Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
MIARW - GOFFA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MIARW GOFFA. MARWOLAETH MR. WILLIAM JONES, Y.H., ABIERDYFI. Gyda gofld a hiraeth yr ydym yn hysbysu am farwolaeth yr hen flaenor ffyddlawn, Mx. William Jones, Y.H., yr hyn gymerodd le yn ei breswylfod fore Saboth, Tachwedd 28, 1915, ap ol cystudd maith a ohaled, ond dioddefodd y cwbl heb rwgnach, ac ni frysiodd yr hwn a gredodd." Ceir nodiadau hclaethtach etc. Cymer y gladdedigaeth le dydd Iau nesaf, !Rhagfyr 21I. Cynhelir gwasanaeth yn y capel am 1.30 o'r gloch, pryd y cymerir rhan gan amryw weinidogion ac eraill. Yna ffurfir gorym- daith tua'r g,laddif.a gyhoeddus. >MARW;OLAETIH MR. RICHARD JONES, iLLYFiR- WERXHWR, ABERANGELL. No Iau, wythnos i'r diweddaf, yn ei il'ety yn Aber- angeli, bu farw Mr,. Richard Jones, yn 67 mlwydd Qed ;-un .o'r dynion mwyaf adnabyddus1 a pharchus, drwy Faldwyn a Meirion fel llyfrwerthwr teithiol. Flynyddoedd yn ol, cafodd anwyd trwm pan ar un o'i deithiau, a gl'ynodd wrtho hyd y diwedd. Pall- odd ei nerth yn raddol, a theimlai fod y diwedd yn nesu. Teimlai hefyd, yn awyddus am i'w Dad Nefol ganiatau iddo fyned adref cyn y gaeaf." Cafodd ei ddymuniad. Cafodd angladd parchus iawn ddydd Llun. Gwasanaethwyd wrth y ty igan y Parchn. D, Cunllp (Davies, a J. Williams, IB.A., Carno. Yng nghapel Cemmaes cynhaliwyd gwasanaeth dan ar- weiniad y Parch. R. W. Jones, AberangeH,-un fu yn gyfaill ac yn gefn i'r ymadawedig yn ei ddyddiau blinion olaf. Cymerwyd. rhan gan y Parchn. D. Davies, Saron; J. Williams, Sion; J. Christmas Lloyd, Corns; R. C. Evans, Sammah; D. CunUlo Davies; Mri. Thomas Breese, Aberangell; W. Ed- wards, Gwastadgoed; D. Ivor Jones, Y.H., Corris Wrth y bedd gwasanaethodd y Parchn. W. R. Rob- erts, R-hydyfel-in, ac E. B. Roberts (W.), Tycerrig. Bydd erthygl gan Mr. Hugh Davies, Machynlleth, ar Mr. !R. Jones a'i w-ai-th yn y rhifyn nesaf o'r CYMRO. Yr oedd Mr. Jones yn frawd: i'r Parch. Robert Jones, Alberdyfi.
MARWOiLAETH A CHLADDEDIGAETH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOiLAETH A CHLADDEDIGAETH Y DDI- WEDDAR IMRS. GRIFFITH, GWRAIG Y PARCH. W. T. GRIFFITHS, CAERAU, MAESTEG. Prynhawn ddydd Mercher y iofed o'r mis hwn, yn hynod o sydyn, bu farw y wraig dda a rhinwedd- ol uchod. Bu hi yn fregus ei hiechyd am rai blyn- yddoedd gan ddolur y galon a'r bronchitis, ac am rai misoedd nid oedd yn alluog i fyned o'r ty. Ond daeth y diwedd yn sydyn ryfeddou, tra yr oedd hi yn eistedd yn y gadair, ym imhresenoldieb ei hannwyl briod. Yr oedd Mrs. Griffiths yn wraig a fawr berchid gan bawb a'i hadwaenai. Bu ei thy yn gartref gweinidogion am flynyddoedd lawer, ac nid oedd dim a roddai fwy o fwynhad iddi na gweini ar weision yr Arglwydd. A thystiolaeth ddieithriad y,gweinid,og,i,on yw, na dder.bynasant fwy o gariedig- rwydd nag a gawsant ar law Mrs. Griffiths. Yr oedd hi wedi profi ei bun yn wraig gweinidog ddi- gymhrar. Gofalai gyda'r manylwch mwyaf fod am- gylchiadau y ty yn fanteisiol i'w phriod gyfiawni ei waith fel gweinidog a bugail. Gallai ef fynd a dod pryd mynai yn gwbl ddibryder gan ei bod hi yn gofalu am amgylehiadau y teulu :g'yda'r manylder mwyaf. Gwraig o ysbryd tawel a hynod o ddirod- res ydoed-d Mrs. Griffiths, a pherarogl hyfryd cref- ydd a duwioldeb ar ei holl fywyd. CCladdwyd hi ddydd Sadwrn diweddiaf yng nghladdfa gyhoeddus Maesteg. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parchn. D. Howells (B.), a Wm. Thomas, Tabor, Maesteg, ac ar lan y bedd.-gan y Parch. Wm. Thomas. Gwelsom y gweinidogion c,anlynol. yn bresennol:—Parchn. Wm. Thomas, J. iDykins, T. H. Morgan, D. HoweOIs (B.), T. J. Hughes, (iB.), W. E. Probert (A.), W. Morgan (B.), Tywi Thomas (B.), J. Rees (A.), Rob- erts (W.), a Jones (P.M.). Ymysg y galarwyr yr oedd y Parch. W. T. Griffiths, M.ri. W. T. Griffiths, James Griffiths, a Lewis 'Griffiths (,meibion); Mrs. Evans, Mrs. Bevan, Mrs. Waldin (merched). Yr oedd hefyd nifer fawr o berthynasau o Gwmaman a Sir Aberteifi yn bresennol. Yr ydiym yn cydymd'eimlo yn ddwys a Mr. Griffiths, yr hwn sydd erbyn hyn wedi pasio ei 74 mlwydd oed, ac yn bur llesg. Dy- munwn amddiffyn y Brenin mawr drosto, a llawer iawn o gysur yr efengyl y mae ef wedi ei phregethu am yn agos i 50 mlynedd. MARWOLAETH MR. WILLIAM JONES, SiEACOIMBE. Tachiwedd 14, yn 5, Mollin,gton iRd., yn 59 oed, bu farw Mr. William Jones, (Mainwaring Estate), ar ol misoedd o waeledd. Daeth i Lerpwl yn ddyn ieu- anc o Bryngwran, Mon, ac ym.ae(Iododd yn Chatham Street. Dechreuodd adeiladu igyda brodyr eraill, a symudodd i Liscard. Bu yn weithgar gyda chrefydd ar hvd ei oes, ac yn 1913, etholwyd ef yn flaenor. Cyfranai yn haelionus at yr achos, ac at bob achos. da (yn ddistaw heb i neb wybod). Dygai fawr sel dros Demlyddiaeth dda, ac yr oedd yn cymryd dyddordeb mawr yn y Cyfundeb, ac yn ed- mygu cewri y puJpud o'i sir enedigol, ac aetihai gryn bellter o ffordd i'w clywed. Ar un adeg bu, galw arno fed Cadeirydd i wahanol gyfarfodydd, a chyf- rannodd yn dyw,ysogaidd-da-w dau adeg i'm cof yn awr-Chatbam Sit. L5, Laird St. £10. Collodd ei fam yn bur ieuanc, a bu am dymor yngwasanaethu mewn ffemnydd, ac aeth drosodd i America. Wedi dychwelyd ymunodd a'r diweddar Mr. J. J. Evans, Liscard, a Mr..David Evans, a daeth yn adei'ad- ydd llwyddiannus. Aethpwyd a'i weddillion i Bryn- fwran ddydd 'Mercher, Gwasanaethwyd gan y Parchn. Lodwig Lewis, ei "weinidog, W. H. Jones, Hebron, ac R. Thomas, Bontnewydd; Mri. Row- lands, Bryngwran, a David Evans, Birkenhead. Tystid i'w gymeriad dilychwin a'i rodiad cywir. Yn ychwanegol at yr uchod aeth ei gyd-swyddogion Mri. Richard Evans, 'LeWl'Si 0. RowOands, a Robert Jones a Air. Hugh Hughes, Chatham St., i'w ang- ladd i Bryngwran. Yr oedd yno dyrfa fawr wedi ymgasglu i'w angladd. Gadawodd yn ei ewyllys y slymiau £ 2,500 i Bryngwran tuag at sefydlu ysgol- oriaethau o f40 y flwyddyn i blant yr ardal. £ 20 yn flynyddol i'r tlodion a'r gweddi':ll o'r Hog i eg- lwys Hebron. £ 1,000 i Gartref Bontnewydd. 45bO i Genhadaeth Dramor v M.C. i Ddosbarthi Sylhet- He y llafuria y Parch. J. W. Roberts, B.Sc. £250 i'r Genhadaeth Gartrefol..4250 i'r Forward Move- ment. -f500 i Chatham St. £oo i Liscard Rd., a £750 er pwrcasu organ, a symiau eraill i'w deu']iu, Yn ychwanegol at y symiau uchod y mae y residue i'w rhannu eto rhwng y gwahanol ^vmdeithasau. Ei ymddiriedolwyr ydynt Mri. David Evans, Birken- head, Robert Jones, Seacombe, a Hugh Hughes, Chatham St. MARWOiLAETH MR. JAMES ADAMS, Y.H., CILGERiRAN. Chwith gennym gofnodi marwolaeth Mr. James Adams, Y.H., Gulanteifi, Cilgerran' yr hyn gymerbdd le nos Fercher Tachwedd 17eg, ac yntau yn 70 ml- oed. Dioddefodd gystudd caled yn dawel a di- rwgnach. Mae bwlch mawr ar ei ol yn eglwys y Babell', He y bu am flynyddoedd. jawer yn flaenor a thrysorydd. Hyd nes y lluddiwyd ef gan afiechyd, bu yn ffyddlon iawn i holl gyfarfodydd y cysegr. Pan yr oedd y capel presennol yn cael' ei adeiladu mewn ystafell perthynol i Mr. Adams, ac yn ymyl ei dy, y cynhaliwyd cyfarfodydd yr eglwys. Teithiodd C'awer gyda'r diweddar Barch. J. Griffiths, i gasglu at y capel, a chyfranodd yn haelionus ei hunan tuag ato. Yr oedd wedi ei f-endithio yn hielaeth a'r gras 0. letygarwch. Mae Glanteifi yn adnabyddus i lu mawr o weinidogion y IGair. Cymerai Mr. Adams pdyddordeb mawr yn y bob! ieuaine, a hyfrydwchi mawr iddo oedd eu gweled yn gafael1 mewn gwaith crefyddol. Nid gwaith hawdd yw siariad, hyd yn oed a iphob blaenor am bethau ysbrydol; gwell gan ambell un siArad am bethau allanol ac amgylchiadol yr achos ond nid felly Mr. Adams. Ni theimlem anhawster i ymddiddan ag ef am sylweddau mawr crefydd. Ymddangosodd torf dda o iberthiynasau a chyfeill- ion yn ei angladd ddydd Mawrth, Tachwedd 23ain. Gweinyddwyd yn y ty gan y Parchn. T. Lamb, Mor- fa ac A. H. Rogers. iCynhaliwyd gwasanaeth ang- laddol yn y capel dan arweiniad y gweinidog, pryd y sianadwyd gan y Parchn. G. Morgan, Dinas, J. Williams (!B.), Aberteifi, Dr. Moelwyn Hughes, a T. Lamb. Terfynwyd: drwy weddi gan y Parch. D. Richards, Llandudoch. Yr oedd hefyd yn bresennol Parchn. R. H. Williams (A.), J. Thomas (iB.), Cil- gerran, a Jenkin Jones, offeiriad y plwyf. Anfonodd y gweinidogion canlynol lythyr yn datgan eu gofid oherwydd eu hanallu i fod yn bresennol: Parchn. W. Evans M.A., Pembroke Dock; W. M. Lewis, Ty iLlwyd; D. Morgan, Aberteifi; M. P. Morgan, Blaen- anerch; J. H. Jenkins, Aberporth, a W. Mendus, Hwlffordd. Gweinyddwyd ar lan y bedd gan y Parch. T. Lloyd, Llechryd. iGedy yr ymadawedig weddw, un mab ac un ferch. Mae y mab Mr. Oliver, Adams, M.A., yn athraw yn ysgol sirol Gowerton, a'r ferch yn briod a IMr. R. Davies N. & P. Bank, Llanelwy. Nawdd y nef fyddo drositynt yn eu prof- edigaeth. A. H. ROGERS. MARWOLAETH MRS. WIiLLIAMS, YSGOL SIR, BALA. Tachwedd 16, yn 45 ml'wydd oed, Mrs. Williams, annwyl briod Mr. R. Williams, M.A., Prifa-thro Ysgol y Sir, Bala. Deng niwrnod o gysitudd a gaf- odd, ond ei fod yn ymoispdiad trwm o gleifyd yr ysigyfaint. Ac er pob ymdrech o leiddo y meddygon a'r nurses, ac er ei .gweddiau taer ei hun a'i theulu methodd a dyfod trwy y cystudd. Hunodd yn dawel ym mreichiau ei Gwaredwr gan ymositwng i'w ewyl;- 'ys a diolch iddo am ei gwaredu rhag poen. Mae'n ddiau ,mai peth anhawdd gan ei chsydnabod ac yn en- wedig ei theulu ydyw sylweddoli ei hymadawiad sydyn. Cafodd Mrs. Williams ei geni a'i magu hyd nes oedd oddeutlu 17 mlwydd oed yn y Post Office, Llanelltyd. Merch ydoedd i Mr. Thomas Griffith, yr hwn oedd yn flaenor ac yn arweinydd yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanelltyd. Yn y Post Office y byddai y pregethwyr yn arfer a lletya, ac felly y daeth Mrs. Williams yn lied gynnar ar ei hoes yn gydnabyddus a llu mawr o bregethiwyr. Gall y pregethwyr hynny sydd sydd yn fyw ddwyn tyst- iolaeth uchel am garedigrwydd a ichrefyddolder y cylch teuluaidd y cafodd ei magu ynddo. Heblaw cajel ei bendithio a thad mor ragorol, cafodd hefyd fam oedd yn nodedig o gall, gofalus a chrefyddol. Yn y tymor y bu yn Llanelltyd der.byniodd Mrs. Williams bob manteision addysg oedd yn ei chyr- raedd, a threuliodd bedair blynedd yn Ysgol' Dr. Wil- liams,. Ohierwydd i'w thad gymryd rhan amlw,g igydar Drefn newydd o gladdu ynglyn a mynwent yr Eglwys yn Llanelltyd, amddifadwyd ef a'i deulu o gartref clyd a masnach dda gan Eglwyswyr erlidgar; mewn canlyniad aeth y reuIu i fyw am ychydig i Ddolgellau. Agorodd Rhagluniaeth ddrws iddynt ar ol hynny yn Llwyngwril. iRhoddodd hyn fantais iddynt i fod yr un mor ffyddlon a defnyddiol gyda'r aohos mawr ag oeddynt yn Llanelltyd. Yn lied fuan wedi symud i Lwyngwril niewn cydweithrediad. a Mrs. Richard Rowlands, Llanrwst, a Mrs. Evans, Cefncwmberth, sefydlodd Mrs. Williams Band of Hope 5 Undebol yn (Llwyngwril. Bu y sefydliad hwn yn nodedig o lwyddiannus. Cododd ohono bedwar o bregethwyr .gobeithiol gyda'r Trefnyddion Wesley- aidd. Merched oedd mwyafrif n-lawr plant y Meth- odistiaid y blynyddoedd hynny. Y mae amryw o'r merched hynny wedi graddio ac yn athrawesau mewn Ysigolion Canolraddol. Y mae amryw hefyd yn athrawesau mewn ysgolion y cyngor. A ffaith nod- Tedig ynglyn a merched Band of ihope Llwyngwril ydyw nad ydym yn gwybod am yr un ohonynt sydd wedi colli coron ei chymeriad. Mae'n sicr fod gan iMris. Williams a'i chydweithwyr ran bwystig mewn rhoi cychwyn da i gynifer ac y mae yr hyn a gyeh- wynwyd ganddynt yn parhau, er nad yn undebol, hyd iheddyw. Heblaw crefyddolder dwfn a ffydd gref meddai allu arbennig i drrefnu oedd yn lei gwneud yn hynod o ddefnyddiol' gyda chychwyn a chynnal ymlaen symudiadau da. Meddai hefyd fesur helaethach na'r ciyffredin 0< wybodaeth o'r natur ddynol, a byddai ei chynlluniau i wneud daioni yn lied debyg o, ateb pwrpas. Anamli y gwelwyd neb mor ymarferol ac mor lawn o synwyr oyffredin a chwaeth dda a Mrs. Williams. Nid yn unig yr oedd yn dduwiol iawn, ond yr oedd yn ddefnyddioli iawn hefyd. Gellir dweyd am dani fel am Mair giynrt, "Yr hyn a allodd hion hi a'i gwnaeth." Goifod a ballai i ni fanylu ar ei gweithgarwch a'i hymroddiad yn y iBala gyda phob achoisi da. Clywsom iddi fod yn llywydd ac yn ysgrifennydd i Gymdeithas, Ddirwest- ,01 y Chwiorydd; nid oedd ball ar ei hyni. Ond er- íbyn heddyw y mae wedi symud oddiwrth ei gwaith at ei gwobr. Y mae cydymdeimlad mawr a chyff- xedinol gyda'i phriod a'i phlant a'i chwaer, ac hefyd a'i brodyr yn eu galar trist ar ei holl. Cymerodd y gladdedigaeth le dydd Gwiener, Tach. igeg, ym mynwent Llanycil. Gwasanaethwyd gan y Parchn. R. iR. Williams, M.A., ei gweinidog, a William Foulkes, Llangollen. Hieblaw y perthynas- au yr oedd gweinidogion y dref, athrawon yr ysgol sir a blaenoriaid eglwys Tegid yn bresennol.
_-----__-_.._--"-_-_--NODION…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION OLEYN, Cafwyd dadl frwd ym Mhenmount nos Wener ar A ellir cyfiawnhau rhyfel yng ngoleuni dysgeid- iaeth y Testament Newydd." Agorwyd areithiau rhiagorol gan Mri. Samuel Williams, C. L. Roberts, a J. 0. Ellis. Aeth yn banner awr wedi naw heb i neb sylweddoli hynny, a bu raid gohirio y ddadl hyd noson ddiyfoddl. Llywyddwyd gan y -Parlrh. J. Pul- eston Jones, M.A. Cafodd aelodau Cymdeithas Pobl Ieuaine Salem wledd ragorol nos Wener, sef darlith gan Mr. David Richards, B.A., ar Rai o agweddau meddwl y gan- rif o'r blaen." Yr oedd y dartlithydd yn trin ei bwnc yn glir a meistrolgar, a chafoddl ygwrandawyr mewn ychydig drosl awr o amser gipdrem ar rai o ddylan- wadau imawr y ganrif aeth heibio. Ar gynhygiad Mr. J. G. Jones, diolchwyd yn gynnes i'r darlithydd a dymunwyd ei lwydd yn ei gylch newydd. Llyw- yddwyd gan Supt. Owen. Clywais fod rhai o fugeiliaid eglwysi Methodistaidd Lleyn wedi amlygu eu parodrwydd i ymuno, a'r fyddin, ac ar hyn o bryd yn disgwyl galwad oddi wrth Arglwydd Deiby. Yr wythnos ddiweddaf penodwyd Mr. Robert Murray yn driysorydd Cyfrinfa Arfon o Odyddion fel olynydd i Mr. G. M. Roberts, postfeistr, Llanbedrog. Bu y Parch. A. Wellesley Jones, B.A., B.D., cyn- xychiolydd y Feibl Gymdeithas, ar ymweliad a Phwllheli yr wythnos ddiweddaf. Bu yn annerch cyfarfod cyhoeddus no.s Lun ym Mhenlan, dan lyw- yddiaeth Mr. G. Cornelius Roberts, maer y dref. Cywilyddusi o deneu oedd y cynulliad, ond cafwyd anerchiad odidog, yr hon a saif ymhildth yr areith- iau goreu ar waith y Gymdeithas draddodwyd yng Nghymru erioed. Ar gynhygiad y Parch. E. Mostyn Jones, a chefnogiad y Parch. J. Rhydderch, pasiwyd pleidlais wresog o ddiolchgarwcht i Mr. Jones am ei anerchiad, ac ar gynhygiad Mr. J. G. Jones, a chefn- ogiad Mr. W. Eifl Jones, pasiwyd penderfyniad yn dymuno ar i'r pwyllgor drefnu i Mr. Jones gael gwell cynhulliad y tro nesaf. Yn ddilynol hysbyswyd gan Mr. John Ellis yr ysgrifennydd, fod ym mwriad y Pwyllgor drefnu y cyfarfod ar brynhawn Sul yn y dyfodol. Dydd Mawrth ymwelodd Mr. Wellesley Jones ag ysgolion elfennol a chanolraddol y dref, ac anerchodd y plant ynddynt oil. Yr wythnos hion symuda Mr. David Richards, B.A., o BwllheJi i Gaerdydd gan ei fod wedi derbyn pen- odiad yn y ddinas honno.. Nidi yw wedi bod ond ychydig dros flwyddyn ym Mhwllheli, ond er hynny yr oedd wedi peri i wlad illeyn deimlo oddiwrth ei arhosiad, ac yr oedd galwad am dano i lanw pul- pudau Methodistaidd yn ogystal a'i enwad ei hun, set yr Annibynwyr. 'Medda ar athrylith ddiamheu- ol, ac amheus gennyf er ei fod yn myned i fyw i le poblog, na theimlir oddiwrth ei bresenoldeb cyn pen llawer o amser. Mae a'i fryd ar fyned ymlaen gyd- a'i addysg, a hyderwn y gwel ei ffordd cyn hir i gys- egru tei holl amSler i waith y weinidogaeth. Agorir capel Salem, Pwllheli, mos Fercher a dydd Iau, Rhagfyr Iseg a'r i6eg. Nosl Ferrher rhoddir detholiadau ar yr organ gan Dr. Caradog Roberts, Rhos, phregethir y bregeth gyntaf yn y capel gan gyn-weinidog yr eglwys, y Parch. J. Hughes, B.A., B.D., Bangor. Dydd Iau pregethir gan y Parch. W. R. Owen, B.A., Abergele, a'r Parch. T. Charles Williams, M.A., Porthiaethwy.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
When I say soap I mean-Fairy soap. The best and goes furthest. THOMAS HEDLEY S CO. LTD.. NEWRAZTL&ON-TYNB