Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

. ROBERT JONES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ROBERT JONES. GAN Y PARCH. W. R. JONES, LLANFROTHEN. YN syml fel yna, heb Mr. o'i flaen nag Ysw. ar ei ol, y gelwid ef gan ei gydnabod, a dyna y dull o'i alw a'i fooddhai yntau, er y teimlid ddydd ei farwolaeth i dywysog ac i wr mawr syrthio yn Israel." Gwnaed ef -gan natur a gras yn un o'r tywysogion yn y tir, ac yr oedd ei ddylanwad yn iach, yn ddwfn, ac yn eang iawn. Wedi d'od i Ffestiniog o ardal Pant- g'las, yn Eiifibnydd, yn llanc ugain oed, llun- 'laidd a chryf yr olwg, ymunodd yn fuan a chrefydd, ac ymwasgodd at bobl oreu y lie, ac ni chychwynodd gyda'r Ilif fel y gwna rhai bechgyn ddeuant i'r ardaloedd hyn 01 rannau amaethyddol y wlad. Bu yn dra, gofalus o'i enillion ac o'i gymeriad, a thyfodd yn natur- iol i'r blaen ymhlith ei gyfeillion. Gwelwyd ei fagoriaethau gan eglwys Bethesda, a chyn hir dewiswyd ef yn flaenor ynddi. Ymhell cyn cyrraedd ohono hen ddyddiau yr oedd mewn amgylchiadau c-lyd, a gadawodd y- gloddfa fel y caffai ei holl amser i wasanaethu crefydd. Y pryd hwnnw, yn sydyn a diar- wybod i bawb bron, ond ei briod, efe a vm- adawodd o. Flaenau Ffestinioz i Borthmadog. Mor ddwys y teimlid y g-oiled ar ei ol ym Methesda fel ymhen ysbaid wedi i'r eglwys golli swyddog' arall trwy ang-au, darfu iddi trwy bleidlais unfryd roddi gahvad i Robert Tones i ddod yn ol, a'r Dr. Lewis Edwards, Bala, yr hwn wasanaethai ym Methesda y Saboth hwnnw, aeth yn gennad dros yr eg- hvys i gyflwyno yr alwad, a llwyddodd i'w gael yn ol. Bu yn flaenor ym Methesda ac yn Gwylfa wedi hynny hyd ddiwedd ei oes faith. Blaenor oedd Robert Jones trwy ei oes, a. chan amled, a d'isgleiried ei ragoriaethau, nis gallai lai na bod felly ymha g'ylch bynnag y troai ynddo. Yr oedd ei grefyddold'er dwfn a'i ysbryd eang, ei feddwl cryf a'i bersonol- jaeth gryfach, yn gymhwysterau arbennig Z- Z-1 ynddo ar gyfer gwaith mwyaf ysbrydol ei swydd, a bu yn arweinydd gwerthfawr i'r saint yn yr ystyr honno. Fel Y sgrythyrwr cadarn a diwinydd craff, bu yn athraw tra llwydd- ianus ac effeithiol yn yr Ysgol Sabothol am gyfnod maith, i'r hon y bu yn gefnogydd aicld- t71 gar trwy ei oes. Mewn dosbarth darllen gyn- helid yn Bethesda am naw bore Saboth, ac yn Gwylfa wedi hynny, efe bob amser fyddai yr athraw, ac nid elai byth i'r dosbarth heb baratoi yn helaeth a manwl. Deuai hufen gallu yr eglwys i'r dosbarth hwnnw, a threiddiai ei ddylanwad trwy yr eglwys oil. Parai gloewder ei feddwl, ei wybodaeth ea.ng o'r Ysgrythyr, yr eneiniad oedd ar ei ysbryd, a'i synwyr cryf, y byddai ei sylwadau yn y seiat yn ami yn wleddoedd godai y cyfarfod i dir uchel. Mawr y bias a'r boddhad a, gaffai wrth wrando'r Efengyl, a byddai ei wrandaw- iad astud a'i Amen gynnes yn fawr galondid i ambell bregethwr. O'nd os clywai bregeth heb lawer o Efengyl, a.c heb Grist ynddi, elai yn flin ei ysbryd yn y fan, a chai y pregethwr wybod hynny er ei ofid gyda byddai yr oedfa drosodd pwy bynnag fyddai. Fel sant uchelrvw mwynhai wleddoedd v s brydol Scion, a mawr werthfawrogai yr holl ragorfreintiau a berthyn i bobl Dduw, end ochr eu rhwymedigaethau apeliai ato ef gryi- af, ac ar honno y pwysai fwyaf. Gwyddai fod y saint yn feibion i Dduw, ond gwyddai hefyd eu bod yn weision, yn gaethweision. i Grist, ac yr oedd ef trwy ei oes yn llawn mwy o was nag o fab. Gwas oedd ef, ac yng ngwasanaeth ei Arglwydd yr oedd ei hyfryd- wch pennaf. Ni bu na segur na diffrwyth yn y winllan, ac ni feedal ddim cydymdeimlad a'r diog mewn unrhyw gylch. Efe a fu ffyddlawn yn yr holl dy megis gwas." Parai ei ffyddlondeb l'iv Dduw ac i'w achos y mynai fod yn brvdlon gyda phob peth. Rhaid oedd myned o'r ystafell i'r capel funud neu ddau cyn adeg dechreu y gwasanaeth, fel y byddai y pregethwr yn ei leerbyn yr amser; a phe digwyddai y gennad fod funud neu ddau ar ol, byddai Robert Jones ar ei draed yn rhoddi emyn allan. Yr oedd yn Fethodist o'r Methodistiaid, ac er na chlywid ei lais yn ami yn llysoedd uchaf y Cyfundeb, etc nid oedd neb a garai y Corff yn fwy, na neb ffyddlonach i'w holl symudiadau a'i holl drefniadau nag ef. Gosodai bob casgliad perthynol iddo ger bron y gynulleidfa yn deg yn ei amser mewn ysbryd cynnes, ac nid oedd eglwys o fewn y Cyfarfod Misol roddai yn well at y casgliadau hyn nag eglwys Bethesda yn nyddiau ei llwyddiant. Nid blaenor mawr yn mynnu He amlwg yng nghynhadleddau y Cyfundeb, a zll gadael pethau bach yr eglwys gartref i'w gwneud gan rai Uai oedd ef, eithr blaenor mawr yn gwir ofalu am yr eglwys gartref hyd yn oed yn ei phethau lleiaf. Er nad oedd yn ysgrifennydd yr eglwys, eto cadwai gyfrifon manwl o'i holl arian,achofnoclai yn fanwl bob digwvddiad ynglyn a hi, a gofynai i'w gyd-swyddogion wneud hynny h e f yci. Nid oedd ball ar ei haelioni. Mewn cym- ydogaeth oedd yn enwog yn y gras hwn, pan oedd yr amgylchiadau yn wahanol i'r hyn vdynt yn awr, ac ymhlith gwvr da iawn eu moddion, safai ef yn rhestr y tywysogion. Yn gvnnar ar ei oes darfu iddo cf, fel amryw wyr da 0 blith gweithwyr y cyfnod hwnnw yn y cymydogaethau hyn, benderfynu y cyfrannai ddegwm o'i enillion at grefvdd. Gwnaeth hynny, ac ychwaneg, trwy ei oes. Un cyfaill calon iddo oedd yn Ffestiniog' ar y pryd, ac a gytunodd ag ef i ddegymu ei enillion, oedd y diweddar Mr. Thomas Williams, CroesOr, gwr yr anghofiwyd ei lu cymwynasau lawer yn rhy rwydd gan rai fanteisiodd fwyaf arnynt. Heblaw cyfrannu eu hunain, ac annog eraill i wneud, ar yr un cynllun a hwythau, byddai gan y ddau rhyw gynlluniau lied ryfedd weith- iau, rhyw fath 0 driciau sanctaidd, er tynnu rhai eraill allan. Diywedai Mr. T. Williams ar un adeg fod cyfaill iddo yn addaw ^50 os casglai yr eglwys yng Nghroesor swm penod- ol. Efe ei hun oedd y cyfaill, ac wedi goriTen y casgliad anfonodd cheque i Robert Jones er mwyn iddb ei hanfon i Groesor, a chvfran odd yntau ei hun £50 at yr eglwys honro ar adeg arall. Un tro gwneid ymdrech neilltuol i glirio dyled Bethesda, a dywedodd Robert Jones fod cyfaill iddo ef yn addaw .£100 os casglai yr eglwys £ 400 erbyn rhyw amser penodol. Gwnaed y casgliad, a daeth y £ 100, end ymhen blynyddoedd wed'yn y gwybuwyd mai Robert Jones ac un arall oedd y cyiaiil. Vng ngrym ei ofal am yr eglwys ymweiai yn 4r fynych a'i holl aelodau. Ni bu ei hafal fel vrnwelwr, a chan faint ei dynerwch a'i gared- igrwydd, cyfrannai roddion sylweddol yn ami i rai caled eu byd. Y gwyn ni wyddai a chwiliai allan, a hawer gwaith y gwnaeth i i galon y wraig weddw lawenychu (,vda" rodd- ion hael. Hyd yn oed pan yn trigo ym Mhorthmadog, deuai i Flaenau Ffestiniog weithiau i ymweled ac i roddi. Nid oedd end gweithiwr, ond gweithiwr wedi ymgysegru b D i'w Dduw, a. D'uw wedi ei fendithio1 a rhoddi hamdden a mcddion am ran fawr 01 oes i'w wasanaethu Ef yn llwyr. Ond er ei dynerwch a'i garedigrwydd, gellid tybio ar y wyneb 0 leiaf mai nid dyna nod- weddion amlycaf ei gymeriad. Yr oedd yn ddyn cryf a pheth garwedd yn ei wedd, a llawer o grasder yn ei lais. Dyvvedai bethau cryfion « miniog iawn weithiau, ac oni bai gras gellid tybio mai gwr lied afrywiog ei ysbryd, ac anhydrin ei dymherau fuasai. Dvwedai bethau mor grylion a miniog weith- iau fel y dywedai un pur dda ei bwyll nad oedd yn bosibl peidio digio wrtho, ond cymaint oedd gonestnvydd a chywirdeb ei natur, ac uniondeb ei amcanion, fel nad oedd yn bosibl peidio maddeu iddo yn union. Yr oedd ei gymeriad mor gyfan a gloew fel nas gallai neb o'r rhai aent dan ei geryddon estyn bys ato. Meddai ddigon o nerth i ddwevd y gwir wrth ei gyd-oeswyr, ac nid ei ddweyd yn y ffcrdd esmwythaf, cithr yn y ffordd y byddai debycaf o gael yr argraff briodol. Ni sisiai yn wyneb undyn, a dywedai y gwir yn y ffordd fwyaf miniog yn ami. Mewn seiat unwaith ymddiddanai a gvvraig oedd yn nodedig am ei hesgeulustra o foddion gras. -We], beth sydd gennyt ti heno? meddai. Dyma yr adnücl sydd ar fy meddwl i, Robert Jones: Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dy Dduw,' &c." Dyn a dy helpo di, raid 1 ti wylio fawr ;d'wyt ti ddim yn clod i'r ty ond yn anaml iawn." Pan oedd gwr led an- wastad el ffyrdd, ac a arferai gael ambell ffit 0 wrthgiliad, yn dychwelyd yn ol i'r eglwys un tro, dywedai Robert Jones wrtho, Hwn- a-hwn, gwylia farw mewn ftit." Cyn dyddiau yr envelopes, pan arferid galw enwau yr aelodau noson y casg'l misol, gofalai Robert Jones am lyfr y bechgyn ieuainc. Deuai ambell lane ymlaen, rhoddai swllt i lawr gan ofyn am chwech yn ol. Chwech yn ol? meddai yntau, "dylit roddi hwn i gyd," ac elai y llanc vnol yn ben isel heb ei chwech, Dywedai bethau mor blaen a chlir fel y deallai pawb ef, ac y teimlent oddiwrth yr hyn a ddy- wedai, a galiai roddi cy"nghoriol1 o werth ymhob amgylchiad. Arferai gynghori par ieuanc newydd briodi, os punt fyddai ganddynt i be;dio g-wario pum' swllt ar hugain. Ar doriad allan y rhyfel yma anogai yn gryf i gynhildeb a darbodaeth. Arian parod yn y living pictures, a bwyd ar goel yn y siop: thai peth fel yna ddim," meddai. Medrai daro yn drwm, ac ni phetrusai wneud pan welai eisiau. Yr oedd ei wyneb fel callestr yn erbyn pob ffurf ar bechod, ac yr oedd yn ddychryn i weithredoedd drwg". Byddai ei arswyd i fesur ar ieuanc a hen yn y cylch, ac eto nid oedd neb tynerach wrth yr eiddil a'r gwan, na neb mwv ymdrecbgar a medrus i clvnnu yr ieuenctid ymlaen i waith cyhoeddus yr eg- hvys. Yr oedd morryf ac mor llawn o fywyd fel y cyfrannai ei ysbrydiaeth i bawb o'i gwmpas. Trwy ei "ddylanwad ef yn bennaf cododd eglwys Bethesd'a i fri mawr, ac y mae ei ddelw yn amlwg -,i,rni yn ogystal ag ar yr eglwys ieuanc yn GwyHa. Perthyn i'r ddwv eglwvs nifer o swyddog-ion rhagorol sydd wedi yfed vn helaeth o ysbryd yr hen wron vmadawedlg. Bu ei ysbryd yn hoew a'i arfau N, n loew yn v gwaith hyd fore Saboth, Hydref 31, pan yr ehedodd ei ysbryd at Dduw vr hwn a'i rhoes, ac efe yn 96 mlwydd oed. Gadaw- odd o'i ol wTeddw fu vn drae-ofalus o hono a thyner wrtho, ac eg-lwys a chyrnvdo^aeth gyfan mewn galar. Rhodd Duw i Ffestiniog oedd Robert Tones, a chvflawnodd ei o-enhad- aeth yn ffyddlon. fel y bvdd ei ol er daioni yn aros ar y gymydogaeth am amser hir i ddod. Dvnion o'i fath ef wedi eu codi sran Dduw wnaeth Fethodistiaeth v fath allu yn y wlad. Cyfoded Duw lu o rai cyffelyb iddo eto.

--- --- -ER COF.