf ,a:t Mr. Ellis: Jones, Tyne-wydd., Llan- fechiain, ac o'r rhan uchaf at y Parch. Edward Evans, Llangurig. Anfoner casgliadau dirwestol y Presbyt- ery at y Parch. Wm. Williams, Bettws, Newtown. Daliwyd: tafarnwr yn Llanfair yn. gwerthu diod i blentyn dan 14 oed. Cosbwyd ef. Gorfod iddo. dalu 5s. Ond both oedd meddwl y Fainc yn gadael hyn heb .ei. osod ar y drwydded. Dylai v Ilys gadw y ddeddf pa un a fyddo y tafarnwr yn filwr a'i peidio.. Y mae llawn gormod o ynadon clun-bren yn y sir hon. Cyfiawnder sydd ail i 'sentiment' afiach yn y dyddiau hyn mewn llawer llys.. Y mae. Llanidloes wedi s-icrhau £100 oddiwrth y Pwyllgor Addysg Uwchraddol, er llawenyd-d mawr i'r awdurdod lleol. Gresyn fod pob peth da, ac hyd yn oed addysg, yn y sir hon, yn cael ei gario ymlaen drwy y 'sweating system.' Dioddef-a llawer achos gwir deilwng drwy ddiffyg ariannol, ac wrth hyn: y mae yr uchel awdurdodau yn gwella eu gwyne'b drwy dorri eutrwynau. Gwrthodwyd cais t-ebyg o Lanfyllin, He y dioddefa addysg yn herwydd diffyg ariannol. Y mae aelodau y Cyngor wedi gomedd eistedd yn farnwyr i wrando achosion o ape.l parthed Enlistio ym Machynlleth. Nid ydyw yn eglur iawn paham. Feallai (bod, rhai ohonynt gyf.ryw ag a ddylasent ymrestru eu hunain. Y mae tua hanner rhai cyng- horau yn 'recruitable.' Buasiai yn ddyddorol' iawn i glywed va beth a ddywed y rhai hyn' dros beidio, myned. Mewn llawer eymdogaeth y mae swyddog- ion milwroili dderbyniant, gyflo.gau mawrion nad, ydynt eto wedi clywed swn yr un fafnel er eu bod er ys blynyddau yn filwyr, tra mae plant eu gweithwyr yn gorfod myned i g,anol y gwae ar ol ond ychydiig wythnosau or brofiad. Pethau fel hyn sydd yn lles- teirio ymrestru. Y mae eglwysi. Lianfechain a Llansantffraid yn syrnud i alw gweinidog, a sibrydir fod un o eglwysi P-enbedw yn d'ebyg o wneud gwaith tebyg cyn bo hir. Mawr hyderir na chyfyd croeswyntoedd i ddifa yr hyr. sydd wedi blaguro. mor obeithiol. Bydd ffrwyth y pren yn felus i'r genau pan yr addfedo.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Gwelwch hysbysiad am Lawlyfr ar y Gwyrth- iau ar tud. 8. Dylech gael y Llyfr ar unwaith,
MIARW - GOFFA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MIARW GOFFA. ATGOFION AM Y DIWEDDAR MR. ROBERT JONES, BODFAEN, BLAENAU FFESTINIOG. Atgofion plentyn sydd ddyfnaf ar fy nghof am y blaenor gwerthgar ac egniol hwn, rhai wnaed arnaf yn y eyfnod pan nad..oedd eglwys Fethodistaidd ond, Bethesda rhwng Peniel a Rhiw. Yn wi,r, pedair eg- lwys perthynol i'n Cyfundeb ni oedd y pryd hynny yn yr 01 o Ffestiniog—IVr. Bethesda, Rhiw a Tan- ygrisiau. Yr oedd: ymhob un o'r pedair dywyso.g ynihilith: y blaenoriaid—'Robert Griffith yn Peniel, Robert jories yn' Bethesda, Evan. Roberts yn y .Rhiw, a William, Williams yn Nhanygrisiau. A'r rhai pennaf o'r rhai' hyn. oeddynt. Robert Jones, a Wilham Williams, ac adnabydir y naiD fel yr Hen Gae, a'r Hall: fel yr Hen Sir-enwau nid "o amharch o gw'bl, ond yn hytr.ach o'r parch dyfnaf, a'r edmygedd mwy- af gyda Ihiaen drwchus o. anwyldeb. Tri. hlaenor oedd. yn Bethesda y pryd: hynny-y tri yn wahanol1 hollo 1 i'w gilydd, ond gyda'u gilydd yn gwneud triawd ddiaconawl diguro. Meddyli.e,m ni y plant nad oedd eu cyffelyb ar wyneb y ddaear, ac wrth edrych yn Oil dros gyfnod maith 0 flynyddau, llJd wyl yn cael a,chos i newid fy marn fod yn an- h-awdd cael tri,awd wnai ragoxi arnynt. Robert Jones oedd yr hynaf a'r pennaf fel b-laen- or, Yr oecld rhai. yn yr eglwys yn drymach diwin- yddion nag ef hwyrach—yn arbennig felly Lewis Jones, Bryneithin. Yn ein tyb plentynaidd ni., yr oedd Lewis, Jones, a Lewis: Edwards, y Bala (fel yr adnabyddiid Dr. Edwards, y pryd hynny) yn bur agos i'w gilydd fel" diwinyddio-n. Ac yn sicr, yr oedd Jones ei gyd-flaenor, yn fwy melus ei ddawn, yn enwedig ar ei liniau. Cuddiadi cryfder Robert Jones o,-dd ei fawr am yr achos. Nid oedd dim perthynol i'r capel yn rhy fychan idd,o, ofalu am dano, na dim yn rhy fawr nad oedd yn abl i'w gyf- lawni. Os byddai un o'r canwyllau yn cam-ym- ddwyn (canwyllau oedd yr adeg hynny yn goleuo y ■capel) at Robert Jones yr edrychai pawb i roi y gan- wyll yn ei lie. Ar y llaw a,rail, os, hyddaimater o bwys: yn cae] ei drafod, R.J. oedd yn cymryd yr awen- au y pryd hynny. Byddai bob ,ams,er yn brydlon. Cof gennyf y byddemni y plant, yn c.alel ein gyru i'r ardd tu ol i'r ty bore Saboth i edrych welem. ni Robert Jones yn myned ar hyd yr hen ilordd o Gaeclyd i Ben- fforddnewydd. Mae yn sicr fod gennym ',glück' yn y ty, ond nid oes gennyf unrhyw gof am y 'clock.' Ond pan w;e,lem IR.J. yn myned, gwyddem ei bod yn chw,arter i ddeg, ac yn amser i uinnau ddechreu hwylio. Ar ol oedfa y bore, ai, y blae,noriaid i'r ty capel oedd yr ochr arall: i'r ffordd i'r capel. Bydd- ent yno 01 banner awr i ,awr yn ,-trin materion. cys- egredig yr achos,. Edrychem ni ar harlwr bach y lty capel, ar y llaw chw.ith, wedi myned trwy y dtws fel lie cysegredig iawn. Cof gennyf fy mod yn: dechreu dysigu yr hanes. am Dabernacl Moses am y waith gyn- taf, ac wrth ddysgu am y cyntedd a.'r cysegr, ar cysegr sancteiddiolaf, poxtreadwn y cyntedd fel y fynedfa i dy',r capel, y cysegr fel v gegin fawr, a'r cysegr sancteiddio.laf fel parlwr bach y blaenoriaid. Medd- wl, plerityn oedd yn hynyna, ac felly nid: oedd yn gableddus, ond dengys yr argr,aff wnai y s.wyddog- aeth y cyfnod hwnnw ar feddwl plant. Yr oedd, yn nodedig o drefnus. Mynnai wneuthur popeth yn weddaidd ac mewn trefn. Yn adeg baethaf y diwygiad, welid Pierce Jones a'i fr,aich iarn wddf y blaenor arall eisteddai gerllaw iddo, a'r dagrau yn llifo! i l:awr ei ruddiau a gwen nefolaidd ar iej. wynebpryd, yn dweyd, "Weld di o, Tomos? ond tydi oi yn annwyl ? ond. tydi o yn dlws ? Bendig.edig fyddo byth, nes: gyru yr holl gynulleidfa yn wen- fflam. Ond elai R.J. o gwrnpas 11awr y capel, gan geisio tawelu hwn, a llonyddu arall, nes peri i'r hiogiau direidus, ar yrnyl y 'gallery' ddweyd, wrth eu gilydd, "Welwcih chwi yr 'Extinguisher'?" (yr oedd- ynt -wedi gweled y canwyllEau yn cael eu rhoi allan felly). Ond yr oedd R.J. am i'r pregethwr (os pre- geth fyddai,) i gael dweyd ei genadrwri, neu i'r gweddiwr gael tywallt ei ddeisyfiadau g,erbran yr orsedd. Yr oedd yn gryf am drefn: a gweddeidd-dra ymhob eylc,h,. Arwiniiai hyn ef ar brydiau i ddefn- yddio: geiriau bron yn eithafol, pan dybiai fod rhyw- beth yng ngwisgoedd rhai yn y gynulleidfa allan: o'r cyfhedin. Byddai yn siarad yn gryf ac yn chwyrn ar adegau nes creu yr argraff ar feddwl: rhai: mai un caled vdoiedd, heb nemawr gydymideimlad. Ond yr oedd yndd'o dynerweh a. charedirgrwydd di-ben-draw. Daeth plant y blynyddau yr wyf yn son am. danynt i deal: hyn. Mae yn debyg mai yn Bethesda y lled- aenwyd Taflen y Cyhoeddiadau gyntaf. Yr oedd llyfr y cyhoeddiadau yr adeg yma y nes,af at y Beibl a'r Llyfr Hymnau, ac yn llawer mwy cudd. Fodd bynnag, c a fodd un o'r hogi.au direidus afael ar lyfr v cyhioeddiadau, ac fe gopiodd enwau y pregethwyr ,am y flwyddyn honno, a chai y bechgyn eraill gopi c) n .1 1, ond talu dimai am. danOo. Weithiau byddai cyfnewid- 3ad yn y trefniad, a chyhoeddid p.regethwr arall. Yna gwelid y plant yn Lsisial a'u gilydd, ac yn tynnu papur o'u llogell. Aeth y blaenoriaid i ameu, ,gwnaed ymchwiliad, a. darganfyddwyd y cyn'llwyn. Meddylia v. troseddwr, a'r plant eraill, ei bod yn ddiwedd byd ar.no, a chosh ddiarbed yn ei aros. Ond ex syndod i'r oil, cafodd y troseddwr faddeuant. Daeth, y plant i ddea'll mai R.J. fu yn eiriol, a byth wedi hynny cai R.J. ddwrdio faint a fynniai, heb idd-ynt iddigiO' diim^wrtho. -Yr oeddy.nt yn barrod i, wneuthur popeth iddo. (Bu terfyn ar 1eda,eniad Taflen y Cyhoeddiadau). Nj, bu neb mwy caredig i' bregethwyr ieuainc, i fiaenoriaid ieuainc, ac i ddechreuwyr canii ieuainc. Byddai yn bob siwcr i ddyn ieuanc gael ei 'chance' ymhob cylch. Er y prydi hynny, yr wyf wedi cysylltu R.J. a'r gwaith, o ofalu am y capel, a phethau y capel. C'af- odd oes, faith, a llanwadd hi a gwaith. "Da was, da a ffyddlawn," mae'n sicr oedd y cyfarchiad a rodd- iodd ei Feistr iddo, ac y mae wedi cael myned. i mewn i. lawenydd ei Arglwydd. Be'th yw natur y 11awen- ycld nis: gwyddom. Ai "canii a mo,li.F" Fedrai Robert, Jones cldirn ar ganu. Ei nefoedd, a'r y dd.acar oedd gofalu aiii yr achos-, ac y. mae yn anhawdd meddwl lamdanomëwnnefoecldheb igael gwneud rhywbetbi dms ei Arglwydd. Bedd-wcli i'w lwch. "Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny," ;ac y mae hiraeth ynoni am danynt. Y GLADDEDIGAETH. Fell yr hysbyswyd yn y rhifyn diweddaf cymerodcl angladd Mr..Riobert Jones', Bodfaen, le prynha.wn ddydd Iau. Wrth y ty darllenwyd, xhannau o'r Beibl gan y Parch. R. R. Jones, Ysbyty, a gweddiodd y gweinidog, y Parch. G. Hughes, B.A. YnaymffurL iwyd yn orymdai.th, y gweinidogion1 a'r blaenoriaid, a chynrychiolwyr y hyrdrclau eyhoeddus yn gyntaf, yna. yr elo-r, a'r perthynasau, a'r cyhoecld yn dilyn. Aed yn syth i'r gladdf.a wrth gapel Bethesda, ac ar Ian y bedd darllenodd y Parch. W. R. Jones, Llan- frothen, rannau o'r Beibl, a gweddiodd y Parch. J. Purest on Jones, M.A., PwHheli. iRhoddodd Mr. Hughes emyn allan i'w ganu i derfynu y gwasan- aeth oedd wedi ei drefnu yn fyra -slyml yn unol. a chais, yr ymadiawedig. Yr oedd yr oil o'weinidogion a blaenoriaid y cylch yn bresennol, a llawer o'r tu alJian wedi dyfod ynghycl i amlygu eu parch i goffa- dwriaeth Robert Jones. GLADDEDIGAETH MR. D. PAERV OWEN, BBITHDIR, DOLGELLAU. Fel yr hysbyswyd yn y rhifyn dlweddaf, yn gynax fOræ Sadwrn, Hydref 30ain, cyn toriad y wawr gal.wyd y brawd annwyl hwn gartref, er nad, oedd and 37 mlwydd oed, eto gwnaeth waith mawr yn ei fywyd. Fe ddywedir am am be 11 un "Born Poet," neu "Born Preacher," hawdd y gellir dweyd am yr ymadawedig "Born School Master." Bu yn, gweitb- redu fel blaenor yn. eglwys M.C. Brithdir, o.'r cychwyn. Efe oedd bywyd yr eglwys; ymdaflodd i'r gwaith a'i holl enaid. Meddai ar allu cryf i ddea'L y natur ddynol, a. defnyddiodd ef er hyrwyddo. Teyrnas y !Gwr ,a garai mor fawr. Dydd Mawith, Tachwedd 2U, claddwyd eii wedd- illion ym mynwent M.C. Brithdir, wrth ochr el. hen gyfai'.l annwyl, y diweddar Barch. Hughl Roberts, 'Rhydymain. Gwalsianaethwyd wrth y ty gan y Parchn. T. EJwy Wiilliams ac 0. Lloyd. Owen, Bont- cldu., Yna ffurfiwyd yn orymdaith tua'r capel: blaenorid gan y Boys, Scouts (ychydig1 'wythnosau yn ol dewiswyd Mr. Owen yn 'Master' i'r Scouts; ond, ni chadd fyw i ddysgu dim arnynt). Yn dilyn. 'ro,edd plant yr ysgol, y gweinidogion a'r blaenoriaid, yna, yr el or, y teulu a'r dorf. Yr oedd yno dyrfa fawr iawn. Cynhaliwyd gwasanaeth yn y capel dan ar- weiniad y gweinidog. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio g.an v Parchn. J. a D. O. Elhs. Hysbysodd y gweinidog, y Parch. Hywel Parry, fod amryw lythyrau wedi. dod i lawr oddiiwrth frodyr oedd yn methu bod yn bresennol; yn: eu. plith, Sir John Dillon, [Dolserau, Parchn. R. W. Jones, Aberangell, J. 0. Jones, Ivlandderfel, E. J. Owen, ficer y Brith- dir, Cynf,al Jones, Parri Huws,; M:ri. P.arri Morgan, Llangollen, Llew Meirion, W. G. Jones, R. Barnet. Siaradwyd gan y Parchn. E. Jones Edwards, Arthog, Edwin Jones, Abermaw, T. Elwy Williams, Ruthin. Dygodd yr oil ohonynt. dystiolaeth uchel i gymeriad, gallu, dylanw,ad a duwioldeb Mr. Owen. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Radcliffe, B.A., B.D., Dolgellau. Chwareuwyd 'Dead March' g:an Mr. John Roberts, orgaiiydd eglwys St. Mark, Brithdir. Gwasanaethwyd wrth y bedd gan y Parch. Mordaf iPierce. Gwelwyd yn bres;ennoll Mri. E. W. Evans, Y.H., Edward W:il:],ams, Richard Mills, Chief Constable Jones ac R. C. Evans, Dolgellau, Rob- erts, Dyffryn, —Lloydi, Islawrdref, John Edwards LlanuwcihUyn, Evan Roberts, Abergeirw, a Glan Wnion, &c. Nos Fercher, Tachwedd 3ydd, cynhaliwyd oyfarfod coffadwriaethol yn y capel newydd. ICymerwyd y gadair g.an Mr. John Roberts, Gerddi Gleision. Dechreuwyd trwy fawl a gweddi g,an Mr. Owen Lewis. Yna cafwyd anerchiad gan y Llywydd. Sylwodd ar Mr. Owen fel ysgolfeistr, a. dygodd dyst- iolaeth- uchel iawn, i waith: yr ymadawedig, yr hwn drwy ei 'lafur caled gododd ysgol y Brithdir i'r rheng flaenaf yn Sir Feirionydd. Canwyd hoff emyn yr ymadawedig, "A weilsochchwi Ef." Siaradwyd ymhell-ach gan Mr. Evan Jones, Garth fach, yr hwn sylwodd, a.r Mr. Owen "fel blaenor yn blaenori." Mr. Edward Jones, Brynbras, a gyfeiriodd ato fel "dryn trwyadl." Mr. Samuel Hughes1, Tabor, a nod- odd allan "gymeriad pur yr ym-adawedig." Mr. Owen Owen, Dregerrig, a'i darhiniodd fel "cyfailli cywir." Mr. E. W. Evans, Y.H., Dolgellau, a siar- adodd am dano fel tad tyner. Beth bynnag wnaeth Mir; Parry Owen yn ei iywyd 'roedd un peth yn am- Iwg iawn, gwnaeth 'modeil o gartref.' Dyn diwen- wyn ydoedd dyn barc.hai bawb, ac -a berchid gan bawb a'i hadwaenai yn iawn. Yna cafwyd gair byr gan ei weinidog arno, fel dyn gwrol, a dioddefgar. Terfynwyd trwy ganu yn Saesneg yr emyn olaf roddodd, Mr. Owen allan yn v Brithdir: "Sweet is the solemn voice that calls The iChristian to the house of prayer: I love to. stand within its walls, For Thou, Oh Lord, art present there." "Coffadwriaethi y. cyfiawn sydd, fendigedig;" ac eryis: coffadwriaeth Mr. Parry Owen yn fyw am flynyddau yn ardal v Brithdir. Eiddunwn nawdd y Net drors ei briod a'i Ernlyn bach.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Gwelwch hysbysiad am Lawlyfr ar y Gwyrth. iau ar tud. 8. Dylech gael y Llyfr ar unwaith.