Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

A GY,LL PRYDAIN EI CHREFYDD?

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A GY,LL PRYDAIN EI CHREFYDD? CWESTIWN pwysig, ag un sydd yn hawlio ys- tyriaeth fanwl yw, beth fydd dylanwad y rhyfel waedlyd presennol ar grefydd y wlad. Os cyll Prydain ei chrefydd, bydd y golled yn anaele, yn fwy felly na phe collasai y brenin ei goron, ag y gwneid ei ddeiliaid yn gymunwyr coed i'r Germaniaid. Nid wiw celu y ffaith fod y rhagolygon presennol yn achosi pryder i garedigion y genedl. Yn y gorffennol, pan y byddai y genedl mewn perygl oddiwrth haint neu bla neu gynni, yr oedd crefydd! yn blodeuo, y cyfarfodydd gweddi yn ami a lluosogf, ac arddeliad amiwg ar bregethu'r gair. Heddyw, a dweyd y lleiaf, nid yw pethau felly. Gwn am ddynion sydd yn aelodau o Eglwys Crist wedi colli eu cred yn effeithiolrwydd gweddi a'u hargy- hoeddiad o lyvvodraeth Duw ar y byd. T'ystir gan Gymdeithas y Christian Endeavour fod y gelyn yn ymhyfhau yn ei ymosodiad ar Gristionoigaeth. Gwerir mwy heddyw ar y ddiod feddwol nag a, wneid flwyddyn yn ol, ac y mae rhyw wywdra gauafol yn ymdoi dros yr eglwysi. Esgob Birmingham oedd yn dweyd y dydd o'r blaen ei fod mewn plwyf oedd wedi anfon drüs fil o ddynion i faes v gwaed, cynhelid cy far fod gweddi yno i eiriol ar eu rhan, ac nid oedd' ond wyth yn brescn- nol! Teimlir anhawster neilltuol i gynna.I cyfarfodydd yr wythnos mewn llawer ardal. Yn Ffrainc y mae crefydd yn blodeuo. Y mae y bechgyn sydd yn y trenches, 0 safn marwolaeth, yn cael gafael ar y Ceidwad. Rhoddwyd y fath ddyrnod i grefydd, meddai M. Viviani, prifweinidog- Ffrainc, bum' mlyn- edd yn ol, fel na chlywir mwy am dani. Etü gwaith cynta'r gwr pan dorodd y rhyfel allan oedd apwyntio capleniaid i ofalu am fudd- iannau ysbrydolo y fyddin. Cynhelir cyfar- fodydd .gweddi ar ganol diwrnod gwaith drwy y wlad, a thyra y lliaws iddynt i galonogi'r milwyr ar eu ffordd i'r frwydr. Mae dynion oedd yn amlwg, yn eu gwrthwynebiad i grefydd Crist heddyw yn cysegru eu doniau a'u hamser i wasgaru llenyddiaeth bur a chrefyddol i'r milwyr. Gan' mlynedd yn ol cymerodd daeargryn Z, I le yn Neheudir America, a chodwyd rhan fawr o'r wlad ddeng mil o filltiroedd ysgwar bum' neu saith troedfedd yn uwch nag oedd o'r blaen. Yn y rhan yna yr oedd mynydd ma,wr chwe' gwaith uchter y Wyddfa —yr Aconcagua, a chodwvd hwnnw o'i wraidd, fel pe bai ond tegan ysgafn. Dyna enghraifft o allu-gallu brOon annherfynoi. Ie, yn ddigon sicr. Ond y mae cadw'r pwer- au hyn o dan lywodra-eth yn brawf o allu mwy. Yr oedd, ac y mae y galluoedd hyn yn barhaus mewn gweithrediad yn v byd; ond y mae Haw y Llywodraethwr yn ddigon cref i gadw yr holl adnoddau hyn yn eu llc, ac i gydfyw yn gytun a'u g'ilydd. Felly, mi gredaf, y mae esbonio yr alanas presenno-l. Yr ydym yn cael enghraifft heddyw o beth all. balchter, traha, a gwanc anniwall am lyw- 1. odraeth, achosi yn y byd, a chenedl wedi gwneud ei hun yn ddeddf iddi ei hun heb ystyried buddiannau neb arall. Y mae y Pen Mawr am foment o amser wedi tynnu ei law a thaflu v ffrwyn ar war y nerthüedd hyn, er mwyn dysgu'r byd y posiblrwydd1 o drychineb y sydd yn gorwedd ynddynt, a phob amser yn gorwedd ynddynt, ac i'n gwneud yn fwy gwyliadwrus nag erioed i\v cadw o dan lyw- odraeth fanwl a chyson. Heddyw yr ydym yn llygad-dyst o'r efFeithiau niwekliol hyn ar y raddfa eangaf gymero-dd le erioed yn banes y byd, a gwers eithriadol ddrud ydyw. Rhyfedd ac ofnadwy y'm gwnaed. Mae yr un egwyddo-r i'w gweled yn ami mewn personau unigol. vVcithiau gwehvll ddyn wedi ymdaflu i gyflawni pob rhysedd a thrachwant, yn cau ei lygaid' i'r perygl sydd oi flaen, a sathru pob deddf dan ei draed. Yn yr olwg ar beth felly, arweinir ni i odyn yn ostyngedig i'r Arglwydd i ffrwyno ein nwydau gwylltion ';IC i ddwyn pob gallu i ufudd-dod Crist. Mae dynion wedi cynefino a gu-eledigaethau fel hyn, ac i wneud argraff ddyfnach a mwy parhaol ar feddwl a bywyd y byd, dyma'r wers yn cael ei harddangos ar rad-dfa eangach-on a world scale. Gobeithiwn yn fawr nad a v wers yn ofer, rhag digwydd eto rhywbeth a fyddo gwaeth. Llanymynech. O. MATTHIAS,

--- --- -ER COF.

Advertising