Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
GCTHEBIAETHAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GCTHEBIAETHAU. (Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am syniadau yr ysgrifenwyr).
CYMRAEG YN Y COLEGAU DIWINYDDOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMRAEG YN Y COLEGAU DIWINYDDOL. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,-Da iawn gennyf am lythyr Gwr o'r Wlad," yn eich rhifyn yr wythnos o'r blaen. Gwasanaetha yn rhagorol i ddwyn y drafodaeth hon i derfyniad boddhaol, drwy ddangos yn eglur y modd y lladdodd y gwir ac y gyrrodd y sawl sydd yn awchus am ddifrio eu gwell i geisio gwneud hynny o ddiogelwch tybiedig y tu ol i'r clawdd." Yr eiddoch, &c. Fforest Fach, W. RAWSON WILLIAMS, Abertawe. CAPLENIAIDMETHODIST AIDD. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr.—Dymunaf gywiro y rhestr o'r Caplen- iaid Methodistaidd ymddangosodd yn y Goleuad bythefnos yn ol. Gadawyd allan enw y Parch. B. Ceitho Davies, brawd y Parch. J. Gwynoro Davies, o'r rhestr. Mr. Davies oedd y Caplan ymneilltuol cyntaf apwyntiwyd gan y Swyddfa Rhyfel, a hynny ar gymeradwyaeth y Parch. Rees Evans, Llywydd y Gymanfa Gyffredinol. Bu Mr. Davies gyda milwyr yn Northampton, Cambridge, a Bedford, a thra yn y lie olaf apwyntiwyd ef y Caplan Ymneilltuol cyntaf yn Park Kinmel. Ymddengys ei enw yn yr Army List, a gyhoeddir yn fisol, fel Caplan y Methodist. iaid Calfinaidd. Yr eiddoch, &c., A.B. MYNED DROSODD. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Darllenais Ddatganiad y Parch. John Williams, Brynsiencyn, ar y rhai sydd wedi gadael y M.C., i fyned i'r Eglwys Sefydledig. Yr wyf yn un o'r rhai sydd wedi myned drosodd, ac yn teimlo braidd yn small am nad yw Mr. Williams yn cyfeirio o gwbl at y dosbarth arall llawn lluosocach na'r tri a nodir ganddo. Gwyr Mr. Williams fod mwy wedi gadael y M.C. oherwydd trahauster ac anghyfiawn- der ychydig bersonau sydd yn siarad ac yn rheoli fel pe mai hwy fyddent yr Enwad. Gallaf anfon rhestr gyflawn, i chwi o bob gweinidog sydd wedi-gadael y M.C., yn Ne a Gogledd Cymru y 25am mlynedd di- weddaf, a gwn pa beth oedd y rheswm ymhob achos. Nid oes ond dau neu dri yn dyfod i mewn dan dri phen Datganiad Mr. Williams. Daw y nifer luosoc- af, fel fy hunan, i mewn dan bennawd arall fuasai yn gwneud "pedwerydd pen" mae anghyfiawnder pwyllgorau, ac ymddygiad rhai personau, wedi gwneud yn amhosibl i rai o honom barhau yn aelod- au o'r Cyfundeb. Gwnaed pethau ynglyn a Choleg- au y Cyfundeb, a materion eraill y gallwn eu henwi, nas daliant oleuni dydd. Pa bryd y ceir Datgan- iad ar y pethau hynp Yr eiddoch, &c., Y PEDWERYDD DOSBARTH. [Bu raid gadael allan rannau o'r llythyr uchod, ac enwau amryw bersonau. Nid yw y sicrwydd a rodda ein gohebydd fod y ffeithiau yn hollol gywir, yn cyfreithloni y cyfeiriadau at bersonau byw, nac yn cyfiawnhau ei ymosodiad ar berson. au sydd wedi marw.—GOL.]. CYNHALIAD Y WEINIDOGAETH. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Mr. Evans.—Pwnc mawr y dydd yn y byd Methodistaidd y dyddiau hyn yw Cynhaliad y Weini- dogaeth, ac y mae yn anhawdd meddwl am ddim mwy pwysig ac amserol. Mae yn ddigon i waedu calon pob dyn ystyriol i feddwl am y wasgfa a'r c.aledifl oedd y cewri a gododd y Brenin mawr i adnewyddu wyneb y wlad ynddo, pan yn cyhoeddi gair y bywyd. Meddylier am Morgan Howells yn myned yn fethdalwr, ac yn gorfod gwerthu ei holl ddodrefn, hyd yn oed ei lyfrau, a thrannoeth wedi yr arwerthiant yn gweld fod ei gyfrwy heb ei werthu, ac yn ei gario ar ei gefn am filltiroedd i'w roddi i fyny i'w ofynwyr. Neu, meddylier am' John Elias yn ei syched am wybodaeth, yn crafu yr ymenyn oddiar y bara i wneud lamp fechan i gael ychydig o oleuni i ddarllen ei lyfrau wedi amser gwaith. A llu o enghreifftiau eraill o'r un natur a ellid enwi. Nid yn unig yr oedd angen yn eu gorfodi i weithio fel caethion, ond yr oedd rheolau y Gymanfa yn gofyn i bob pregethwr fod a gwaith neilltuol ganddo er mwyn ei gadw rhag treulio bywyd segur. Ond eto, dyma y dynion a ddefnyddiodd1 y Pen Mawr i droi y wlad o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw. Efallai mai y cam cyntaf yn yr iawn gyfeiriad a gymerwyd oedd darparu yr Athrofeydd i gynorth- wyo y pregethwyr ieuainc i gasglu gwybodaeth. Yr oedd hynny yn angenrheidiol y pryd hynny, am nad oedd ysgolion teilwng o'r enw yn y wlad, a llyfrau, a moddion addysg yn brin; ond mae y Llywodraeth yn awr yn darparu fod addysg uwchraddol o fewn cyrraedd pob plentyn yn y deyrnas. A thua yr un adeg fe ddechreuwyd agor llygaid yr eglwysi i weled mai teilwng i'r gweithiwr ei gyflog, ac yn fuan fe ddyblwyd arian y weinidogaeth. Ond ar ol dechreu troi yn ol i'r iawn gyfeiriad, mae yn ddigon posibl ein bod wedi myned yn rhy bell i'r ochr arall. Os gadewir y pendulum yn rhydd, mae yn naturiol iddo fyned i'r un pellter dros y canol i'r ochr wrthgyferbyniol. Ar ol cael Athro- feydd yni gyfleusterau i'r rhai allant fyned iddynt i gasglu gwybodaeth, fe basiwyd penderfyniad fod yn rhaid i bob un oedd ai wyneb ar y pulpud i fyned yno trwy yr Athrofa; ac os na allai basio drwy yr Athrofa, yr oedd drws y pulpud yn gauedig rhagddo hefyd. Ac ar ol goleuo y wlad fod eisiau cyfrannu mwy at y weinidogaeth er mwyn cynorthwyo y preg- ethwyr i fyw, fe ddechreuwyd gwaeddi na ddylai y pregethwyr weithio o gwbl, a'i bod yn salhad ar weinidogaeth yr efengyl i'r gweinidogion i weithio, ac y mae wedi ei benderfynu eu bod i fyw yn llwyr ar y weinidogaeth. Mae yn ddigon posibl fod y pender- fyniadau hynny wedi tueddu rhai nad ydynt yn hoffi gweithio, i edrych at y pulpud fel sefyllfa esmwyth ac anrhydeddus, na feddylient ddim am dano pe byddent byw yn nyddiau ein tadau. Yn awr, pwnc mawr y dydd yw gwneud casgliad mawr, digon mawr i roi minimum wage anrhydedd- us i'n holl bregethwyr. Amcan gwir deilwng a chan- moladwy. Pwy sydd yn haeddu cael mwynhau hufen y greadigaeth fel y dynion hynny sydd yn treulio eu hamser a'u nerth i wella y byd P Ond, a wneir ef? Nid wyf yn gweled paham na ellir ei wneud. Mae digon o arian yn y wlad eto, er gwaethaf y rhyfel a phob peth. A phwy a glywodd erioed am yr Hen Gorff yn methu gwneud rhywbeth ar ol iddo feddwl am danop Mae yn rhaid iddo gael amser i feddwl, ond ar ol iddo wneud ei feddwl i fyny, beth a saif o'i flaen? Yr wyf yn credu ar ol iddo feddwl y pwnc hwn yn drwyadl, y cyflawna efe ef yn anrhydeddus. Yr wyf yn gweled wrth y cynllun mai yr amcan ar ol gorffen y casgliad yw talu y gweinidogion o un gronfa fawr ganolog. Ond, oni ddylai yr eglwysi gael llais yn y taliad yn gystal ag yn y casgliad ? Pe digwyddai fod gwas anfuddiol ar ryw eglwysi, oni ddylai fod gan yr eglwys honno rhyw, gyfle i ddweyd nad yw hwnnw yn haeddu ei gyflog? Mae y Llywodraeth Wladol yn darparu dynion i fyned trwy yr ysgolion dyddiol i weled fod yr ysgolfeistr yn gwneud ei waith, ac fod yr ieuenctid yn cael eu haddysgu yn briodol. Oni ddylai fod rhywbeth tebyg gyda chrefydd Ond mae y pwnc wedi dechreu hongian, ac mae yn bosibl na ddaw i ben. Byddai hynny yn drychineb tost. Mae yn ddifrifol i feddwl fod neb o deuluoedd ein gweinidogion mewn amgylchiadau gwasgedig. Ond, beth a ellir wneud? Onid gwell a fyddai i ni i sefyll ar y ffyrdd, a gofyn am yr hen Iwybrau, lie mae ffordd1 dda, a rhodio ynddi? Onid gwell fyddai i'r Gymanfa annog y gweinidogion: hynny sydd mewn amgylchiadau cyfyng i weithio yn lie ymddibynnu yn llwyr ar y weinidogaeth? Fe fendithiodd y nefoedd yr hen ffordd i godi enwad newydd yng Nghymru, ac i achub miloedd lawer o'n cyd-genedl. Yr ydym wedi cael digon o brawf ar y ddwy ffordd erbyn hyn i farnu pa un o honynt oedd yn gweithio yn fwyaf llwyddiannus. Mae ein dynion llafurus a blaenllaw yn cael eu talu yn anrhydeddus yn awr, ac am y rhai sydd yn gyfyng arnynt, Beth allai fod yn well nag fod rhyw alwedigaeth fydol ganddynt i'w cyn- orthwyo i fyw uwchlaw angen? Mae dynion yn brin, a'r cyflogau yn uchel, ac mae llawer o'n gweinidogion yn ddynion cryfion, iachus, ac wedi cael yr addysg oreu, ac yn gymwys at un. rhyw waith, corff neu feddwl, a beth allai fod yn fwy prydferth na'u gweled yn gwneud eu goreu i gynorthwyo eu gwlad yn y cyfwng presennol, thrwy hynny wella eu hamgylchiadau eu hunain. Gweithio yn ddianrhydedd ar y weinidogaeth yn wir! I Mae yn fil mwy o ddianrhydedd iddi eu gweled yn chwarae ar y meusydd, pan y mae y wlad fel yn myned tua dinistr. Yr oedd yr hen gewri gynt yn gweithio, ac yn argyhoeddi y miloedd yr un pryd. Yr oedd yr Apostol Paul yn gweithio. Y dwylaw hyn a wasanaethasant i'm cyfreidiau i, a'r rhai oedd gyda mi. Nid oherwydd nad oes gennym awdurdod, ond fel y'n rhoddem eih hunain yn esiampl i chwi i'n dilyn." A'r gweithiwr mwyaf o bawb oedd yr Arglwydd Iesu,-nid oedd Ef yn cael hamdden i fwyta bara. Ac fe adawodd yntau i ni esiampl fel y canlynem ei ol ef. Hyderwn y caiff yr ystyriaethau hyn le priodol yn ein meddyliau. Tyddewi. D. EVANS, EFRYDWYR DIWINYDDOL A'R RHYFEiL. AT OLYGYDD Y OYWRO. Annwyl Mr. Evans,—Cyfieithiais v li'ythyr a gan- lyn am y teimlwn y buasai yn dda gan liaws o werin Cymru ei ddarllen. Dengysi hefyd i'n harweinwyr crefyddol (yn fwyaf neiettuol arweinwyr y Method- istiaid) fod dwy ymiyl i bob dalen, ac nad yw ddoeth i fyrbwyllo er i'r awr fod yn ^yfvng. Ofnwn y bydd yn edifar gan laweratri ei geiriau a'i gweith red oedd, brysliog Tn yr argyfwng presennol. Teimlwn ni fod gan y myfyrwyr sydd yn aros ar oil rhesymau cryfion dros beidio a, newid eu llwyihr ond cerdded rhag- ddynt heb wrando ar dwrw y lliaws sydd wedi hanner-wallgofi yn y terfysg. LLAIS O FRYCHEINIOG. Y 'COLEGAU AC YMRESTRU IGOLYGIADAU PEDWAR PRIFATHBO. At Olygydd y Christian World." Syr,—Gan gyfeirio at lythyr y Dr. Griffith Jones, a -gawn in ddweyd fod yr un rhwyddineb wedi ei ddangos y tymor hwn a'x diweddaf yn y colegau a gynrychiolwn ni. Ndd ymddangosai yn angenrheid- ioCi i gyhoeddi y ffaith. Ond wedi i'r malter gael ei godi, cymerwn gyflei wneud sylw neu ddau. i. Daeth ein myfyrwyr yma mewn ufudd-dod i alwad ddwyfol, y sydd, ynghyda'r paratoad ar ei chiyfer, yn wahanol 0 ran ei natur i bob galwedig- aeth arall, mewn gwerth dwyfol a chyffredinol. Mae hwn yn fater pwysig, y mae ar y cyhoedd liawer o angen arweiniad arno, er y rhwystra gofod ymdrin ag ef yma. Ond, a hon yn ffaith, nid mewn moment nac mewn cyfan-gorff y gellir teimlo ffurf arall ar alwad yn ei difreinio, hyd yn oed, dros amser, a hwnnw yn adeg llunio bywyd. Argyfwng enbyd yw hwn i feddyliau di-brofiad. Ca':ed yw i'r doeth fesur cyfwng arswydus' y byd, caletach yw ei gymwyso yn ymarferol at broblem y byd i'r eglwys^—y broblem '9 yr ymgymera y weinidogaeth £ hi. Beth ydyw, ynte, i'n gwyr ieuainc? Y mae y ffurf newydd o alwad arnom, yn wir, o'i ystyried, yn ddigon difrifol i ail- godi holil gwstiwn perthynas yr Eglwys a'r Wladwr- iaeth, ac eiddo y weinidogaeth a phob galwedigaeth arall, ac hefyd, a'r Eglwys ei hun. Gwrthodwn y j nodyn Erastaidd. Nid clwb crefyddol yw yr Eglwys j y gellid ei ddiddymu fell newyddiadur i amcanion j cenhedlaethol a chymeryd meddiant o'i weision. J Rhaid yw cyfarfod a'r posibilrwydd o wrthwyneb- j ydd cydwybodol, a'i ffyrdd o wrthddadleu. Ac o j safbwynt defnyddioldeb nid yw y weinidogaeth yn un o'r ffurfiau hynny ar weithgarwch y galli cym- deithas eu hebgor yn rhwydd ac nid diogel fai torri • ar ei phrentisiaeth. Gellid yma godi holl gwestiwn j rhyddid ysbrydol. Cofier mai gorchest-dwyil dyfal J Bygantaidd y Waldwriaeth a ddechreuodd ar waith S Luther yn gorseddu y tywysogion, a barlysodd dyst- iolaeth foesol a phroffwydol yr Eglwys Germanaidd j ar giyfiawnder cyffredinoj. i (2) Mae pob un o'n colegau yn gyfrifol am bwl- j pudau eglwysi mewn pentrefi cylchynol (mwy nag ugain ohonynt gyda'u gilydd) na alliant gynnal bug- ail. Yn hyn y mae y myfyrwyr yn fwy na myfyr- wyr. Y maent mewn rhan yn fugeiliaid am y bydd- ant yn nregethu ac yn ymweled. Ni thai cyfateb Jj colegau nad ydynt ddiwinyddol yn y fan hon. Nid gwaitih coilieg yn unig a wnawn ni. Pe ceuid y col- egau, peidia addoli ym mwyafrif yr eglwysi gwledig f, hyn. Ac ergydir hwy yn rhy drwm i ni eu hamddi- fadu o'r fath gynhaliaeth foesol. At hyn rhaid ychwanegu llenwi pulpudau gweinidogion sy'n sSH neu yn y rhlyfel. Ac yn gyffredinol, wedi y rhyfel, bydd yn rhaid i ni wrth lawer o arweiniad- moesol a nerth Cristionogdl, a hynny am gryn amser a dyl- em fod yn ofalus rhag torri ar yrtfa a nifer y becb- gyn sydd wedi eu paratoi yn addas i'w rhoddi. Bydd yn llai nag erioed yn ddydd i'r gwyr nad ydynt hyddysg mewn hanes, moes, ysgrythyr ac egwydd- orion yr Eglwys. 3. Eto, galfi y clerc, y siopwr, neu y crefftwr adael ei waith am ysbaid a dychwelyd ato gyda'r un medr ac y gadawodd ef. Blwyddyn o golled yw blwydd- yn wedi ei choCili iddo ef. Ond pan symudwch o ganol ei gwrs fyfyriwr a ddaeth, fel y mwyafrif o'n heiddio ni, i astudio wedi treulio pum' mlynedd mewn busnes, golyga blwyddyn yn y fyddin ddwy neu dair wedi eu colli. Drwy Clafur di-arbed am dair blynedd yr enillodd a wyr, diywedwn, o ieithoedd. Ond yn ei oed ef, ni lynna gwybodaeth fel y gwnai yn gynnarach ar ei fywyd. Diflanna yn fuan os na fydd diwedd rheolaidd ei gwrsl wedi ei sefydOu. Bydd yn rhaid iddo, gan hynny, pan ddychiwela, ail-wneud llawer a wnaeth o'r bCiaen, ac yn hanes rhai, ail- gychwyn o'r dechreu. Wrth roddi i'n myfyrwyr rwyddineb i ymrestru'n wirfoddol (a wnawn yn hapus), golygwn, wrth gwrs, y ceisiwn lai oddiwrt'h- ynt wedi dychwelyd ohonynt. Drachefn, gaB an- hawster godi am mai casglu digom o arian ar gyfer rhyw dymor o efrydiaeth yn unig a wnaeth y myf- yriwr, ac y bydd ei adnoddau yn pallu oherwydd estyn neu ohirio y tymor hwnnw. Am y rhesymau hyn, ac eraill, nid yw ryfedd y dylai penderfyniad y myfyriwr fod yn fwy pwylllog nag eiddo arall. 4. Hawdd yw cau coleg pan fydd y myfyriwr yn byw allan. Pan drigant yn y coleg rhaid ystyried llawer peth—un enghraifft yn unig—nifer o weision a morwynion a gaslglwydi ac a hyfforddwyd i gyd- weithio'n galonnog drwy ddewisiad Kynyddoedd. Haws atal gwaith y byddis yn ei roddi allan 11a chau ffactri. Fel mater o ffaith, y mae lliaws o fyf- yrwyr wedi myn'd i'r fyddin, nifer i wasanaeth y Y.M.C.A., y mae rhagor yn myn'd, cefnogir pawb, ac hwylusir pethau os ant. Ond geilir gwahodd yr eglwysi i ochel barnu'n ysgubol ac yimgynghori a pnrofiad fel cymorth i'w sel. P. T. FORSYTH. A. E. GARVIE. W. B. SELBIE. W. H. BENNET.
LLANAFAN-Y-TRAWSCOED.;
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANAFAN-Y-TRAWSCOED. Cymdeithas Lenyddol.—Nos Iau diweddaf y 18fed cyfisol, traddodwyd darlith i'r Gymdeithas uchod gan Mr. H. H. Herring, Ysgolfeistr y lie, ar Hen Gastelli Cymru." Yr oedd y dardithydd yn ei hwyl- iau goreu ac yn ymwneud a'r pwnc mewn dull byw ac addysigiadol. Mawr werthfawrogir gwasanaeth Mr. Herring bob amser mewn cysiylltiad a'r Gymdeithas Lenyddol, a pharod ydyw bob amser i gymryd ei ran yn ei chyfarfodydd, a'r noson hon cafwyd gwledd o'r fath oreu; tarawiadol iawn ydoedd y cyferibyn- iad a wnai y Darlithydd rhwng amddiffynfeydd y gorffennol, a'r rhai presennol, a'r cyfnewidiad mawr sydd wedi cymryd lie erbyn hyn yn yr arfau dinysitr- iol, i ddinystrio amddiffynfeydd. Clir anarferol yd- oedd ar y gwahanol ddulliau o gastelli a adeiladwyd yng Nghymru, a'r gwahanol amcanion ydoedd idd- ynt; hefyd newydd iawn ydoedd y sylw flod rhai o Gastelli Cymru ymysg y Thai godidocaf yn Ewrop, a. bod iddynt hanes ag a fyddai yn werth i bob! ieu- ainc ei astudio. Am tua dwy awr o amser, cad- wodd y darlithjydd y gwrandawyr mewn hwyl hyfryd, a phawb yn teimlo yn falch fod i'w cenedl a'i hynaf- iaid hanes, a gwroldeb di-hafal. Diweddodd y ddarlith trwy adrod-d hanes, hen Gastelli Aberys- twyth ac Ystradmeurig. Dyddorol ydoedd olywed fel yr oedd yr hen Gastelli yn noddi ac yn achlysur 1 .godi trefydd o dan eu nawdd a'u hamddiffyn yn gyff- redin iawn, ac yn ami dinystrid y trefydd hynny pan y byddai y Castell yn syrthiio. Dygwyd y igweithrediadau i ben trwy i Mr. Tom Edwards, DoI-. for, gynnyg pleidlaisi o ddiolchgarwch gwrestog i Mr. g' Herring am ei ddarlith nagoroll Eiliwyd gan Mr. J. Hughes, Bronowm. Arweiniwyd Hen Wlad fy Nhadau gan Mr. J. D. Jones, Gwargeulan, yr hyn & ddiygodd un o'r cyfarfodydd mejusaf a hyirytaf i ben,